CERDDI BEIRDD PWLLHELI

 

Isod mae rhai o gerddi beirdd Pwllheli. Mae rhagor o gerddi i ddod!

 

leila

 

CAPEL NANHORON
Cynan

 

Llun, Ioan W. Gruffydd

 


Y mae capel bach gwyngalchog
Ym mhellafoedd hen wlad Llŷn.
Dim ond un cwrdd chwarter eto
Ac fe’i caeir, - dim ond un.
Y mae llwydni ar bob pared,
Dim ond pridd sydd hyd ei lawr.
Ond bu engyl yn ei gerdded
Adeg y Diwygiad Mawr.

Ni chei uchel allor gyfrin,
Na chanhwyllau hir o wêr,
Na thuserau’r arogldarthu
Yma i greu’r awyrgylch pêr
Sydd yn gymorth i addoli
Ac i suo’r cnawd a’r byd,
Ac i roddi d’enaid dithau,
Mewn perlewyg yr un pryd.

Ni chei gymorth yr offeren
I ddwyn Duw i lawr i’r lle,
Na chyfaredd gweddi Ladin,
“Miserere Domine.”
Ni chei yma wawr amryliw:
Dwl yw’r gwydrau megis plwm, -
Dim ond moelni Piwritaniaeth
Yn ei holl eithafion llwm.

Ond er mwyn “yr hen bwerau”
A fu yma’r dyddiau gynt,
Ac er mwyn y saint a brofodd
Yma rym y Dwyfol Wynt,
Ac er mwyn eu plant wrth ymladd
Anghrediniaeth ddydd a ddaw,
Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.


 

 

leila

 

 

BALED LARGO O DRE PWLLHELI
Cynan

 

 

 

 

Pan oeddwn i’n hogyn flynyddoedd yn ôl
A breuddwydion hogyn yn llanw fy nghôl,
Ew! ’roedd traeth Pwllheli’n olygfa hardd,
Ac yn llawn o’r awen i fachgen o fardd.
’Roedd yno sheltars, a thrams a mul.
A thyrfa o bobol bob bore Dydd Sul,
Pan fâi’r haul yn twnnu a’r môr yn las,
Yn mynd am dro wedi moddion gras
Gan rodio’n freuddwydiol ar hyd y prom
I gnoi eu cil ar ryw bregeth drom;
A ninnau’r hogiau
Yn dotio ar ffrogiau
Dydd Sul y genethod, a’r awel hallt
Yn dwyn rhosyn i’w grudd a modrwyau i’w gwallt,
Ac yn ffraeo â’n gilydd, heb ddim amhariad,
Pa un ohonynt oedd inni’n gariad,
A’r chwarae’n troi’n chwerw, at daro bron,
Tu ôl i gwt band Glan Môr Solomon,
Nes i’r band ddechrau chwarae emynau neis
O flaen cinio Dydd Sul a’i bwdin reis;
A’r tywod glân am filltiroedd fel ’tae
Rhyw gryman o aur ar dorri trwy’r bae.

tocyn brwyn


 

Tocyn Brwyn, Pwllheli, mewn oes a fu


 

Ond pe baech chi’n gadael y prom a’i swyn
Ac yn mynd draw am Docyn Brwyn,
Tua cheg yr harbwr ac Afon Erch,
A’r cychod pysgota, ’doedd ffordd’no ’run ferch,
Dim ond iots fel y “Redwing” a’r “Fly Away,”
A chriw o hen bysgotwyr y dre
Yn cyweirio’u rhwydi dan smocio shag,
Ac yn eu plith fe gaech ambell hen wag:
“Benja,” a “Largo” a “Thwm Pen Slag,”
“Now Ostrelia,” a “Siencyn Brawd Huw,”
A “Ned Foreign Bird,” a “Bo’sun Puw;”
Byth yn mynd allan i ’sgota ddydd Sul.
(’Roedd Pwllheli’n barchus o’r llwybyr cul),
Ond yn trwsio’u gêr erbyn llanw Dydd Llun
Ac yn dal pen rheswm ag unrhyw un
A ddoi heibio ffordd’no wrtho’ hun
Ag amser i’w sbario ar ei rawd
A tsiou o faco i ’sgotwr tlawd;
Pob un yn angori
Yng nghanol ei stori
A’i deud hi fel darn o “poetic prose.”


Ond y ffraethaf o ddigon oedd Jesreel Jôs.
Jesreel Jôs, aeth â mi sawl gwaith
I bysgota mecryll. A dyma ichi ffaith,
’Chymerai-fo ’run geiniog goch
Gan hogyn ysgol sir, ond chwerthin yn groch
“Taw, y lembo! Dos â’r mecryll i’th fam
A dywed wrthi na hidiwn-i mo’r dam
Ȃ gwneud pysgotwr ohonot ti.
Yn lle’r pregethwr fwriadodd hi.”
Jesreel Jones a’m dysgodd yn llanc
Sut mae gafael yn ddiogel mewn cranc,
A sut mae gwneud abwyd o ddarn o’ch crys,
A sut mae teimlo ar flaen eich bys
Blwc bach ar y lein wrth bysgota lledi.
Gwyddai siantis y môr a’r hen faledi,
A sut i gael llinell syth wrth y llyw
Wrth Dŵr Capel Batus neu Fynydd Rhiw.

harbwr pwllheli 1890

Harbwr Pwllheli tua 1890

 

A llawer i stori ges i ganddo erioed:
Y smyglars yn dianc rhag Sergeant Lloyd,
A sut ’raeth y “Deuddeg Apostol,” yn siwr
Ar goll yn “Safn Uffern,” i waelod y dŵr.
A gwrhydri Jesreel dros foroedd maith
Mewn llawer ysgarmes, a hanes y graith
Uwch ei lygad chwith, pan achubodd-o ferch
Yn San Domingo rhag ysbeilwyr erch,
A’r storm pan oedd llewod gwyllt yn y cargo.

Ond ei stori orau oedd ei stori am “Largo,”
A adroddodd wrthyf ger Tocyn Brwyn
Un bore Sul o hafddydd mwyn,
Nes peri im anghofio’n lân
Am ginio Dydd Sul ac Ysgol Gân.

Wel, y bore Sul hwnnw pan ddeuthum i’r fan,
’Roedd Largo yn eistedd ar fainc y lan
Yn athrist gan syllu i lawr i’r môr
A’i gap-pig-loyw “back-to-fore,”
Yn eistedd ei hunan a’i ben rhwng ei ddwylo
Mor llonydd â delw, ond yn gwneud sŵn wylo.

Ac meddwn innau: “Be sy’ ar yr hen gargo?
Jesreel Jôs, be’ di’r mater ar Largo?”

“O,” meddai Jesreel, “druan ag o!
Mae’r hen bererin ymhell o’i go.’
Mae o fel’na bob dydd ers dros wythnos, reit siwr,
Yn ocheneidio uwchben y dŵr,
A’r cyfan, was, o achos rhyw ferch
Sydd heb fod yn digwydd dychwelyd ei serch.

Rwan, cymer di gyngor hen lanc fel fi,
A phaid â cholli dy ben, da thi;
Am unrhyw ferch yn y byd mawr crwn,
Rhag ofn yr ei dithau ’run fath â hwn.
Yn lle syrthio mewn cariad, ac wedyn cael cam,
Sticia di, ’machgan , at dy fam.
Dyna’r anhwylder sy’n poeni’r hen law,
Mae o’n fan ’na bob dydd, ar hindda a glaw,
A’r cyfan, cofia o achos rhyw ferch;
A dyna iti, was-i-bach, stori ei serch.

Roedd Largo’n pysgota un nos yn llon,
Bythefnos yn ôl ar fôr di-don
Ger Trwyn y Garreg, ac yn canu’n iach
Wrth osod yr abwyd ar ei fach
A gollwng y lein tan y lleuad wrth blwm
I’r banc hwnnw lle mae’r lledi trwm.

Yn sydyn reit, dyma andros o blwc,
‘Ew!’ meddai Largo, ‘dyma imi lwc!
Pysgodyn mawr, ne’ mi fwyta’i ‘nghap.’
A dyna’r lein yn rhedeg allan chwap.
‘Ohoi!’ meddai Largo, “sturgeon ne’ddim,
’Run fath â hwnnw ddaliodd Wil Cim;
Gwerth arian da a sbri, mi wn,
Yn Siop Rebeca, mi ga’i sofran am hwn.
Ond gofalus rwan, - dim toriad, dim twyll,
Rhaid ei weindio fo i mewn gan bwyll, gan bwyll.”

A dyna weindio’r lein, yn ara’ dirion,
Ond Bobol Annwyl! Gwared y Gwirion!
Be’ welai Largo’n dwad i’r top?
Morforwyn brydferth fel lolipop,
Yn esgyn i frig y dyfroedd hallt
A’i fachyn-o’n sownd ym modrwyau’i gwallt.
A hwnnw fel arian byw, wyt ti’n dallt?

