YR EGLWYS FETHODISTAIDD (Wesleaidd)

 

John Wesley (1703 - 1791)

 John Wesley

Cafodd John Wesley ei eni ar 28 Mehefin 1703. Ef oedd pymthegfed plentyn Samuel a Susanna Wesley. Clerigwr o Epworth yn Swydd Lincoln oedd ei dad. Derbyniodd John ei addysg yn Llundain ac yn Rhydychen, lle graddiodd yn B.A., cyn dilyn traddodiad ei deulu a derbyn urddau eglwysig. Gwnaed ef yn ddiacon ym Medi 1725, a chafodd ei ordeinio ymhen tair blynedd. Gwnaed ef yn Gymrawd o Goleg Lincoln yn Rhydychen fis Mawrth 1826, ac yn diwtor yng Ngroeg y Testament Newydd yn ddiweddarach. Bu’n meddwl yn ddwys am faterion crefyddol a threuliodd oriau lawer mewn myfyrdod yn llyfrgell y coleg. Dechreuodd eraill, o feddylfryd tebyg, ymuno’n rheolaidd ag ef, a daethant i gael eu hadnabod fel ‘y Cylch Sanctaidd.’ Yn fuan, cynrychiolid ganddynt holl golegau gwahanol Rhydychen. Byddent yn astudio’r Ysgrythur, yn holi eu hunain, yn ymgymryd â gwaith elusengar, yn pregethu i garcharorion y ddinas. Ym 1732, bathwyd y term ‘Methodistiaid’ i ddisgrifio’r bobl hyn oedd yn cyd-gyfarfod yn Rhydychen.  

Ymunodd ei ddau frawd, Samuel a Charles, â John Wesley yn Rhydychen a dechreuodd Samuel yn arbennig bryderu am John. Pryderai ar gyfrif awydd ei frawd i gyrraedd perffeithrwydd fel Cristion. Dechreuodd rhai o ddarlithwyr y coleg fod yn feirniadol ohono wrth siarad am sect y Methodistiaid. Fis Mawrth 1733, ymosodwyd arno gan dyrfa wrth byrth y coleg. Ym 1735, penderfynodd fynd yn genhadwr, a hwyliodd yng nghwmni ei frawd, Charles, i’r America, ond fu ei genhadaeth yno ddim yn llwyddiant. Dechreuodd bregethu “iachawdwriaeth drwy ffydd yn unig” yn hytrach nag “iachawdwriaeth drwy gyfiawnder a gweithredoedd da.”

Bu John Wesley’n gweithio’n galed ac yn pregethu mewn llawer man yn ei ymgais i ail-fywiogi’r Eglwys. Canolodd ei ymdrechion yn ardaloedd Bryste a Chaerfaddon, ond bu’n teithio i  ble bynnag y byddai rhywrai’n fodlon gwrando arno. Dywedodd ei fod ‘yn edrych ar y byd i gyd fel ei blwyf.’' Byddai tyrfaoedd mawr - hyd at 20,000 - yn ymgynnull i’w wrando’n pregethu, yn efengylu, ac yn arwin rhywrai i argyhoeddiad. Ar brydiau, byddai’n tramgwyddo yn erbyn clerigwyr trwy bregethu yn eu plwyfi.

Nid pregethu yn unig y byddai. Dechreuodd gyfansoddi emynau. Ymddiddorai mewn iacháu pobl: sefydlodd glinigau gan fod y cyntaf i ddefnyddio trydan i ddibenion meddygol.

