Newyddion

 

Yn yr adran yma:-

 

 

Archif Newyddion

 

GWASANAETH DINESIG Y MAER / MAYORAL CIVIC SERVICE

Yng Nghapel Penlan, Pwllheli
Dydd Sul Gorffennaf 2ai 2017, am 10 y bore.
Gwahoddir chwi'n gynnes i'r gwasanaeth uchod,
ac yna i luniaeth ysgafn yn Festri'r Capel
Henry Rees-Wilfiams ac Amanda Coram
Maer a Maeres Pwllheli
Penlan Chapel, Pwllheli
on Sunday 2nd July 2017, at 10am
You are cordially invited to the above service,
and afterwards for light refreshments at the Chapel Vestry
Henry Rees-Williams & Amanda Coram
Mayor and Mayoress of Pwllheli


ETHOL CYNGHORYDD NEWYDD

Yng Nghyfarfod y Cyngor Tref fis Ionawr 2016, etholwyd Elin Howel i fod yn Gynghorydd newydd dros Ward y De ar y Cyngor Tref. Eisoes, cafodd ei dewis fel Darpar Ymgeisydd Plaid Cymru yn Ward y De ar gyfer etholiadau nesaf y Cyngor Sir.



CYSTADLEUTHAU FFENESTRI NADOLIG

Hysbysodd y Maer iddo ef a'r Faeres fod yn beirniadu'r ffenestri Nadolig harddaf. Yr enillwyr oedd:-

Siopau:
Cyntaf: kARALYNS
AIL: GENIUS
Trydydd: Siop Eluned

Tai Annedd:
Cyntaf: Dolfor, Ffordd yr Ala
Ail: 72 Morfa Garreg
Trydydd: 62 Morfa Garreg



Gwenni aeth i ffair Pwllheli

 

1. Gwenni aeth i ffair Pwllheli,
Eisie padell bridd oedd arni,
Rhodd amdani chwech o syllte,
Costie gartre ddwy a dime,

Cytgan: Simpl, siampl, ffinistr, ffanstr,
Doedd rhyw helynt fawr ar Gwen.

mwy ...



GWASANAETH DINESIG Y MAER

bad achub

Yng Nghapel Seion, Lôn Dywod, Pwllheli
Dydd Sul Gorffennaf 3ydd 2016, am 10 y bore

Gwahoddir chwi'n gynnes i'r gwasanaeth - cliciwch yma

 



ALBWM CYN FEIRI

cyflwyno albwm

 

Y Cynghorydd Evan John Hughes yn cyflwyno i'r Maer, y Cynghorydd Michael Sol Owen, Albwm o luniau Meiri diweddaraf Cyngor Tref Pwllheli ar Fai 5, 2016




 

 

 



CYNGOR TREF PWLLHELI A LAWNSIO YMGYRCH I GAEL CWCH ACHUB GYDA'R GLANNAU NEWYDD I'R DREF

bad achub

Mae ymgyrch ar droed ym Mhwllheli i godi arian i gael Cwch Achub newydd Gyda'r Glannau i'r dref yn lle'r Lesley and Peter Downs sydd a'i hoes ar ddod i ben. Mae bwriad i alw'r cwch newydd, pan ddaw, ar enw'r diweddar Bob Wright, a oedd yn un o gynghorwyr Pwllheli ar Gyngor Gwynedd, ac a fu'n gysylltiedig â chriw'r Bad Achub yn y dref ers 41 mlynedd. Bu Bob Wright farw wrth ei waith ar fwrdd prif gwch achub y dref fis Medi 2015. Mae angen codi cyfran dda o'r £48,000 i brynu'r cwch newydd.

Bu Maer Pwllheli, y Cynghorydd Michael Sol Owen, a'r Faeres, Mrs Gwyneth Owen, mewn digwyddiad yn y dref i lawnsio'r ymgyrch. Dywedodd y Maer iddo gydweithio â Bob Wright am lawer blwyddyn fel cynghorydd ar Gynghorau Dwyfor a Gwynedd a bod hyn yn goffad addas i un a weithiodd mor galed yng ngwasanaeth y Bad Achub. Rhoes Cyngor Tref Pwllheli rodd o £200 tuag at yr ymgyrch. Mae bwriad i gynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian. Gellir cyfrannu at yr ymgylch drwy alw www.pwllhelilifeboat.co.uk neu ffonio 01758612200.


