Y Cyn Feiri


CYN-FEIRI A CHYN FAERESAU’R DREF

cynghorwyr 2014 – 2016 Y Cynghorydd Michael Sol Owen (Plaid Cymru)

Addysg
Cefais fy addysg ym Mhwllheli, yn Ysgol Troed yr Allt, wedyn yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn graddio mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Bangor.

Personol

Rwy'n briod â Gwyneth ac yn dad i Llinos a Gruffudd. 'Rwyf wrth fy
modd cerdded a mynydda, darllen llyfrau am wyddoniaeth, a cheisio chwarae'r piano.

Gwaith a Phrofiad
Ar ôl graddio, dewisais ddod yn ôl i Bwllheli i redeg busnes llechi ac ithfaen y teulu. Tyfodd gymaint nes y bu’n rhaid symud i adeilad newydd a sefydlu busnes newydd - Cerrig Cyf - ar Ystad Glandon.

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr, roeddwn yn cyflogi dros 30 o bobl lleol. Ar sail fy mhrofiad, cefais fy mhenodi'n Ymgynghorydd Busnes i'r Cynulliad ac wedi rhedeg busnes argraffu ar y Stryd Fawr yma ym Mhwllheli.


maer 2012 – 2014 Y Parchg. Ioan W. Gruffydd

Brodor o Lithfaen a Nefyn ydy'r Parchg. Ioan W. Gruffydd. Bu yn ysgolion Llithfaen a Nefyn ac yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn mynd i Goleg yr Annibynwyr, Bala-Bangor, a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor, gan raddio mewn Cymraeg, Athroniaeth a Diwinyddiaeth. Bu'n weinidog yr Annibynwyr ym Mhenmaen-mawr a Dwygyfylchi, 1963-67 Craigcefnparc, 1967-71, Caergybi, 1971-82 a Chwilog a'r cylch, a oedd yn cynnwys Aber-erch, Capel Helyg, a Threfor 1982-83, cyn symud i Abertawe yn Ysgrifennydd Cenhadol ei enwad, 1984-99. Dychwelodd yn weinidog i Chwilog, 2000-09, ac yn Ysgogydd Cenhadol nifer o eglwysi Llŷn ac Eifionydd, 2000-2004. Sefydlwyd yn ddiweddarach yn weinidog Aber-soch, Bwlchtocyn, Mynytho a Rhiw, yn 2009. Ef oedd Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn 2001, a thraddododd ei anerchiad o'r gadair yn Aberystwyth ar Gyhoeddi'r Enw sydd Goruwch pob Enw. Y mae'n awdur nifer o erthyglau, a chyhoeddodd ddau neu dri o lyfrau, yn cynnwys Gwefr a Gwewyr - Hanes Taith yn Neheubarth Affrica, a Draw Draw yn China, Golwg ar Fywyd China Echdoe, Ddoe a Heddiw. Y mae'n briod â Margaret, ac yn dad Bethan, Nia a Pryderi, a thaid i ddeg o wyrion ac wyresau. Ymhlith ei ddiddordebau y mae darllen, teithio, ffotograffiaeth, a garddio.