Wedi bod yn gyfeillgar am flynyddoedd â nifer o wragedd gwahanol, a chael ei wrthod ambell waith, o’r diwedd, ym mis Chwefror 1751, priododd â Molly Vazeille, gwraig weddw gefnog bedwar deg dwy mlwydd oed. Wrth briodi, collodd yr hawl i fod yn Gymrawd yng Ngholeg Lincoln, gan na dderbynnid gwŷr priod yn Gymrodyr yno bryd hynny. Doedd dim llawer o gariad yn y berthynas rhyngddo â’i wraig, a chan ei fod cymaint oddi cartref, nid oedd yr un o’r ddau yn rhyw ddedwydd iawn eu byd yn eu perthynas briodasol.
Ymdrechodd John Wesley yn ystod y blynyddoedd nesaf i gryfhau seilau’r mudiad Methodistaidd rhag iddo ddiflannu wedi ei farwolaeth ef. Dichon iddo gael ei ysbarduno i wneud hynny wedi iddo gael adferiad iechyd o’r ddarfodedigaeth a’i blinodd pan oedd yn 51 mlwydd oed. Parhaodd i deithio gan fynd mor bell â’r Iwerddon.

Ym 1781, bu Molly, ei briod, farw, ond nid aeth John Wesley i’w hangladd, gan nad oedd pethau’n dda rhyngddynt. Dair blynedd wedyn, ac yntau’n 81 mlwydd oed, profodd John Wesley ei lwyddiant mawr mewn perthynas â dyfodol Methodistiaeth. Arwyddodd ddatganiad oedd yn glygu fod gan ‘Gynhadledd y Bobl a elwid yn Fethodistiaid’ 100 o bregethwyr cyfreithiol cydnabyddedig. Tua diwedd y 1780au, bu dirywiad yng nghyflwr ei iechyd, ond parhaodd i bregethu hyd 1791. Ar Fawrth 2 y flwyddyn honno, bu farw yn 88 oed.
Roedd gan John Wesley bersonoliaeth gref, a thrwy ei ddycnwch a’i ymroddiad llwyddodd i newid meddwl pobl am Gristionogaeth. Bu’n gyfrwng i hau hadau enwad newydd, a thyfodd yr Eglwys Fethodistaidd o fod yn ddim ond cymdeithas fechan i’r llu capeli a welwyd yn ystod y blynyddoedd. Ef a blannodd hadau’r Eglwys Fethodistaidd a oedd i ffynnu a chynyddu drwy wledydd Prydain a thros lawer rhan o’r byd  yn y blynyddoedd a oedd i ddilyn.

YR EGLWYS FETHODISTAIDD (WESLEAIDD) YM MHWLLHELI
Mae’r Athro R.T. Jenkins yn y Bywgraffiadur Cymreig yn sôn am John Hughes (1776 - 1843), gweinidog Wesleaidd a hynafiaethydd, a aned yn Aberhonddu ar 18 Mai, 1776, yn fab i William Hughes, hetiwr. Ac yntau yn ysgol Coleg Crist yn Aberhonddu ym 1790, clywodd John Wesley yn siarad mewn seiat yr oedd ei dad, William Hughes, yn aelod ohoni. Yr oedd Wesleaid Saesneg Aberhonddu’n bobl go dda eu byd yr adeg honno, a phan amlygodd John Hughes ei awydd i ymuno â’r Wesleaid, gwnai hynny yn gwbl groes i ewyllys a dymuniad ei dad, a oedd mor awyddus i weld ei fab yn derbyn urddau eglwysig. Erbyn 1796, yr oedd John Hughes yn un o gynghorwyr y Wesleaid. Ym 1800, cafodd ei anfon gan y Gynhadledd Fethodistaidd ar genhadaeth Gymraeg i Ogledd Cymru, a phan gofir mai ‘dyn llyfrau’ oedd John Hughes yn bennaf, ac na fu erioed yn ‘bregethwr hwyliog,’ ac nad oedd ychwaith yn rhy rugl ei Gymraeg, bu ei genhadaeth yng Ngogledd Cymru yn un dra llwyddiannus.