Wel, ’fedrai Largo ddeud yr un gair,
Ond syllu arni fel ffŵl pen ffair.
Un ’swil ydi o efo merched erioed,
Un ynfyd o swil, o ddyn trigain oed,
Ac er fy mod innau fel yntau’n hen lanc,
Nid am yr un rheswm – Be’ ddwedaist ti? Swanc?
Cau did y geg, ne’ chei-di mo’r stori.

mor forwyn

’Roedd Largo mor llonydd â giâr yn gori
Yn eiste’n ei gwch ac yn syllu’n fud
Yn wyneb morforwyn brydfertha’r byd,
Ei gruddiau cyn goched â’r cwrel ei hun,
Ei llygaid cyn ddued ag eirin Llŷn.
A’i gwallt yn sgleinio fel arian byw
Ar wyneb y môr wrth ymyl y llyw.
A Largo heb wybod yn iawn beth i’w wneud,
A heb wybod o gwbl beth i’w ddweud.

“Noswaith dda,” meddai merch y wendon hallt,
“Mae’ch bachyn-chi, syr, yn sownd yn fy ngwallt;
A mae rhywbeth yn gwingo, ’rwy’n meddwl mai’r worm,
Ac yn chwarae hafog â thonnau fy mherm.

A fyddech chi cystal, syr,” ebe hi,
Ȃ’m gollwng yn rhydd i ddychwelyd i’r lli?”

Ar hyn dyma Largo yn torchi ei lawes
A’i chodi i’r cwch, a hithau’r g’nawes
Yn eistedd o’i flaen yng ngoleuni’r lloer
A pherlau’r dwfr rhwnng ei dwyfron oer;
Ond dyna a welai Largo’n beth od
O’i gwasg i lawr dim ond cynffon cod!

Ȃ bysedd crynedig, nid ar chwarae bach
Fe lwyddodd o’r diwedd i ddatod ei fach.

“Diolch, del,” meddai hithu mewn llais fel y gwin
Gan symud i eistedd reit ar ei lin,
A’i gofleidio’n ei chôl, fel mewn pictiwrs clas,
A rhoi cusan hir reit dan ei fwstas.
A Largo’r peth ffôl
Yn ei gollwng o’i gôl
A hithau yn llithro i’r dwfr yn ôl.

Dadebrodd yntau pan welodd o hyn,
A llefain o ddyfnder ei enaid syn,
Gan geisio cael gafael trwy sblas y wendon
Tan olau’r lloer ym môn ei chynffon,
“Forforwyn fach, annwyl, arhoswch yn wir.
’Rydach chi’n ’neall i’n well na merched y tir,
’Ches i ’rioed yn fy mywyd gusan mor hir.
Na ddychwelwch i’r lli,
Dowch i fyw efo mi,
Forforwyn fach, annwyl, gwrandewch ar fy nghri.
’Does gen i’n fy mwthyn ond siambar a thaflod
Ond mae hynny’n well na byw ar waelod
Y môr, yng nghwmpeini penwaig hallt,
A chranc a chimwch yn cerdded drwy’ch gwallt,
A chysgu yng ngwely’r llysywod hir;
Forwyn fach, neis, dowch i fyw ar y tir.”

Ond gwenu a wnâi merch y môr, gan ddweud
Fod yr hyn a fynnai’n amhosib’ ei wneud,
“Ac os mynnwch chi hefyd wybod pam,
’Rydw i’n dal i gofio cyngor ’mam,
’Dydi hogiau Pwllheli’n hidio’r un dam,
Ar ôl blino caru, be’ ddaw o’r ferch;
Gwylia dithau, ’r un fach, rhag credu i’w serch.

Ac ’rwy’n cofio trychineb Llymri Llwyd,
Cyfnither i mi, a ddaliwyd yn rhwyd
Now Ostrelia flynyddoedd yn ôl.
Fe fu hi mor wirion â mynd yn ei gôl
I fyw ar y lan, ‘fel pet,’ meddai fo,
I’w eneth fach ddengmlwydd Jemima Jo.
Addawodd Now iddi dwb golchi ei wraig
A’i lanw bob dydd â gwymon y graig,
A Llymri gydsyniodd.

Cyn pen wythnos ffromodd
Now Ostrelia wrth weled cregin
A gwymon yn boetsh hyd lawr ei gegin.
A dechrau tuchan ei fod wedi blino
Hel berdys a gwichiaid a chocos i’w chinio,
A Llymri druan ddechreuodd edwini,
Ac yna, o’r diwedd, ar ôl iddi huno,
Fe’i gwerthwyd gan Now
Ostrelio, Ow! Ow!
I sioe anifeiliaid a ddaeth i Bwllheli,
I fwydo rhyw forlo a wnâi ngamp â pheli.
Ow, Llymri, a’i chamwedd a’i diwedd dwys,
Ei gwerthu gan Now am dair ceiniog y pwys!”

“Wnawn i byth beth felly,” ochneidiai Largo,
“’Rwy’n nabod Now. – Fe ŵyr pawb, neno’r argo,
Nad ydyw hwnnw ond cythraul mewn croen.
Ond, ledi, ni rown ichi funud o boen.
’Rwy’n ddiniwed fel y glomen, yn ffeind fel yr oen.
Pe baech chi ond dwad i fyw ataf fi
Fy nefoedd fyddai ’tendio bob dydd arnoch chi.
Mi brynwn i bram, a mynd â chi am dro
I weled y dref ac i weled y fro.
Mae ’na bictiwrs ardderchog yn Neuadd y Dre;
Caem fynd yno bob nos fel dau gariad, yntê?
Ac mae Siop Pwlldefaid yn dda am fargeinion,
Mi bryna’i ffrog laes i guddio dy gynffon.
Paid, siwgwr-gwyn-candi, â nofio i ffwrdd;
O! tyred yn ôl ataf i ar y bwrdd!”


Ond taflu un cusan a wnaeth hi â’i llaw
Ac ysgwyd ei phen a nofio draw;
“Diolch ichi’r un fath, f’anwylyd del,
Ond mae’r peth yn amhosib’. Ffarwel! Ffarwel!”
Ac fe lithrodd o’r golwg o dan y swel.

*****

A byth er hynny mae Largo bob dydd
Yn eistedd fan yma, a’i olwg yn brudd,
Yn eistedd fan yma a’i ben rhwng ei ddwylo,
Yn syllu i’r dŵr ac yn gwneud sŵn wylo,
Yn syllu a syllu i waelod y môr,
A’i gap-pig-gloyw ‘back-to-fore,’
Yn syllu i waelod y dyfroedd hallt
Ac yn disgwyl gweld morwyn ariannaid ei gwallt,
Ei gruddiau cyn goched â’r cwrel ei hun,
A’i llygaid cyn ddued ag eirin Llŷn.


Rŵan, cymer di gyngor hen lanc fel fi,
A phaid â cholli dy ben, da thi,
Am unrhyw ferch yn y byd mawr, crwn,
Rhag ofn yr ei dithau ’run fath â hwn.”

 

HWIANGERDDI

Arglwydd, gad im bellach gysgu,
Trosi 'rwyf ers oriau du:
Y mae f'enaid yn terfysgu,
A ffrwydriadau ar bob tu.

O! na ddeuai chwa im suo,
O Garn Fadryn ddistaw, bell,
Fel na chlywn y gynnau'n rhuo
Ond gwrando am gân y dyddiau gwell.

Hwiangerddi tyner, araf,
Hanner-lleddf ganeuon hen,
Megis sibrwd un a garaf
Rhwng ochenaid serch a gwên;

Cerddi'r haf ar fud sandalau'n
Rhuthro dros weirgloddiau Llŷn;
Cerddi am flodau'r pren afalau'n
Distaw ddisgyn un ac un

Cerdd hen afon Talcymerau
Yn murmur rhwng yr eithin pêr,
Fel pe'n murmur nos-baderau
Wrth ganhwyllau'r tawel sêr.

Cerddi'r môr yn dwfn anadlu
Ger Abersoch wrth droi'n ei gwsg;
Cerddi a'm dwg ymhell o'r gadlu
Cerddi'r lotus, cerddi'r mwsg.

O! na ddeuai chwa i'm suo,
O Garn Fadryn ddistaw, bell.
Fel na chlywn y gynnau'n rhuo
Ond gwrando am gân y dyddiau gwell.


Cynan

Richard Tudor
(Sialens Dur Prydain 1992 - 93)

Mentro allan i'r cefnforoedd.
Mentro heddiw dros y lli, -
Ac fe wyddom fod y tonnau'n
Tiwnio tant dy galon di.

Clywed chwerthin llon cyfeillion
Pan fo'r môr yn llyfn a glas.
Cyffro ym mhob calon ifanc
Ym mrwdfrydedd gwyllt y ras.

Gweld y stormydd yn bytheirio
Ac yn herio "British Steel",
Teimlo'r iot yn troi a throsi
Dan dy draed yn feddw chwil.

