Byddin yr Iachawdwriaeth

 

BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH YNG NGHYMRU

Yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, profodd Cymru ddiwygiadau crefyddol nodedig a barodd newid bywydau rhai miloedd o’i phobl. Bu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ran nid bychan yn rhai o’r digwyddiadau hynny. Rhwng 1878 a diwedd 1899, cafodd cynifer â chant ac ugain o brif ganolfannau eu sefydlu i hyrwyddo gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth ar hyd a lled Cymru, a byddai pob canolfan felly yn anfon rhywrai o blith ei haelodau i efengylu’r trefi a’r pentrefi cyfagos. Prin fod neb o blith preswylwyr y bythynod mwyaf pellenig ac anghysbell nad oeddent wedi clywed am y mudiad, ac ychydig oedd y rhai nad oeddent wedi dod ar draws aelodau’r Fyddin yn eu lifrai arbennig erbyn troad y ganrif.

 

Bach iawn o waith a gyhoddwyd ar hanes Byddin yr Iachawdwriaeth nac yn Lloegr na Chymru. Ar wahan i ambell gyfeiriad hwnt ac yma, dim ond dau lyfr a gyhoeddwyd sydd yn ymwneud â hanes y mudiad yng Nghymru ei hun. Ysgrifennodd Bill Parry (Y Parchg.W.D. Parry) ym 1986 lyfr Cymraeg, Gwaed a Thân, ynghylch gwaith y Fyddin mewn rhai ardaloedd daearyddol arbennig, ac ysgrifennodd Charles Preece yn Saesneg ym 1988 fywgraffiad o waith un a fu’n arweinydd amlwg y Fyddin yng Nghymru, a gwraig a fu’n cydweithio yn Nwyrain Llundain â sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth a’i briod, sef  Mrs. Pamela Shepherd (1836 – 1930) a aned yn Nhalwaen, pentref ar y bryniau o’r tu ôl i Gasnewydd, dan y teitl, Woman of the Valleys. Wrth i fwy a mwy o ddiddordeb dyfu yng ngwaith Byddin yr Iachawdwriaeth, rhaid gofyn y mha fodd y dechreuodd y mudiad? Rhaid gofyn pwy oedd ei sylfaenydd? Ac ar y Wefan hon yn arbennig, gofyn pa faint sy’n hysbys am waith thystiolaeth Byddin yr Iachawdwriaeth yn nhref Pwllheli ei hun.

SEFYDLYDD BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH

Ganwyd a magwyd William Booth, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, yn  Nottingham, ar Ebrill 10, 1829. Yn dair ar ddeg mlwydd oed, aeth busnes Samuel Booth, ei dad, i’r wal. Dygodd hynny dlodi mawr i’w gartref, a bu farw ei dad yn fuan wedi hynny. Yn wyneb argyfwng y teulu, rhoed heibio’r bwriad o anfon William ymlaen â’i addysg. Cafodd swydd fel prentis mewn siop wystlwr mewn rhan ddigon tlawd o’r dref – swydd y bu ynddi am chwe mlynedd  - a hynny mewn ymgais i gynnal ei deulu a chadw’r blaidd o’r drws. Roedd yn gas ganddo’r gwaith, ond drwyddo daeth i wybod am dlodi a’r dioddefaint a ddeuai yn ei sgil. O’i ddyddiau cynharaf felly, gwyddai William Booth beth oedd todi, a byw mewn tlodi. Yn 15 oed, daeth yn Gristion ac ymuno â’r Capel Wesle yn Broad Street, Nottingham. Gydol ei oes, teimlai angerdd dros rannu Efengyl Iesu Grist â’r rhai oedd heb ddim. Priododd Catherine Momford, a chawsant naw o blant.

 

William a Catherine Booth

 

Dechreuodd bregethu yn ei arddegau, ac ar gyfrif ei gonsýrn mawr am y tlawd  arweiniodd ei neges ef i’r strydoedd lle’r oedd y bobl. Yn ddiweddarach, bu’n gwasanaethu fel efengylydd crwydrol gyda changhennau gwahanol o’r Eglwys Fethodistaidd. Ac wrth bregethu felly yn rhai o strydoedd slymiau Llundain y sylweddolodd waith mawr ei fywyd. Ac felly y cafodd Byddin yr Iachawdwriaeth ei sefydlu.

