Y bedyddwyr

 

Mae D.G. Lloyd Hughes yn ei gyfrol, Hen Bwllheli, (1977) yn adrodd i’r Bedyddwyr gorffori eglwys ym mhentref cyfagos Abererch ym 1783. Digwyddodd hynny wedi i amryw gael eu bedyddio gan David Jones, Pontypŵl. Dywed ymhellach fod tŷ cwrdd wedi ei godi ond iddo gael ei golli, a bod achos wedi ei agor ym Modriala drwy ymroad un Marged Jones, gwraig William Williams. Cyfarfyddid yno cyn iddi hi symud i Bwllheli ym 1812  i fyw gyda’i mab, Robert Williams, a oedd yn saer llongau. Cafodd gwasanaethau eu cynnal yn eu gartref. Adroddir hefyd fel y bu i’r Bedyddwyr gael cynnal oedfaon pregethu yng Nghapel Pen-lan drwy haelioni’r Annibynwyr yn y dref.

Yn dilyn marwolaeth Marged Jones – mae cofnod am gladdu Margaret William Williams, 79 oed, ym Mynwent Deneio ar 25 Awst, 1815 – cymerwyd tŷ gwag ym Mhentre Poeth yn dwyn yr enw “Tŷ Marc y Llifwr,” a rhoddwyd pwlpud a meinciau ynddo.

Mae Spinther James, hanesydd y Bedyddwyr, yn dweud mai Owen Owens, Y Gaerwen, (brawd Dewi Wyn o Eifion) a John Pritchard, a brynodd y tir lle cafodd capel newydd ei godi, er mai Evan Evans, y barcer, a brawd yng nghyfraith Robert ap Gwilym Ddu, oedd wedi prynu’r tir yn wreiddiol ym 1815. Gyda Margaret,  ei wraig, mor selog dros achos y Bedyddwyr, nid oedd ond yn naturiol i Evan Evans ddarparu rhan o’i eiddo, a rhaid cofio mai ar Orffennaf 15. 1815, yn fuan wedi i Evan Evans gael y tir, yr anfonwyd cais at Esgob Bangor i gofrestru Capel Bethel, Pentre Poeth o dan Ddeddf y Goddefiadau. Cafodd y capel ei godi yn mesur 31 x 24 troedfedd, ynghyd â mynwent fechan. Tri ar hugain o aelodau oedd gan y Bedyddwyr ym 1818. 

capel Bethel
Capel Bethel Pentre Poeth

Capel Bethel, Pentre Poeth
(o’r tu allan)

Capel Bethel, Pentre Poeth
(o’r tu fewn)

[Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru]

[Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru]


Eglwys y Bedyddwyr, Y Tabernacl, Pwllheli

Dechreuadau’r Bedyddwyr  yn y fro
Cyn iddo ymadael â’r eglwys fis Mai 1868, gwelodd y Parchg. Lewis Jones, gweinidog y Bedyddwyr ym Mhwllheli ar y pryd, yn dda i ysgrifennu yng Nghoflyfr yr Eglwys hanes dechreuadau enwad y Bedyddwyr yn y dref. Dyma addasiad o’r hyn a ysgrifennodd yn ei lawysgrif ei hun yn y Coflyfr hwnnw:-

Dechrau Pregethu ym Mhwllheli
“Pa bryd y dechreuwyd pregethu yn achlysurol gan y Bedyddwyr ym Mhwllheli, ni ellir gwybod. Ymddengys y pregethid yn Nhyddynshon, y Berch a’r cylchoedd flynyddoedd cyn dechrau’r achos ym Mhwllheli.

Bedyddiwr Cyntaf Pwllheli
“Ymddengys mai’r Bedyddiwr cyntaf a fu byw ym Mhwllheli oedd John Pritchard, Y Gwehydd, a ddechreuodd ei fywyd crefyddol gyda’r Annibynwyr ym Mhen-lan. Yr oedd hefyd yn pregethu gyda’r Annibynwyr, ac wedi dechrau, yn gyntaf o bawb yn y cymdogaethau – os nad y cyntaf yng Nghymru – i gadw Ysgol Sul.