A phan fydd y corwynt creulon
Yn y gwyll yn chwyth'i gorn,
Cura calon yn gyflymach
Pan fo'r cwch yn rowndio'r Horn.

Hwylia eangderau gleision
Y Pasiffig - pan fo gwawr
Yn cynhyrfu ar y gorwel
Yn unigrwydd y môr mawr.

Rio! Hobart! - tiroedd estron,
A'r gwylanod gwyn yn gôr
Tithau'n teimlo angerdd dwyfol
Yn nirgelwch hen y môr.

Bydd bendithion ffrindiau annwyl
O dy amgylch un ac un,
Nes y deui i angori
Yn yr hafan hardd yn Llŷn.

                                      Glyn Roberts

GRUFFYDD WILLIAMS - Ante Mortem

Rhowch le ar tu de dido - y mwynwyr

 

Ym mynwent Ddeneio,

 

Wrth glŷn fy nhad i'm gado

 

Mewn marian graean a gro.

 

 

Gruffydd Williams, o Bwllheli

 

Glywi di’r gân?

Tawelwch gwag digynnwrf ’glywai’r rhain

Wrth ddeor eu cynlluniau yn y cwm,

A dim ond ambell fref, neu grawcian brain

I adrodd am galedi’r erwau llwm.

Ond beth am ‘Oes ’ma bobol?’ wrth y ddôr,

A chellwair smala criw yn ’mochel glaw,

Neu ddyblu’r gân wrth roddi mawl i’r Iôr?

Difyr wrth fynd am Hafod Fadog draw

Ar bnawn o Awst oedd chwerthin haid o blant

A dwrdian mamau’n addo och a gwae

Rhag ofn i rywun syrthio i mewn i’r nant;

Roedd cainc cymdeithas hyd yn oed mewn ffrae.

Byddar oedd rhai i’r melodïau hyn,

A’r alaw ‘nawr? Tawelwch oer y llyn.

Gwyneth Owen
***

'Mae gen i feddwl mawr o'r gwasanaeth llyfrgell, yn enwedig yma ym Mhwllheli. Bum yn helpu yno ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn gweld pa mor werthfawr ydi'r adnodd i'r gymdeithas. Wedi taro i mewn un bore, dyma un o'r genod sy'n gweithio yno'n rhoi taflen i mi gan ddeud, 'Wyt ti'n barddoni, on'd wyt? Beth am roi cynnig ar hwn?'

Mi fyddai'n chwarae efo'r cynganeddion, a dyna lle dechreuais i. Ond, fel mae'n digwydd yn rhy aml, ysywaeth, ddaeth hi ddim. Eto 'roedd delweddau o'r pentref a foddwyd yn dal yn troi yn fy meddwl.

Yna, gafaelodd yr ymadrodd, 'Oes 'ma bobol?' ynof, - cyfarchiad cynnes ac annwyl sydd yn prinhau ymhob pentref, ond wedi darfod yn llwyr yng Nghapel Celyn oherwydd y dinistr. Nid cwm diarffordd a foddwyd ond cymdeithas gyfan, felly lluniais soned yn cymharu'r sŵn a'r afiaith a fu efo distawrwydd presenol y llyn.

Ymddangosodd y soned gyntaf yn y cylchgrawn Barddas.

 

Gwenni aeth i ffair Pwllheli

1. Gwenni aeth i ffair Pwllheli,
Eisie padell bridd oedd arni,
Rhodd amdani chwech o syllte,
Costie gartre ddwy a dime,

Cytgan:
Simpl, siampl, ffinistr, ffanstr,
Doedd rhyw helynt fawr ar Gwen.

2. Gwenno aeth yn fore i odoro,
Gwerth y chweswllt rhwng ei dwylo,
Rhodd y fuwch un slap â’i chynffon
Nes oedd y chweswllt bron yn deilchion.
(Cytgan)

3. Gwenni aeth yn fore i olchi,
Eisie dillad glân oedd arni,
Tra bu Gwen yn nôl y sebon,
Y dillad aeth i lawr yr afon.
(Cytgan)

Hen Benillion

 

EMYN HEDDWCH

Ti wyddost, Arglwydd, am y rhai
Na cherddant ffordd dy gariad Di,
Na ffordd maddeuant am bob bai
Yn haeddiant aberth Calfari.
O gwrando ni dros fyd y cledd
Na fyn roi clust i D’wysog hedd.

Ti wyddost, Arglwydd, fod dy fyd
Yn hoff o ryfyg, grym a thrais,
A’i fod yn fyddar oll i gyd
I bêr acenion mwyn dy lais.
O gwrando ni dros fyd y cledd
Na fyn roi clust i D’wysog hedd.

Ti wyddost, Arglwydd, am y boen
Achosir gan ryfeloedd trist,
Ac am yr ing i’r addfwyn Oen
A phawb sy’n caru Iesu Grist.
O gwrando ni dros fyd y cledd
Na fyn roi clust i D’wysog hedd.

Ti wyddost, Arglwydd, am ein cri
Am weld tangnefedd ym mhob gwlad
A holl deyrnasoedd byd i Ti
Yn plygu glin a rhoi mawrhad.
O gwrando ni dros fyd y cledd
Na fyn roi clust i D’wysog hedd.

                                                        Ioan W. Gruffydd

 

EMYN GŴYL DDEWI

Ar ŵyl ein nawddsant, nefol Dad,
O gwrando’n gweddi dros ein gwlad.
Ein diolch, derbyn, am i Ti
Roi’r Gymru hon yn wlad i ni.

Am wlad mor hardd, rhoi diolch wnawn,
I’th enw di, ein clod a rown;
Am holl brydferthwch tir a môr,
Am nant a bryn, am gân a chôr.

Gwna’n bywyd oll yn fywyd glân,
Yn bur, rhinweddol, fel ein cân;
A dysg ni pan fo blin y daith,
I gofio’r Iesu yn ein gwaith.

Am Ddewi Sant a’i neges ef
I’n dwyn ni oll i lwybrau’r nef,
Cawn ddilyn Iesu Grist o hyd
A’i ‘nabod yn Waredwr Byd.

Ioan W. Gruffydd

 

R. GWILYM HUGHES - I ddyddiau'r glanio ar y lloer

I ddyddiau’r glanio ar y lloer

 

y’n ganed, Iôr, bob un,

a gwelsom wyrthiau eraill drwy

 

y ddawn a roist i ddyn.

 

Ond dyro weled gwyrthiau mwy –

 

cael sathru dan ein traed

yr afiechydon creulon, cry’

 

sy’n blino’r byd erioed.

 

Rho inni’n fuan weled dydd

 

na cheir, drugarog Dduw,

na newyn blin na thlodi chwaith,

 

na neb heb gyfle i fyw.

 

A dyro weled, drwy dy ras,

 

ryfeddol wawr yr oes

pan fydd gelynion daear oll

 

yn ffrindiau wrth y groes.

   
 

 

Y Parchg. R. Gwilym Hughes [1910 – 1997]

 

R.GWILYM HUGHES- Ces lygaid ganddo

Ces lygaid ganddo imi weld

 

y ddaear hardd i gyd,

a heb fy llygaid ni chawn weld

 

yr un o blant y byd;

ces glust i glywed glaw a gwynt

 

a thonnau ar y traeth

rhaid imi ddweud wrth bawb o’r byd,

 

ef a’m gwnaeth.

 

Mi ges ddwy wefus ganddo ef

 

 i mi gael sgwrs bob dydd,

a heb ddwy wefus byddwn i

 

yn dawel ac yn brudd;

y meddwl hefyd sy’n fy mhen

 

oddi wrtho ef y daeth

rhaid imi ddweud wrth bawb o’r byd,

 

ef a’m gwnaeth.

 

Dwy law i allu cydio’n dynn

 

 a gefais ganddo’n rhodd,

i allu sgwennu, ac i nôl

 

a danfon yr un modd;

ces ddeudroed ganddo i gael bod

 

mor thydd â’r awel ffraeth

rhaid imi ddweud wrth bawb o’r byd,

 

ef a’m gwnaeth.

                                                                                               
 

Alan Pinnock

cyf. Y Parchg. R. Gwilym Hughes [1910 – 1997]

 

COFFADWRIAETH
AM ENETH IFANC A OEDD YN FERCHI I MR.EVAN EVANS, BARCER, PWLLHELI
A NITH (MERCH I CHWAER) ROBERT AP GWILYM DDU

Sylwer fod sôn am Evan Evans, Barcer, yn hanes dechreuadau enwad y Bedyddwyr ym Mhwllheli

 

Wele ein plant anwylion – a hunant

 

   

A’u henwau’n mhlith meirwon,

 

 

Dur a gweli, drwy y galon,

 

 

Fu och hir, am y fach hon.