John Hughes  Y Parchg. JOHN HUGHES, Aberhonddu
  (1776 - 1843)

Mae W. Arvon Roberts yn adrodd i John Hughes, y gŵr ifanc 26 mlwydd oed o Aberhonddu, ar y daith genhadol honno i Ogledd Cymru ymweld â Phwllheli ar 20 Ionawr 1802, ac mai ef oedd y cenhadwr Wesleaidd cyntaf i ymweld â’r dref. Yr ymweliad hwnnw oedd ei ymweliad cyntaf â Phwllheli, ac mae’n disgrifio Pwllheli (a Nefyn) fel “dau le gwledig di-gysur.” Pregethodd John Hughes i gynulleidfa dda mewn ystafell yng nghefn tafarn y Red Lion (fel yr oedd bryd hynny) Penlan Fawr yn ôl yr enw sydd arni heddiw, ac ym muarth gwesty’r Crown yn y Stryd Fawr.

Red lion
Yr hen Red Lion, neu’r Penlan Fawr (fel y mae heddiw) - tafarn ac adeilad hynaf Pwllheli (llun Ioan W. Gruffydd)


Crown Hotel

 

Gwesty’r Crown( llun Ioan W. Gruffydd)

 

 

 

John bryan

Y Parchedig. John Bryan, Llanfyllin (1770 – 1856)
Yn yr un cyfnod, daeth rhai o weinidogion amlycafl y Wesleaid i Bwllheli. Ymwelodd John Bryan, brodor o Lanfyllin, â Phwllheli, a bu yntau’n pregethu i’r gynulleidfa a oedd wedi ymgynnull ym muarth Gwesty’r Crown yn y Stryd Fawr. Yn niwedd Chwefror, yr un flwyddyn, daeth Edward Jones (1778 – 1837), Bathafarn, Rhuthun, a’i gefnder, John Maurice (a fu farw ym 1842), Llanfair Dyffryn Clwyd. Buont hwythau’n pregethu yn Ystafell Gynnull Penlan Fawr, lle cafwyd, yn ôl pob adroddiad, oedfa dra rhagorol. Yn dilyn yr oedfa honno, trefnodd Edward Jones i rywrai arwyddo’u dymuniad i ymuno â’r Wesleaid, a ffurfio cymdeithas o Fethodistiaid Wesleaidd yn y dref. Wedi hynny, dechreuwyd pregethu’n rheolaidd gan y Wesleaid ym Mhwllheli.
 

Edward Jones

Y Parchedig Edward Jones (1778 – 1837), Bathafarn, Rhuthun

Y Bragdy Main yn fan cyfarfod
Yr oedd angen man cyfarfod ar Wesleaid cyntaf Pwllheli cyn bod sôn am godi capel. Cawsant fan i gyfarfod yn Y Bragdy Main, Y Traeth, Pwllheli. Ymysg yr aelodau cyntaf a gyfarfyddai yno, yr oedd Capten William Davies (blaenor cynta’r enwad yn y dref); John Hughes, criwr y dref; Owen Roberts, Glanmorfa; Griffith Owen, y gof, a Mary, ei wraig; Elizabeth Ellis, Richard William Luke a John Goodman. Yn ddiweddarach, ymunodd Catherine James, Owen Williams (swyddog tollau, a roddodd 30 mlynedd o wasanaethu i’r achos cyn ei farw yn 84 mlwydd oed ym mis Chwefror 1853), David Roberts (linwr), Ellis Jones, William Jones, Griffith Lake, (a oedd yn byw yn Efailnewydd, ac a fu farw ym mis Mehefin 1816), John Williams, Bryn Caled, Aberdaron (a ddaeth yn bregethwr cynorthwyol, ac a oedd yn daid ar ochr ei fam i Ioan Glan Menai); Mrs. Griffith (priod Mr. Griffith, y cyfreithiwr), Jannett Roberts, Tanrallt, a Jane Ellis. Merch Penlan Fawr oedd Jane, a daeth yn wraig i’r Parchg. William Evans (1779 – 1854) – brodor o Gaernarfon, a fu’n Arolygwr Cylchdaith Wesleaidd Pwllheli o 1810 hyd 1812, ac o 1826 hyd 1828. Priodasant yn Eglwys Deneio, ym Mhwllheli, ar 25 Mehefin, 1811, a chawsant wyth o blant, a chwech ohonynt yn feibion.

