Eglwys yng Nghymru

HANES EGLWYS PWLLHELI


Mil o flynyddoedd o hanes

Mae’r cymwynaswr a’r hanesydd, D.G.Lloyd Hughes, yn ei Hanes Eglwys Pwllheli a gyhoeddwyd fis Ebrill 1987, gan Wasg yr Eglwys yng Nghymru, yn dweud fod “hanes yr Eglwys, yr Hen fam, ym Mhwllheli yn ymestyn yn ôl at y Canol Oesoedd. Ni wyddys,” meddai, “yn union pa mor hen ydyw.” Mae’n awgrymu, fodd bynnag, ar sail dogfen sy’n dyddio o ddyddiau’r Brenin Iorwerth IV, a oedd yn teyrnasu rhwng 1461 a 1483, fod Eglwys Pwllheli bellach yn mynd yn ôl gymaint â mil o flynyddoedd. Mae’r ddogfen y cyfeirir ati’n tystio fel y bu i Rhodri Mawr, y tywysog o Gymro a oedd yn byw yn y nawfed ganrif, roi tir Deneio i Eglwys Beuno Sant yng Nghlynnog Fawr, ond na fu i’r eglwys honno fanteisio ar y rhodd a gawsai.

Pwysigrwydd Pwllheli

Roedd gan dywysogion Cymru sedd o ryw fath ym Mhwllheli’r Canol Oesoedd. Prin y gellid galw’r sedd honno’n blas, a hwyrach nad oedd yn ddim arall ond man i aros dros nos ar gyfer cyfnod o hela. Yr oedd Pwllheli, wrth gwrs, yn ganolfan weinyddol i gwmwd Cafflogion, ac yr oedd - yn gynnar iawn yn ei hanes - wedi ennill iddi ei hun statws bwrdeisdref cyn i’r Brenin Iorwerth I ddod i’r dref ym 1284. Er hynny, bach oedd poblogaeth y dref ar y pryd – dim rhagor na rhyw gant o bobl.

Eglwys o ryw fath

Mae’n ddigon posibl fod gan Bwllheli eglwys o rhyw fath yr adeg honno, ond go brin fod Plwyf Deneio’n bod mor gynnar â hynny. Roedd Deoniaeth Llŷn yn rhan o’r drefniadaeth Eglwysig erbyn y drydedd ganrif ar ddeg. Ym 1254, paratowyd Adroddiad Norwich ar gyfer trethiant Pabyddol, ac yn hwnnw mae sôn am blwyf Llannor, ond nid oes sôn am blwyf Deneio. Adroddir fod degymau Llannor yn werth 40 o sylltau’r flwyddyn – swm digon uchel i awgrymu fod y plwyf hwnnw yn cynnwys tref, a Phwllheli fyddai’r unig dref gyfagos o bwys oedd ar gael yn y cyfnod hwnnw.

Capel anwes

Mae’n debyg mai ‘capel anwes’ oedd ar gael ym Mhwllheli i ddechrau, a hynny ar gyfer pobl oedd y byw ar gyrion deheuol plwyf Llannor. ‘Capel anwes’ fyddai adeilad eglwysig nad oedd yn eglwys blwyf, ond a oedd yn fan cyfarfod hwylus i bobl na allent yn hawdd fynychu’r eglwys blwyf agosaf.


Capel anwes y plwyf a godwyd ym 1859
ac a dynnwyd i lawr ym 1976

’D oes dim modd gwybod yn union hanes y dechreuadau cynnar, ond ymddengys i’r eglwys gyntaf ym Mhwllheli (fel yn achos eglwysi Botwnnog, Carnguwch a Phistyll) gael ei chysegru yn enw Beuno Sant ar gyfrif y cysylltiad â Chlynnog. Dyrchafwyd y ‘capel anwes’ ymhen amser yn eglwys blwyf, er na wyddir yn union pa bryd y digwyddodd hynny. Gellir casglu fod Deneio yn blwyf ar wahan i Lannor erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Deneio

Mae’r enw Deneio (neu Dyneio, fel yr yngennir ar lafar) a roddwyd ar y plwyf yn gryn ddirgelwch. ‘Deneio’ oedd sillafiad yr enw ar y ddogfen a restrodd waddoli’r tir gan y Tywysog Rhodri Mawr, ond caed ffurfiau eraill i’r enw. Pwy oedd Deneio? Awgrymodd rhywrai – a rhai gwŷr eglwysig yn eu mysg – fod unwaith sant yn dwyn yr enw hwnnw, a bod cysylltiad rhyngddo â’r chwedl am foddi Cantre’r Gwaelod. Ond nid oes unrhyw sail i awgrym o’r fath. Ac nid oes i’w gael sant o’r enw Deneio ar unrhyw restr gydnabyddedig o seintiau.


Eglwys Beuno Sant, Deneio, Pwllheli

Dyma’r cyfan sy’n aros o weddillion gwreiddiol eglwys blwyf Pwllheli, sydd hanner milltir i’r gogledd o’r dref. Adeilad bychan oedd yr eglwys ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd ei disodli gan Eglwys Pedr Sant yng nghanol y dref. Symudwyd pob gwasanaeth i’r Eglwys newydd, ond parhawyd i ddefnyddio’r fynwent. Mae mynwent y Cyngor Tref ger llaw. Nawddsant y dref yw Beuno.

Awgrym D.G. Lloyd Hughes yw mai Deneio oedd enw’r Canol Oesoedd ar y gymdogaeth oedd i’w chael ar y tir uchel ym Mhen yr Allt i’r gogledd o’r dref, a rhagflaenydd y fwrdeisdref a ddatblygodd ar y tir isel wrth Droed yr Allt. Roedd yr enw Pwllheli’n dderbyniol yng ngolwg swyddogion Iorwerth I ym 1284. Enw’r Felin Ddŵr ym Mhen yr Allt oedd Deneio iddynt hwy. Ond daliodd yr Eglwys i arddel yr enw Deneio pan ffurfiwyd y plwyf.

Pendilio rhwng Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth

Eglwys oedd yn deyrngar i Rufain, wrth gwrs, oedd Eglwys Beuno Sant ym Mhwllheli am gyfnod hir iawn. Os yw’r Eglwys ym Mhwllheli, fel yr awgrymwyd uchod, yn gallu olrhain ei hanes yn ôl am fil o flynyddoedd, rhaid cydnabod fod tua chwe chant o’r mil blynyddoedd hynny pan oedd yr Eglwys yn deyrngar i’r Pab, ac o dan adain Eglwys Rhufain. Ar hyd y cyfnod maith hwnnw, Lladin fyddai iaith y gwasanaethau, er fod lle i gredu y câi’r Cymry rhywfaint o esboniad yn eu tafodiaith eu hunain. Ym 1549, daeth y Diwygiad Protestannaidd a’r Llyfr Gweddi Cyffredin uniaith Saesneg i’r eglwysi, a chafodd y defodau a’r arferion Pabyddol eu hysgubo ymaith. Fis Gorffennaf 1553, daeth Mari I yn Frenhines Lloegr. Pabyddes oedd hi, a dychwelwyd yr Eglwysi’n ôl i’r hen ffydd Rufeinig. Ym 1558, a marw Mari I, bu newid ymlyniad eto ar ddod Elisabeth I yn Frenhines, a throi eglwysi ei theyrnas yn Brotestannaidd. Os oedd y Llyfr Gweddi Saesneg mor annealladwy i werin Cymru ag oedd yr iaith Ladin yn y cyfnod Pabyddol, caed cyfieithiadau i’r Gymraeg o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi ym 1567 drwy ymdrechion William Salesbury. Ym 1588, ymddangosodd Beibl Cymraeg yr Esgob William Morgan. A daeth cyfle i gynnal gwasanaethau yn y Gymraeg. Yr anhawster oedd, serch hynny, nad oedd unrhyw offeiriad cymwys ar gael i wneud hynny’n bosibl. Nid oedd gan naw o bob deg o offeiriaid Gogledd Cymru ym 1567 y gallu na’r ddawn i bregethu’n effeithiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Pan ail-arddelwyd y ffydd Brotestannaidd, bu galw am sicrhau nad oedd ymlynwyr yr hen ffydd yn peri cynnwrf na tharfu ar yr heddwch. Yn yr arolwg a wnaed ym 1563, canfuwyd nad oedd yn y cyfan o wlad Llŷn ond 14 o bobl a allai ymddwyn felly. Ymddengys fod pobl yn dewis cadw’n dawel. Yr oedd yn llawer haws, wrth gwrs, i’r uchelwyr yn eu cartrefi gwasgaredig i barhau eu hymlyniad Pabyddol nag oedd hi i haenau is y gymdeithas.

Dau a enillodd gryn enwogrwydd oedd oedd Robert Owen, o’r Plas Du, Llanarmon, Eifionydd, a Robert Gwyn, Penyberth, Penrhos, Llŷn. Cafodd y ddau hynny eu hyfforddi mewn colegau Pabyddol ar y cyfandir, a daeth sawl cenhadwr o Babydd, yn ôl yr hanes, i Lŷn ac Eifionydd gan dderbyn lloches yn nhai’r uchelwyr, a gweinyddu’r Offeren yno.

Plasdy bychan yn Llŷn oedd Penyberth gyda lle amlwg iddo yn hanes Cymru a hanes llenyddiaeth Gymraeg. Dymchwelwyd yr hen dŷ er mwyn adeiladu'r ysgol fomio enwog (a losgwyd ar Fedi 8, 1936 gan dri chenedlaetholwr o Gymro). Am gyfnod roedd teulu Penyberth yn gefnogwyr brwd i'r Reciwsiaid Catholig. Mab i Siôn Wyn ap Thomas, o Benyberth oedd yr awdur a’r Reciwsiad, Robert Gwyn. Robert Gwyn oedd awdur Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru.