 

 
Y Cadfridog William Booth

 

Roedd William Booth yn 83 oed pan fu farw, neu yn iaith Byddin yr Iachawdwriaeth, pan gafodd ei ‘gymryd i’r gogoniant.’ Cynhaliwyd ei angladd ar Awst 27, 1912, lle’r oedd 40,000 o bobl wedi ymgynnull, a’r Frenhines Mary yn eu plith yn eistedd yn y cefn heb fod neb yn ei hadnabod. Mae hanes am wraig o butain yn ei dagrau yn eistedd yn yr un sedd gefn. Pan holodd y Frenhines hi am achos ei dagrau, atebodd hithau drwy ddweud,”Am fod William Booth yn malio am un fel fi.”

Dyfodiad Byddin yr Iachawdwriaeth i Bwllheli

Prin yw’r wybodaeth am hanes dyfodiad Byddin yr Iachawdwriaeth i Bwllheli. Wrth adrodd ar y Wefan hon am hanes Capel Saesneg Ffordd yr Ala yn y dref, mae’r Parchg. Meirion Lloyd Davies yn cyfeirio at yr arolwg a wnaed ar Sul cyntaf Tachwedd 1891 i ganfod pa nifer o addolwyr oedd yn bresennol yng ngwasanaethau’r hwyr yn nhref Pwllheli ar y noson honno. Dywed,

“fod 1,600 yn bresennol yng ngwasanaethau’r hwyr yng nghapeli’r Anghydffurfwyr, a bod 265 yn bresennol yn Eglwys Sant Pedr, a oedd newydd gael ei hadeiladu. Yr oedd y gynulleidfa fwyaf - o 457 - ym Mhenmount, 365 yn Salem a 317 ym Mhenlan.”

Yna ychwanega,

“Roedd hi’n dra arwyddocaol fod gan Fyddin yr Iachawdwriaeth - nad oedd ond wedi dechrau ym Mhwllheli wyth mis ynghynt - 150 o addolwyr ar y nos Sul honno.”

Os felly, teg casglu mai ym mis Mawrth 1891 y dechreuodd Byddin yr Iachawdwriaeth ar ei gwaith ym Mhwllheli.

Mewn llythyr a ymddangosodd yn yr War Cry - papur Byddin yr Iachawdwriaeth -  mae gwraig sy’n galw’i hun yn Mrs. Evans yn ysgrifennu yn Saesneg ac yn adrodd am ddigwyddiad ym Mhwllheli yn nyddiau cynnar dyfodiad y Fyddin i’r dref. Mae’n dechrau drwy ddisgrifio tref Pwllheli fel Atdyniad Deniadol i ymwelwyr gyda’i fôr agored a’i thraeth eang, a bod gan y dref barêd dymunol. Dywed fod Byddin yr Iachawdwriaeth, “o’r diwedd,” wedi cael ei sefydlu yn y dref, a hynny o ganlyniad i weithgarwch egnïol rhai o’r trigolion i sicrhau troedle iddi. Mae’n disgrifio gorymdaith y Fyddin drwy’r dref a’r ymateb caredig a chroesawgar a gafodd. Mae’n sôn am rai cyfarfodydd a gynhaliwyd ac am y rhai a achubwyd fel canlyniad.

Diwygiad ym Mhwllheli

Diolchwn i’r Parchg. W.D. Parry am ei ganiatâd caredig i ddyfynnu o Gwaed a Thân – Hanes Byddin yr Iachawdwriaeth Gogledd Cymru o 1880 i 1892. Mae’r awdur yn cyfeirio at bresenoldeb a gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth mewn gwahanol rannau o Ogledd Cymru – Aberystwyth, Machynlleth, Wrecsam, Blaenau Ffestiniog,  Caergybi, Caernarfon, Llanfairfechan a Bethesda yn eu plith - ac yn nodi, fel y cyfeiriwyd, fod Pwllheli wedi gorfod aros hyd fis Mawrth 1891 cyn gweld sefydlu ynddi gorfflu o’r Fyddin. Roedd milwyr o rai o’r mannau a enwyd wedi bod ar ymweliad â Phwllheli cyn hynny, bid siwr, a diau i rai o drigolion y dref yn eu tro ddod i gyffyrddiad â Byddin yr Iachawdwriaeth a’i gwaith yn rhai o’r trefi eraill. “Diwygiad,” medd Bill Parry, “oedd y gair a ddefnyddiodd eglwysi Pwllheli i ddisgrifio’r hyn a ddigwyddodd yn eu tref ym mis Ionawr 1888. Yr oedd gwaith y Fyddin wedi peri i amryw ymuno ag eglwysi’r dref a’r cyffiniau.”