 

Doe’n gynnes, ein dyn ganaid - lân a’i delw

 

   

Yn hudoli’r llygaid’

 

 

Heddiw’n syn gorffyn a gaid

 

 

Plwm oer iawn, - ple mae’r enaid?


 

Acw’r hedodd, o’n creadur, - iach enwog,

 

   

Wreichionen annisbur,

 

 

Aeth ymaith o’i thŷ a’i mur

 

 

I loyw fan bell, elfen bur.


 

Ei chorff, er gadael chwyth, - a’r enaid,

 

   

Unir yn dragyfyth,

 

 

Priodolion pâr di-lyth,

 

 

Dau gymar, heb ysgar byth.


 

Drwy’r llawr, pan darawo’r llef, - a gwys gerdd

 

   

Gosgorddau’r goleunef,

 

 

Duw a’i hedryd i’w hadref,

 

 

Mewn dim, ar ei amnaid ef!

ROBERT AP GWILYM DDU

 

 

Am Siôn yn drwm y syniaf - a gwae fi!
gofid Y gofid a deimlaf;
O'i ôl yn wir wylo wnaf,
Mae'n deilwng - pam nad wylaf?

Robert ap Gwilym Ddu

 

Ymddangosodd yn Greal y Bedyddwyr 1831 i gofio'r Parchg. John Roberts, gweinidog y Bedyddwyr ym Mhwllheli 1828 - 1831

 

COFFADWRIAETH
AM SION ROBERTS Y BARDD
alias SIÔN LLEYN

Yr hwn a drengodd Mai 7, 1817, yn 68 oed.

Gwae L’ŷn, nid gwiw eleni,
Eithr du oll yw’th awyr di;
Pa dymestl ddiddestl a ddaeth
Ar dir dy briodoriaeth?
Dilewyd anadl awen,
Ys yw’r bardd a’i oes ar ben:-
Mae’r iaith wedi marw, weithion,
Er y sydd o bu farw Siôn;
Wylais swrn, pan glywais, O!
Ddwyn awen i Ddeneio.*
Mae’n alar am anwylyd,
I’w hoff ddyweddi o hyd;
Och! Wael fun, uwchlaw ei fedd,
Wylo dŵr wel’d ei orwedd;
Hunaw o Siôn, hynny sydd
Wae o fewn i Eifionydd; -
Ei fywyd, o’r byd i ben,
Ddifodwyd gan Ddafaden; **
Gwae fi aros gyferyd,
A’r bedd i gyniwair byd.
Dyn oedd am adnewyddu
Y gerdd fwyn i’r graddau fu;
Ymroadur mawr ydoedd,
A dwfn ei fyfyrdod oedd.
Ni ddeil awen o ddwylaw
Angau trwm i ddiengyd draw;
Pe f’ai urddawl, pa farddas,
A dry fin ei gleddyf glâs?
Hen addysg awenyddol
A saif i rai fo ar ôl;
Emynau teg awdlau gynt,
Cofnodau cyfain ydynt:
Ardderchog, oediog awdwr,
O’r hen feirdd yr hynaf ŵr;
Ond bid un yr oed y bo,
Duw a fyn wneyd a fyno.
Na ymyrwn â’n marwol
Ddyn hwn, - na wylwn o’i ôl:
Ffyddlawn a boddlawn y bu
Yn ei oes dan iau Iesu;
Marw! Mawr elw yr alwad’
I’w ddwyn fry i dŷ ei dad’
I wau u odlau cydlef
A llon awenyddion nef!
Cai’r Iôn yn foddlon i fawl,
Llais brawd y llu ysbrydawl
Iddo ef, cyd addefant,
Y mawl ar bob dwyfawl dant;
Prydant am y priodwaed,
Yr un gerdd am rin y gwaed;
Yno Siôn, fu’n was annwyl,
Gwedi ei gur caiff gadw gŵyl.

*Enw yr Eglwys lle claddwyd ef.
** Dafad Wyllt

Robert ap Gwilym Ddu

 

MARWNAD

ER COF AM

MAURICE ROBERTS

MAB THOMAS ROBERTS

Gynt o Lwynhudol, Pwllheli,
ond ers amryw flynyddoedd yn Llundain
a fu farw yr 22ain o Ragfyr, 1812.

------------------------

Gan ROBERT DAFIS
Nantglyn, Sir Ddinbych

------------------------

Och Angeu! llywiawdwr llawdrwm
Draed plyf, a’i drawiad plwm.
Gorchfygwr, crymwr gwŷr cred,
Brenin pawb a’r a aned;
Olaf elyn dyn, y doeth,
Ie’r unwedd a’r annoeth;
Un hy, dewr, ac nid eiriach
Fwrw’n y bedd fawr na bach;
Ni ddilyd yn ei ddylaith
Gyfarchiad, na chennad chwaith;
Yn ddiystyr, yn ddistaw,
Ym mhob rhith dyfrith y daw!
Difwynawdd edef einioes
Un mawr werth ym more’i oes,
Sef Morys , dilys, di dwn,
Gwir Fardd gore’ o fyrddiwn.
Mab TOMAS. byw urddas barch,
ROBERTS, a’i wraig oreubarch:
Tor calon, friw fron fawr fri,
Ar unwaith i’w rieni;
Mae galar lladdgar i’w llys
O farw eu hannwyl FORYS.
Dygodd darfodedigaeth
Ei gorff i’r bedd, ceufedd caeth,
A’i briddo’n fab ireiddoed,
Yn Llundain yn ugain oed.
Ei fuchedd er yn fychan,
I radd glwys, oedd hardd a glân:
Bu radawl mewn boreudeg
Addfwynder, lân, dymer deg,
Brawdoliaeth bur i’w deulu
Diabsen yn fachgen fu,
Diwyd, eirfwyn, diderfysg.
Uchel iawn mewn dawn a dysg.
Hanodd o dêg Rieni
Parchusol, fawryddol fri:
Yn Llundain glain goleu-nef,
Magwyd ac y dysgwyd ef.
Cadarn yn ieuanc ydoedd:
Ar ei ddysg blaenorydd oedd:
Pelen aur pob blaenoriaeth
Glân o’i oll ysgolion aeth;
Ym mhob modd enillodd nôd
Brig eurfawr wobr y gorfod;
Heddychol, yn ddiachwyn,
Moesol, rhyfeddol o fwyn,
Cariadus, cywir ydoedd,
Llawn dawn nef, yn Llundain oedd,
Boddlonwn, cofiwn a’i câr,
Teg welwn nid da galar,
Galwn oll am galon is,
Hawl i Dduw alw ei ddewis;
Ei dda alwad i ddylaith
Pwy ŵyr well? Pur yw ei waith:
Gŵyr alw y goreuolion
I’w garu fry ger ei fron:
Da gweddai yn deg addas
I’w Dduw i nef ddwyn ei was.
Blaenaf, difalchaf fwyn’
Sylweddol, isel addwyn.
Ei gof oedd gyneddf, greddf grym,
Mai coflyfr amlwg cyflym;
Dawn o rodd Duw Nêr iddaw,
Celfyddyd bell linell ei law:
Ar wybodaeth o’r bydoedd,
Gloyw a fu, goleuaf oedd.
Da wrth farn gwladwriaeth fu,
Rhifyddwr i’w ryfeddu,
A hanesydd hynawswych’
Cyfieithydd ac ieithydd gwych;
Awenog Fardd enwog ddysg,
Defnyddiol dwfn ei addysg:
ANEURIN, MERDDIN mawrddoeth
Dull hen geirdd ddeallai’n goeth:
Tlysau o waith TALIESIN
Cyfieithodd a gweithiodd fel gwin,
Iawn seiniodd yn Saesonag
Rhin gem reddf yr hen Gymraeg:
Ei ddysg oedd dryddusg ddi – drai, -
Lladiniaeth oll adwaenai,
Grym digoll Gramadegaeth
Seisonaeg a Ffreingciaeg ffraeth,
Gwyddai oll gyoedd allan
Am Roeg lwyr, a Chymraeg lân;
Och o’i ddwyn! call, addwyn llwyr,
MORYS enwog mawr synnwyr:
Mae arwyl am arwyl MORYS,
Mae cwynfan yn ei lân lys,
O’i golli, gresyni sôn.
Gwae fu oll i’w gyfeillion:
Ys mawr eu cur, dolur du,
Mae dolur mwy i’w deulu:
I’w Dad a’i Fam mad ydoedd,
Yn eu tŷ per enaint oedd:
Briw o’i ddydd, brau ddiweddiad.
Cledd glas i DOMAS ei dad,
Colli twf call etifedd,
Colli ei fab call i’w fedd:
Gan hiraeth yn gynharol,
Ba ryw werth byw ar ei ôl!
Daliodd, anadliad olaf
Gwir gred yn nodded Naf:
Dyn, o ran dawn ei rinwedd,
Addfed i fyned i’w fedd:
Un dilwgr yn ei deulu,
Annwyl i bawb yn ôl bu:
Daionus, gweddus, a gwâr,
Mwyneiddgu amyneddgar.