Un o feibion Plas Du, Llanarmon oedd Robert Owen, canon Mantes. Bu'n astudio'r gyfraith yn Douay cyn mynd ymlaen i Rufain , ac ar ôl bod adref unwaith o leiaf, ymsefydlu yn Ffrainc a byw ym Mharis mewn cyswllt agos â'r Pabyddion hynny a oedd wedi cael eu halltudio o wledydd Prydain ac wedi sefydlu ym Mharis a lleoedd eraill, ac yn gohebu'n gyson (yn Gymraeg a Saesneg) gyda'i frawd Hugh.

capel Bethel
Capel Bethel Pentre Poeth

Plas Du, Llanarmon,
cartref Robert Owen

Penyberth, cyn ei ddifrodi ym 1936 i wneud lle i’r Ysgol Fomio, cartref Robert Gwyn

Am rai canrifoedd, roedd Pabyddion yn cael eu dirmygu, er mai prin yw’r cyfeiriadau at hynny’n digwydd yn ardal Pwllheli a Llŷn. Ym 1619, bu un, Adrian Ward, gwerthwr baco o Bwllheli, o dan amheuaeth o fod yn Babydd, ond daeth yn rhydd o’r cyhuddiad. Adroddid nad oedd yn mynychu’r eglwys am na ddeallai Gymraeg. Os cywir hynny, y Gymraeg oedd yr iaith a ddefnyddid yng ngwasanaethau’r Eglwys ym Mhwllheli bryd hynny. Ym 1646, bu teulu o Frynhunog, fferm ar gyrion Pwllheli, ger bron y llysoedd am fod yn Gatholigion. Ym 1657, cafodd wyth o Babyddion eu henwi yn Llanbedrog, Penrhos a Phwllheli.

Y Piwritaniad

Daeth argyfwg arall i ran yr Eglwys rhyw ganrif wedi’r Diwygiad Protestannaidd. Yn ystod teyrnasiad Siarl I (y brenin a ddienyddiwyd fel teyrn- fradwr yn niwedd Ionawr, 1649),.bu gwrthdaro rhwng yr Eglwys a’r brenin a’r Piwritaniaid. Ym 1645, dilewyd esgobaeth, gwaharddwyd defnyddio’r Llyfr Gweddi Cyffredin, a sefydlwyd Dirprwyaeth Er Lledaenu’r Efengyl i hyrwyddo buddugoliaeth y Piwritaniaid. Rhoed i’r ddirprwyaeth honno bwerau cryfion i droi allan o’u heglwysi offeiriad nad oedd yn cydymddwyn â’r drefn newydd. Darparwyd pregethwyr teithiol. Un o’r pregethwyr hynny, a dderbyniodd y swm uchel o £150 am fynd i oleuo gwerin Gogledd Cymru, oedd Morgan Llwyd o Wynedd. Mae hanes amdano’n pregethu ar ddiwrnod ffair ym Mhwllheli ym 1646. Y flwyddyn honno hefyd yr honnir y bu i achos yr Annibynwyr yng Nghapel Pen-lan yn y dref gael ei sefydlu.

Edward Jones a Henry Maurice

Un o ganlyniadau ymyriad y Ddirprwyaeth Er Lledaenu’r Efengyl oedd fod Edward Jones, curad Llannor a Deneio, wedi colli ei fywolieth ym 1649. Nid yw’n wybyddus pam y digwyddodd hynny. Y tebyg yw nad oedd yn barod i dderbyn y drefn newydd. Beth bynnag oedd yr achos, bu’r plwyf heb offeiriad swyddogol am gyfnod o tua naw mlynedd cyn bod Henry Maurice, y Piwritan o Fethlan, Llŷn, ym 1658 yn dod i lenwi’r bwlch, a hynny ar gyflog oedd deirgwaith cymaint ag a dderbyniai Edward Jones, ei ragflaenydd. Roedd Henry Maurice, wrth gwrs, wedi bod yn gweithio yn y plwyf cyn hynny. Roedd wedi priodi merch o’r ardal, Elin Glynne, o’r Gwynfryn, Llanystumdwy. Ym 1656, roedd Henry Maurice wrthi’n brysur yn symud yr Ysgol Ramadeg o Fotwnnog i Bwllheli, a llwyddo yn y weithred. Er fod ei sefyllfa ariannol bersonol erbyn 1658 yn ddiogel ddigon, ymhen dwy flynedd, trodd ei gefn ar Bwllheli, ac yn ddiweddarach - wedi Adfer y Frenhiniaeth - trodd ei gefn ar Biwritaniaeth hefyd, a dychwelyd i’r Eglwys, gan dderbyn bywoliaeth Bromfield yn Swydd Amwythig. Cafodd gynnig aros yn Llŷn. Tybed a oedd arno ormod cywilydd i aros adref, ac yntau wedi newid ei ymlyniad crefyddol?

Yn dilyn Adferiad y Frenhiniaeth, disgwylid i bawb o’r preswylwyr fynychu Eglwys y plwyf a derbyn y Sacramentau. Bu swyddogion y Llywodraeth yn gwylio’r sefyllfa’n ofalus, a chafodd amryw eu cacharu am wrthod cydymffurfio. Wedi dod 1672, caniatawyd mesur o ryddid i’r Anghydffurfwyr.

OFFEIRIAID LLANNOR A DENEIO

Mae’n anodd gwybod pa bryd y penodwyd offeiriaid newydd i wasanaethu plwyfi Llannor a Deneio gan fod llawer o’r dogfennau y gellid ymgynghori â nhw wedi eu colli.

RICHARD OWEN

Ym 1676, mae sôn am y Parchg. Richard Owen yn gwasanaethu yno. Y gŵr hwnnw, mae’n debyg, a lwyddodd i berswadio teulu Vaughan, Croesygedol, i sefydlu Ysgol Ramdeg Rad yn y dref ym 1698 – ysgol a enillodd gryn enwogrwydd ar wahanol gyfnodau ac a barhaodd am gryn gant a hanner o flynyddoedd. Mae’n bosibl mai offeiriad Deneio oedd y prifathrrawon yn ystod chwarter canrif cyntaf yr ysgol, a diau y buasai cyflog o £36 y flwyddyn yn dra derbyniol ar y pryd. Daeth y trefniant hwnnw i ben ym 1723, pan ddyrchafwyd safle plwyfi Llannor a Deneio a phan benodwyd Ficer i ofalu amdanynt. Y flwyddyn honno, am y tro cyntaf, yr ymddengys penodiad felly yng Nghofrestr yr Esgob. O hynny ymlaen, ficeriaid Abererch oedd yn brifathrawon yr ysgol.

Y Canghellor JOHN OWEN (ym Mhwllheli 1723 – 1755)

Penodwyd y Parchg. John Owen yn Ficer Llannor a Dyneo ar Fehefin 1, 1723. Ganed ef yn Llanidloes ym 1698, yn fab i Pierce Owen a’i briod. Aeth i Golegau Iesu, Rhydychen, a Neuadd y Drindod, Caergrawnt, gan ennill gradd B.A, a graddau yn y Gyfraith - LL.B. ac yn LL.D.

capel Bethel
Capel Bethel Pentre Poeth

Coleg Iesu, Rhydychen

Neuadd y Drindod, Caergrawnt

Ym Mehefin 1742, penodwyd ef yn Ganon yng Nghadeirlan Bangor, ac ar ddiwedd Ionawr 1743, yn Ganghellor yr Esgobaeth. Yn ychwanegol at hynny, yn niwedd Rhagfyr 1745, gwnaed ef yn Rheithor Llantrisant ym Môn.

Ar benodiad John Owen yn Ganghellor Esgobath Bangor, sylw un o’i gyd-glerigwyr - John Lewis, o Blas Llanfihangel-tre'r-beirdd oedd: ‘famous for a troublesome litigious temper, and of an obscure mean family; … strange that the bishop was so imposed upon in appointing him.’

Dywed R.T.Jenkins yn y Bywgraffiadur Cymreig y cofir am John Owen “fel gelyn anghymodlon i Fethodistiaeth.” Ac meddai D.G Lloyd Hughes yn Hanes Eglwys Pwllheli, “Ychydig a wyddai Esgob Bangor pan benododd y Parchg. John Owen . . . yn ficer cyntaf plwyfi Llannor a Deneio . . . y byddai’n dewis un a gai anfarwoldeb, nid yn unig yn hanes y ddau blwyf ond hefyd yn hanes Cymru.”

Blynyddoedd tawel a fu blynyddoedd cyntaf y Ficer newydd yn yr ardal. Roedd diffyg lle yn yr Eglwys yn peri gofid – nid yn gymaint oherwydd cynnydd ym mhoblogaeth Pwllheli – ond am fod bechgyn yr Ysgol Ramadeg Rad yn mynychu’r gwasanaethau, a nifer ohonyn nhw’n dod o dair sir Gwynedd, ac amryw yn aros dros y Sul yn y dref. Codwyd dwy oriel yn Eglwys Beuno Sant ym 1730 mewn ymgais i wynebu’r broblem a sicrhau rhagor o le. Doedd dim ficerdy ar gael i John Owen a’i briod: roedd eu cartref yn Y Goetref, yn Efailnewydd.

Yn gynnar yn y ganrif nesaf daeth yn ganon Mantes (neu, efallai, Le Mans ). Ym mis Rhagfyr 1602 cafodd ei anfon gan Lywodraeth Ffrainc , yn answyddogol, i Brussels i ystyried (gyda'i frawd Hugh a'r rhai a oedd yn hoffi Sbaen ) hawliau Iago VI , frenin Sgotland , ar Goron Lloegr . Pan glywyd amdano ddiwethaf oll (7 Chwefror 1604) yr oedd yn achwyn yn arw yn erbyn canlyniadau esgyniad Iago VI i'r orsedd. Bu brawd a oedd yn iau nag ef, sef JOHN OWEN , yn astudio yn Douay hefyd.


Howell Harris

Pledu Diwygiwr â cherrig

Ddechrau Chwefror, 1741, daeth y Diwygiwr, Howel Harris, i ardal Llangybi, yn Eifionydd. Holodd yno pwy oedd y pregethwr gorau yn y fro, a dywedwyd wrtho am fynd i Eglwys Llannor, er mwyn gwrando’r Parch John Owen, y Ficer, yn pregethu. Wedi mynd yno, clywodd Howel Harris ymosodiad llym ar y Diwygiad Methodistaidd ac ar ei arweinwyr. Ar ddiwedd y gwasanaeth, aeth Howel Harris i gael gair â’r Ficer. Ceisiodd ymresymu ag ef ynghylch ei ddehongliad o’r sefyllfa ac i ganmol y gwaith oedd yn cael ei wneud yn Ysgolion Cylchynol Griffith Jones, Llanddowror. Pan ddeallodd cynulleidfa Eglwys Llannor pwy oedd Howel Harris, ymosodwyd yn ffiaidd arno a’i bledu â cherrig. Ac ni wnaeth y Parchg.John Owen, y Ficer, ddim i atal eu brwdfrydedd. Dihangodd y Diwygiwr yn gymharol ddianaf.