“Yn wyneb ei syniadau ar Fedydd, ymadawodd John Pritchard â’r Annibynwyr ac ymunodd â’r Bedyddwyr yn Nefyn. Bedyddiwyd ef yn y flwyddyn 1793 gan John Williams, Y Garn, [gŵr] a symudodd wedi hynny i’r America – tad Dr. Williams, New York. Yn dilyn ei Fedyddio, bu John Pritchard yn gweinidogaethu yn Nhyddynshon ac yn pregethu yn y Berch am tua phymtheg neu ugain mlynedd cyn dechrau pregethu ym Mhwllheli.

Dechrau pregethu ym Mhentre Poeth

“Tua’r flwyddyn 1813, yr oedd amryw o aelodau Tyddynshon yn byw ym Mhwllheli, a meddyliasant am geisio cael pregethu Sabothol yn y Dref. Dechreuwyd pregethu yn nhŷ un Robert Williams ym Mhentre Poeth. Yr oedd ei dad yn aelod yn Nhyddynshon, ac yn byw yn y Berch – ac yn ei dŷ ef y pregethid yno.

“Tra’r oedd yr Eglwys yn para i gyfarfod yn nhŷ Robert Williams ym Mhentre Poeth, bu arddeliad neilltuol ar y gwirionedd, a bedyddiwyd amryw, fel bod y lle’n mynd yn rhy fychan i gynnwys y gynulleidfa.

Gweithdy Marc Jones y Saer

“Cymerwyd tŷ arall yng ngwaelod Lôn Caernarfon, sef Gweithdy Marc Jones y Saer, a bu’r Eglwys yn gweithio yn y lle hwnnw am tua dwy flynedd, a Duw yn gweithio ac yn bendithio eu llafur. Ychwanegwyd amryw at yr Eglwys yn y cyfnod yna.

“Cynhaliwyd Cymanfa ym Mhwllheli. Yn pregethu yr oedd David Evans, Maesyberllan, (1744 - 1821), a fu yn y Gogledd dair gwaith ar ddeg o dan nawdd cenhadaeth y Bedyddwyr. David Evans, Y Dolau, Maesyfed (1740 - 1790). Ef oedd y cyntaf i fyned i'r Gogledd ynglŷn â chenhadaeth yr enwad yn 1776 , a'r cyntaf i fedyddio trwy drochiad ym Môn. a Christmas Evans( 1766 - 1838 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru.

. Christmas Evans
Christmas Evans

Adeiladu Bethel, Pentre Poeth

“Aethai Gweithdy Marc y Saer yn rhy fach, a meddyliodd yr Eglwys am adeiladu Capel. Sicrhawyd darn o dir i’r perwyl ym Mhentre Poeth, ac adeiladwyd Capel cyfleus – Capel Bethel - a agorwyd ym 1816. Nid oes gennym gyfrif o nifer yr aelodau pan ddechreuwyd addoli yn y capel newydd, nac ychwaith ystadegau’r Eglwys o flwyddyn i flwyddyn – ond yn ôl tystiolaeth yr hen bobl, yr ydym y casglu fod yr Eglwys wedi codi yn fuan i safle uchel ac anrhydeddus yn y Dref, a’r Capel yn cael ei lanw â chynulleidfa o radd barchus a chyfrifol.

Codi Capel Y Tabernacl

“Tua’r flwyddyn 1860, penderfynwyd symud i fan mwy cyfleus a chanolog o’r Dref. Prynwyd darn o dir yn Stryd Penlan yng nghanol y Dref ac adeiladwyd Capel hardd a chostfawr yno. Fel y mae yn awr ddau Gapel ym meddiant yr enwad ym Mhwllheli: yr Ysgol Sabothol yn cael ei chynnal yn yr hen a’r pregethu yn y newydd.



Capel y Bedyddwyr, Y Tabernacl, Pwllheli

 

John Pritchard a John Jones

“Am y blynyddoedd cyntaf, John Pritchard oedd Gweinidog Pwllheli a Thyddynshon. Tua’r flwyddyn 1824, ordeiniwyd dyn ifanc o’r enw John Jones, o Athrofa y Fenni, yn gyd-weinidog â John Pritchard, ond cyn bo hir, symudodd John Jones i Nefyn, a bu farw yno cyn pen llawer o flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1828, symudodd John Pritchard o Bwllheli i gymryd gofal yr Eglwys yng Nghefncymerau, lle bu hyd ei farw.

John Roberts

“Ym 1828, cymerodd John Roberts ofal o’r Eglwys fel gweinidog. Bu John Roberts yn llwyddiannus a derbyniol iawn ym Mhwllheli hyd ei farw ar Fedi 29, 1831, wedi treulio rhwng tair neu bedair blynedd o lafur.