Cafodd corfflu o Fyddin yr Iachawdwriaeth ei sefydlu ym Mhwllheli yn yr Ysgoldy ar Ffordd y Gogledd ym Mhentre Poeth (a berthynai bryd hynny i Gapel yr Annibynwyr ym Mhen-lan), er mai Sgwâr y Sgifden oedd enw’r rhan honno o’r dref bryd hynny. Medd Bill Parry, “Chwiliai’r Fyddin am ran waethaf y dref a’r Sgifden oedd rhanbarth annymunol Pwllheli yn y cyfnod hwnnw.”

Cyfeiriwyd eisoes at yr adroddiad a ymddangosodd ym mhapur y Byddin yr Iachawdwrieth, yr War Cry. Roedd gan y Fyddin hefyd gyhoeddiad Cymraeg, Y Gad Lef, yr oedd ei gylchrediad fis Mai 1889 yn tua deg mil o gopïau, ac anfonid copïau ohono i’r Cymry ar Wasgar mewn gwahanol rannau o’r byd. Ymddangosodd y rhifyn olaf o’r cyhoeddiad hwnnw, Y Gad Lef, ar 19 Tachwedd 1892, a phenderfyniad swyddogion y Fyddin yn Llundain oedd ei ddirwyn i ben. Canodd un o feirdd Cymraeg Byddin yr Iachawdwrieth, Ben Williams (Ben o Gybi) yn y modd yma wrth ffarwelio â’r papur:

Marwolaeth Y Gad Lef

           Gad Lef annwyl, chwith yw clywed
Sŵn dy dynged yn fy nghlust,
’Rwy’n dy hebrwng tua’th feddrod
Gyda chalon ddigon trist;
Ar dy dudalennau annwyl
Ceisiais gyntaf byncio cân,
Och! mae sôn am dy farwolaeth
Yn fy nigalonni’n lân;
Beth a fu yn angau iti?
Carwn wybod hyn yn wir;
Ai gelynion fu’n dy erlid,
Gan dy ddifa’n llwyr o’r tir?
D’wed y gwir heb air o ragrith,  
D’wed y gwir heb ofni dim
Ai crachfeirniaid ynte milwyr
Fu d’ elynion mwyaf llym? 
‘Wel,’ atebaf goreu gallaf,
Yn fy ngwendid, eto’n blaen,
‘Ni dderbyniais hanner digon
O ‘push on’ i’m gyrru ‘mlaen;
Gwelais lawer swyddog gonest  
Yn fy nghynnig i Tom neu Wil,
Hwythau’n filwyr yn fy ngwrthod,
Am eu bod yn fechgyn swil (?)
’Rwy’n rhy wan i ddwedyd rhagor,
Mae fy llygaid yn trymhau, 
Ffarwel, ffarwel ’rwyf yn marw,
Ar y milwyr mae y bai.
Ffarwel i chwi, filwyr ffyddlon,
A fy holl ddarllenwyr cyson;
Gofid imi yw eich gadael.
Yn amddifad yn y rhyfel;
Cywilydd mawr i filwyr Cymru
Ydyw gadael i mi drengu;
Arwydd yw o ddiffyg cariad
Er lledaenu fy nghylchrediad;
Bychan ydoedd fy nghyfeillion,
Marw rwyf o nychdod calon;
Nid oes gennyf fawr o obaith
’R atgyfodaf eto eilwaith.
Colled iti fydd fy ngholli; 
Annwyl Gymru – eto gweli.

‘Ar waethaf anobaith y bardd,’ meddai Bill Parry, ‘cyhoeddwyd Gad Lef Gymraeg arall yng Nghaerdydd ar ôl troad y ganrif.’