feiri 2010 – 2012 Michael Parry

Brodor o Ynys Môn yn wreiddiol yw'r Cynghorydd Michael Parry ac mae’n enedigol o Niwbwrch, ble cafodd ei addysg gan yr athro a’r dramodydd adnabyddus, W.H. Roberts. Gwnaeth ei brentisiaeth fel trydanwr yn Y Wylfa, a bu'n drydanwr peirianyddol mewn gorsaf Bwer yn Heysham, cyn mynd ymlaen i weithio yn yn Oman yn y Dwyrain Canol - cyn ddychwelyd i Gymru yn 1977, pan ddaeth i Bwllheli ac agor siop ddillad yn y Stryd Fawr. Mae'n Ymgynghorydd Busnes cymwysedig, a chyflawnodd amryw o swyddi gwahanol dros y blynyddoedd. Bu’n gweithio i Gymdeithas Bysgotwyr am dros bum mlynedd, a bu’n Ysgrifennydd Cenedlaethol am dros dwy flynedd. Bu’n gyfarwyddwr ar Fwrdd Twristiaeth Gogledd Cymru am chwe blynedd, a bu’n Gynghorydd Cyngor Dosbarth o 1983 i 1996, a chafodd yr anrhydedd o fod yn Gadeirydd olaf Cyngor Dosbarth Dwyfor yn 1996 – yn dilyn yr ad-drefnu a fu mewn llywodraeth leol. Mae wedi bod yn Gadeirydd Partneriaeth Pwllheli ddwywaith, yn Ysgrifennydd Siambr Fasnach y Dre, yn ysgrifennydd Bwrdd Twristiaeth Llŷn, yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli am dros 30 o flynyddoedd, ac yn ddiweddar, mae wedi rhoi arweiniad sawl gwaith ar faterion yn ymwneud â diffygion yn y Gwasanaeth Iechyd. Y mae'n briod â Sharron, a fu'n Nyrs Hŷn yn Ysbyty Bryn Beryl am ddeng mlynedd, ac mae ganddo ferch, Helen, sy'n gyfreithwraig.


cynfeiri 2008 – 2010 Evan J. Hughes

Brodor o Langwnadl, Llŷn, yw’r Cynghorydd Evan John Hughes. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Fach Llangwnadl ac Ysgol Ramadeg Botwnnog. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn arlunio, a disgleiriodd ym myd athletau’r ysgol. Ef oedd Prif Fachgen yr ysgol cyn iddo ymadael ym 1951.

Yn y cyfnod hwnnw, roedd gorfodaeth i dreulio cyfnod yn y Lluoedd Arfog, a threuliodd Evan dair blynedd fel athro ymarfer corff yn y Llu Awyr, gan dreulio cyfnodau’n gwneud hynny mewn mannau gwahanol: roedd yn Norfolk yn ystod y gorlifiad mawr, ac yn Llundain ar gyfer y coroni ym 1953.

Ar ôl gorffen yn y Llu Awyr, ymunodd â heddlu Sir Gaer, gan ddechrau yn New Ferry, ar Gilgwri. Priododd Rhiannon ym 1957, a symudodd y ddau i dŷ newydd ym Macclesfield, lle’r oedd gan Rhiannon swydd ddysgu yn lleol. Roedd bywyd heddwas yn yr heddlu bryd hynny’n go wahanol i’r hyn ydyw heddiw. Er fod llawer o barch tuag at y swydd, golygai dreulio wyth awr ar y stryd, waeth beth a fo’r tywydd, ag eithrio tri chwarter awr i gael pryd o fwyd.

Roedd cael dyrchafiad yn yr heddlu’n anodd, er iddo fod ai fryd ar arbenigo ac ymuno â’r Adran Ymholiadau i Droseddau (C.I.D). Cafodd fynd ar gwrs dreifio’r heddlu, ac wedi rhyw bum mlynedd ar y stryd ym Macclesfield, symudwyd ef i weithio fel Ditectif-Gwnstabl yn Stalybridge. Roedd yno le prysur, a bu’n gysylltiedig â nifer o achosion o lofruddiaethau o fewn y sir. Y gwaethaf o’r cwbl i gyd oedd y Moors Murders hefo Ian Brady a Myra Hindley.

Ar Ebrill 1, 1966, dyrchafwyud ef yn ringyll gorsaf yn Hyde. Ym mis Medi, 1967, anfonwyd ef i swyddfa newydd ar ystad newydd yn Hattersley i drefnu gwybodaeth leol. Gweithiodd fel swyddog atal troseddau mewn ffatrioedd a chartrefi lle bu’n trafod diogelwch. Yn ystod ei waith, cyfarfu â’r actores, Pat Phoenix, o Coronation Street, a’r arlunydd enwog, C.S. Lowry. Wedi hynny, anfonwyd ef i Brimingham am chwech wythnos ar gyfer cwrs prif swyddogion cudd, ac ym mis Gorffennaf 1968, danfonwyd ef yn ôl i Stalybridge fel Ditectif-Ringyll.