Y diweddar Gynghorydd Bob Wright wrth ei waith ar Gwch Achub Pwllheli [Llun Ioan W. Gruffydd]



DEISEB NEUADD DWYFOR

deiseb

Maer Pwllheli, y Cynghorydd Michael Sol Owen, yn cyflwyno Deiseb o rai cannoedd o enwau i'r Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn pwyso am gadw Neuadd Dwyfor, Pwllheli, yn wyneb y bygythiad i'w chau.

 

 

 

 

 



BUDDUGWYR CYSTADLEUAETH SIOPAU A THAI PRYDFERTHAF PWLLHELI DROS NADOLIG 2015

Bu'n arferiad gan Gyngor Tref Pwllheli ers rhai blynyddoedd i gynnal cystadleuaeth a gwobrwyo'r siopau a'r tai mwyaf atdyniadol a phrydferthaf dros Wyl y Nadolig. Cyhoeddodd y Maer, y Cynghorydd Michael Sol Owen, yng nghyfarfyddiad mis Ionawr o'r Cyngor Tref, nad gwaith rhwydd iddo ef a'r Faeres a fu dyfarnu rhyngddynt a dewis y goreuon.

Yng nghystadleuaeth y Siop orau, dyfarnwyd:

1af: Siop Pwllheli Travel

2il: Siop Fach Copi

3ydd: Siop Rodney Adams

Yng nghystadleuaeth y tai harddaf, dyfarnwyd:

1af: Mrs. Carol Saynor, Yr Ala

2il: 72 Morfa Garreg

3ydd: 62 Lôn Abererch

Llongyfarchiadau iddynt.


LLONGYFARCH Y CLERC A'I BRIOD

Mae Clerc Cyngor Tref Pwllheli a'i briod, Mr. Robin a Mrs. Martha Hughes, wedi dathlu eu Priodas Aur (50 mlynedd) ac mae'r Maer a'r Faeres a holl aelodau'r Cyngor Tref yn eu llongyfarch ac yn dymuno'n dda iddynt.


CYNGHORWYR TREF PWLLHELI AC ARGYFWNG Y FFOADURIAID

Mae nifer o gynghorwyr Pwllheli'n rhan o grwp sy’n trefnu i gasglu nwyddau ar gyfer y ffoaduriaid yn Calais. Cesglir y defnyddiau yn Siop y Co-op ym Mwllheli cyn eu cymryd i Blas Heli yn y dref ar gyfer eu didoli a’u hanfon ymlaen. Bu'r ymateb yn rhyfeddol. Mae'r ffoaduriaid mewn cyflwr truenus, ac fel y daw'r gaeaf bydd pethau yn gwaethygu fwyfwy.


CYNGOR TREF PWLLHELI YN COFIO CYNAN

Mae Cyngor Tref Pwllheli wedi comisiynu John Meirion Morris, y blaenaf o gerflunwyr Cymru, i greu cerflun o ben y Parchg Albert Evans Jones - Cynan, a aned ym Mhwllheli ar 14 Ebrill 1895, [ac a fu farw 26 Ionawr 1970].


 

DATHLU GŴYL DDEWI YM MHWLLHELI

pared dewi sant

Roedd blas Archentaidd i Barêd Dewi Sant Pwllheli eleni gan ein bod yn cofio 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa: bu dau geffyl go iawn yn rhan o’r orymdaith, ac roedd pobl yn gwisgo ponchos ac yn chwifio baner yr Ariannin. Gwnaeth Liliana Evans o Nefyn - Archentwraig o’r Wladfa - gymryd rhan ar flaen yr orymdaith. Nôl yn 1998 gefeilliodd Nefyn gyda Phorth Madryn gan fod Syr Love Jones–Parry, perchennog stad Madryn, Ceidio, yn un o sylfaenwyr y Wladfa Gymreig. Hefyd yn ogystal, roedd plant Ysgol Pentreuchaf – sydd wedi gefeillio gydag Ysgol yr Hendre, Trelew yn 2014 – yn cerdded gyda plant Ysgol Morfa Nefyn yn cario baneri’r Ariannin.