Pregethu a Chanu yn y Ffair

Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 15, 1891, daeth Ben o Gybi (Ben Williams) – y bardd a chyfansoddwr y llinellau uchod – a oedd, erbyn hynny, yn un o swyddogion y Byddin yr Iachawdwriaeth, ar ymweliad â Phwllheli gan aros yn y dref dros y Sul. Fel hyn y mae Gwaed a Thân yn adrodd yr hanes:

“Tystiodd Ben, wedi gweld cymaint yn gwrando mewn cyfarfod awyr agored, ei fod yn bryderus ynglŷn â’r canu cynulleidfaol oherwydd fod y corfflu mor newydd ac ni wyddai faint o ganeuon a ddysgodd y milwyr newydd. Ond cafodd ei siomi ar yr ochr orau – yr oedd milwyr y gangen newydd yn ymddwyn fel petaent wedi eu magu yng ngwaith y Fyddin. Ffurfiwyd gorymdaith, gyda’r ‘band’ wrth gwrs (cornet a thympan ar y blaen) i fynd i’r barics erbyn wyth, ac, yn ôl arfer y dyddiau hynny, yr oedd y neuadd yn rhy fychan i ddal y rhai oedd am wrando. Symudwyd y chwaer, y Capten Vaughan, yno i arloesi gyda’r gwaith, gyda’r Is-Gapten Jones yn ei chynorthwyo. Mae’n amlwg mai profiad y Capten Vaughan fel arloeswraig oedd i gyfrif am y sefydlu sydyn a ddigwyddodd ym Mhwllheli.

Mae’r gyfrol, Gwaed a Thân yn adrodd ei bod ym mwriad Ben o Gybi i ymuno â chorfflu’r Fyddin ym Mangor ar gyfer y te mawreddog cyhoeddus oedd wedi cael ei drefnu yno ar y dydd Llun. Yn lle hynny, fodd bynnag, arhosodd Ben o Gybi i gael te ym Mhwllheli. Ymatebodd i gais y Capen Vaughan a’r Is-Gapten Jones i’w cynorthwyo hwy gyda rhagor o gyfarfodydd awyr agored, a chafodd y swyddogion gyfle, meddir, i bregethu ‘yng nghanol pob math o greaduriaid direswm, sef gwartheg, ceffylau a dynion meddw.’ Wrth gwrs, ’roedd hi’n ddiwrnod y ffair fawr ym Mhwllheli, a pheth newydd a dieithr i fynychwyr y ffair oedd gweld pobl yn ei lifrai yn pregethu a chanu caneuon Cristionogol ar ddiwrnod felly.

Adroddir fod, erbyn mis Mai’r flwyddyn honno, gymaint â 60 o filwyr yng nghorfflu’r dref. A dyfynnu Gwaed a Thân eto, “Brwydrai’r Fyddin yn galed yno. Yr oedd ‘batteries mawrion y diafol,’ sef y syrcas yn y dref yng nghanol mis Mehefin, ac yno eto, manteisiodd  y Fyddin ar y cyfle i gyhoeddi Iesu Grist. Fel gyda chorffluoedd eraill, deuai y ‘spesials’ o dro i dro i gynorthwyo. Daeth yr ‘Hogyn Mawr’ o Dalysarn ym mis Awst 1891. Trefnodd un o’r milwyr daith o Bwllheli i Feddgelert ddydd Llun gŵyl y banc, a’r ‘Hogyn Mawr’ oedd i arwain y daith honno. Aeth pump neu chwech o gerbydau yn llawn o filwyr o’r dref i gynnal cyfarfodydd awyr agored ym Meddgelert a Phorthmadog. Cludai un o’r milwyr faner y Fyddin i ddangos fod Byddin Gwaed a Thân ar gerdded. Dywedodd y brawd a gludai’r faner ei fod ef wedi ‘brwyddro dan faner ddu y diafol am flynyddoredd’ cyn ymuno â’r Fyddin.

Gadawodd swyddogion cyntaf gorfflu Pwllheli yn niwedd Hydref, a chafodd Agnes Clemant o Fangor ei hanfon i barhau’r gwaith yn y dref gyda’r Is-Gapten Williams yn ei chynorthwyo. Yn nes ymlaen, priododd Agnes ŵr o’r dref o’r enw Murray a oedd yn aelod o gorfflu’r Fyddin ym Mhwllheli.