Eglwys Llannor

Un a oedd, mae’n debyg, yn llygad-dyst i’r cyfan oedd y gŵr talentog hwnnw, William Roberts, Mur Llwyd, clochydd Llannor. Cyfansoddodd ef anterliwt Ffrewyll y Methodistiaid – math ar ddrama fydryddol a oedd yn dra phoblogaidd ar y pryd. Byddai pobl fel George Whitfield, Howell Harris ac eraill yn ymddangos ymysg y cymeriadau. Argraffwyd yr anterliwt yn yr Amwythig ym 1745. Fel y Ficer, roedd y Clochydd yntau ymysg prif wrthwynebwyr y Methodistiaid yn y rhan hon o Gymru.

Dirmyg Dorti Ddu

Nid pawb, wrth gwrs, a gefnogai’r Ficer yn ei agwedd. Mae sôn am un wraig yn arbennig, Dorothy Ellis – neu Dorti Ddu, fel y gelwid hi – a oedd yn elyn anghymodlon iddo. Byddai’r Ficer yn cael ei wawdio’n gyhoeddus ganddi yn Eglwys Llannor. Dirmygodd ef tra gorweddai ei gorff yn yr Eglwys yn dilyn ei farwolaeth ym 1755, ac aeth Dorti Ddu yr holl ffordd o Lannor i Lanidloes i fwrw’i sarhad ar ei fedd.

Bu’r Canghellor John Owen yn wrthwynebydd brwd i Ysgolion Cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, am ran dda o’i oes, gan y credai, fel amryw o’i gyd-offeiriaid ar y pryd, fod eu gwaith wrth hybu Methodistiaeth yn tanseilio tystiolaeth yr Eglwys. Eto, mae lle i gredu i agwedd John Owen newid yn llwyr cyn ei farwolaeth, gan fod yr Ysgolion Cylchynol hynny yn cael eu cynnal yn Eglwysi Llannor a Dyneo. Heb ganiatâd y Ficer, prin y byddai hynny wedi bod yn bosibl o gwbl.

Penglog y Canghellor

Diddorol yw nodi fod ym Mhwllheli lecyn rhwng Pont Solomon a’r fan lle mae Ysgol Glan y Môr heddiw a arferai gael ei alw’n Benglog y Canghellor. Mae’r enw’n ymddangos yng Nghofnodion Pwllheli ym 1803. Hyd y gwyddir, dim ond un Canghellor a fu’n gysylltiedig â hanes tref Pwllheli, a’r Ficer John Owen oedd hwnw. “Tybed,” meddai D.G.Lloyd Hughes, a gynrychiola enw’r llecyn olion seremoni claddu delw o benglog y CanghellorJohn Owen oblegid yr oedd gwneud gŵr gwellt yn ddull cyhoeddus a phoblogaidd ym Mhwllheli . . a pha le gwell i gladdu delw yn yr oes cyn gwneud y Cob ym Mhwllheli na’r Morfa Mawr, draw dros yr afon o’r hen dref y tu hwnt grafngau awdurdod.”

Y mae pob lle i gredu fod agwedd y Ficer tuag at y Methodistiaid wedi newid cyn diwedd ei oes. Mae ar gael hanes am bump o ymweliadau eraill â’r ardal gan Howell Harris wedi’r ymweliad trychinebus hwnnw â Llannor ym 1741 y cyfeiriwyd ato uchod. Mae sôn am rai miloedd yn crynhoi yn yr awyr agored i wrando Harris yn pregethu a hynny heb unrhyw wrthdystiad o gyfeiriad yr awdurdodau.

Mae’n deg gofyn, wrth gwrs, pa faint o amser oedd gan y Canghellor Owen yn ei ddeng mlynedd olaf i’w roi i’w ddwy ofalaeth leol yn Llannor a Deneo o gofio am yr holl alwadau a fyddai arno fel Canghellor, a’i ofalaeth ychwanegol ar Ynys Môn. Roedd aml-blwyfaeth yn bla yn yr oes honno. Mae’n wir fod gan y Ficer Gurad i’w gynorthwyo erbyn hynny. Roedd y Parchg. John Roberts yn gwasanaethu yno fel curad ym 1749. Ond yr oedd hwnnw hefyd yn is-athro yn yr Ysgol Ramadeg Rad, lle derbyniai, mae’n bosibl, amgenach cyflog nag a delid iddo gan ei bennaeth y Ficer.

Bu farw’r Canghellor John Owen ym 1755 wedi 32 o flynyddoedd fel Ficer. I gofio amdano, rhoddwyd cloch yn Eglwys Beuno Sant – cloch sydd bellach ymhlith creiriau Eglwys Pedr Sant yn y dref. Cafodd y Parchg. John Owen ei gladdu ar 9 Medi yn Llanidloes.

ZACCHEUS ELLIS (ym Mhwllheli 1757 – 1762)

Ganed y parchg. Zaccheus Ellis ym 1732, yn aelod o deulu’r Gwynfryn, Llanystumdwy, a mab i’r Parchg. David Ellis, Rheithor Llanengan (1721 – 1761) a’i briod. Bu yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. Nid oes dim o’i hanes yn hysbys rhwng ennill ei radd ym 1755, a’i benodiad yn Ficer Llannor a Deneio ym 1757, na rhwng 1762 a 1789, pan ymadawodd a’i benodi’n Rheithor Llangadwaladr, Ynys Môn. Bu farw ym 1803.

JOHN ROBERTS (ym Mhwllheli 1762 – 1764)

Cafodd y Parchg. John Roberts ei eni ym 1729 yn fab Henry a Mary Roberts, Glangwna, Llanrug, ger Caernarfon, Addysgwyd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ac yng Ngholeg y Trwyn Pres yn yr un ddinas


Coleg Iesu, Rhydychen


Coleg y Trwyn Pres, Rhydychen

Graddiodd yn B.A, ac yn M.A. Ym 1759, penodwyd ef yn Rheithor Llanbedrog. Ym 1962, ychwanegwyd Llannor a Dyneo at ei ofalaeth. Gollyngodd ei ofal o’r ddau blwyf olaf, ond derbyn gofal Boduan yn eu lle. Yr un flwyddyn, cymerodd hefyd blwyf Nefyn. Ym 1769, penodwyd ef yn Ficer Llanbeblig hefyd. Cafodd ei wneud yn Ganon yng Nghadeirlan Bangor ym 1776, ac ym 1776 yn Ficer Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd yn ychwanegol, ac yn Archddiacon Meirionydd. Ym 1785, cafodd hefyd reithoraeth Llantrisant, Ynys Môn. O hynny hyd 1790 pan benodwyd Rheithor newydd i Foduan a Nefyn, gofalai John Roberts am chwe phlwyf, yn ogystal â bod yn Archddiacon Meirionydd. Bu farw Awst 7, 1802, a
chafodd ei gladdu yn Llanbedrog.

THOMAS OWEN (ym Mhwllheli 1764 – 1766)

Yr oedd y Parchg. Thomas Owen yn fab i’r Parchg. Thomas Owen, Rheithor Llandegfan, Ynys Môn, a’i briod, a chafodd ei eni ym 1731. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. ym 1751, ac yn M.A. ym 1754. Treuliodd y ddwy flynedd, 1764 – 1766, ym Mhwllheli. O 1754 hyd 1763 bu’n athro yn Ysgol Biwmares. Bu farw ym 1766, a’i gladdu yn Llannor.

WILLIAM JONES (ym Mhwllheli 1766 -1801)

Gwasanaethodd Y Parchg. William Jones yn Llannor a Deneio am 35 o flynyddoedd, ond nid oes dim o’i hanes ar gael cyn ei gladdu yn Llannor ar Fehefin 27, 1801.

WILLIAM WILLIAMS (ym Mhwllheli 1801 – 1841)

Credir mai gwr o Lanfachraeth, Meirionnydd, oedd y Parchg. William Williams, a gafodd ei eni ym 1766. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. ym 1790. Ni does dim o’i hanes yn hysbys cyn iddo gael ei benodi i Lannor a Deneio, ac yntau bryd hynny’n 34 mlwydd oed.

Ysgol Sul

Yng nghyfnod y Parchg. William Williams ym Mhwllheli, ymddengys fod Ysgol Sul yn cael ei chynnal yn yr Eglwys. Wnaeth y Ficer, mae’n ymddangos, ddim crybwyll gair am fodolaeth yr Ysgol Sul wrth ateb yr holiadur a gawsai gan yr Esgob ym 1811. Dichon fod rheswm da am hynny. Hwyrach na fyddai’r awdurdodau ym Mangor yn hapus o gwbl o ddeall am oddefgarwch Ficer Pwllheli ar y mater. Y Methodistiaid Calfinaidd, wrth gwrs, oedd yn cynnal yr Ysgol Sul honno – nid oedd yr enwad wedi torri’n llwyr oddi wrth yr Eglwys Wladol cyn 1811 – ond adroddir fod yr arfer o gynnal yr Ysgol Sul yn Eglwys Beuno Sant wedi parhau am ddeugan mlynedd wedyn. Cymerai’r Ficer, y Parchg. William Williams, ddiddordeb mawr ynddi. Ai i’r Ysgol Sul yn aml i holi’r plant ac i arwain gweddi ar ddiwedd y cyfarfod.

Mae pob lle i gredu fod perthynas dda rhwng Ficer Pwllheli a’r Ymneilltuwyr yn ystod y blynyddoedd hynny. Cydweithiai’r Parchg. William Williams â’r Methodistiaid Calfinaidd. Rhoddai’r Wesleaid hwythau air da amdano. A’r Parchg. William Williams a wahoddwyd i lywyddu’r Gymdeithas Ddirwestol gyntaf a sefydlwyd ym Mhwllheli ym 1836. Bedyddwyr amlwg oedd y ddau ysgrifennydd, a bu gweinidogion yr Annibynwyr a’r Wesleaid yn amlwg iawn yn eu cefnogaeth i’r mudiad. Yr awgrym a geir yw nad oedd pethau’n rhyw iach iawn mewn llawer rhan o Gymru rhwng yr Eglwys a’r Anghydffurfwyr bryd hynny, ond arall oedd y sefyllfa ym Mhwllheli.