Penderfynodd adael yr heddlu ym mis Awst 1972, a dod i gadw siop baent a phapur wal yn 21 Stryd Penlan, Pwllheli, lle mae Oriel Tonnau heddiw. Safodd etholiad ym1979, a bu’n aelod o Gyngor Dosbarth Dwyfor am wyth mlynedd. Daeth yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli ym 1983, ac mae’n parhau i fod yn aelod ar ôl 32 o flynyddoedd. Bu’n aelod o Bwyllgor Harbwr Pwllheli am 30 o flynyddoedd, a bu hefyd yn ymwneud â Siambr Farchnad y dref. Bu’n Faer y Dref ar ddau achlysur. Bu’n aelod o Bwyllgor Cyfeillion Plas Glyn y Weddw, ac y mae’n un o Lywodraethwyr presennol Ysgol Cymerau.

Mae gan Rhiannon, ei briod, ac yntau dair merch: Elin Morfudd, Sara Angharad, a Betsan Gwenllian. Ymysg ei ddiddordebau mae pysgota, arlunio a chwarae golff. Yn ddiweddar, bu ganddo arddangosfeydd arlunio yn Tonnau, Pwllheli, Gray Thomas yng Nghaernarfon, ac yn Taro Deg ym Mhwllheli


cyn feiri 2006 – 2008 Alan Williams

Brodor o Fodedern, Ynys Món,  yw’r Cynghorydd Alan Williams a derbyniodd ei addysg ym Modedern ac yn Ysgol Gyfun Caergybi cyn mynd i Southport i hyfforddi  fel trinydd gwallt. Bu ganddo siop trin gwallt yn Aber-soch ac yna ym Mhwllheli gan fod yn un o’r rhai cyntaf i drafod trin gwallt yn y Gymraeg ar radio a theledu cyn dyfodiad S4C.

Fe’i etholwyd gyntaf ar Gyngor Bwrdeistrefol Tref  Pwllheli ac ‘roedd ymysg y cyntaf i sefyll yn enw Plaid Cymru.  Bu’n gyfrifol am ail-sefydlu Siambr Fasnach Pwllheli a chael basgedi crog a baneri ar siopau’r dref am y tro cyntaf yr haf yr ymwelodd Eisteddfod yr Urdd á Phenros. Bu’n gyfrifol am eu rhoi i fyny fyth ers hynny.

Bu’n Gadeirydd Cymunedau’n Gyntaf, a oedd a Swyddfa ym Morfa’r Garreg, drwy gydol bodolaeth y fenter gymunedol. Bu’n Gadeirydd  i  CIP, Cynllun Ieuenctid Pwllheli a bellach mae’n  Is-Gadeirydd. Mae hefyd yn aelod o Bartneriaeth Pwllheli sy’n hybu  gwelliannau a buddiannau’r dref.

Ymhlith ei ddiddordebau mae’r theatr, rygbi, criced a hwylio a bu’n aelod o fwrdd Rheoli Clwb Chwaraeon Pwllheli a Bwrdd Rheoli Theatr Gwynedd am nifer o flynyddoedd. Mae’n debyg mai ei brif ddiddordeb yw gwleidydda gan fod yn aelod brwd o Blaid Cymru ac yn Gadeirydd y gangen leol ers sawl blwyddyn.