Thomas Llewelyn Griffith

Prin y gellir sôn am Fyddin yr Iachawdwriaeth a’i gwaith ym Mhwllheli heb sôn am un a ddaeth yn ffigwr amlwg ynddi – er nad ym Mhwllheli y digwyddodd hynny. Ym Mhwllheli, serch hynny, y ganed Thomas Llewelyn Griffith, a hynny ym 1841. Un o Bwllheli hefyd oedd ei briod, Margareta Rybaina Jones. Bu’r ddau yn byw am gyfnod ym Manceinion, lle ganwyd eu plant: Mary, Eleanor, Robert, Richard a Margaret yn y 1870au. Ymddengys i’r ddiod feddwol ddod rhwng Thomas Llewelyn Griffith â’i briod, ac achosi iddo adael ei wraig a’i blant ym Manceinion a mynd i grwydro o gwmpas ardal y Rhondda gan chwarae ei grwth ar bob cyfle a gai. Cafodd waith yn chwarae ei grwth yn un o dai chwarae Cwm Rhondda, a bu’n lletya yn Nhafarn y Red Cow, yn Nhreorci.

  

The Red Cow, on High Street, Treorchy, which is now derelict

Tafarn y Red Cow yn Nhreorci, lle buThomas Llewelyn Griffith yn aros am gyfnod, a lle hefyd, gyda llaw, y bu Cor Meibion Treorci yn ymarfer gyntaf ym 1888

Tua’r un adeg, meddai Gwaed a Thân, . . . “daeth ffair wyllt hen ffasiwn i’r dref, yn llawn o arddangosfeydd drwg a phob math o wagedd y byd, yn ôl fel y tystiodd Mr. Griffith flynyddoedd yn ddweddarach. Pan ddaeth i’r ffair gwelodd Thomas Griffith gylch o filwyr Byddin yr Iachawdwriaeth yn pregethu ar y stryd. Gwrandawodd arnynt yn cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg fod Iesu Grist wedi marw yn ei le, ond credai ‘nad oeddynt ond bagad o grefyddwyr penboeth, tipyn ar goll efallai yn eu pennau.’ Penderfynodd nad â’i yn agos atynt wedyn. Tra oedd yn pendroni am y Fyddin daeth un o’r milwyr ato a’i wahodd i ddilyn yr orymdaith i’r neuadd ar ddiwedd y cyfarfod. Ond fe’i hystyriai ei hun yn rhy barchus i fynd gyda’r Fyddin er bod ganddo un sawdl esgid yn eisiau a bod ei droed drwy flaen yr esgid arall.”

Mae’n debyg iddo yn y cyfamser fod yn ymweld â nifer o dafarnau’r cylch, ond cyn hir clywodd gerddoriaeth y Fyddin drachefn. Yr oedd yn benderfynol nad oedd am fynd yn agos atynt. Arhosodd gyferbyn a’r milwyr gan roi cyfle iddynt fynd heibio. Ond fe’i dilynodd i’r neuadd, pan ddaeth milwr ato gan gydio ynddo a’i arwain ‘fel plentyn bach’ i fewn a’i roi i eistedd yno rhwng dau filwr ‘rhag ofn iddo ddianc allan.’Yno bu Thomas Llewelyn Griffithyn gwrando’n astud “nes anghofio’n llwyr am y tafarndai. Sylweddolodd y noson honno mai pechadur ydoedd, ac wedi iddo edifarhau ar ei liniau gerbron Duw, disgynnodd tân nefol i’w galon.”

Bu’r Uwchgapten David Davies, a dreuliodd gyfnod yn Aberystwyth cyn dod yn swyddog adran i Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaernarfon, yn adrodd hanes troedigaeth Thomas Llewelyn Griffith. “Gwelais dramp blêr, isel ei ysbryd,” meddai, “yn sefyll wrth gylch ein hoedfa awyr agored gyda’i focs ffidil.” Yr oedd angen crythor arnynt i ymuno â seindorf y Fyddin yn y Rhondda, a phan welodd Thomas Llewelyn Griffith a’i flwch ffidil, gwyddai mai ef oedd yr ateb i’w weddi. “Ar ddiwedd yr oedfa, dywdodd un o’r milwyr a eisteddai gyda Thomas, ‘Capten,nawr mae Thomas wedi ei achub, beth am y ffidil?’ Cyn i Thomas adael y neuadd y noson honno, cysegrodd y ffidil i wasanaeth Duw, a chafodd flas ar chwarae rhai o donau’r Fyddin.”