Codi’r Capel Wesla cyntaf Pwllheli
Lle oer iawn, yn arbennig felly ym misoedd y gaeaf, oedd y Bragdy Main yn Y Traeth, lle buwyd yn cyfarfod, a lle digon di-gysur hefyd. Yr oedd yn amlwg ei bod yn bryd i godi capel i ffyddloniaid yr Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd ym Mhwllheli. Cafodd darn o dir, gardd a gweithdy ei brynu i adeiladu capel arno. Yr oedd ei safle gyferbyn â Phenlan Fawr, i lawr yr adwy yng nghefn Siop Tonnau heddiw. Talwyd £30 amdano. Mesurai’r capel 37 troedfedd wrth 25 troedfedd.                                                                                                                                                                                                                                 
Capel Wesla

Capel Wesla cyntaf Pwllheli a arferai fod yn Stryd Wesla heddiw

Nid ar y llecyn hwnnw, a gafodd ei alw’n ddiweddarach yn Stryd Wesla, y bwriedid codi capel yn wreiddiol, ond ar lain o dir rhwng Plas-y-Ward a’r Ala Uchaf. Methiant fu’r bwriad i brynu’r llain tir hwnnw. Cafodd y capel cyntaf ei agor yn niwedd 1805, a daeth y Parchgn. Owen Davies, John Bryan ac Edward Jones yno i bregethu ar yr achlysur. Ysgrifennodd W. Arvon Roberts fod gan yr hen gapel ddrws yn ei ochr, ac oriel ar un talcen iddo, a’i fod yn gapel hawdd siarad a gwrando ynddo. Yr oedd ymysg yr aelodau amryw o deuluoedd parchus y dref. Dywed D.G. Lloyd Hughes yn Hanes Tref Pwllheli fod Llyfr Cylchdaith Pwllheli 1810 – 1815 yn dangos mai 45 o aelodau oedd gan y Wesleaid ym Mhwllheli ym 1810, ond dim ond 25 ym 1814, ‘cwymp go sydyn, beth bynnag oedd yr achos.’

 Adeiladu Capel Seion yn Lôn Dywod

Ym 1859, pan oedd y Parchg. John Evans (Iota Eta) yn Arolygwr Cylchdaith y Wesleaid, bu trafod y bwriad o godi capel newydd. Sicrhawyd tir mewn man manteisiol, ond wynebwyd anhawster i werthu’r hen gapel a’r tai a oedd yn perthyn iddo, ac ni lwyddwyd i sicrhau’r swm a ddisgwylid o’r gwerthiant hwnnw.

 

Capel Seion

Capel Seion, Lôn Dywod (fel yr oedd cyn ei ddymchwel)

Adeilawyd Capel Seion yn Lôn Dywod, Pwllheli, ym 1860. Codwyd ysgoldy helaeth ac ystafelloedd eraill ym 1907 – 08.

David J. Williams

David J. Williams, Myrtle House, 32 Ffordd y Maer, Pwllheli


CRIWR TREF PWLLHELI

Brodor o Lanbedrog yn wreiddiol
Wesle selog a blaenor

 

Erbyn blynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif, bu’n rhaid i’r eglwys wynebu llu o broblemau ynghylch cyflwr adeilad y capel. Gwnaed penderfyniad ym 1980 i werthu’r capel neu i’w dynnu i lawr ar gyfrif ei gyflwr a’r gost o’i gynnal. A rhif yr aelodaeth yn 100 ym 1982, adroddwyd fod cyflwr y capel yn dirywio o ddydd i ddydd, a’r costau’n anferth i’w atgyweirio. Teimlid ym 1983, fod y pris a ofynnid am y capel yn rhy uchel. Ym 1984, cadarnhawyd fod gwerthiant y capel wedi ei gwblhau. Ym 1985, dechreuwyd y gwaith o addasu’r festri yn gapel, ac agorwyd y festri ar ei newydd wedd yn swyddogol ar nos Wener, Medi 27, 1985. Cafodd 200 o bamffledi eu hargraffu gogyfer â’r achlysur, a chaed lluniaeth i’r rhai a wahoddwyd yn y festri fach.