Gwasanaethau Saesneg

Y Parchg. William Williams oedd y cyntaf i ddechrau cynnal gwasanaethau Saesneg yn Eglwys Pwllheli. Digwyddodd hynny rhwng 1814 ac 1817. Cyn hynny, cynhelid un gwasanaeth yn unig yn Eglwys Beuno Sant a hynny yn y Gymraeg am naw neu am un ar ddeg o’r gloch bob yn ail Sul. Byddai trefniant tebyg yn Eglwys Llannor. Yn dilyn adeiladu’r Cob ym 1814, dechreuodd Pwllheli ddatblygu o ddifrif, a gwelwyd dylanwad masnachwyr a gwyr busnes na chawsant ond addysg Ysgol Sul yn y Gymraeg, ac na thybient fod llawer o werth i’r Gymraeg, yn galw am gynnal gwasanaeth Saesneg yn yr Eglwys.

Gorfod cerdded i Ben yr Allt

Gwasanaeth Saesneg ar nos Sul yn unig yn ystod misoedd yr haf oedd y trefniant cyntaf, ond wedyn galwyd am hynny gydol y flwyddyn. Ar noson stormus a thywyll o aeaf, ’doedd hi ddim y hawdd cerdded ar droed, fel y gwneid bryd hynny, i fyny i Ben yr Allt i Eglwys Beuno Sant. A dim ond llwybrau oedd ar gael ar y pryd os am gyrraedd yr Eglwys – cerdded o Bentrepoeth drwy Allt y Barcty, cerdded o Droed yr Allt a Phenlleiniau i Ben yr Allt, a cherdded o Benpenmaen, o gwmpas y Garn, ar hyd Llwybr y Llan. Gwnaed penderfyniad y dylid gofyn i’r Esgob am drwydded a fyddai’n caniatâu cynnal gwasanaethau Saesneg yn yr Ysgol Ramadeg Rad. A dyna a ddigwyddodd. Cynhaliwyd y gwasanaeth Saesneg cyntaf yno yn nechrau Ionawr 1923. O hynny ymlaen, bu cynnal gwasanaethau Saesneg cyson gan yr Eglwys ym Mhwllheli. Doedd dim galw am drefniant felly lle’r oedd yr eglwysi Ymneilltuol y dref yn y cwestiwn. Cynnal gwasanaethau uniaith Gymraeg oedd eu harfer hwy.

Codi eglwys newydd

Mae rheswm arall eto dros gofio’r Parchg. William Williams. Yn ystod ei gyfnod ef y cefnwyd ar Eglwys Beuno Sant ym Mhen yr Allt, a dechrau meddwl am godi Eglwys newydd i lawr yn y dref. Dechreuodd eglwyswyr Pwllheli sylweddoli cymaint rhwyddach oedd hi yn achos yr Anghydffurfwyr gyda’u holl gapeli o fewn cyrraedd hwylus i lawr yn y dref. A ’doedd y trefniant o gynnal y gwasanaethau Saesneg yn yr Ysgol Ramadeg Rad ond yn cryfhau’r ymdeimlad hwnnw.


Eglwys Pedr Sant, Pwllheli [Llun Ioan W. Gruffydd]

Ar ddydd Gwyl Ddewi, 1832, gosodwyd carreg sylfaen yr Eglwys newydd gan y Parchg. Peter Williams, Rheithor Llanbedrog ar y pryd, a thad un o brif hyrwyddwr y cynllun, y cyfreithiwr Cyril Williams, Talcymerau. Bu gorymdaith fawr drwy’r dref i ragflaenu hynny. Cysegrwyd Eglwys Pedr Sant ar 16 Medi, 1834, gan Esgob Bangor. Neilltuwyd rhan o’r Eglwys a’i alw’n Gapel Beuno.

Ym 1841, ac yntau erbyn hynny o ddeutu 77 mlwydd oed, symudwyd y Parchg. William Williams i lecyn tawelach yn Llanengan. Bu byw yno am 18 mlynedd arall. Cafodd ei gladdu yn Aber-erch.

St. GEORGE ARMSTRONG WILLIAMS (ym Mhwllheli 1841 – 1849)

Yr oedd y Parchg. St. George Armstrong Williams yn fab i’r Parchg. Eliezer Williams, Ficer Llanbedr Pont Steffan, a’i briod. Fe’i ganed ym 1803. Cafodd ei addysg yn hen ysgol Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. ym 1827, ac yn M.A.ym 1831. Gwnaed ef yn Ddiacon ym 1827, ac yn Offeiriad ym 1828. Cafodd ei benodi’n Gaplan Carchar Sir Gaernafon ym 1827, ac ym 1828 aeth hefyd yn Gurad parhaol i Lanfairisgaer a Betws Garmon. Ym 1831, penodwyd ef hefyd yn Gurad Llanwnda. Ar ôl ei gyfnod gwasanaeth yn Llannor a Deneio, bu’n Rheithor Llangybi a Llanarmon yn Eifionydd. Golygodd lyfr o weithiau Saesneg ei dad (Llundain 1840), a chyhoeddodd fywgraffiad ohono ym 1842. Cyfrannodd lawer o fywgraffiadau byrion yn y North Wales Chronicle, Y Gwyliedydd a’r Haul dan y ffugenwau Rusticus, Vindex, Clericus a Sion ap Myrddin. Bu farw yn 82 mlwydd oed ar Chwefror 5, 1886, a chafodd ei gladdu yn Llanarmon.

Camu i nyth cacwn

Pan ddaeth y Parchg. St. George Armstrong Williams yn Ficer Pwllheli, camodd i ganol nyth cacwn go iawn. Addysg oedd achos y gynnen, a gwnaeth yr helbul hwnnw gryn niwed i’r berthynas a fodolai rhwng yr Eglwys a’r Anghydffurfwyr yn y dref. Dechrau’r helynt oedd penodiad prifathro newydd i Ysgol Ramadeg Rad y dref. Gan i’r swydd honno o’r dechrau’n deg fod yn nwylo’r offeiriaid eglwysig, digon naturiol oedd i eglwyswyr Pwllheli dybio na fyddai unrhyw wrthwynebiad i benodi Curad plwyf Deneio, y Parchg. James James, gwr a oedd yn hollol gymwys i lenwi’r swydd. Gallai ef yn rhwydd ddigon barhau traddodiad ysgolion o’r fath o ddysgu’r clasuron. Roedd rhai o fasnachwyr Pwllheli erbyn hynny, fodd bynnag, o’r farn nad oedd eisiau dysgu’r clasuron, ac yn awyddus i weld dysgu’r hyn a elwid ganddynt yn bynciau masnachol. Bernid y byddai bechgyn ieuainc Pwllheli ar eu hennill yn fawr o wneud hynny. Ceisiwyd cyfaddawd wrth geisio awgrymu enw Ebenezer Thomas (Eben Fardd), - athro’r Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog Fawr – ond gwrthodwyd awgrym o’r fath gan yr Eglwyswyr. Canlyniad yr anghytuno fu colli’r o’r dref yr Ysgol Ramadeg Rad a’i gwaddol. Wedi dweud hynny, ym 1844 fe sefydlwyd Ysgol Genedlaethol ym Mhenlleiniau.

Cerddoriaeth

Cyfnod cymharol fyr a fu cyfnod y Parchg. St. George Armstrong Williams ym Mhwllheli. Rhaid sôn, fodd bynnag, am un datblygid pwysig yn yr amser y bu yn y dref. Sefydlodd Gymdeithas Gerddorol Eglwys Pedr Sant ym 1842 gyda’r bwriad o ddisgyblu gweithgwch corawl yr Eglwys. Ac roedd canu a cherddoriaeth yr Eglwys ym Mhwllheli ymhell ar y blaen i ganu a cherddoriaeth capeli eraill y dref yn y cyfnod hwnnw.

THOMAS JONES (ym Mhwllheli 1849 – 1860)

Brodor oedd Y Parchg. Thomas Jones o Lanbadarn Fawr, Aberystwyth, a aned ym 1810. Aeth i Goleg Sant Catherine, Caergrawnt, gan raddio’n B.A. ym 1833.


Coleg Sant Catherine, Caergrawnt

Bu’n Gurad Sant Clement, Caerwrangon o 1833 hyd 1835, ac yn Gurad Llangelynin, Meirionnydd, cyn symud i Lannor a Deneio. Cafodd ei benodi’n Rheithor Llanengan ym 1860, ac ym 1867 yn Ddeon Gwlad Llyn, ac yn Arolygydd Ysgolion y Ddeoniaeth. Ef oedd awdur y Welsh Church Tune and Chant Book (Llundain, 1858), cyfrol a gafodd wyth argraffiad, a’r Welsh Canticles Pointed for Chanting (Bangor, 1870). Bu farw Ebrill 28, 1889, a’i gladdu ym Mhwllheli.

Llafuriodd y Parchg. Thomas Jones yn galed gyda chaniadaeth yr Eglwys yng Nghymru. Wrth baratoi ei lyfr ym 1858, mae’n sicr fod côr Eglwys Pedr Sant, Pwllheli, wedi bod â rhan bwysig iawn yn natblygiad rhai o syniadau’r awdur, a hawdd y gall yr Eglwys ymfalchïo yn hynny.

Ficerdy

Gwelwyd yng nghyfnod y Parchg. Thomas Jones yr angen am sicrhau cartref parhaol i Ficer y plwyf. Os mai yn y Goetref, Efailnewydd, yr oedd y Canghellor John Owen yn byw, bu mannau eraill yn gartrefi dros y blynyddoedd i’r ficeriaid gwahanol. Ym 1855, fodd bynnag, prynwyd y Ty Gwyrdd (Ty Brith a Thy Glas yn enwau eraill arno) – ty a adeiladwyd tua 1828 yn gartref i’r cyfreithiwr, David Williams, - gwr a oedd yn cael ei adnabod yn ddiweddarach fel David Williams, Castell Deudraeth, Aelod Seneddol. Daeth y ty hwnnw’n ficerdy a’i leoliad ar y Stryd Fawr, lle’r arferai Siop Woolworth fod, a’r Bargain Store, heddiw.

BENJAMIN MORGAN (ym Mhwllheli 1860)

Ganed y Parchg.Benjamin Morgan yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, ym 1805 neu 1806. Addysgwyd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.


Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan

Gwnaed ef yn Ddiacon ym 1832, ac yn Offeiriad y flwyddyn wedyn. Bu’n Gurad St. Peter’s, Caerfyrddin o 1832 cyn cael ei benodi’n Gurad Meifod, Sir Drefaldwyn, ym 1836, ac yn Gurad parhaol Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, ym 1843, a swydd gyffelyb yn Aberdyfi ym 1846. Ar ôl ychydig fisoedd yn unig yn Llannor a Deneio, derbyniodd reithoriaeth Llandwrog yn niwedd 1860. Nid yw’n hysbys paham y bu ei arhosiad ym Mhwllheli mor fyr. Ymddengys iddo golli merch o’r clwyf coch yn fuan wedi symud i’r dref. A fu gan hynny, tybed, rywbeth i’w wneud â’i ymadawid sydyn? O fewn dwy flynedd, roedd wedi gadael Llandwrog hefyd, ac wedi symud i fyw i Loegr yn Upper Norwood, Surrey.

Y Deon DAVID HOWELL (ym Mhwllheli 1861 – 1864)

William Evans

Yr oedd Y Parchg. David Howell yn fab i’r blaenor o Fethodist, John Powell, a’i briod, a’u cartref yn Nhreoes, Bro Morgannwg. Ganed y Parchg. David Howell ym 1831. Dechreuodd weithio ar fferm ei dad cyn troi at yr Eglwys, a chael addysg eglwysig yn Y Fenni. Yr oedd yn Ddiacon ym 1855 ac yn Offeiriad y flwyddyn wedyn. Bu’n Gurad yng Nghastellnedd, ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Cynorthwy Offeiriaid yr Eglwys, cyn cael ei benodi’n Ficer Llannor a Deneio ym 1861. Ym 1864, penodwyd ef yn Ficer Sant Ioan, Caerdydd, ac ym 1875 yn Ficer Wrecsam. Cafodd radd B.D. gan Archesgob Caergaint ym 1877. Ym 1885, gwnaed ef yn Brebendari Garth Felyd, ac yn Ganon Anrhydeddus yng Nghadeirlan Llanelwy. Ym 1889, gwnaed ef yn Archddiacon Wrecsam; ym 1891, yn Ficer Gresford. Coronwyd ei yrfa eglwysig ym 1897 pan gafodd ei ddyrchafu’n Ddeon Ty Ddewi. Roedd y Parchg. David Howell yn eglwyswr efengylaidd blaenllaw, a bu ganddo ran amlwg ym mlynyddoedd cynnar gosod sylfeini’r mudiad eciwmenaidd yng Nghymru. Lluniod Llawdden (ei enw barddol), englynion a cherddi pan oedd yn ifanc. Yr oedd yn eisteddfodwr pybyr, yn genedlaetholwr eangfrydig, ac yn bleidiol iawn i barhad yr iaith Gymraeg. Yn ei ddydd, cyfrfid y Parchg. David Howell ymhlith y mwyaf dawnus o bregethwyr Cymru. Yr oedd yn areithiwr huawdl ac yn ddarlithydd effeithiol ar wahanol bynciau. Roedd yn gyfrannwr cyson i’r wasg Gymraeg, yn sylfaenydd Y Cyfaill Eglwysig, a chyhoeddodd nifer o lyfrynnau, fel Foreign Missions, their progress during the reign of Queen Victoria (1879), a Welsh Nationality (1902). Bu’r Parchg. David Howell farw yn Nhy Ddewi ar Ionawr 15, 1903. Y mae cofeb iddo yno yn y Gadeirlan.

Wedi cyrraedd Pwllheli, gwnaeth gryn newidiadau gan roi pwyslais arbennig ar fywyd ysbrydol yr Eglwys. Cyn i’r Parchg. David Howell ddod i Bwllheli, ar wahan i’r Ysgol Sul, dim ond dau wasanaeth y Sul a gynhelid yn yr Eglwys – un Cymraeg yn y bore ac un Saesneg yn yr hwyr. Teimlai’r Ficer newydd yn syth nad un Eglwys oedd ganddo ond dwy, yn cyrychioli dau ddiwylliant gwahanol. Ei adwaith cyntaf oedd eu gwahanu. Clywodd nad oedd Bedyddwr y dref, ar ôl codi’r Tabernacl yn Stryd Penlan yn rhyw boeni llawer am gadw Bethel, eu capel cyntaf, ym Mhentrepoeth, a meddyliodd y Ficer am y posibilrwydd o brynu Capel Bethel a’i ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau i’r eglwyswyr di-Gymraeg. Ni chafodd unrhyw gefnogaeth i awgrym o’r fath.

Trefnodd y Parchg. David Howell bedwar gwasanaeth ar y Sul – dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg, ac ymdrechodd hefyd i gryfhau’r Ysgol Sul. Casglodd Ysgol Sul niferus – yn Gymraeg a Saesneg yn Eglwys Pedr Sant ac un arall yn hen Eglwys Beuno Sant, ym Mhen yr Allt. Dechreuodd gyfarfod i gymunwyr bob nos Lun, cyfarfod i hyfforddi canu ar nos Fawrth, a chyfarfod i hyfforddi ymgeiswyr am Fedydd Esgob ar nos Fercher. Byddai’n pregethu yn Gymraeg ar nos Iau ac yn Saesneg ar nos Wener. A phob wythnos, byddai’n cynnal gwasanaeth yn Nhloty Pwllheli.

“Trwy rym ei bersonoliaeth a’i weithgarwch diflino a’i allu eithriadol i gyfathrebu’n effeithiol,” meddai D.G. Lloyd Hughes, “dyblodd Ficer Howell faint y gynulleidfa Gymraeg, ac â’i llawer o Gymry i wrando arno’n pregethu yn Saesneg hefyd. Perchid ef gan bawb, eglwyswyr a chapelwyr fel ei gilydd. Edrychid ar goethder ei ymadrodd yn y Gymraeg fel patrwm i bawb ei dilyn. Llwyddodd i feithrin perthynas agos iawn rhwng yr Eglwys a’r Anghydffurfwyr yn y dref. . . Am dair blynedd y bu David Howell ym Mhwllheli i gyd ond yn y cyfnod byr hwnnw dygwyd Eglwys Sant Pedr i amlygrwydd mawr.”

DANIEL JONES (ym Mhwllheli 1864 – 1865)

Gwr o Lynarthen, yng Ngheredigion, ac Annibynnwr i ddechrau, oedd y Parchg. Daniel Jones. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr ym Methesda, Merthyr Tydful o 1840 hyd 1855 cyn troi at yr Eglwys. Cafodd ei wneud yn Ddiacon gan Esgob Llandaf ym 1856, a bu’n Gurad Penydarren, Merthyr Tydful, o1856 i 1859, a Chastellnedd ym 1860. Ordeiniwyd ef gan Esgob Bangor ym 1861, a bu’n Gurad Porthmadog cyn cael ei benodi’n Rheithor Trawsfynydd ym 1862. Ar ôl llai na dwy flynedd fel Rheithor Llannor a Deneio ym 1864 – 1865, symudodd i Landudoch, Sir Benfro. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, ac yn eu plith, Eglwys Crist, Rhesymau dros ymadael ag Ymneilltuaeth (Bangor, 1856). Cyhoeddodd hefyd ddau gasgliad o emynau – y naill ar gyfer yr Annibynwyr a’r llall ar gyfer yr Eglwys. Bu farw ar Fehefin 12, 1868.

Yr oedd y Parchg. Daniel Jones ar lawer ystyr yn wr tra diddorol. Nodwyd eisoes fel y bu iddo droi ei gefn ar yr Annibynwyr a throi at yr Eglwys. Daethai i gysylltiad â’r Esgob Campbell o Fangor pan oedd hwnnw’n ficer ym Merthyr Tydful, a dysgodd y Parchg. Daniel Jones Gymraeg iddo. Collodd ei fraich, ac yr oedd yn cael ei adnabod fel “Daniel Jones un fraich.” Yr oedd yn bregethwr huawdl ac yn weithiwr egniol. Gwnaeth lawer i glirio dyled yr Eglwys ym Mhwllheli.

ELLIS OSBORNE WILLIAMS (ym Mhwllheli 1865 – 1879)

Yr oedd y Parchg. Ellis Osborne Williams yn fab i Lewis a Lowri Williams, Fronwnion, Dolgellau. Graddiodd yn B.A. yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt, ym 1849, a chafodd ei M.A. ym 1853.


Coleg Sidney Sussex, Caergrawnt

Gwnaed ef yn Ddiacon ym 1850, ac yn Offeiriad ym 1851. Bu’n Gurad Llangefni o 1850, yn Gurad Abermaw ym 1853, cyn bod yn Gurad parhaol Llanfachraeth, Meirionnydd, ym 1854. Daeth yn Ficer Llannor a Deneio ym 1865. Ef oedd yr olaf un i ddal swydd Ficer Llannor a Deneio. O 1876 hyd 1879, parhaodd i wasanaethu Deneio, fel ei Ficer cyntaf. Ymddeolodd ym 1879 oherwydd afiechyd gan symud i’w hen gartref i fyw. Bu farw Ebrill 23, 1887, a chafodd ei gladdu yn Nolgellau.

Tueddidau uchel-eglwysig

Ceisiodd y Parchg. Ellis Osborne Williams adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ei ragflaenydd. Yn wahanol i’w ragflaenydd ym Mhwllheli, fodd bynnag, yr oedd gan y ficer newydd dueddiadau uchel eglwysig. Yr oedd dilyn defod a hoffter i addurno’r Eglwys ar adegau arbennig yn bwysig yn ei olwg. Roedd amryw yn gwgu at hynny – nid yn unig ymhlith Anghydffurfwyr, ond ymysg eglwyswyr hefyd. Ymddangosodd amryw o lythyrau beirniadol yn wasg yn ystod y 1870au. A dechreuodd rhai gadw draw o’r gwasanaethau. Bu hynny ym Mhwllheli ar adeg pan ddechreuwyd clywed cri am weld datgysylltu’r Eglwys. Bu nifer o gyfarfodydd yn y dref dros ac yn erbyn hynny.

Gwahanu plwyfi

Dichon mai digwyddiad pwysicaf cyfnod y Parchg. Ellis Osborne Williams ym Mhwllheli oedd y penderfyniad i wahanu plwyfi Llannor a Deneio. Ar Fawrth 24, 1876, wedi i’r Frenhines Fictoria arwyddo gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, cyhoeddwyd fod y ddau blwyf ar wahân. Parhaodd y Parchg. Ellis Osborne Williams i fod yn Ficer ym Mhwllheli, a phenodwyd y Parchg. David Jones yn Ficer cyntaf Llannor.