Y mae’n briod á Rós a fu’n gyfieithydd yn y Coleg Technegol ym Mangor a Chyngor Gwynedd ac yn dad Sión ac Elliw, a thaid Isac ac Esyllt.


elfed gruffydd 2004 – 2006 Elfed Gruffydd

Ganwyd a magwyd y Cynghorydd Elfed Gruffydd yn Llangwnnadl a bu yn yr ysgol fechan yno cyn mynd i Ysgol Tudweiliog. Oddi yno aeth i Ysgol Botwnnog, ac wedyn derbyn hyfforddiant i fod yn athro yn Y Coleg Normal, Bangor (1964-67). I Ysgol Hendreforgan yng Nghilfach Goch, Morgannwg yr aeth i ddysgu gyntaf ac yna yn ôl i Lŷn i Ysgol Troedyrallt (Iau), Pwllheli. Bu am gyfnod byr yn bennaeth Ysgol Bryncroes, cyn ei chau yn 1970, a dychwelyd i Bwllheli. Yn 1977 penodwyd ef yn bennaeth Ysgol Nefyn a bu yno hyd 1983 cyn cael ei benodi’n bennaeth Ysgol Cymerau, Pwllheli. Oddi yno yr ymddeolodd yn niwedd 2002.

Priododd ag Evelyn, merch o Bwllheli ym 1970 a chawsant ddwy ferch, Manon a Ffion. Bu Evelyn farw yn 2004. Mae ganddo wyrion ac wyresau - Mared a Gwenno, a Cai, Twm ac Efa.

Mae wedi bod yn gynghorydd ar y Cyngor Tref ers 1973. Bu'n faer ddwywaith ym 1980-81 ac yn 2004-2006, Manon yn faeres y flwyddyn gyntaf ac yna Ffion am yr ail flwyddyn.

Bu’n flaenor yng nghapel Penmount, Pwllheli, ac mae’n Ysgrifennydd yng Nghapel y Drindod, Pwllheli.

Ymddiddora ym myd natur a hanes lleol. Cyhoeddodd ddau lyfr - 'Ar Hyd Ben Rallt,' sy’n gasgliad o enwau arfordirol Dwyfor, a 'Llŷn' yng nghyfres 'Llyfrau Llafar Gwlad’. Hoffa deithio a chefnogi tîm rygbi Pwllheli.


Glyn Roberts 2002 – 2004 Glyn Roberts

Brodor o bentref Carmel, yn Nyffryn Nantlle, ydoedd. Addysgwyd yn Ysgol Carmel, Ysgol Ramadeg Pen-y-groes, ac yn y Coleg Normal, Bangor. Dechreuodd ei yrfa fel athro yn ninas Birmingham. Wedyn bu’n ddirprwy-brifathro Ysgol Troed-yr-Allt, Pwllheli, cyn cael ei benodi'n brifathro Ysgol Llanbedrog. Yr oedd yn ŵr amryddawn ac yn fardd medrus, yn hoffi hiwmor ac yn dynnwr coes heb ei ail. Ysgrifennodd amryw o ddramâu llwyfan, ac yn eu plith, Ail Godi’r Llen, i ddathlu 650 mlynedd Pwllheli fel tref. Ef hefyd a gyfansoddodd y geiriau i gân enwog Hogia’r Wyddfa, Safwn yn y Bwlch. Bu’n aelod gwerthfawr a ffyddlon o Gyngor Tref Pwllheli, gan wasanaethu fel Maer y dref ar ddau achlysur ym 1971-73, ac yn 2002-2004. Câi ei adnabod yn annwyl ym Mhwllheli fel ‘Glyn Maer.’ Yr oedd yn briod â’r ddiweddar Eirlys, yn dad i Dylan a Siân, ac yn daid balch i Gareth. Bu farw yn 82 oed fis Mai 2012.