 

Capel Seion

 

Erbyn 1991, adroddwyd fod cyflwr yr organ yn ddrwg ac y golygai ei hadfer gryn gostau. Cafwyd organ drydan i gymryd lle’r hen un, a chafodd Mrs. Elzabeth D. Owen a Mrs. Morfudd Thomas gyfle i’w chwarae a chael eu boddhau ynddi.

Elizabeth Owen  l

Tri o organyddion Seion:
O’r chwith – Mrs. Elizabeth D. Owen, Miss. Valerie Williams, M.Sc., M.Add,  a Dr. Osian Ellis

 

1991 Organ Pwllheli

Yr organ a oedd yn newydd ym 1991

Rhai o Weinidogion Wesleaidd Pwllheli

Ar gyfrif trefn y Wesleaid o symud eu gweinidogion yn rheolaidd rhwng yr eglwysi a’r cylchdeithiau gwahanol, bu gan Wesleaid Pwllheli restr hir – llawer hrach nag eglwysi eraill y dref - o weinidogion gwahanol, a gwelwyd rhai ohonynt yn dychwelyd ragor nag unwaith i ofalaeth yr eglwys.

William Evans [1779 – 1854]

William Evans

Y Parchedig WILLIAM EVANS

Ganed William Evans yng Nghaernarfon ar 25, Hydref 1779. Llongwr oedd ei dad er na welsai ei fab erioed mohono gan i’w dad, Thomas Evans, farw yn Falmouth, Cernyw, yn dilyn mordaith o India’r Gorllewin. Yn dilyn erbyn addysg dda, disgwylid iddo ddilyn ei frawd fel cyllidydd. Ond nid felly: mynd yn farbwr a wnaeth. Ymunodd â’r Wesleaid fis Ionawr 1802. Dioddefodd o’r dwymyn. Tua diwedd 1804, symudodd i fyw i Amlwch. Dechreuodd bregethu ym 1805. Bu’n cenhadu yng Nghaerdydd cyn cael ei benodi’n Arolygwr Cylchdaith Pwllheli ym 1810, lle bu am ddwy flynedd. Dychwelodd i Bwllheli ym 1826, am ddwy flynedd arall. Ar 25 Mehefin, 1811, priododd â Miss. Jane Davies, Caernarfon, yn Eglwys Deneio, Pwllheli.  Cawsant chwe mab a dwy ferch. Ac yntau yng Nghylchdaith Machynlleth ym 1821, cyhoeddodd lyfr yn amddiffyn yr athrawiaethau Wesleaidd yn wyneb gwrthwynebiad y Parchg. John Roberts, Llanbrynmair. Bu’n olygydd Yr Eurgrawn. Bu farw ym Machynlleth 30 Gorffennaf 1854, yn 74 mlwydd oed.

William Batten (1779 – 1804)

William Batten

 Y Parchedig William Batten

Ganed yn Ninbych ym 1779. Argygoeddwyd gan bregethu‘r Parchg.John Bryan, Llanfyllin. Yn ôl ei ferch, “aeth adref o’r oedfa yn syrthio ar ei liniau yng nghonglau’r heolydd i lefain am drugaredd.” Dechreuodd bregethu tua 1803. Traddododd ei bregeth brawf yn Ninbych, a dywedir fod Twm o’r Nant yn y gynulleidfa. Bu’n gwasanaethu fel pregethwr cynorthwyol am ysbaid, cyn cael ei alw, yng Nghynhadledd 1804. i ofalu am lu o gylchdeithiau gwahanol dros y blynyddoedd. Pan gafodd Cymru ei rhannu’n ddwy dalaith ym 1828, penodwyd William Batten yn gadeirydd Talaith y Gogledd, a bu’n gadeirydd am bedair blynedd. Bu ym Mhwllheli ym 1842. Ym 1843, aeth ar restr yr uwchrifiaid, ar ôl gweinidogaethu am 39 mlynedd. Bu farw yn Llansantffraid-ym-Mechain ar 1 Medi 1864, yn 86 mlwydd oed.