Cafwyd gorymdaith swnllyd a harti – gyda grwp drymiau Batala Bangor, band Chwythbrennau Pwllheli a Band Trefor – y bandiau lleol yn gwneud digon o swn, yn ogystal â Gwilym Bowen Rhys ar y pibgorn. Yna ar y Maes, bu Band Arall, Y Chwedlau, Huw Evans o Abertawe a phlant o Ysgol Cymerau yn diddanu’r dorf. Cyflwynwyd y gwobrau ar gyfer tair cystadleuaeth arbennig ar lwyfan y Maes. Yn gyntaf, cystadleuaeth Tapas Llyn: dyfeisio rysait ar gyfer pastai Archentaidd gan ddefnyddio cynnyrch lleol – Nel Mair Jones o Ysgol Edern a fu’n fuddugol. Yn ail, cystadleuaeth ffenest siop – roedd siopau Pwllheli am y gorau’n ceisio addurno’u ffenestri ar gyfer Gwyl Ddewi, gyda £50 i’r gorau – Mirsi fu’n fuddygol. Ac yn drydydd, cystadleuaeth i ysgolion – yr her oedd creu baner liwgar yn dathlu Cymreictod, gyda gwerth £100 o lyfrau cynradd Gwasg Carreg Gwalch i’r ysgol fuddugol. Ysgol Llanaelhaearn a fu’n fuddugol.

Bu’n ddiwrnod i’w gofio ac yn fodd o ddathlu Cymreictod yr ardal sydd mor arbennig i’r darn yma o dir yng ngogledd orllewin Cymru.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



18/10/14 Ordeinio a Sefydlu Gweinidog Newydd ym Mhwllheli

Ddydd Sadwrn, Hydref 18, 2014 cafodd gweinidog newydd ei hordeinio a’i sefydlu ym Mhwllheli. A’r Parchg W. Bryn Williams, Pwllheli, yn llywyddu, ordeiniwyd a sefydlu Glenys Jones yn weinidog Eglwys yr Annibynwyr ym Mhen-lan.


Cymerwyd rhan gan Lena Pritchard, a’r Parchgn Carwyn Siddall, Olwen Williams ac Ioan W. Gruffydd cyn i Gwenan Gibbard ganu gyda’r delyn emyn Elfed, ‘Arglwydd Iesu, dysg im gerdded / drwy y byd yn ôl dy droed.’

 

Roedd yr ordeinio a’r sefydlu yng ngofal y Parchg Euros Jones o Goleg yr Annibynwyr Cymraeg ac offrymwyd gweddi’r ordeinio gan y Parchg Iwan Llewelyn Jones, Porthmadog. Cafwyd hanes yr alwad gan Emily Evans. 

 

Wedi i Mair Gibbard, Margaret E. Jones, Chwilog, a’r  Parchg Ddr Geraint Tudur, Bangor, gyflwyno cyfarchion ar ran yr eglwys, Cyfundeb Llŷn ac Eifionydd ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, cyflwynwyd emynau gan Carys Ellis Jones a Bethan Davies, a thraddodwyd pregeth gan y Parchg Gareth Edwards, Cyffordd Llandudno. Traddodwyd y fendith gan y Parchg Geraint S.R. Hughes, Pwllheli. Tecwyn Evans, Penlan, oedd wrth yr organ.



05/09/2014 Anrhydeddu Bardd y Goron 2014

Guto Dafydd

Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Tref Pwllheli nos Wener, Medi 5, anrhydeddwyd y Prifardd Guto Dafydd, brodor o Drefor, sy'n byw ym Mhwllheli, ar ei orchest yn ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin eleni. Nododd y Maer, y Cynghorydd Michael Sol Owen, y troeon arbennig hynny yn y gorffennol pan fu i Gyngor Tref Pwllheli anrhydeddu rhai o'i thrigolion enwog mewn achlysuron tebyg.

Ar ran y Cyngor Tref cafodd carreg ithfaen hardd o Chwarel Trefor ac enw'r Prifardd yn ysgrifenedig arni ei chyflwyno i Guto Dafydd yng ngwydd y Cynghorwyr, teulu'r Prifardd a'r cyfeillion a wahoddasid i'r digwyddiad.