cyn feiri 2000 – 2002 Beti Jones Parry

Bu'r Cynghorydd Beti Prys Jones Parry yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli am 16 mlynedd. Safai fel aelod annibynnol gan gynrychioli Ward y De. Daeth yn aelod o'r Cyngor gyntaf ar 11 Mai, 1993. Un o enethod Boduan oedd Beti Prys. Yn Ysgol Sir Pwllheli, hi, meddir, oedd gôl-geidwad y tim hoci. Aeth i weithio i Siop Goch, a oedd yn rhan o Siop Polecoff yn y Stryd Fawr, ac yno y bu hyd nes iddi briodi ag Ifan Jones Parry, o Lithfaen. Bu'r ddau wedyn yn rhedeg Cwmni Bysiau Parry o'r Bryn, ar Lôn Caernarfon. Wedi symud i fyw i Gorwel, Abererch, roedd eu bwsiau yng Nglandon yn y dref. Roedd hi a'i phriod yn hoff iawn o anifeiliaid: roedd ganddynt saith ci, dwy gath a dau ferlyn Shetland. Bu'n gefnogol gydol ei bywyd i les anifeiliaid. Wedi smud i fyw i Ger-y-Bont, yn y dref, daeth yn aelod o'r Cyngor Tref, ac wrth wneud hynny, roedd yn dilyn yn ôl traed ei thad, y diweddar Gynghorydd D.S. Davies, a sefydlwyd yn Faer Pwllheli ym 1963. Gan nad oedd ei mam ar y pryd yn dda ei hiechyd, Beti Prys oedd y Faeres am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, yr ymwelodd y Frenhines a'r Tywysog Philip â Phwllheli. Daeth hi yn Faer y dref yn 2000 - y ferch gyntaf i fod yn Faer yn hanes y Cyngor, a'r unig ferch i fod yn Faer a Maeres. Bu'n Gadeirydd Clwb yr Henoed yn y dref - clwb y bu ei thad yn gyfrifol am ei sefydlu. Bu'n weithgar gyda Phwyllgor Pwllheli a'r Cylch i ymchwil Cancr, Cymdeithas Gofal Anifeiliaid Llŷn, Pwyllgor Cyfeillion Bryn Beryl a Phwyllgor Codi Arian at Hosbis yn y Cartref. Brwydrodd yn galed i gael Uned Ddialasis i'n rhan ni o Wynedd.


cyn feiri 1998 – 2000 Eric Wyn Roberts

Yn frodor o Bwllheli, mae’r Cynghorydd Eric Wyn Roberts yn Cynghorydd Tref ers 25 mlynedd ac yn cynrychioli Ward Gogleddol y dref. Mae’n aelod o Blaid Cymru. Bu’n gyn-faer y dref yn ystod 1998 -2000. Cafodd ei addysg yn ysgolion Troed yr Allt, Penrallt a Glan y Môr Pwllheli, cyn mynd i wneud Cwrs Arlwyaeth yn Ngholeg Technegol Llandrillo yn Rhos. Bu’n ofalwr Canolfan Frondeg Pwllheli am gyfnod. Bu’n Ysgrifennydd Clwb Pêl Droed Pwllheli a’r Cylch, yn Gyd-Arweinydd Cangen Urdd y Dref. Bu’n Gadeirydd dathliadau’r Mileniwm y Dref. Mae’n Ysgrifennydd Ymddiriedolwyr Capel Penlan (A) Pwllheli. Ers 21 mlynedd mae wedi gweithio yn y maes Gofal Cymdeithasol gyda Cartrefi Cymru, fel Gweithiwr Cefnogol, Rheolwr Gwasanaeth, a bellach fel Swyddog Datblygu Ansawdd. Mae ganddo nifer o ddiddordebau gan gynnwys, Golffio, Ffotograffiaeth, Teithio a Gwleidyddiaeth. Y mae’n ddi-briod, ond mewn perthynas gyda Sule ers 11 mlynedd.


cyn feiri 1996 – 1998 Iwan Rhys Edgar

Cafodd ei eni ym Mangor - fel cynifer o’i genhedlaeth – a’i fagu ym Mhwllheli. Derbyniodd ei addysg yn ysgolion y dref cyn mynd i Goleg y Brifysgol ym Mangor. Y mae’n briod â Bethan, ac mae ganddynt ddau o blant, ac un ŵyr. Mae ganddo ddiddordeb amlwg mewn materion gwleidyddol lleol a thu hwnt, ac mewn materion amgylcheddol a phlanhigion a garddio.