 

Edmund Evans [1791 – 1864]

Edmund Evans

 Y Parchedig Edmund Evans

Ganed Edmund Evans (‘Utgorn Meirion,’ fel y gelwid ef) yn Aberdeunant, Llandecwyn, ger Talsarnau, ar 9 Gorffennaf, 1791 - y flwyddyn y bu farw John Wesley a William Williams, Pantycelyn. Cyfrifid ef yn un o ‘hoelion wyth’ ei dydd, a byddai lluoedd yn ei ddilyn i wrando arno’n pregethu. Crwydrodd yn eang. Bu’n casglu arian i leihau dyledion eglwysi. Mae ei Ddyddiadur manwl ynghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle mae’n sôn, ymysg pethau eraill, am ei ymweliad yng ngharchar â Richard Lewis (Dic  Penderyn), y gŵr ifanc 23 mlwydd oed a grogwyd ar gam yng Ngharchar Caerdydd yng ngŵydd y cyhoedd am wyth o'r gloch ddydd Sadwrn, 13 Awst 1831. Aethai pedwar gweinidog Wesleaidd, Edmund Evans a William Rowlands (‘ Gwilym Lleyn’) yn eu plith, a threulio peth amser gyda Dic Penderyn, cyn cyd-gerdded gydag ef i’r fan lle cafodd ei grogi. Ymhlith disgynyddion Edmund Evans yr oedd y diweddar Barchg. Tecwyn Jones, Caergybi, a’r diweddar Mr. R.E. Hughes, a fu’n brifathro Ysgol Ramadeg Pwllheli: tad Mrs. Arial Thomas, a thaid y nofelydd a’r brotestwraig iaith Angharad Thomas.

Gan fod y Parchg.William Batten (1779 – 1864), a benodwyd i Gylchdaith Pwllheli yng Nghynhadledd 1842, yn mynd ymlaen mewn oedran, gwelwyd bod angen cymorth arno. Yr oedd Cylchdaith Abermaw, lle gwasanaethai Edmund Evans ar y pryd, mewn sefyllfa nid annhebyg ac angen galw am ail-weinidog. Yn wyneb hynny, teimlai Edmund Evans yn rhydd i fynd fel ail-weinidog i Bwllheli. Teuliodd flwyddyn gyfan yn y dref o 1843 i 1844. Buasai ym Mhwllheli cyn hynny hefyd ym 1830 -31. Bu farw Edmund Evans 9 Hydref, 1864. a’i gladdu ym mynwent Soar, Talsarnau. Ar gistfen syml ei fedd, mae’r geiriau: ‘Coffa am Edmund Evans, pregethwr cynorthwyol, pregethodd dros 13,000 o weithiau yn ystod 46 o flynyddoedd . . . a bu farw yn yr Arglwydd . . . yn 73 mlwydd oed.’

William Rowlands [Gwilym Lleyn) (1802 – 1865)

William Rowlands

Y Parchedig William Rowlands (Gwilym Lleyn) 