Yn y cylchgrawn Greal y Bedyddwyr 1831, ymddangosodd yr englyn hwn, Ar Farwolaeth y Parchg J. Roberts, Pwllheli gan Robert ap Gwilym Ddu:

Am Siôn yn drwm y syniaf - a gwae fi!
gofid Y gofid a deimlaf;
O'i ôl yn wir wylo wnaf,
Mae'n deilwng - pam nad wylaf?

Richard Owen

“Ym 1833, daeth Richard Owen o Horeb, Blaenafon, i gymryd gofal o’r Eglwys. Bu yntau yno rhwng tair a phedair blynedd, cyn ymadael ym 1837 i Abergwaun.

Joel Jones
“Ym 1841, daeth Joel Jones yn weinidog Pwllheli a Thyddynshon, a bu yno hyd ei farw ar Orffennaf 22, 1844, wedi bod yno am ychydig dros dair blynedd.”
Dywedir y câi Joel Jones ei ystyried yn un o'r pregethwyr mwyaf galluog, a’i fod yn nodedig am ei wybodaeth gyffredinol, a pha bwnc bynnag a drafodai y byddai’n gwneud hynny yn olau, yn eglur, ac yn ddealladwy. Yr oeddeglwys y Bedyddwyr ym Mhwllheli bryd hynny’n hynod o ffynianus, ac amryw o ddynion cyfoethoca’r dref yn aelodau ynddi.

Bu Joel Jones farw o’r darfodedigaeth. Ni bu erioed yn briod, ac nid oedd ganddo na gwraig na phlant i alaru ar ei ol. Claddwyd ef yn y fynwent oedd yn ymyl hen gapel Bethel – capel cynta’r Bedyddwyr ym Mhwllheli                                                 

(Mae Marwnad Er Cof amdano yn Adran Cerddi’r Wefan hon|).

Morris Williams

“Daeth Morris Williams (o’r America) i Bwllheli i gynhebrwng Joel Jones, ac aros yn weinidog y Tabernacl hyd Fawrth 1850, pan ddychwelodd i’r America, wedi aros yn agos i chwe mlynedd.

William Roberts

Mae T.M. Bassett yn ‘Bedyddwyr Cymru’ yn sôn am arfer gweinidogion yr enwad yn cynnal eu hunain a’u teuluoedd mewn amrywiol ffyrdd. “Cadwai (rhai) . . . ysgol,” meddai, “fel y gwnâi William Roberts yn Fforddlas yn y tri-degau. Câi chwe swllt yr wythnos gan yr eglwys a rhywbeth yn debyg oddi wrth yr ysgol. Bu am dymor yng Ngholeg Borough Road gan y tybid y gallai hynny fod yn llesol iddo fel athro ond yr oedd yn rhy hen yn mynd i elwa llawer ar hynny. Byddai ei wraig yn nyddu a châi ambell  sachaid o datws a menyn a hanerob (hanner neu ystlys mochyn) gan yr aelodau.”

“Yn Awst 1853, daeth William Roberts, Fforddlas, i fod yn weinidog  yr Eglwys ym Mhwllheli. Llafuriodd yntau’n dderbyniol iawn am yn agos i bedair blynedd cyn ymadael fis Mai 1857.

John Jenkins

“Yn Ionawr 1860, ordeiniwyd John Jenkins o Athrofa Pontypwl yn weinidog, ac arhosodd tua blwyddyn cyn ymadael i Lanfachraeth.

Lewis Jones

“Yn Nhachwedd 1862, daeth ysgrifennydd y nodion hyn yn weinidog i’r Eglwys ym Mhwllheli, ac yn awr wedi chwe blynedd ond deufis, mae yntau hefyd yn symud i Dreherbert.”

Mae Coflyfr yr Eglwys yn parhau i adrodd yr hanes wedi ymadawiad Lewis Jones.

J.J. Williams

Daeth J.J. Williams o Athol St., Lerpwl, fis Hydref 1871, gan wasanaethu am “tua wyth mlynedd, pryd yr ymadawodd i’r Rhyl.” Mae’r Coflyfr yn adrodd: “Nid ydym yn gwybod fod dim o bwys mawr wedi digwydd yn hanes yr Eglwys yn ystod ei arhosiad.” Er hynny, adroddir, “Deallwn fod rhai gwŷr blaenllaw gyda’r achos wedi ymadael o’r Eglwys yn ei amser.”