 

Llwyddodd Maurice Roberts, gwrthrych y Farwnad uchod, i ennill iddo’i hun wobrau ac anrhydeddau gwahanol a niferus yn yr ysgolion lle bu’n derbyn hyfforddiant. Yr oedd ganddo gôf da, a dywedir iddo lwyddo i ddysgu oddeutu tair mil o linellau o farddoniaeth mewn pedwar niwrnod. Cyfieithodd i’r Saesneg weithiau Aneurin, Myrddin a Thaliesin. Mae ymdriniaeth y Parchg. Arthur Meirion Roberts, o gyfraniad mawr ei dad, Thomas Roberts, Llwynhudol, yn Adran Enwogion y Wefan hon.

 

Coffadwriaeth am Robert Owen
O’r Lôn-fudr, yn Lleyn,
yr hwn a hunawdd, Medi 12, 1786.

 

Tawel yw Robert Owen, a’i wely
        Yngwaelod daearlen;
    A’i ysbryd i fyd wen
    Y dringodd o dir angen.

Ynghanol pob anghenion, - o’i yrfa
        Trwy arfog elynion,
    Ca’i nerth llaw, cynorthwy llon –
    Ddaionus ei Dduw union.

Duw Naf, cywiraf carodd, - o’i ‘wyllys,
        A’i allu gynhaliodd;
    Am ei bris fe’i dewisodd;
    O warth, i fyd, wrth ei fodd.

O’i fodd ymgeisiodd am gêd,
         O fodd Iôn rhoddodd yn rhad:
     Nawf er lles i Nef o’r llid;
     Ac yno fe aeth, - gwyn ei fyd.

Gwynfyd ei fywyd a fu, - o wreiddyn
        Ymroddodd i Iesu:
    Trwy ras ca’dd ei addasu
    I dawel wlad Duw a’i lu.

Llu ysprydol llais puredig,
        Hoff lym ydynt a fflamedig;
    Un da yno Oen Duw unig
    Câr i’n ydyw coronedig.

Minnau sangaf (dringaf dro,)
(Buan obaith,) ben Nebo:
I weld gwlad uwch seilfad sêr,
Hyfrydwch ein hen Frodyr.
O’r Lôn-fudr i’r lan fe aeth,
Tra chadarn tri ych odiaeth;
Dyfal fu Risiart Dafydd,
Annwyl ddawn, yn ôl ei ddydd;
A Huw Tomas, llwyddwas llon,
Fageilydd fu o’i galon,
Aethant i’r wiwnef eithawl
I chwarau Emynau mawl:
Mor hybarch y mae Rhobert;
Gwau yn y Bâs ei gân bert:
Ei Delyn ga’dd – nid wylo,
Mae yn ei thrin, mwyn ei thro;
Ger bron yr Oen llon ar llys;
Diwallodd Duw ei ‘wyllys
A golwg ar wedd gu-lwys
Duw Iôn pur fu dan y pwys.
Hiraethaist am awr ethawl,
I weld ei wedd hedd a hawl;
I ŵydd yr Oen heddiw’r wyt;
A dedwydd enaid ydwyt;
Ar ei wedd o’r bedd byddi,
Yn ei wedd, bydd d’annedd di.

Siôn Lleyn (1749 – 1817)

 

EMYN
Dydd barn i’r Saint yn ddydd Iachawdwriaeth

Dydd barn i’r Saint mor felus yw,
Sef dydd eu hiachawdwriaeth wiw,
Cyfarfod gânt a’u Priod glân,
Yn llawn o gariad diwahân.

Ei ysbryd hoff diddanus sydd
Yn eu cysuro drwy wir ffydd;
Ar eu disgwylfa maent o hyd
Am ddydd rhyfeddol Barnwr byd.

Llawenydd melus yn ddilai,
I bawb o’r holl grediniol rai,
Fydd disgwyl am ddyfodiad Crist
I’w dwyn o’u trwm ddioddefaint trist.

Wrth ddisgwyl ei ddyfodiad ef
Y maent yn ufudd dan y nef
I gadw ei holl orch’mynion glân
Mewn gweddi ddyfal ddiwahân.

Ac yna O! ’r fath lawen lef,
Fydd yn dadseinio nef y nef;
Mewn clod a mawl heb derfyn mwy,
I’r Oen a’i waed a’i golchodd hwy.

Cânt edrych ar ei wyneb llon,
Ac ymhyfrydu ger ei fron;
Pan fo gelynion o bob rhyw
Yn suddo dan ddigofaint Duw.

O! foreu llon, O! foreu clir,
Fe ddaw yn sicr cyn bo hir;
Y caiff y Saint oll fyn’d at Dduw,
O’u gorthrymderau o bob rhyw.

        John Roberts (Siôn Lleyn)

[1749–1817]

 

CARREG YR IMBILL

 

Poenwain i mi wneud pennill, - yn gywrain

 

   

I Garreg yr Imbill;

 

 

Yn hardd blethiaith o saith sill,

 

 

Goddoeth heb ais na gweddill.

 

 

Rhyw garreg sy’n rhagori – ei mawrwerth

 

   

Ym Muriau Pwllheli;

 

 

Pand trymaf, - harddaf yw hi,

 

 

Mewn Teilad yn mantoli.

 

 

Camp hon a ŵyr Cwmpeini – Llynlleifiad,

 

   

Llawn llafur ŷn’t arni;

 

 

Pylorant a holltant hi,

 

 

Er mwyn gwneud aur o’r meini.

 

 

A’r meini ymwenant, eu heulog

 

   

Heolydd addurnant;

 

 

Mawr ennill o’n Imbill wnant,

 

 

A’r ennill â ni ranant.

 

Dai awn sieryd ein Seini

O ochr camp ei cherryg hi;

I’w diafrwydd waith difrôg

Ym mhwythgonglau teiau teg:

Oh! Llifwn hwynt i’w llyfnhau

I wneud addurn nodwyddau.

Meini, nid tywod mohonynt,

Meini o radd Mynor ŷnt.


 

Ys Tryles aur Ostrelia, - a’u burion

 

   

Cawn barod farchnata;

 

 

Gomedd ef fod gem dda,

 

 

Goreu gem yw’r graig yma.



Pwy’n ddifrif all gyfrif gwerth

Gronynfain ei grwn anferth?

Ai ni wybu’n iawn nebun

Wneud ennill o dynnu llun?

Y gaerog hardd garreg hon

Ar gyfyl môr ac afon

A’i hargraff mal tis hirgron,

A’i hwyneb at wyneb ton;

Muriawg lun rhwng môr a gwlad

Torth gestiog uwch traeth gwastad

A theru’r don ei thuryn;

A gwamal gwyd gwmwl gwyn,

Gwynluwch ar ei hesgynlawr

O bwll mwg ewynbeill mawr.

Ei thâl ar ŵyr i’r dwyrain,

Lle dengys mawr frys mor-frain

Yn ffair a hwy’n ffoi ar hynt

O daranwaith dwyreinwynt.

A sail hardd ei chesail hi

Hwylus i longau’r heli.

Cyfeirnod hynod yw hon

I wάr rywfawl yr afon.

Llechfa lle nis tafla tón – a heddwch,

A goreu clydwch rhag Eurocleudon.

O! bellach ar ebillwyr

Erfyniaf, gwyraf I’r gwyr

I ymbil dros y Wimbill

Fy arch o bydd parch i’m pill.

Llwyr achub ei llawr uchaf

Rhag rhwystro rhodio yr haf.

Heddiw o’i mawl hawdd I mi

Ar ei gorsedd roi gwersi.

Golwg hawdd o benglog hon

A gaf ar Leyn ac Eifion,

A’u mynyddoedd amnoddawl,

A Meirion gwlad moddion mawl.

Mireindod yw Meiriondir

Os caf a fwynhaf yn hir.

O tanaf y bwriaf bod

Gwely’r hen Gantre’r Gwaelod –

Ymwrolgyrch mawr weilgi,

O’i dwrf mawr adref a mi.

A gadw’r Imbill gwed’yn

I’r Seiri meini a’i myn.

Rhad arni gar mawrli myr

Yn chwareule’r chwarelwyr.

Siôn Owen y Garddwr


Roedd John Owen [Neu Siôn Owen y Garddwr], (1792 - 1874),
yn ffrind i Eben Fardd.