cyn-feiri 1994 – 1996 H. Wyn Elias

Un o hogia’ Pwllheli oedd y diweddar Gynghorydd Huw Wyn Elias, wedi ei eni a’i fagu yn y dref. Yr oedd ei gartref ar Ffordd Caernarfon. Aeth i Ysgol Troedyrallt a’r Ysgol Ramadeg yn y dref, cyn mynd i Goleg Prifygol Cymru, Bangor, lle’r enillodd radd B.Sc. Treuliodd flwyddyn yn dysgu Mathmateg yn Ysgol Uwchradd Biwmares, ac wedyn yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, pan ymunodd Ysgol Biwmares â’r Ysgol honno. Aeth wedyn yn athro Mathemateg yn ei hen ysgol – Ysgol Ramadeg Pwllheli – ac yn ddiweddaeach, yn dilyn yr ad-drefnu – i Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Yr oedd yn briod ag Eirlys, sy’n hanu o Ynys Môn, a chawsant ddau o blant. Bu’n Warden yr Eglwys ym Mhwllheli, ac yn gyd-drysorydd. Yr oedd wrth ei fodd yn hel achau ac yn ymddiddori yn hen hanes Pwllheli. Bu farw 18 Tachwedd, 2009.


cynfeiri

1992 – 1994 Evan J. Hughes

Gweler uchod ...


cyn feiri 1990 – 1992 M. Ian Roberts

cyn feiri 1988 – 1990 Ronald Evans

Brodor o Bwllheli yw’r cyn-gynghorydd Ronald Evans. Wedi bod yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, a threulio tair blynedd yn y Fyddin, aeth i Goleg y Normal a Choleg Prifysgol Cymru Bangor, lle graddiodd mewn Addysg. Bu’n Bennaeth Adran Celf a Dylunio yn Ysgol Ardudwy, Harlech, lle’r oedd ganddo hefyd gyfrifoldeb am Yrfaoedd. Mae’n briod â Mair, ac mae ganddynt dri o blant. Gwasanaethodd am ugain mlynedd fel Cadeirydd Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, a gwasanaethodd hefyd ar Bwyllgor Rheoli Bad Achub Pwllheli. Bu’n Brif Arholwr mewn Celf i Gyd Bwyllgor Addysg Cymru.


cyn feiri 1986 – 1988 Michael Sol Owen

Cafodd ei addysg ym Mhwllheli, yn ysgolion Troed yr Allt ac Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn graddio mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n briod â Gwyneth ac yn dad i Llinos a Gruffudd. Mae’n hoffi cerdded a mynydda, darllen llyfrau am wyddoniaeth, a chwarae'r piano. Wedi graddio ym Mangor, dychwelodd i Bwllheli a rhedeg busnes llechi ac ithfaen y teulu. Tyfodd y busnes gymaint nes y bu’n rhaid symud i adeilad newydd a sefydlu busnes newydd - Cerrig Cyf - ar Ystad Glandon. Fel Rheolwr Gyfarwyddwr, roedd yn cyflogi dros 30 o bobl leol. Ar sail ei brofiad, cafodd ei benodi'n ddiweddarach yn Ymgynghorydd Busnes i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bu hefyd yn ddiweddarach yn rhedeg busnes argraffu ar Stryd Fawr Pwllheli.