O ran crefft, saer oedd Thomas Llewelyn Griffith, ac wedi deall hynny, aeth milwyr y Fyddin yn Y Rhondda ati i gasglu offer a chelfi saer iddo.Trefnwyd hefyd i’w uno â’i wraig a’i blant. Tystiai’r Uwchgapten David Davies fod Thomas Llewelyn Griffith yn ysgolor da yn Gymraeg a Saesneg. Trefnwyd iddo fynd i Gartref Hyfforddi’r Fyddin yn niwedd 1883, a phrofodd ei hun yn swyddog effeithiol yn Abertawe o dan swyddog yr adran yno, Thomas B. Coombs erbyn mis Mai y flwyddyn wedyn. Bryd hynny, cafodd Coombs ei anfon i Ganada fel dirprwy i sefdlu gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yno. Arhosodd y Cymro o Bwllheli a gwnaeud ei waith yn raenus ac effeithiol yng Nghymru hyd fis Mai 1885, pan anfonwyd yntau hefyd i Ganada. Cyflawnai yno’r un gwaith ag a wnai yng Nghymru – defnyddio’i gerddoriaeth a dwyn ei dystilaeth.


Llun seindorf deithiol Thomas Llewelyn Griffith yng Nghanada.
Ef yw’r un gyda’r ffidil yn ei law. Ei fab, Richard, sy’n dal y corned.
Mae un o’i ferched o’r tu ôl iddo. Tynnwyd y llun ym 1888.
Trwy garedigrwydd Pencadlys Toronto, a’r Parchg. W.D. Parry.

Cyn bo hir, cafodd Thomas Llewelyn Griffithyntau ei ddyrchafu’n Uwchgapten. Pan ymwelodd y Cadfridog William Booth â Chanada fis Tachwedd 1886, roedd Thomas Llewelyn Griffith yn un o’r swyddogion a gyd-deithiai ag ef. Ymddangosodd ysgrif Gymraeg yn y War Cry o eiddo’r Cymro o Bwllheli lle dywedai: “Y mae gwlad a thref wedi codi fel un gŵr i dalu parch i’r hwn y mae Duw yn mynnu ei arddel a’i anrhydeddu, ac er mwyn ein Cymry uniaith, buddiol, fe ddichon, fyddai rhoi brasluniau o symudiadau ein Cadfridog . . .”  Ymddangosodd llythyr Cymraeg arall ganddo yn y War Cry ar 19 Chwefror, 1887, yn adrodd am lwyddiant y gwaith yng Nghanada, ac yn sôn fel y bu iddo gyfarfod â hen wraig uniaith Gymraeg oedd wedi byw yn y wlad ers rhai blynyddoedd, a bod pentref bach Cymraeg bryd hynny yn ymyl Richmond yn nhalaith Quebec. Adroddir fod Thomas Llewelyn Griffith wedi ennill gwobr am gerdd Gymraeg o dros ddeg mil o eiriau mewn Eisteddfod yn Efrog Newydd.

Mynd a Dod Y Fyddin ym Mhwllheli

Yn ôl Steven Spencer, Archifydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Byddin yr Iachawdwriaeth, nid oes ar gael adroddiadau llawn o’r cyfnod o waith y Fyddin ym Mhwllheli. Yr unig ddogfen sydd wedi goroesi yw’r ‘Llyfr Hanes’ sy’n cofnodi hanes yr hyn a ddigwyddodd rhwng 1937 a 1955. Dywed yr Archifydd i’r Fyddin ddechrau gweithio ym Mhwllheli fis Mawrth 1891, ond yr oedd ei gwaith yn y dref wedi dod i ben erbyn 1905, gan nad oes yr un cyfeiriad ati yn llyfrau’r Fyddin am y flwyddyn honno. Tystia’r ‘Llyfr Hanes,’ fodd bynnag, i’r Fyddin ail-ddechrau gweithio wedyn yn y dref ar 20 Mehefin 1937.