 

MARWNAD
Er COFFADWRIETH
AM Y DIWEDDAR
BARCHEDIG JOEL JONES
Gweinidog llafurus, poblogaidd a llwyddiannus yn mhlith y Bedyddwyr, ym Mhwllheli

GORFFENNODD EI YRFA FILWRIAETHUS (O’R DARFODEDIGAETH), GORFFENNAF 22ain, 1844,

Gan THOMAS EVAN JAMES [Thomas ab Ieuan]
1824 - 1870

[Gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur.
Ganed 17 Mawrth 1824, ym Mhencraig, Plwyf Llangoedmor, Sir Aberteifi, mab Evan a Mary James. Symudodd y teulu i Aberteifi pan oedd ef tua 13 oed. Bu am beth amser yn was fferm Heolcwm, Plwyf Ferwig, sir Aberteifi. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bu'n gwasanaethu yn anordeiniedig yn eglwys Groesgoch, Sir Benfro (1851 - 1852). Urddwyd ef, a gwnaed ef yn weinidog Pontestyll, ger Aberhonddu (1853 - 1856). Bu hefyd yng Nghwmbach, Aberdâr (1856 - 58), Castell Nedd (1858 - 1861), a Glyn Nedd (1861 - 1870). Bu farw 21 Mehefin 1870 . Ymhlith ei weithiau ceir Marwnad Joel Jones, gweinidog ym Mhwllheli].

CAERNARFON
ARGRAFFWYD GAN H. HUMPREYS, Castle Square
1844

Awen fwyn rho imi’th gymorth,
At drwm orchwyl sydd o’m blaen,
I gofnodi yr hyn a ganlyn
Mewn anghelfydd alar gân;
Adfyd chwerw ddaeth i’m clustiau
Dwys drywanu’m calon wnaeth,
Joel Jones enwog o Bwllheli
Sydd dan law yr angau’n gaeth.

Taw fy meddwl, taw fy ochain,
I rhyw ddewrion o faes gwaed
Gâdd eu dryllio, gan y cleddyf,
Ran yn gryf dros Frydain wlad?
Ni rhaid ateb, mwy o lawer;
Un o weision llonber Duw
Gym’rwyd lawr i res marwolion,
I ragfuriau Seion wiw.

Nid y tyngwr, nac y cablwr,
Ond Pregethwr Iesu Grist,
Uno ymarweddiad duwiol
Roddwyd yn ei farwol gist;
Fe gyfranai i’r Athronydd
Gryfion fwydydd – I ble’r aeth?
Ond o fodd ei galon
Rhoddai i blant Sion laeth.

Cadd ei alw, gan yr Arglwydd,
Cadd ei ddonio, gan y nef;
Ei hoff fwyd, a’i ddiod iachus,
Oedd gwneud ei ewyllys Ef;
Cred gadarnwych Paul oedd ganddo,
Gweithred Iago yn gytun,
Gogoniant Duw a lles dynolion
Oeddent ei olygon cun.

Draw y Mlaenau Gwent dechreuodd
Gwas i Grist yn bymtheg oed,
Rhoes ei fywyd hyd ei angau,
Ffyddlon fu efe erioed;
Amlwg welwyd er yn forau,
Gymwysiadau o’r nef wen,
Ei fod yn offeryn addas
Gyda’r deyrnas fawr is nen.

Câdd ei urddo yn Machynlleth,
At Genhadaeth Meirion gu,
Lle bu’n ffyddlon, er pob rhwystrau
Er llesâd eneidiau lu;
Ni arbedodd draul na thrafferth
Fyn’d dros anferth leoedd hon,
Gwir gyhoeddodd Grist yn Geidwad
I bechaduriaid mawr o’r bron.

Ar ôl hyn, i Sir Forganwg,
Aeth ei glod mewn uchel gân,
Bu’n llafurio, trwy groes wyntoedd,
Er lles lluoedd ym Mhont Faen;
Oddiyno i Gaerodor,* [*Bryste]
Aeth yn ôl y cyngor hedd,
I bregethu Crist i’r Cymry
Gan eu casglu mewn i’r wledd.

Cododd Gapel idd y Cymry
Er addoli Iesu pur;
Casglodd yno ac yng Nghymru
Gydag egni i’w ryddhau,
Ni chadd yma ddim segurdod
Teithiodd ormod yn ddiau.

Wedi hynny i Bwllheli,
A’i changhennau yr un pryd,
Daeth er troad torf o ddynion
I Fryn Seion o un fryd;
Mae ei Eglwys a’r Gwrandawyr,
A phreswylwyr hoff y dref,
Yn wir dystion o ffyddlondeb
Ac o burdeb ei ffordd ef.

Yr oedd o egwyddor gywir,
Safai’n bybyr dros air Duw,
Gwyddai am ei Geidwad grasol
Ac iddo’n ffyddlon y bu byw;
Mae fel Paul a’i ddwylo’n rhyddion,
Ac yn wynion oddi wrth waed,
Cyngor Duw a ddwys gyhoeddodd,
Gwir i gyd o’i enau gaed.

Cwyna Cymry fawr pob goror,
Golli’r cyfaill didor mâd,
Cwyn ynghanol dydd ei ddefnydd,
Fe ddaeth angau i wneud brad;
Nid oedd Roberts o Bwllheli
’N ddigon iddo, er ei hedd,
Heb gael Jones, er maint ei ddoniau,
I orweddle yr un bedd.

Yr oedd o gyneddfau cryfion,
Ac o dreiddio’n ddyfnion iawn,
Mewn egluro pethau dyrys
Yr oedd ganddo felus dawn;
Nid wy’n cofio imi glywed,
O Gaergybi i Gaerdydd,
Amgen Mr. Jones Pwllheli
Am fynegi pethau cudd.

Gwir na chafodd feddu llawer
O ryw nerth at grochfloedd fawr,
(Pe bai hynny yn angenrheidiol
Ac yn fuddiol unrhyw awr),
Ond roedd synnwyr a siriolder
Ein ffrind llonber iddo’n ddawn,
Yn ei goroni fel yr ydoedd
O ryw radd boblogaidd iawn.

Proffwyd y râdd esboniadol,
Pregethwrol gewri gyd,
Hyn ar ben ei bwnc a roddai
Fawr foddhad a golau clud;
Ei wybodaeth gyffredinol
Ydoedd fuddiol yn ei dref,
Cynghori da i ddwfn archollion
Oedd ei wych gyngorion ef.

Tristaf alaeth Jones fwyneiddlon
Disglair Seren Arfon Fawr,
Gollwyd yn yr angau creulon
Mae ei le y wag yn awr;
Cadwai drefen yn y gwersyll,
Byddai’n ennill yn ddiau,
Ei brif bwnc oedd gweled Seion
Yn Grist’nogol ymlanhau.

Nid oedd un Cyfarfod Misol
Na chwarterol chwaith yn llawn,
Nac esgynlawr y Gymanfa.
Heb gael yma Jones fawr ddawn;
Ond siomedig yw’r gobeithion
Welwn yn y bywyd hwn,
Er mawr allu Jones a’i ddefnydd
Buan iawn daeth pen ei rwn.

Roedd yn gyfaill ymddiriedol,
Cymwynaswr siriol iawn,
Darostyngai’r balch hunanol
Gyda nerth a nefol ddawn,
Ond os gwelai eiddil egwan,
O egwyddor ddoeth ddi-frad,
Ei brif bwnc oedd codi hwnnw,
’N wrthrych sylw ar ei draed.

Ni ddywedai Jones fel yma
Ac yn meddwl rhywfodd draw,
Ni chadd coegni a dau wyneb
Na ffurfioldeb dd’od gerllaw;
Dyn i ddyn, a brawd i’w frodyr,
Cyfaill cywir – gwas i Dduw;
Dweud a gwneud i bwrpas wnelai
Yng ngoleuni dwyfol gwiw.

Ond er cystal Cristion ydoedd,
Gwron yr areithfa gwn,
Fe ddaeth cystudd caled ato
Idd ei lethu megis pwn,
Angau a ddilynai’r ergyd,
Er ei ddiengyd yma* a thraw Ni orffwysodd nes ei orffen,
A’i gael yn gelain dan ei law.

*Bu 15 wythnos yn glaf yn nhŷ Mrs. Lewis, Caernarfon.

Ond ei enaid, o’r anialwch,
Hedodd i’r dedwyddwch fry,
Pan ar hanner dydd ei deithi
Cadd ei goroni gyda’r llu;
Mi ddych’mygaf ei weld, fyny,
Ar ôl croesi’r afon fawr,
Mewn rhyw syndod a rhyfeddod
Goruwch nychdod daear lawr.

Jones hawddgarol, gyfaill hoffus,
Llawer cwestiwn dyrys iawn,
A ddehonglaist imi yma’
Pan ym myd trallodion llawn;
Dyro glywed ’nawr dy brofiad,
Am ddull y gymanfa fry,
Ym mha agwedd mae dy Arglwydd
Yn rhoi it’ ei wenau cu?

Beth yw agwedd yr angylion,
A seraffiaid gwynion gwawl,
Pa mor danbaid mae’r archangel
Yn cyflwyno’r uchel fawl?
Pa ryw agwedd weli yna,
Ar yr apostolion glân?
Dywed hefyd gyfaill siriol
Beth yw iaith y nefol gân?