John Thomas

“Tua dechrau 1881, sefydlwyd y Parchg. John Thomas, Llandudno, yn weinidog. Deallwn mai isel a di-lewyrch oedd yr achos. Gweithiodd gyda pharch a sêl. Cynyddodd y gynulleidfa yn ystod ei amser. Ymadawodd ar ôl ychydig dros bedair blynedd i Flaenffos.

I.A. Evans

“Ym mis Awst 1886, rhoddodd yr Eglwys Alwad i  I.A. Evans, myfyriwr ifanc o Hwlffordd, a chynhaliwyd ei Gyfrfodydd Sefydlu fis Medi. Nid arhosodd ond tri mis.

S.P. Edwards

“Ym Mawrth 1888, sefydlwyd y Parchg. S.P. Edwards, Talywern, Sir Drefaldwyn, yn weinidog. Isel oedd yr achos yr adeg hon a’r gynulleidfa wedi lleihau. Cawsom y pleser o weld ychydig gynnydd yn y gynulleidfa a bedyddiwyd amryw o dro i dro. Bu farw llawer o aelodau ffyddlon.

Henry Rees

Henry Rees

Y Parchg. Henry Rees


“Dechreuodd y Parchg. Henry Rees, gweinidog yr Eglwys Saesnig, Llangollen, ar Sul cyntaf Mawrth 1903. . . . Treuliodd yma ddeg mlynedd a hanner dedwydd a llwyddiannus. Ymadawodd i gymryd gofal ei fam eglwys yn Nolgellau y Sul cyntaf o Fedi 1913. Yn ystod ei weinidogaeth ef, torrodd y Diwygiad allan yn y Dref – 1904-05 – ac ychwanegwyd nifer luosog at rif yr Eglwys; ail-agorodd Ysgol Sul yn yr Hen Gapel; glanhawyd ac atgyweiriwyd y Tabernacl a’r Ysgoldy; rhoddwyd ffenestri newydd a galeri . . . a chliriwyd y ddyled.

H.H. Williams
“Sefydlwyd y Parchg. H.H. Williams o Gefnbychan yn weinidog . . . ar y 3ydd o Ionawr 1917, a therfynodd ei weinidogaeth y Sul olaf o Ionawr 1924, gan ymadael i gymryd gofal eglwysi’r Gaerwen a Phencarneddi, Môn.

    

W. Môn Williams

Y Parchg. W.Môn Williams


“Daeth y Brawd uchod i Eglwys y Tabernacl, pan yn fyfyriwr yn yr Athrofa ym Mangor, ar Sul o Brawf, Mawrth 8, 1936. Nos Sul, Mawrth 22, 1936, rhoes yr Eglwys alwad unfrydol a chynnes iddo i’w bugeilio yn yr Arglwydd. Dechreuodd yntau ar ei weinidogeth . . .  ar y Sul Medi 6, 1936. Cynhaliwyd y Cyrddau Ordeinio a Sefydlu nos Fercher a dydd Iau, Medi 16 a 17 . . . Cyrddau arbennig oedd y rhain i Eglwys y Tabernacl, gan na fu erioed gyrddau tebyg yn hanes yr eglwys, er fod Môn Williams yr unfed ar bymtheg yn yr olyniaeth o weinidogion y Tabernacl, yr oll yn wŷr ‘mawr a nerthol.’ Bu’r eglwys heb weinidog am ysbaid o amser a mawr oedd y darpariadau ar gyfer yr ŵyl.  Pregethwyd nos Fercher gan y Parchg. I. Waldo Roberts, Bethel, Llanelli. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan y Parchg. Idwal Wyn Owen. Prynhawn Iau am 2, cynhaliwyd y Cwrdd Ordeinio o dan lywyddiaeth y Parchg. Henry Rees, Pwllheli, cyn-weinidog, a chymwynaswr yr eglwys yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gofalwyd am y rhannau arweiniol gan y Parchg. D.R. Owen. . . Darllenodd Hanley Griffith, ysgrifennydd yr eglwys . . . amlinelliad o’r Alwad . . . Atebodd Mr. Williams gan fynegi ei fod yn ifanc, ac yn sylweddoli mawredd y gwaith, ac yn erfyn am weddïau a chymorth yr eglwys er cyflawni ei waith fel gweinidog da i Iesu Grist. Holwyd y gofynion arferol gan y Prifathro J.J. Evans, Coleg Bangor, a ddygodd dystiolaeth uchel i gymeriad ac ymroad Mr. Williams, gyda’i efrydiaeth ym Mangor, ac ni phetrusai ddweud fod ynddo addewid am Bregethwr teilwng i Bulpud Cymru. . . . . Offrymwyd yr Urdd Weddi gan y Parchg. A.J. George, B.A., B.D., Tyddynshon. Yna pregethodd y Prifathro ei Bregeth Siars i’r Gweinidog . . . Croesawyd y Gweinidog ar ran Eglwys y Tabernacl gan R.P. George, Y.H., ar ran Eglwysi’r Dref y Parchg. W.J. Jones, Seion, ar ran y Dref, y Maer, Dr. Wynne Griffith, Y.H.  . . .