Croeso Dinesig Cyngor Tref Pwllheli

Ymddangosodd adroddiad mewn papur newydd dan y pennawd: CROESO DINESIG I FYDDIN YR IACHAWDWRIAETH. Ar Fehefin 20, 1937, meddai’r adroddiad, yr oedd pobl wedi gadael eu busnesau a ffermwyr wedi gadael eu marchnad ym Mhwllheli er mwyn cael mynychu cyfarfod i groesawu Byddin yr Iachawdwriaeth i’r dref. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y cyfarfod yn yr awyr agored, ond am ei bod yn bwrw’n drwm, cafodd ei gynnal yn Salem, Capel y Methodistiaid Calfinaidd. Roedd seindorf y Fyddin yn y sedd fawr.

Llywydd y cyfarfod oedd Maer y dref ar y pryd, Yr Henadur Dr. O. Wynne Griffiths, ac wrth estyn croeso dinesig i’r Fyddin ar ran Cyngor Tref Pwllheli, dywedodd iddo gael llawer o anrhydeddau yn ystod ei oes ond ei fod yn ystyried cael croesawu Byddin yr Iachawdwriaeth i Bwllheli ymysg yr anrhydedd fwyaf a’r anrhydedd fwyaf urddasol ohonynt. Roedd y Maer yn ystyried aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth fel y bobl fwyaf rhyfeddol a mwyaf optimistaidd yn y byd oedd yn ymladd yn erbyn yr ysbryd gwrth-Gristionogol oedd yn bod bryd hynny. Pan oedd yn fyfyriwr meddygol ifanc yn Llundain, meddai, yr oedd yn cofio’n dda am y cyn-filwr William Booth yn arwain y Fyddin - yn fintai fechan bryd hynny - drwy strydoedd Llundain. Dywedodd ei fod wedi bod yn meddwl am amrywiol luoedd yr Eglwys Gristionogol ac yn ystyried ym mha ddosbarth y dylid gosod Byddin yr Iachawdwriaeth. Tybiai eu bod yn debyg iawn i’r Llu Awyr Brenhinol yn cludo i bob cenedl ac i bob rhan o’r byd neges Ffydd, Gobaith a Chariad.

Cafodd y rhai a oedd yno eu gwahodd gan y Maer i ginio.

Jac Ben – un o filwyr Pwllheli

Un o filwyr y Fyddin ym Mhwllheli yn y cyfnod hwn oedd Jac Ben, a fu farw ddiwedd Mai, 1979, yn 77 mlwydd oed. Yn Adran Rhai o Enwogion Pwllheli, ar y wefan hon, mae Mr. Owen Roberts yn sôn amdano ac am ei gysylltiad â Byddin yr Iachawdwriaeth. Dyma fel y mae’n adrodd . . .

 

jac ben

Jac Ben

 

Bu Jac yn curo’r drwm mawr am flynyddoedd hefo Byddin yr Iachawdwriaeth, a Hanna ei chwaer hefo’r bocs hel pres. Byddai’n mynd rownd y tafarnau bob nos Sadwrn hefo’r bocs. “Sgynoch chi geiniog at Iesu Grist, ngwashi? Fysa ni ddim yma heblaw amdano fo!”

 


Dwyn y gwaith i ben ym Mhwllheli
Yn ôl Steven Spencer, archifydd y Fyddin, cael ei ‘gweithio’n lleol,’ fu hanes Byddin yr Iachawdwriaeth ym Mhwllheli o fis Tachwedd 1955 ymlaen. Ystyr hynny, meddai, oedd na chafodd unrhyw swyddog ei benodi i ofalu am y corfflu yn y dref wedi hynny, gan mai  swyddogion Byddin yr Iachawdwriaethyng Nghaernarfon (lle dechreuwyd gweithio ym mis Medi 1886) oedd yng ngofal y gwaith ym Mhwllheli. Y cyfeiriad olaf sydd ar gael gan y Fyddin am Bwllheli yw’r un am 1961, ac ymddengys yn debygol mai’r flwyddyn honno y daeth gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth i ben yn y dref.