Gweli yna Herring ddoniol,
Dafydd Llwyd a Mathias wiw,
Christmas Evans, Dafydd Phillips,
Williams, Trosnant, hoff was Duw,
William Richards, Hughes o’r Ferwig,
Yn y fendigedig wlad,
Philotheoros, Henry Davies,
A John Reynolds gyda’r gâd.

Gweli yna Jenkins, Dolau,
Williams, Rhuthun, hardd ei wawr,
Simon James, a William Evans,
Gyda’r urddas deulu mawr,
Mr. THOMAS, Aberduar,
Yn mwynhau’r ddigymar fraint,
A ffyddoniaid tref Pwllheli
Yno’n moli gyda’r saint.

Dywed annwyl Jones hoffusol,
Natur yr hoffusol gân,
A ddatgenir gan dy frodyr,
Gyda’r hwylus nefol gân;
Pa fodd y chwaraeant delyn,
Tra bo’r bysedd yn y llwch,
Pa fodd canant heb y tafod,
Pan yn fud, dan ddaer’en drwch.

Ha! atebai Jones yn union
Gad dy ffolion ofyn ’nawr,
Dy bwnc yna ydyw chwilio
Lle cei ateb clir ar lawr
O’n sefyllfa hardd yng Ngwynfa,
Dos a theithia yn ein ffyrdd,
Ffyddlon hynod yw fy Ngheidwad,
Ceidw’r had er siomiant fyrdd.

Jones o ganol myrdd o groesau,
Aeth i blith y seintiau hardd,
Profodd yma waethaf Hades
Ac enllibion drwg diwardd;
Dedwydd yw ein cyfaill annwyl.
Goruwch anhwyl, llesgedd cnawd,
Gan foliannu heb ddim crygni,
Na dychrynu rhag gau frawd.

Bore’r eilfed dydd ar hugain
Yng Ngorffennaf, mil wyth cant,
Pedwar deg a phedair blynedd,
Gyda hyn bu farw’r sant;
Dau o’r gloch dydd Iau canlynol,
Rhowd ef mewn daearol dŷ.
Cyn ei gychwyn, Davies, Nefyn,
Geisiodd gymorth ei Dduw cu.

Yr Odyddion mwynion manwl
A flaenorai’n unawl, wiw,
A rhyw dorf o’i hen gyfeillion,
Heblaw rhes o weision Duw;
Aethant mewn i gapel Heli * [*Pwllheli]
Lle bu Jones yn gweini hedd,
Dan lawr hwn câdd fynd i orwedd
Yn nhangnefedd cun y bedd.

Mr. Lewis * a ddarllenodd [*Pontycim]
Ac anerchodd orsedd gras,
Am gynorthwy Duw y duwiau,
Pan yn claddu corff ei was;
Yna Mr. Morgans barchus,
O Gaergybi, yn dra dwys
A bregethodd ** ’nôl ei arfer, [**2 Tim. 4. 7-8]
Yn hyfedr, gyda phwys.

Yna Howells, cynorthwywr,
Ffrind dilwgr Jones yn wir,
A draddododd araith bwysig,
Gyda dagrau heilltion clir;
Araith arall ar ôl hynny,
Gâdd ei thraethu yr un modd,
Roberts Odydd, Brawd i’r achos
Wnaeth arddangos Parch ar g’oedd.

Trwy draddodi’r ddarlith rasol,
Gyda dull teimladol iawn,
Pan yn claddu brawd o’r Undeb,
Nad oedd neb a’i llanwai’n llawn;
Clod sydd haeddawl i’r Odyddion,
Am eu gweithion ffyddlon hwy,
Saif eu hymddygiadau serchog
Ym Mhwllheli’n enwog mwy.

Boed i’w Eglwys dra galarus
Feddu nawdd Pen Bugail nef,
Dan ei nodded bydded ichwi
Ymfodloni i’w ffyrdd ef;
Bugail danfonedig ganddo
Gaffoch eto is y nen
A pharodrwydd wel’d Jones fwyngu
Yn y nefoedd fry, Amen.


 

CADEIRYDD NEWYDD Y CYNGOR SIR.
Dr. O. Wynne Griffiths, Pwllheli.

Dymunwn longyfarch y gŵr hynaws a charedig, Dr. O. Wynne Griffiths, Pwllheli, ar ddyrchafiad i gadair lywyddol y Cyngor Sir. Mae y meddyg yn llwyr deilyngu y gadair, a'r syndod mawr ydyw ei fod wedi ei gadw ohoni cyhyd. Mae efe yn aelod o'r Cyngor ers ugain mlynedd. Bu iddo yn y flwyddvn 1895 ymladd brwydr etholiadol â'r diweddar Mr. Owen Evans, Broom Hall, yn mhlwyfi Abererch a Llanor, ac er fod Mr. Evans yn un o'r tirfeddianwyr mwyaf poblogaidd ac anrhydeddus ac yn perchen y rhan fwyaf o'r ffermydd a'r tai yn y rhanbarth bu i'r meddyg orchfygu. Yn mhen ychydig flynyddau etholwyd ef yn Henadur ar y Cyngor Sir, ond nid oedd y meddyg yn foddlon ar y sefyllfa hono a bu iddo ymladd brwydr am sedd dros Bwllheli chwe blynedd yn ôl, a dychwelwyd ef trwy fwyafrif mawr iawn. Mae Dr. Griffiths hefyd wedi cymeryd y dyddordeb mwyaf yn muddianau y dref. Y mae yn aelod o'r Cyngor Trefol ers 28 mlynedd ac yn Henadur ers 21 mlynedd a bu yn llanw y gadair Faerol gyda'g urddas ac anrhydedd am saith o flynyddau. Y mae yn ŵr adnabyddus a phoblogaidd a phob amser yn barod i godi a chynorthwyo y tlawd a'r anghenus.

Brodor o Nefyn ydyw, a mab i'r hen flaenor adnabyddus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, y diweddar Capten Owen Griffiths, y PIas. Dilynodd y mab lwybrau y tad yn y peth hwn, ac y mae yntau yn ddiacon ers dros 30 mlynedd a bu yn llywyddu Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd o dro i dro.

Fel Rhyddfrydwr eiddgar ac egwyddorol. y mae wedi enwogi fwyaf arno ei hun. Bu yn arweinydd gwrthryfel fythgofiadwy y degwm yn Lleyn ac Eifionydd. Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Bwrdeisdrefi Arfon ac efe gafodd yr anrhydedd o lywyddu y cyfarfod mawr hwnw yn y pafiliwn, Caernarfon, pan y bu i'r Canghellydd, Mr. Lloyd George, draddodi yr anerchiad fythgofiadwy ar gyllideb 1905.

Y mae hefyd yn ŵr yr edrychir i fyny ato gan ei gyd-feddygon yng Ngogledd Cymru, ac etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas y Meddygon dair blynedd yn ôl. Boed i'r meddyg hynaws gael oes hir a phrydnawn ddydd tawel i wasanaethu ei oes a'i genedl.

Yr Herald Gymraeg 16/03/1915

 

Y MEDDYG O BLAS TANRALLT YN YNAD HEDD.
Da genym ddeall fod y Meddyg O. Wynne Griffith, Plastan'rallt, wedi ei wneud yn Ustus Heddwch yn Nghaernarfon dydd Iau diweddaf. Fel y gwyr lluaws mawr na fu yn fyr o gyflawni deugain mlynedd a wasanaeth cyson a gonest i'r cyhoedd yn ystod yr amser maith yna, a hyny yn hynod egwyddorol ac ar draul colli llawer o'i gysur personol mewn lluaws o gyfeiriadau.

Nis gwyddom am neb yn haeddu ei barchu a'r swydd yn fwy na'r Meddyg. Yr oedd wedi bod yn ei llanw yn rhinwedd ei swydd fel Maer y dref am flynyddau lawer, er mai am wahanol gyfnodau oedd hyny, ond bellach bydd yn adnabyddus arhosol fel Ynad, ac eiddunwn iddo bob llwyddiant i wneud cyfiawnder yn mhob achos.

Wele isod benillion telyn wedi eu cyfansoddi yn arbenig ar yr amgylchiad.

Heddyw gwelwn addfed ffrwyth
Egwyddor dan ei choron;
Er ei chadw'n hir dan len
Fe gura gwaed ei chalon;
Teilwng urddas Gwalia Wen
Yn disgyn ar y gwron.

Bellach rhoddwyd cyfle teg
I roi y wisg am dano,
Tyfu ddarfu iddi'n llawn
Flynyddau cyn ei urddo;
Dyna bris a chyflawn werth
Pob Ustus byw ac effro.

Cymro gwladgar ydyw ef
Fu'n ymladd ein holl frwydrau;
Pwy yn well a gawsom ni
I gynrychioli'n hawliau ?
Hoffus ŵr y Werin oll
Ac anwyl Wlad ein Tadau.

Deugain mlwydd fel Moses gynt
Yn arwain mewn anialwch;
Dyna oedd ei fywyd ef
Mewn yni a gweithgarwch;
Llawenhau y byddwn oll
Mae heddyw'n USTUS HEDDWCH.