cyn feiri 1984 – 1986 Owen Roberts

Brodor o Bwllheli yw’r cyn-Gynghorydd Owen Roberts, a’i gartref bore oes yn Lôn Abererch. Aeth i Ysgol Troedyrallt cyn canfod gwaith yn lleol gyda gwerthwyr teledu. Yr oedd cryn fywyd bryd hynny ym Mhwllheli yng ngweithgareddau cadetiaid y môr, a bu’n gysylltiedig â nhw. Aeth am gyfnod o hyfforddiant i Ysgol Forwrol Aberdyfi. Ni allai wrthsefyll galwad y môr arno, er na ddymunai ei rieni ei weld yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw. Cafodd swydd fel dyn tân ar y Rheilffordd am gyfnod cyn treulio’i ddwy flynedd o orfodaeth filwrol yn y Llynges. Yr oedd wrth ei fodd yng ngwaith y Llynges. Wedi hynny, ymunodd â’r llynges fasnach, a chafodd long yn Lerpwl. Bu wedyn yn rhedeg cychod pleser ym Mhwllheli, a chafodd swydd am gyfnod yng ngofal llong bleser fawr. Wedi priodi ag Ann, cafodd swydd ar y tir mawr fel periannydd â’r gwasanaeth teliffon, swydd yr oedd yn ddigon hapus ynddi yn ystod y ddwy flynedd y bu’n gwneud hynny. Yna, penodwyd ef yn Gocsyn Beiriannydd i Gwch Achub Pwllheli, a threuliodd weddill ei oes o weithio – cyfnod o 30 mlynedd – yn y gwaith hwnnw


cyn feiri 1982 – 1984 W. Lloyd Roberts

Brodor o Bwllheli yw'r cyn-Gynghorydd Wyn Lloyd Roberts, a ddaeth yn aelod o'r Cyngor Tref ym 1976. Cafodd ei addysg yn Ysgol Troed-yr-allt, ac Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn mynd i Goleg y Brifysol, Durham, a graddio mewn Daearyddiaeth. Bu'n Swyddog Cynllunio gyda Chyngor Gwynedd cyn dod yn Ddirprwy Bennaeth Parc Cenedlaethol Eryri - swydd y bu ynddi hyd ei ymddeoliad ym 1983. Bu ei briod, Pat, yn ddarlithydd yn y Coleg Technegol ym Mangor. Y mae'n dad i Dafydd, Eleri a Rhys.


cyn feiri 1980 – 1982 J. Iestyn Pritchard

Ganwyd y Cynghorydd John Iestyn Pritchard yn Nhan'rallt Bach, Llaniestyn, ym 1933. Aeth i Ysgol Gynradd Llaniestyn, ac yna i Ysgol Uwchradd Botwnnog. Bu hefyd am ychydig yn Ysgol Frondeg, Pwllheli, yn dilyn cwrs gwaith coed. Bu'n brentis yn Western Marine ym Mhwllheli am gyfnod yn adeiladu a thrwsio cychod a llongau.

Ym 1953, aeth i'r môr fel saer coed ar long. Ei fordaith gyntaf oedd i'r Antartic, ac yna bu'n teithio i Georgetown, Guyana, De America, a dod â llwyth o siwgwr yn ôl i Lerpwl. Bu ar y môr tan Ionawr 1962, pan adawodd i briodi Lena Owen o Sardis, a oedd yn athrawes yn Lerpwl. Bu'n aelod o gôr y Welsh Choral yn Lerpwl.

Pan fu farw ei rieni ym 1964, daeth ef a Lena yn ôl i fyw i'w dŷ ym Mhenlôn Llŷn, Pwllheli. Dechreuodd weithio fel saer coed hunan-gyflogedig, a dyna fu ei fywoliaeth. Ganwyd iddynt ddwy ferch, Carol ac Eleri.

Bu'n Gynghorydd ar Gyngor Tref Pwllheli am flynyddoedd, a chafodd ei ethol yn Faer y Dref o 1980 - 1982. Roedd Pwllheli'n bwysig iawn iddo. Roedd ganddo lawer o ddiddordebau fel chwaraeon a cherddoriaeth. Bu'n ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd y Celfyddydau ym Mhwllheli, ac ef oedd un o sefydlwyr Côr Pwllheli a'r Cylch, ac roedd yn falch iawn o lwyddiant y côr.

Roedd crefydd a'i gapel, Capel Pen-lan, Pwllheli, yn ganolog i'w fywyd. Bu'n ddiacon yno, yn godwr canu ac yn ymddiriedolwr. Roedd yn aelod o'r Ysgol Sul, a byddai wrth ei fodd yn dysgu tonnau ac emynau newydd o'r detholiadau newydd. Roedd ei ffydd yn gadarn iawn.