“Priododd y Parchg. Môn Williams â merch o’r capel, sef Jennie Williams, merch Mr. William Williams, gwerthwr glo o Lôn ‘Berch.

“Nos Sul, Mai 28, 1939 (Y Sulgwyn), hysbysodd y Gweinidog, y Parchg. Môn Williams, yr Eglwys ei fod wedi cael galwad oddi wrth Eglwys enwog a pharchus, Siloam, Brynaman. . . Byddai’n gorffen ei weinidogaeth ym Mhwllheli ar Sul olaf Awst 1939 wedi tair mlynedd o weinidogaeth . . .

Herbert Roberts

Herbert Roberts

Y Parchg. Herbert Roberts


“Ar Awst 21, 1941, ordeiniwyd y Parchg. Herbert Roberts, B.A., B.D. yn weinidog, a dechreuodd ar y Sul cyntaf o Fedi 1941. Brodor o Penuel, Rhosllannerchrugog, ydoedd a bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Bangor 1935 – 41 cyn ei sefydlu ym Mhwllheli. Ymadawodd ym Medi 1945 i ofalaeth Salem, Porth.

“Gan fod Bethel, yr Hen Gapel ym Mhentre Poeth, yn dirywio, yn enwedig oddi mewn – y seddau’n pydru – penderfynwyd eu tynnu, a manteisio i rentu’r adeilad i fasnachwr, fel bod yr elw i’w ddefnyddio at yr adeiladau. Ym 1983, pasiwyd i werthu’r Hen Gapel, a digwyddodd hynny ym 1985.”

Ysgrifennodd Mrs. Elenna B. Hughes: 
“Caed caniatâd  y Swyddfa Gartref i symud y cyrff oedd ym mynwent yr Hen Gapel i Denio. Ymddangosodd enwau’r rhai a symudwyd yn y
Caernarfon and Denbigh Herald ar Awst 4, 1989:

Ann Roberts, Ebrill 27, 1850
Owen Roberts, Gorffennaf 11, 1882
Robert Roberts, Medi 3, 1838
Jane Jones, Rhagfyr 19, 1873
Thomas Jones, Ebrill 2, 1877
Catherine Jones, Medi 14, 1881
Griffith Jones, Chwefror 17, 1838
Jane Jones, Medi 28, 1860
Margaret Williams, Ebrill 12, 1835
Ellen Jones, Chwefror 6, 1860
Ellen Roberts, Mehefin 22, 1837
Catherine Roberts, Mai 10, 1835
William Roberts, Awst 15, 1834
William Roberts, Chwefror 7, 1838
Catherine Jenkins, Tachwedd 26, 1838
Robert Jenkins, Tachwedd 26, 1838
Hugh Howell, Awst 7, 1819
Ann Howell, Rhagfyr 1, 1851
Charles Howell, Rhagfyr 24, 1859
Harriett Evans, Ebrill 27, 1837
Ellen Evans, Ionawr 4, 1816
Robert Evans, Awst 12, 1811
Ellen Evans, Gorffennaf 27, 1856
William Evans, Mai 10, 1879”

Dywed Coflyfr yr Eglwys:
“Sicrhawyd tŷ i weinidog. Gan na allai’r Tabernacl gynnal Gweinidog ei hunan, trefnwyd cyfarfod gyda chynrychiolwyr Cymanfa Arfon, sef y Parchg T. Aneurin Davies, Nefyn, y Parchg. Handel Thomas ac Ieuan Jones, Y Garn, ac awgrymwyd fod Pwllheli, Llanaelhaearn a Threfor yn ymuno er mwyn cael gweinidogaeth gyson.