DAVID JONES (ym Mhwllheli 1879 -1890)

Brodor o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin, oedd Y Parchg. David Jones, a mab John Jones a’i briod. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddio’n B.A. ym 1863, ac yn M.A. ym 1885. Gwnaed ef yn Ddiacon ym 1865, ac yn Offeiriad ym 1866. Bu’n Gurad Llaneurgain, Sir Fflint, ym 1863 - 1865, a Sant Germoe, Cernyw, ym 1865 - 1867, a Llandysul 1867 – 1876. Ym 1876, penodwyd ef yn Ficer cyntaf Llannor a Phenrhos, ac ym 1879, ar ymddeoliad y Parchg. Ellis Osborne Williams, symudodd y Parchg. David Jones i fod yn Ficer Deneio. Aeth yn Ficer Llandygai ym 1890, ac ym 1891, cafodd ei benodi’n Ddeon Gwlad Arllechwedd, ac ym 1892 yn Ganon yng Nghadeirlan Bangor. Bu farw Ionawr 25, 1908, a chafodd ei gladdu yn Llandygai. Gosodwyd ffenestr i’w goffáu yn eglwys y Gelli, a thabled goffa yn Eglwys Llandygai. Ei wraig oedd Mary Ellen Williams, merch Cyril Williams, Cyfreithiwr, Talcymerau, Pwllheli, a’i briod. Bu Cyril Williams yn un o brif hyrwyddwyr codi Eglwys Pedr Sant yn y dref ym 1834.

Ail-godi Eglwys

Aethai cyflwr adeilad eglwys Pedr Sant yn wael, a gwelwyd angen i ail-adeiladu’r Eglwys. Digwyddodd hynny tra bu’r Parchg.David Jones yn Ficer. Ar ddydd Gwyl Sant Luc, Hydref 18, 1887, cysegrwyd yr eglwys newydd.

EVAN THOMAS DAVIES (ym Mhwllheli 1891 – 1906)

William Evans

Ganed Y Parchg. Evan Thomas Davies ar Fehefin 20, 1847, yng Nghwmcafn, Llanfihangel Ystrad, Ceredigion. Addysgwyd ef yn ysgol enwog Ystrad Meurig, ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd yn B.A. ym 1869. Wedi treulio tymor byr fel athro cynorthwyol mewn Ysgol Ramadeg yn Greenock, Yr Alban, gwnaed ef yn Ddiacon gan yr Esgob Ollivant yn Llandaf ym 1870, ac yn Offeiriad ym 1871. Am bum mlynedd, gwasanaethodd yr Eglwys fel Curad yn Llanwenno, Ferndale, a Betws yn Esgobaeth Llandaf, cyn cael ei benodi, ym 1875, yn Gurad parhaol Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, yr unig Eglwys Gymraeg yn y ddinas ar y pryd. Mewn ymateb i ofyniad Esgob Caer ynghylch maint ei blwyf, dywedodd yn ffraeth fod ganddo awdurdod esgob ond cyflog curad. Bu yn Lerpwl am saith mlynedd a thyrrai tyrfaoedd i’w glywed yn pregethu yn hen Eglwys Dewi Sant yn Brownlow Hill mewn cyfnod pan wasanaethai rhai o hoelion wyth y pulpud Cymraeg yn y ddinas – gwyr fel Dr. Owen Thomas a’r Dr. Hugh Jones. Ym 1882, aeth yn Ficer Aberdyfi ac i Bwllheli yn nechrau 1891. Cafodd ei benodi’n Ddeon Gwlad Llyn 1897, ac yn yr un flwyddyn yn Ganon yn y Gadeirlan ym Mangor, ac yn Brebendari Llanfair. Ym 1906, symudodd i Ynys Môn yn Rheithor Llanfihangel Ysceifiog a Llanffinan yng nghylch Gaerwen. Ymddeolodd ym 1913. Bu farw ym Mangor ar Hydref 31, 1927, ac yno y cafodd ei gladdu. Cyfrannodd lawer i gylchgronnau Cymraeg a’r wasg, a chyhoeddodd Cydymaith y Cymro (1885), a Pregethau ac Anerchiadau (1885). Ei enw barddol oedd Dyfrig.

JOHN EDWARDS (ym Mhwllheli 1906 – 1925)

Mab i gapten llong o Aberdyfi oedd y Parchg. John Edwards. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd yn B.A. ym 1892. Gwnaed ef yn Ddiacon ym 1893, ac yn Offeiriad ym 1894. Bu’n Gurad ym Mhontlotyn rhwng 1893 a 1896, yn Wrecsam rhwng 1896 ac 1899, ac yn Llangollen rhwng 1899 ac 1902. Bu’n Ficer Carno, Sir Drefaldwyn, o 1902 i 1907, a Phwllheli o 1906 i 1925. Bu farw Mehefin 29, 1925, a chafodd ei gladdu ym Mhwllheli.

WILLIAM JOHN WILLIAMS (ym Mhwllheli 1925 – 1945)

Brodor o Lanfairfechan oedd Y Parchg. William John Williams. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd yn B.A.ym 1902. Daeth yn Ddiacon ym 1902, ac yn Offeiriad ym 1903. Gwasanaethodd fel Curad Nefyn ym 1902 – 1904, Blaenau Ffestiniog a Maentwrog 1904 – 1907, Llanaber 1907 – 1913. Bu’n Ficer Bryncoedifor o1913 hyd 1921, yn Rheithor Cemaes 1921 – 1925, a Phwllheli 1923 – 1945. Gwnaed ef yn Ddeon Gwlad Llyn ym 1934. Daeth yn Ficer Carno, Sir Drefaldwyn, ym 1945. Bu farw ym 1952.

WILLIAM EVANS (ym Mhwllheli 1945 – 1963)

Brodor o Fethesda yn perthyn i deulu o chwarelwyr oedd y Parchg. William Evans. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd yn B.A. ym 1915, ac aeth wedyn, ym 1916, i Goleg Diwinyddol Lichfield.


Cadeirlan a Choleg Diwinyddol Lichfield

Gwnaed ef yn Ddiacon gan Esgob Llanelwy ym 1917, ac yn Offeiriad ym 1918. Bu’n Gurad y Drenewydd 1917 -1920, a Llangwstennin 1920 - 1922. Gwnaed ef yn Gurad parhaol Dolgarrog 1923 – 1929. Cafodd brofiadau erchyll yno pan chwalwyd yr argae a boddi llawer o’r trigolion. Ysgubwyd eglwys fechan Dolgarrog gan ruthr y llif. Roedd Mr. Evans yn mynd i'r pentref ar y pryd pan glybu sŵn cynhyrfus yn y mynydd, a gwyddai for rhywbeth mawr o'i le. Brysiodd at y cartrefi yn hen ran y pentref gan weiddi'n uchel ar i'r trigolion gadw'n glir. Llwyddodd i grynhoi gweithwyr i ddelio â'r sefyllfa ac yr oeddent at eu hysgwyddau yn y dŵr. Clodforwyd ef am ei wrhydri mawr. Yr oedd yn Ficer Bodedern rhwng 1929 a 1936. Bu’n Rheithor Llanengan o 1937 hyd 1945, (a Llangian o 1937 hyd 1945). Bu ym Mhwllheli o 1945 hyd 1963, gan wasanaethu hefyd fel Deon Gwlad Llŷn dros yr un cyfnod. Gwnaed ef yn Arholwr Ysgolion yr Esgobaeth ym 1945. Daeth yn Ganon yng Nghadeirlan Bangor ym 1957 hyd 1969. Penodwyd ef yn Rheithor Llanbedr a Llandanwg ym 1963. Ymddeolodd ym 1970. Bu farw ym 1976, a chafodd ei gladdu ym mynwent Deneio, Pwllheli.

HUGH PIERCE JONES (ym Mhwllheli 1963 – 1978)

Brodor o Dalsarnau oedd y Parchg. Hugh Pierce Jones, a raddiodd yn B.A. mewn Hanes yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ym 1939, cyn mynd i Goleg Mihangel Sant yn Llandaf ym 1940.


Coleg Mihangel Sant, Llandaf

Daeth yn Ddiacon ym 1941, ac yn Offeiriad ym 1942. Bu’n Gurad yn Nwygyfylchi 1941 – 1944, ac yng Nghaergybi 1944 – 1949. Treuliodd gyfnod fel Ysgrifennydd Mudiad Cristionogol y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Manceinion rhwng 1949 a 1951, a bu’n Ysgrifennydd Dros Gymru i’r mudiad, ac yn Gurad parhaol Talyllyn, Meirionnydd ym 1951 – 1954. Bu’n Gurad Llanfihangel y Pennant, Meirionnydd, hefyd ym 1953 - 1954. Bu’n Rheithor Llanfair Mathafarn Eithaf a Llanbedrgoch, Ynys Môn, rhwng 1954 a 1963. Daeth i Bwllheli ym 1963. Yr oedd yn adnabyddus y tu hwnt i gylchoedd yr Eglwys yng Nghymru: ei waith ym myd y ddrama; yn aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur yng Ngwynedd. Penodwyd ef yn Ganon yng Nghadeirlan Bangor ym 1970 (ond rhoddodd heibio’r cyfrifoldeb hwnnw wedi rhai blynyddoedd). Bu’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ar Ddarlledu Crefyddol o 1972 hyd 1975. Ym 1976, gwnaed ef yn Arolygydd Ysgolion Esgobaeth Bangor. Ym 1977, penodwyd ef yn Ficer Aber-erch, yn ychwanegol at ei ddyledswyddau ym Mhwllheli. Yr oedd yn awdur ac yn gynhyrchydd dramau arbennig o ddawnus. Ymddiddorai mewn materion eciwmenaidd, a phrin y cafodd Pwllheli weithiwr mwy brwd ac ymroddedig nag ef dros undeb eglwysig. Gweithiodd yn ddiwyd gyda phlant a phobl ifainc, a bu’n un o arweinyddion yr Urdd yn y dref. Cynhaliodd gynhadledd i bobl ifainc yr Eglwys yn Nyffryn Ardudwy. Ar Wener y Groglith 1976, perfformiwyd ei ddrama, Y Neb o Ddyn, yn yr Eglwys ym Mhwllheli. Bu’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli, a phenodwyd ef yn Ddirprwy Faer, ond bu farw’n 61 mlwydd oed ar Chwefror 3, 1978, cyn dechrau ei dymor fel Maer y dref. Cafodd ei gladdu ym Maentwrog.