Yn drist iawn, bu Iestyn farw yn 56 oed ar Fawrth 6, 1990.


Elfed Gruffydd

1979 – 1980 Elfed Gruffydd

Gweler uchod ...


cyn feiri 1977 – 1979 Y Parchg. Meirion Lloyd Davies

Brodor o Ddinbych oedd Y Parchg. Meirion Lloyd Davies, M.A., wedi ei godi i’r weinidogaeth yn y Capel Mawr yn y dref honno. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac yng Ngholeg Westminster, Caergrawnt. Bu’n Llywydd y Myfyrwyr yn ystod ei gyfnod ym Mangor, a bu hefyd ar daith areithio yn yr Unol Daleithiau, ar ran Prifysgolion gwledydd Prydain, yn y cyfnod hwnnw. Cafodd ei ordeinio ym 1959, a bu’n weinidog eglwysi Gorffwysfa a Phreswylfa, Llanberis, tan 1964, a’r flwyddyn honno symudodd i Bwllheli, a dod yn weinidog Salem a Ffordd yr Ala. Yn ddiweddarach, daeth yn weinidog Penrhos, Llannor ac Efailnewydd hefyd. Yn ogystal â’r swyddi uchel a ddaliodd yn ei enwad ei hun, bu’n weithiwr a chefnogydd brwd i Gyngor Eglwysi Cymru a Chyngor Eglwysi’r Byd. Bu’n gefnogol i’r ymdrechion i uno’r enwadau yng Nghymru, a siom iddo fu’r diffyg ymateb i’r ceisiadau hynny. Am gyfnod, bu’n Ysgrifennydd Gogledd Cymru i Gymdeithas y Cymod. Bu’n olygydd Y Goleuad, a Cristion. Bu’n aelod o’r Cyngor Sir, yn Faer Tref Pwllheli, yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, ac yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymddeolodd fel gweinidog ym 1998. Yr oedd yn briod â Mair, ac yn dad i Siwan, Llio a Heledd, a thaid i Elenid, Undeg, LLeucu, Owain, Cynwal, Lois a Sam. Bu farw, yn 81 oed, ar Hydref 14, 2013.


cyn feiri

1976 – 1977 John G. Roberts

Brodor o Chwilog oedd y Cynghorydd John Roberts, ac yno ym mynwent Chwilog - yn ardal ei febyd - y claddwyd ef yn dilyn ei farwolaeth ym 1994. Gwasanaethodd fel cyfreithiwr ym Mhwllheli am lawer blwyddyn. Rhoes flynyddoedd o wasanaeth i Gyngor Tref Pwllheli gan wasanaethu yn ei dro fel Maer y Dref. Bu hefyd am gyfnod yn Gynghorydd Sirol ar hen Gyngor Sir Gaernarfon. Am nifer o flynyddoedd, tra ar y Cyngor Sir, gwasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Addysg. Priododd Betty Thomas a oedd yn athrawes Saesneg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Am flynyddoedd, hi oedd yn gyfrifiol am y golofn ‘Perspex: As I See It’ ym mhapurau lleol Gogledd Cymru. Roedd ganddynt ferch, Rhiannon, sydd bellach yn byw yn Ne Cymru.


cyn feiri 1974 – 1976 Charles Jones

Brodor o Bwllheli yw’r Cyn-Gynghorydd David Andrews Charles Jones, wedi ei fagu ar fferm Ty’nybwlch ar gwrs golff y dref. Cafodd ei addysg yn ysgolion Pwllheli cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor. Treuliodd rai blynyddoedd yn gwasanaethu fel athro Hanes yn Ysgol Botwnnog. Yr oedd yn briod â Glenda, a oedd yn hanu o Drefor, ac mae ganddynt ddau fab, Gary a Huw.