“Mewn cyfarfod ym Methania, Trefor, penderfynwyd fod y tair Eglwys yn pleidleisio nos Sul, Hydref  11, 1953, ar y Parchg. Idris E. Parry, Nantymoel, a oedd eisoes wedi rhoi ei ganiatâd i hynny. 

Idris E. Parry

Y Parchg.Idris E. Parry

 

“Ar Fawrth 4, 1954, cafodd y Parchg. Idris E. Parry ei sefydlu yn y Tabernacl, Pwllheli, yn weinidog y tair Eglwys. Daeth amryw o Nantymoel i’r cyfarfod gan ddangos eu parch ato ef a’i briod. Ar ôl ymron i naw mlynedd o wasanaeth, ymadawodd y Parchg. Idris E. Parry i Eglwys Salem, Penycae, Wrecsam, ar Chwefror 1, 1963. Bu farw’r Parchg. Idris E. Parry ar 20 Ionawr 1991.

“Ym 1964, gan fod prinder gweinidogion drwy’r wlad, trefnwyd gan Gymanfa Arfon o Undeb y Bedyddwyr i ganiatáu dau weinidog yn unig i Ben Llŷn, gan roi Morfa Nefyn, Nefyn, Llithfaen, Tyddynshon, Llanaelhaearn a Threfor a’u galw’n ‘Gylch yr Eifl.’ Yna rhoi Rhoshirwaun, Aber-soch, Pwllheli a Chricieth a’u galw’n ‘Gylch Pwllheli.’ Trefnwyd pwyllgor o Gylch Pwllheli ac apwyntiwyd y Parchg. Owen Jones yn Llywydd, Mr. William George, Cricieth, yn Ysgrifennydd, ‘roedd y pwyllgor yn cynnwys tri pherson o bob Eglwys.

Watcyn Gwyn Thomas

Y Parchg. Watcyn Gwyn Thomas

“Fis Mehefin 1966, pasiwyd i anfon galwad i’r Parchg. W. Gwyn Thomas, Saron, Llandybie, ger Rhydaman i fod yn weinidog y pedair Eglwys, a bu cryn lawenydd o ddeall ei fod yn derbyn yr alwad. Dechreuodd yntau fel gweinidog ddechrau Medi 1966. Cafwyd Cwrdd Sefydlu yn y Tabernacl ar 29 Medi, a llawenydd mawr oedd gweld y capel yn llawn i’r ymylon a’r galeri hefyd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchg Owen Jones, Aber-soch, a chymerwyd y rhannau arweiniol gan y Parchg. Idris E. Parry, cyn-weinidog y Tabenacl. Rhoddwyd hanes cyflwyno’r alwad gan Mr. William Gearge, Cricieth. Atebwyd yr alwad gan y Parchg W. Gwyn Thomas, cyn bod yr urdd weddi’n cael ei hoffrymu gan yr Athro G.R.M. Lloyd, B.A., B.D., B.Litt., Coleg Bangor. Cafwyd y genadwri gan y Parchg Hugh D. Thomas, Felinfoel – brawd y Parchg. W. Gwyn Thomas. Ymddeolodd y Parchg. W. Gwyn Thomas ym 1977, wedi un mlynedd ar ddeg o wasanaeth ffyddlon. Bu farw 20 Tachwedd 2003 yn 86 mlwydd oed.”

Ysgrifennodd Mrs. Elenna B. Hughes:
“Yn rhifyn Mehefin 29, 1990, o
Seren Cymru, mae’r Parchg. W. Gwyn Thomas yn ysgrifennu am angladd anghyffredin. “Mewn rhifyn cynharach o’r Seren (Tachwedd 10, 1911) mae hanes hir a difyr am ddathliad hanner canmlwyddiant yr eglwys pryd y dadorchuddiwyd maen coffa yn y Tabernacl, gwaith o law Mr. Robert Roberts, New Street, un o aelodau’r capel. Mrs. Lloyd George oedd i ddadorchuddio’r maen, ond bu raid iddi hi fynd i Lundain, a chymerwyd ei lle gan Mr. William George. Roedd gan y teulu gysylltiad agos â’r Tabernacl, gan mai yn yr hen Gapel y bedyddiwyd ei fam, a bu ei dad yn weithgar yno pan yn ysgolfeistr yn Ysgol Troedyrallt. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parchg. T. Bassett, Porthmadog, a therfynwyd gan y Parchg J. Puleston Jones. Pwllheli.”