ROGER FRANCIS DONALDSON (ym Mhwllheli 1978)

Yn Llandudno y ganed Y Parchg. Roger Francis Donaldson. Derbyniodd ei addysg, fel llawer o feibion offeiriaid eraill, yn Ysgol St. John’s, Leatherhead, Surrey, a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. ym 1971, ac yn M.A. ym 1975.


Ysgol St. John’s, Leatherhead, Surrey

Cafodd hefyd Ddiploma mewn Astudiaethau Cymdeithasol ym 1972. Rhwng 1972 a 1974, bu yn Westcott House, Caergrawnt.


Westcott House, Caergrawnt

Daeth yn Ddiacon ym 1974, ac yn Offeiriad ym 1975. Bu’n Gurad yn yr Wyddgrug ym 1974 – 1978. Daeth yn Ficer Pwllheli ac Aber-erch ym 1978. Ymadawodd fis Mawrth 1995 a dod yn Rheithor Llanbeblig gyda Chaernarfon.

MEURIG LLWYD WILLIAMS (ym Mhwllheli 1993 - 1999)


Yr Archddiacon Meurig Llwyd Williams yn sefyll wrth y fedyddfaen yn Etchmiadzin, canolfan yr Eglwys Armenaidd ger y brifddinas, Yerevan, Armenia – un o ddinasoedd hynaf y byd y mae pobl yn parhau i fyw ynddi

Brodor o Fangor yw’r Parchg. Meurig Llwyd Williams. Bu ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1979 a 1984 lle graddiodd yn B.A. mewn Cymraeg a Ffrangeg, a lle’r enillodd Dysysgrif Addysg Ôl-Raddedigion.


Coleg y Brifysgol, Aberystwyth

Bu’n gwasanaethu fel Athro Ffrangeg yn Ysgol Gyfun Llanhari rhwng 1984 a 1987. Aeth i Brifysgol Caerdydd rhwng 1987 a 1990 ac ennill gradd B.D.


Coleg y Brifysgol, Caerdydd

Treuliodd y blynyddoedd 1990 – 1992 yn Westcott House, Caergrawnt, lle’r enillodd Ddiploma Diwinyddiaeth mewn Gweinidogaeth. Ym mis Mehefin 1992, cafodd ei ordeinio’n Ddiacon yng Nghadeirlan Bangor i wasanaethu fel Curad ym mhlwyf Caergybi. Wedi ei ordeinio’n Offeiriad yng Nghadeirlan Bangor fis Mehefin 1993, symudodd i fod yn Ficer Pwllheli ac Aber-erch, lle bu tan fis Hydref 1999. Ar Dachwed 1, 1999, cafodd ei sefydlu’n Ficer Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, sef yr Eglwys Gymraeg Anglicanaidd yn y Brifddinas. Bu’n gwasanaethu yno tan Ionawr 2005, pan ddychwelodd i Esgobaeth Bangor i fod yn Archddiacon Bangor. Ym mis Mawrth 2011, symudodd i fod yn Gaplan a Chomisiari i’r Esgob Geoffrey Rowell – yr Esgob Anglicanaidd yn Ewrop ar y pryd. Erbyn heddiw, mae swyddfa’r Esgob newydd, sef yr Esgob Robert Innes, wedi ei lleoli ym Mrwsel, yng Ngwlad Belg, ac y mae yntau’n byw a gweithio yno erbyn hyn. Yn ogystal â bod yn gaplan i’r Esgob, y mae’r Parchg. Meurig Llwyd Williams hefyd yn Archddiacon Gogledd-Orllewin Ewrop, cyfrifoldeb sydd yn cwmpasu rhyw 30 o eglwysi Anglicanaidd yng Ngwlad Belg, yr Iseldireodd a Lwcsembwrg.

Dywed ei fod erioed wedi bod yn hoff o ieithoedd, ac ar hyn o bryd mae’n ceisio meistroli Iseldireg, iaith y mae’n credu fod gallu siarad y Gymraeg yn help i’w dysgu. Yn naturiol, o fyw ym Mrwsel, mae dyfodol Ewrop o ddiddordeb mawr iddo, yn enwedig lle Cristionogaeth yn y dyfodol hwnnw. Yn ei amser sbâr ar hyn o bryd, dywed ei fod unai’n hoff o brofi cynnyrch cwrw yr abatai yng Ngwlad Belg neu’n garddio yn nghefn gwlad Limousin yn Ffrainc. Yn ddiwinyddol, mae datblygiad addoliad Cristionogol bob amser wedi bod o ddiddordeb iddo.

AINSLEY GRIFFITHS

William Evans

Ganed y Parchg. Ddr. Ainsley Griffiths yn Nhreforys ym 1968, a chafodd ei fagu yng Nghaerdydd, ond dywed fod ei wreiddiau teuluol yn ddwfn yn Sir Gâr ar y ddwy ochr. Mae’n briod i Angharad ers 1999, ac mae ganddynt bedwar o blant, sef Tomos (13), Daniel (11), Gwenfair (8) a Sara (5).

Derbyniodd ei addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn Ysgol Gynradd Glan Llyn (Lakeside Primary School) ym 1974-80, ac Ysgol Uwchradd Caerdydd (Cardiff High School) ym 1980-87. Bu’n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Manceinion ym 1987-90, gan ennill gradd B.Sc., ac yna Mathemateg Bur ym 1990-1991 ac ennill gradd M.Sc..


Prifysgol Manceinion

Ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (PGCE, 1991-92) yn yr un brifysgol, bu’n dysgu mathemateg mewn Coleg Chweched Dosbarth Catholig Rufeinig (Aquinas College, Stockport) rhwng 1992 a 1995. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ymdeimlai â galwad i wasanaeth Duw yn yr offeiriadaeth, a chan ei fod, fel Cymro Cymraeg, yn awyddus i gyflawni hynny yn ei famwlad, cyflwynodd ei hun i broses dirnad yr Eglwys yng Nghymru. Ar ôl cael ei gymeradwyo ar gyfer hyfforddiant, treuliod dair blynedd mewn coleg diwinyddol, sef Ripon College Cuddesdon (1995-98), rhyw saith milltir y tu allan i Rydychen. Fel rhan o’r hyfforddiant, cwblhaodd radd Prifysgol.


Coleg Ripon, Cuddeston, Rhydychen

Rhydychen mewn diwinyddiaeth - B.A. ym 1995-97; ac M.A., yn 2005), a Diploma mewn Gweinidogaeth (1997-98). Cafodd hefyd y cyfle i gymryd rhan yn Ysgol Raddedigion Canolfan Eciwmenaidd Cyngor Eglwysi’r Byd, yn Bossey, ger Genefa (Medi – Rhagfyr 1997), gan ennill Tystysgrif mewn Astudiaethau Eciwmenaidd o Brifysgol Genefa.


Canolfan Eciwmenaidd Cyngor Eglwysi’r Byd, Bossey, Genefa

Ar ôl cyfnod hir y tu allan i’r byd academaidd, penderfynodd weithio ar gyfer gradd PhD mewn diwinyddiaeth systematig ar thema ‘y rhodd’, sydd yn bwnc llosg, nid yn unig mewn diwinyddiaeth ond hefyd mewn athroniaeth, anthropoleg, economeg a llu o ddisgyblaethau eraill. Dechreuodd y radd yn Llambed yn 2008, gyda’r Dr. Simon Oliver yn diwtor, ond gan iddo ef symud i Brifysgol Nottingham ddiwedd 2009, trosglwyddodd yr ymchwil i nawdd y brifysgol honno, gan raddio gyda’r ddoethuriaeth ym mis Gorffennaf 2015. Teitl y thesis yw: The Trinitarian Gift Unfolded: Sacrifice, Resurrection, Communion.


Prifysgol Nottingham

Ordeiniwyd y Parchg. Ddr. Ainsley Griffiths yn Ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant, Bangor ym 1998 gan y Gwir Barch. Ddr. Barry Morgan, ac yna’n Offeiriad ym 1999. Treuliodd ei guradiaeth fel Is-Ganon yn yr Eglwys Gadeiriol (1998-2001), cyn symud i’w blwyf cyntaf, sef Deneio (Pwllheli) ac Aber-erch fel Offeiriad â Gofal (2001-2) ac yna Ficer (2002-5). Fe’i penodwyd yn Gaplan Coleg y Drindod, Caerfyrddin (coleg sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant) ac yn Swyddog Addysg Weinidogaethol Barhaus Esgobaeth Tyddewi yn 2005, ac mae’n dal i weinidogaethu yn y swyddogaeth honno. Mae’r rôl yn cyfuno’r wefr o weithio gyda phobl ifanc a staff y brifysgol a’r gwaith o gynllunio a darparu rhaglen o hyfforddiant barhaus i glerigion yr Esgobaeth drwy ddyddiau astudio unigol a chynadleddau preswyl.

JANICE GOURDIE

Gwraig o’r Alban yn wreiddiol yw’r Parchg. Janice Gourdie yn dod o bentref Polbeth, ger Caeredin. Symudodd hi a’i theulu i fyw i Gonwy ym 1984, gan symud gyda’i theulu ym 1989, i fyw i Lanbedrog yn Llyn. Wedi dod i Lanbedrog, bu’n weithgar yn Eglwys Beuno Sant, ym Motwnnog, a bu am sawl blwyddyn yn gweithio gyda’r plant a’r bobl ifainc yno. Yn ystod ei hamser yn Llyn, dysgodd siarad Cymraeg. Roedd gan ei phriod a hithau ddau fab. Collodd ei phriod cyntaf, ac yna ail-briodi, a newid ei chyfenw o Gourdie i Brown. Ymdeimlodd â’r alwad i fod yn offeiriad, a chafodd ei derbyn ar gwrs hyfforddi Esgobaeth Bangor. Aeth i Goleg y Brifysgol ym Mangor ac ennill gradd B.Th. yn 2004.