W. LLEWELYN ELLIS.
Yr Udgorn 11/07/1917


YR HEN GAPEL, PENTREPOETH, PWLLHELI

Tyred awen am fynydyn
Gyda mi i roddi tro,
At hen gapel y Bedyddwyr -
Llecyn swynol yn ein bro:
Dwfn gorweddi, gapel annwyl,
Yn serchiadau llawer iawn;
Hoffant glywed són amdanat
Hwyr, a boreu, a phrydnawn.

Ynot ti y magwyd dewrion,
Rhai fu'n ffyddlon trwy eu hoes,
I hyrwyddo teyrnas Iesu,
A fu farw ar y groes:
Cofir am yr hen oedfaon
Gafwyd yma lawer gwaith;
Man bu llawer hen bererin
Yn ymborthi ar y daith.

Llawer o hen udgyrn arian,
Fu'n cyhoeddi gyda blas
O dy bwlpud cysegredig
Wirioneddau mawrion gras;
Fel y teimlodd llawer enaid
Nerthoedd Dwyfol cariad pur,
Nes eu denu i gofleidio'r
Gŵr fu dan yr hoelion dur.

Mae'r hen gapel eto'n aros,
Ond ein tadau, p'le maent hwy?
Ah! maent wedi dianc adref,
Canant nawr am farwol glwy';
Rhai o'r meirw sydd yn gorwedd
Ger y lle yn wael eu llun;
Ond cânt godiad gogoneddus
Wedi melus dawel hûn.

Mae'r hen gapel eto'n aros,
Ond ein tadau, p'le maent hwy?
Ah! maent wedi dianc adref,
Canant nawr am farwol glwy';
Rhai o'r meirw sydd yn gorwedd
Ger y lle yn wael eu llun;
Ond cânt godiad gogoneddus
Wedi melus dawel hûn.

Cysegredig ydwyt, fynwent,
Gan galonau yma a thraw,
Am mai ynot ti ygorffwys
Eu hanwyliaid ar bob llaw:
Cyn ffawelio gyda'r awen,
Rhof ochenaid tua'r ne,'
Am i Arglwydd Dduw y tadau
Aros eto yn y lle.



JANE M. WILLIAMS.
Pwllheli

Cerdd fuddogol o’r ‘Greal’ 1887


 

BABI

I'n tŷ y daeth, yn wynt a dŵr - un bach,
Heb ei ail am ddwndwr;
Os yw o yn gwylltio gŵr,
Mae'n newydd fel cwmnîwr.

Wyn Roberts

COFIO

Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi
Dros y Garn a'r Afon Goch?
Wyt ti'n cofio troi i'r eglwys
Fore'r Pasg yn seiniau'i chloch?

Wyt ti'n cofio'r hwyl wrth nofio
Efo'r criw ar lan-môr 'Berch?
Wyt ti'n cofio'r hen gymdeithas,
Ninnau'n dau yn rhwymau serch?

Wyt ti'n cofio'n taith i Enlli
Yng nghwch newydd Ifan Jôs?
Wyt ti'n cofio y pregethau
Yn hen neuadd fawr y Rhos?

Dywed, Gwen, dy fod yn cofio'n
Teithiau difyr hyd Ben Llyn.
"Dafydd bach, - yn bedwar ugain,
Dwi'n cofio diawch o ddim, myn dyn!"


Wyn Roberts

CYFARCHION Y TYMOR

Hen Wyl lawen y Geni - a ninnau'n
Uno i glodfori;
Yn yr hwyl a'r caroli
Boed hedd yn eich annedd chwi.

Wyn Roberts

CYMYDOG

Bai'r gŵr yw byw ar gyrri - Indiad yw,
Ei draed a'i dy'n drewi,
Er hyn, gŵr clên yw Rani,
Daw'n aml i warchod i ni.

Wyn Roberts

GORWEL

Roedd o’n hogyn penderfynol:
Mynnu’i ffordd ei hun wnai o.
Hwyliai’i gwch ar draws y cefnfor,
Chwiliai’n frwd am decach bro.

Aeth un diwrnod tua’r gorwel;
Anelai am ei Shangti-la;
Ond bu iddo tra’n pendwmpian
Golli’i ffordd yn niwl yr ha.’

Yna wrth lithro dros y tonnau
Mi ddeffrôdd yr hogyn ffôl,
Anwybyddodd siars ei fami:
Tomi Huws ni ddaeth yn ôl.

Wyn Roberts

OER YW'R EIRA

Oer yw'r eira pan fo'i bluen
Yn gwyngalchu llethrau'r llawr;
Oer yw rhewynt main o'r dwyrain,
Oera'r gwlith ar doriad gwawr.

Oer y llynnoedd yn Eryri;
Oer y llwydrew ar y ddôl;
Oera'r galon yn y fynwes
Fy anwylyd ar dy ôl.


Wyn Roberts

Parodi ar Yr Hen Chwarelwr [W.J. Gruffydd]

CERDD Y GŴR DI-WAITH


Bachgen deunaw gerddodd ryw ben bore
Lawer dydd yn ôl o’r tŷ am saith:
Gobaith fflachiai yn ei lygaid tywyll,
Wedi treulio misoedd yn ddi-waith.

Cerddodd i’r Ganolfan Waith yn gyson,
Eto nid oedd ganddynt swydd ar ôl;
Ar y bysus teithiodd y gymdogaeth;
Talodd am ei ffêr o bres y dôl.

Curodd ddrws pob ffatri yn yr ardal,
Ond ‘run fath bob dydd y câi ei drin’
A phob tro ’run siom oedd yn ei aros –
Dim i’w gynnig yn y dyddiau blin.

Neithiwr daeth yr ambiwlans yn sydyn;
Soniwyd ar y stryd am stôf a nwy,
Yna cludwyd rhywun i’r ysbyty –
Ni bydd sôn am waith na chyflog mwy.


Wyn Roberts

TRE PWLLHELI

Wylaf dros fy Mhwllheli, - hen dre hoff
Ydyw'r un sy'n siomi;
Di-raen, a Saeson di-ri'
A hawliant ei rheoli.

Wyn Roberts

Y SILFF LYFRAU

 

  Ar y silff,
Emynau Pantycelyn,
  Ar y silff:
"Y Glowr," Gwilym Tilsley,
A gwaith Hedd Wyn, y "Cerddi,"
  Ar y silff,
  Ar y silff;
A "Hunangofiant Tomi,"
  Ar y silff.

 

A beth sydd yno rwan?
  Ar y silff,
  Ar y silff:
Rhai pethau sy'n fwy diddan,
  Ar y silff;
Sawl DVD a Fideo:
Ffilm Arswyd, "One Hour Photo,"
A "Death Down in the Hollow,"
  Ar y Silff,
  Ar y silff,
"Jack Dee at the Apollo,"
  Ar y Silff.

 

Wyn Roberts

I Benlan

Dewch i’r dre fach hon ar bnawn dydd Sul,
yn eich siorts mawr llac, yn eich siwtiau cul.
Dewch i neuadd newydd fu yma ers pan
ddôi llawnder y llanw at odrau Penlan.
Dydi’r nos ddim yn brathu: pan fydd farw’r dydd
bydd y muriau’n lloches i Gymry rhydd.
Dewch i chwilio am uchelwyr, a chael bod pawb yn un:
y lleiaf un ohonom yn llinach arglwyddi Llyn.
Treuliwn oriau gwallgo rhwng y waliau gwyn:
wnaiff daeargrynfeydd ddim ysgwyd fan hyn.
Gwres tân Glyndwr i’w deimlo ’Mhentre Poeth:
wedi llosgi’r eithin mae’r tir yn noeth
ac mae digon o le i ni godi’n tai
efo cerrig yr Imbyll (pedwar llawr, a dim llai).
Mentrodd dynion wthio’r môr yn ei ôl,
gwneud mur er mwyn ennill daear a dôl;
gwneud gwestai, a phyllau a phromenâd,
gwneud pwyllgor, tram, marchnad, plaid i godi gwlad.
Rydan ni yma’n ffeirio geiriau ffôl
am fod gwyr a’u gweision, ganrifoedd yn ôl,
’di rhoi carreg ar garreg, cydio stryd wrth stryd yn dre –
gweld cyfle, gweld cartref, ac adeiladu’r lle.
Gwneud llongau: mynd â cherrig a hogiau i’r byd,
i Baris a Llundain, a dychwelyd mewn pryd
i gael cwrw a choelcerth ar y Groes neu’n Ben Garn.
A down ninnau i’r dre, i ddawnsio, i bledu barn
yn hyf ar ein gilydd. Mae’r neuadd yn wen,
yn olau, yn eang: ddaw’r nos byth i ben.
A chyn bore fory, pan ddifarwn ni’r dydd,
gawn ni setlo mewn darn bach o’r Gymru rydd.


Y Prifardd Guto Dafydd