Ychwanega Mrs. Elenna B. Hughes:
“Teulu arall adnabyddus oedd yn weithgar yn y Tabernacl oedd teulu Liverpool House, sef teulu Cynan, y bardd. Ymysg y rhai ffyddlon eraill yr oedd Mrs. Batterbee, a’i merch, Myfanwy, mam Mr. Dafydd Wigley.”

“Ym 1969, dyrchafwyd y Cynghorydd  Robert Parker a’i briod yn Faer a Maeres Pwllheli. Roedd Mr. Parker [a fu’n gweithio i gwmni bwsiau’r Crosville], yn un o ddiaconiaid y Tabernacl, a chynhaliwyd oedfa ddinesig Sul y Maer gan y Cyngor Tref yn y Tabernacl bnawn Sul, Mai 4, 1969.

 Coflyfr y Capel ymlaen i adrodd:                                    
“Penderfynwyd mewn cyfarfod o’r aelodau ar 27 Tachwedd, 1983, fod yr Hen Gapel, Bethel, Pentre Poeth i gael ei werthu.”

Mae’n perthyn i’r Tabernacl, Pwllheli, feindwr hardd uchel ac urddasol. Bu’r tŵr yn dirnod da a hwylus i forwyr y cylch am rai cenedlaethau. Mae T.M. Basset yn Bedyddwyr Cymru yn ysgrifennu: “Ni ddylid . . . anwybyddu balchder enwadol fel rheswm dros adeiladu ac adnewyddu. Mae’n brigo i’r wyneb yn rhy aml i neb golli golwg arno. Ond dylid nodi peth o’r cyfrifoldeb wrh ddrws y penseiri proffesiynol newydd.” Â Mr. Bassett ymlaen i ddweud: “Mae hyn yn wir o leiaf am gapel Pwllheli gyda’i feindwr hardd a adeiladwyd yn 1860: y pensaer a lithiodd yr eglwys honno o gam i gam i wario mwy a’i thrallodi ei hun wrth wneud.”
Dywed Coflyfr y capel:
“Am 8 o’r gloch y bore ar 19 Gorffennaf 1984, digwyddodd daeargryn a bu’n rhaid cael arbenigwyr i archwilio tŵr y Capel. Fel canlyniad i’r ddaeargryn, roedd rhai o’r cerrig yn y tŵr wedi symud a chraciau wedi dod i’r amlwg. Roedd yn bwysig cael ei atgyweirio cyn i wyntoed y gaeaf achosi rhagor o helynt. Trefnwyd i’r gwaith gael ei wneud.”

Yn y flwyddyn 2000, “Ar ôl ystyriaeth fanwl a thrafodaeth hir, daeth yr aelodau i’r penderfyniad fod yn amser symud o adeilad y Tabernacl, gan ei fod yn rhy fawr ac yn rhy gostus i’w gynnal. . . Cafwyd caniatâd parod Eglwys Seion (yr Eglwys Fethodistadd) i gyfarfod yno ar bnawn Sul, a gofynnwyd am fendith Duw ar y symudiad. 

Yn y flwyddyn 2002, “11 Hydref, darllen yn y Daily Post am farwolaeth Mr. T.M. Bassett, cyn aelod yn y Tabernacl, pan oedd yn athro Hanes yn Ysgol Ramadeg Pwllheli (tua 1946 – 1956).


(Symudodd i fyw i Fangor yn dilyn cael ei benodi’n Athro yn y Coleg Normal yno. Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau: yn eu plith y nofel “Dianc,” [1953],
“Bedyddwyr Cymru,” (1977), a Penuel, Tyddynshon1794-1994 [1994]).

“Hydref 2006 – Y Parchg. D. Aled Davies a Mr. Harry J. Hughes wedi cyfarfod i drafod dyfodol y Tabernacl fel Eglwys. Rhai o’r aelodau wedi ymuno yn Nhyddynshon am y tro cyntaf a chael croeso cynnes yno. Llythyr wedi ei anfon at aelodau’r Tabernacl i esbonio’r dewisiadau oedd gennym.”

A daeth i ben achos y Bedyddwyr yn nhref Pwllheli.