Coleg y Brifysgol, Bangor

Ordeiniwyd hi’n Ddiacon yn 2004, ac yn Offeiriad yn 2005. Penodwyd hi’n Ficer plwyfi Pwllheli ac Aber-erch. Yn ddiweddarach, cafodd hefyd ei phenodi’n gynghorydd gwaith ieuenctid yr Esgobaeth. Bu’n drefnydd gwahanol benwythnosau ieuenctid, a’r wythnos flynyddol ar Ynys Enlli i bobl ifanc rhwng 14 a 18 mlwydd oed. Yn Nhachwedd 2012, penodwyd y Parchg. Janice Brown yn Ficer Llanfairfechan a Phenmaenmawr, Dwygyfylchi a Chapelulo. Dywedodd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John, amdani, “Mae Janice yn offeiriad sy’n gweithio’n galed gan geisio bob amser rannu llawenydd Crist a’r bywyd Cristionogol â’r bobl sydd o’i chwmpas. Mae ganddi ddoniau arbennig i weithio hefo pobl ifanc.”

Dylan J. Williams

William Evans

Penodwyd y Canon Prependari Dylan J. Williams yn Rheithor newydd Pwllheli a’r Cylch i gydweithio gyda thîm gweinidogaethol a oedd yn cynnwys Y Parchg. Kim Williams yn Ficer. Roedd Ardal Gweinidogaeth Bro’r Holl Saint yn gasgliad o eglwysi plwyf oedd yn rhan o Esgobaeth Bangor yn yr Eglwys yng Nghymru. Roedd yn gymuned o ddeg Cynulleidfa yn ardal Eifionydd a Phenrhyn Llŷn. Pwllheli oedd y dref fwyaf gorllewinol yn yr Ardal, a Phorthmadog y dref fwyaf dwyreiniol.

Ar Orffennaf 1, 2016, daeth cyfnod gwasanaeth y Canon Dylan J. Williams fel Rheithor Pwllheli i ben, pan gyfyngodd ei wasanaeth i Gricieth a Phorthmadog a'r Cylch.

SEFYDLU ARDAL GWEINIDOGAETH BRO ENLLI


Cyfarfod Sefydlu a Thrwyddedu yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli, bnawn Sul, Gorffennaf 3, 2016 (Llun Ioan W. Gruffydd)

Ar bnawn Sul, Gorffennaf 3, 2016, yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli, a Maer y Dref, y Cynghorydd Henry Rees Williams, yn bresennol - yng ngwydd nifer o wahoddedigion eraill - cyhaliwyd Cyfarfod Sefydlu a Thrwyddedu tîm newydd o weithwyr i wasanaethu Ardal Gweinidogaeth Bro Enll,i sy’n cynnwys Ynys Enlli, Aberdaron, Llanbedrog, Llangian, Llanengan, Llannor, Llanfaelrhys a Phwllheli. Esgob Bangor, Y Gwir Barchedig Andy John oedd yn pregethu ac yn arwain y gwasanaeth. Ystyrid bod ffurfio’r Ardal newydd yn fwy ystyrlon yn wyneb daearyddiaeth yr ardal.

Andrew Carroll Jones, M.A., B.D., B.Th., M.Phil.


Daeth yr Hybarch Andrew Carroll Jones, Archddiacon Meirionnydd, yn Rheithor Eglwys Sant Pedr, Pwllheli, ac yn arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Enlli. Gellir cysylltu â’r Rheithor ar 01758 740919 (Gweler rhagor amdano dan y Cyfeillion a Godwyd yn Offeiriaid ym Mhwllheli isod).

Huw Bryant B.Th.

Daeth y Tad Huw Bryant yn Offeiriad Cysylltiol yn Ardal Gweinidogaeth Bro Enlli. Symudodd o gwmpas gryn lawer oddi ar iddo ymadael ag Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon, yn dilyn cwblhau ei Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch. Bu’n dilyn galwedigaethau gwahanol yn Llundain a Chaeredin, cyn dod yn ôl i Gymru i gael ei hyfforddi fel Coedwigwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Glynllifon. Bu’n gweithio fel Coedwigwr am chwe mlynedd ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Priododd yn 2008 yn eglwys ei gartref yn Llanegryn. Yn fuan wedi genedigaeth Megan, ei blentyn cyntaf, yn 2009, symudodd i Gaerdydd i Goleg Mihangel Sant, Llandaf, er mwyn paratoi i fod yn offeiriad. Yn ystod ei gyfnod yno, ganed Idris, ei ail blentyn, yn 2011. Yn 2013, symudodd ef a’i deulu i Bwllheli lle penodwyd ef yn Gurad mewn Gofal ym Mro Gweinidogaeth newydd Bro’r Holl Saint a oedd yn cwmpsu plwyfi Pwllheli, Cricieth a Phorthmadog. Yn 2015, penodwyd ef i ail guradaeth gyda Bro Enlli. Yn 2016, dathlodd y teulu enedigaeth Manon, eu trydydd plentyn, a aned fis Mai. Yng Ngorffennaf 2016, a’r teulu’n byw ym Mhwllheli, symudwyd ffiniau’r plwyf, ac mae’r Tad Huw Bryant unwaith eto’n gwasanaethu pobl Pwllheli fel Offeiriad Cysylltiol yn yr ardal weinidogaeth ehangach, Bro Enlli. Gellir cysylltu ag ef ar 01758 614693.

Naomi Starkey


Cafodd y Parchedig Naomi Starkey ei magu yn Jersey, lle’r oedd ei thad yn gweithio fel ficer. Bu’n astudio Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedyn ym Mhrifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn cwrs i fod newyddiadurwraig. Bu’n gweithio ar bapur newydd lleol. Yn nes ymlaen, bu’n gweithio fel golygydd llyfrau Cristnogol. Wedi symud o Lundain i Gymru yn 2011, derbyniodd hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth drwy gwrs rhan-amser wedi cael ei drefnu gan Esgobaeth Bangor. Yn 2014, cafodd ei hordeinio’n ddiacon, a gweithiodd ym Machynlleth a’r ardal am flwyddyn, cyn cael ei hordeinio’n offeiriad, a symud i Ben Llyn. Mae Naomi’n gweithio fel curad yn Ardal Gweinidogaeth Bro Enlli ac yn mwynhau gwella’i Chymraeg trwy sgwrsio gyda phobl lleol! Mae ganddi dri o blant (merch a mab yn eu llawn dwf, sy’n byw yn Llundain) a Daniel sy’n mynd i Ysgol Botwnnog. Gellir cysylltu â hi ar 01758 760603.

CYFEILLION A GODWYD YN OFFEIRIAID
YM MHWLLHELI

Hugh Griffith, A.M.

Ganwyd Hugh Griffith yn Stryd Penlan, Pwllheli ym 1759. Yr oedd yn perthyn i hen deulu Bodegroes. Cafodd addysg dda, a’i urddo’n weinidog. Bu’n gofalu am blwyfi Ceidio a Llandudwen, a chyfrifid ef yn ŵr talentog, o feddwl athronyddol dwfn, ac yn gymeradwy ar gyfreif ei natur dda, ei foneddigeiddrwydd a’i garedigrwydd. Yr oedd, medd Myrddin Fardd yn Enwogion Sir Gaernarfon,”yn bregethwr call, llawn o arabedd gwreiddiol, heb fod yn ymylu dim ar ysgafnder.” Ar ei feddfaen ym Mynent Deneio, Pwllheli, mae’r geiriau:

Underneath
Are deposit the Remains of
ROBERT GRIFFITH, Gent.
Eldest Son of David Griffith of
Pwllheli, Gent., and Margaret his Wife
Who died the 3rd of February, 1802
Aged 45.
Also of the Revd. Hugh Griffith, Cleric
A.M.
Second Son of the above named
David Griffith and Margaret his Wife,
Who died the 7th of June, 1812,
Aged 53.

William Griffith, M.A.

Ganwyd William Griffith ym Mhwllheli ym 1761, a'i ddwyn i fyny'n offeiriad. Mae Cybi yn Hanes Enwogion Sir Gaernarfon yn adrodd amdano fel "gŵr pwyllog, deallus ac urddasol," er nad oedd yn ymadroddwr rhwydd, ac nid oedd ganddo'r ddawn "i daflu nwydau cynhyrfus i'w lais i gyfansoddi pregethwr poblogaidd." Bu'n Rheithor Llandwrog, ac yno y mae ei fedd. Ar ei feddfaen mae'r geiriau:

"Here
lie interred the mortal remains of
the Revd. William Griffith, M.A.,
of St. John's College, Cambridge,
only son of
William Griffith of Pwllheli, Esq.,
a Justice of the Peace for this
County, and Rector of this Parish
during 29 years.
He died on the 8th day of January, 1836
Aged 75 years"

Ymddengys fod gan y Parchg.William Griffith a'i briod un mab o'r un enw â'i dad, ac i hwnnw raddio'n B.A. yn Rhydychen, ond iddo farw'n ifanc yn 29 oed, yn ddi-briod ar Fai 29, 1845. Mae ei fedd yntau wrth ochr bedd ei dad yn Llandwrog.

Andrew Carroll Jones, M.A., B.D., B.Th., M.Phil.

Cafodd yr Hybarch Andrew Carroll Jones ei fagu ym Mhwllheli. Bu’n astudio Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru ym Mangor ac yn Llanbedr Pont Steffan, yn Nulyn ac yn Jerwsalem.Wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, cafodd ei ordeinio ym 1985, a bu’n gwasanaethu fel Is-Ganon yng Nghadeirlan Bangor. Bu wedyn yn Rheithor Dolgellau. Wedyn yn ddarlithydd mewn Diwinyddiaeh ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Astudiaethau Bugeiliol yng Ngholeg Michael Sant, Llandaf. Ym 1996, dychwelodd i Benrhyn Llŷn gan wasanaethu fel Rheithor Llanbedrog, Llannor, Llanengan a Llangian, ac yn ddiweddarach, yn Ddeon Gwlad Llŷn. Cafodd ei benodi’n Archddiacon Meirionnydd yn 2010. Daeth yn Rheithor Eglwys Sant Pedr, Pwllheli, ac yn arweinydd Ardal Gweinidogaeth Bro Enlli ddechrau Gorffennaf 2016. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys testunau Cristionogol cynnar y Canol Oesau, Sgroliau’r Môr Marw, yr Eglwys Geltaidd Gynnar, a phrofiadau o bererindota cyfoes. Mae wedi arwain pererindodau i Lydaw ac i Ewrop. Mae’n awdur nifer o lyfrau. Ymhlith ei ddiddordebau mae beicio, cerdded, pethau Sbaenaidd ac Eidalaidd, eiconograffi a phrofi gwin.