Ganed yn Llety, Bryncroes, 24 Awst, 1802, yr hynaf o chwech o blant. Symudodd ei rieni, Thomas ac Eleanor Thomas, o Fryncroes i Sarn Meyllteyrn, Llŷn, pan oedd ef yn ifanc. Wedi bod yn ysgolion Bryncroes a Botwnnog, aeth i ddilyn ei dad fel gwehydd. Methodistiaid Calfinaidd pybyr oedd ei rieni, a phan symudodd y teulu o Benrhyn Llŷn i ardal Bangor, a byw yng Nghaerhun, codwyd y tad yn flaenor yng Nghapel M.C. Caerhun. Aeth Gwilym Lleyn i Fôn i geisio gwaith, a dod wedyn i Dregarth, ger Bethesda, i weithio fel gwehydd. Roedd Wesleaeth Gymraeg wedi gwreiddio’n ddwfn yn ardal Tregarth, a bu hynny’n ddylanwad ar y gŵr ifanc a symudasai yno i weithio. Dechreuodd bregethu gyda’r Wesleaid. Bu’n gwasanaethu mewn cylchdeithiau gwahanol, a bu ym Mhwllheli ym 1835 – 37. Bu farw yn 63 mlwydd oed yng Nghroesoswallt ar 21 Mawrth, 1865. Caiff ei gofio’n bennaf ar gyfrif ei gyfrol, ‘Llyfryddiaeth y Cymry,’ a gyhoeddwyd bedair blynedd ar ôl ei farw. Rhestr fanwl o lyfrau am Gymru a’i phobl yw’r gwaith o 1546 hyd 1800.

Evan Richards (1817 – 1873)

Evan Richards

Y Parchedig Evan Richards

Ym Mhwllheli y cafodd ei eni ar 13 Mai, 1817, mewn cartref a oedd yn agos i’r llecyn lle safai yr hen Gapel Wesla yn Stryd Penlan. Ef oedd yr hynaf o ddeuddeg o blant – chwech bachgen a chwech merch – a aned i John a Catherine Richards. Bu Martha, un o’i chwiorydd, farw yn bedair oed. Yn niwedd 1829, aethai Evan Richards, yn dair ar ddeg oed, i Gyfarfod Chwarter a Chyfarfod Cenhadol a gynhaliai’r Wesleaid yn Nefyn. Cafodd pregethu’r Parchg. William Powell yno gryn ddylanwad arno, fel y cafodd pregethu’r Parchg. Evan Hughes ym Mhwllheli’r Sul dilynol. Mae W. Arvon Roberts yn dyfynnu geiriau William Davies, (a fu farw ym 1913) brodor o Nefyn a oedd yn cadw siop haearnwerthwr ym Mhwllheli: “Yr oedd yna ystabl a gardd yn ymyl yr hen ngapel, a llawer gwaith y clywyd Evan yn gweddïo yn y naill neu’r llall o’r lleoedd hynny: nid oedd yn tybio fod neb ond ei Dad Nefol yn gwybod am yr ymweliadau hyn gan mor ddirgel oeddynt. Ond byddai ei daerni o flaen yr orsedd, ynghyd â chyflenwad ei lestr, yn aml yn mynd â’i feddwl mor llwyr nes anghofio’i hun, a’r fan lle’r oedd; ac felly, tynnid sylw’r cymdogion, a byddent yn dod i wrando ar ei ymbiliadau taer gyda Duw.” Yn fuan iawn, yn ôl Mr. Davies, aethai’r sôn drwy dref a gwlad am fachgen John Richards fel “gweddiwr.” Yn dilyn ei dderbyn fel aelod eglwysig, cafodd waith fel tunblatiwr gyda haearnwerthwr ym Mhwllheli. Codwyd ef yn flaenor ym Mhwllheli ac yntau tua phymtheg oed. Adroddir am ei arfer yn cerdded ar brynhawniau Sul i Lanbedrog (yn fynnych heb ginio) yng nghwmni dau arall - Joseph Roberts ac Ellis Evans – i sefydlu Ysgol Sul yno. Ymhen y rhawg, dechreuodd bregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf mewn Gwylnos yn Llanbedrog. Cerddai filltiroedd lawer i bregethu ar y Suliau gan gyrraedd adref yn hwyr nos Sul mewn pryd i ddechrau gweithio am chwech fore Llun. Derbyniwyd fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Rhoddodd wasanaeth mewn amrywiol gylchoedd – Machynlleth, Merthyr Tudful, Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Tyddewi, Llanidloes ymysg mannau eraill. Priododd ar 19 Awst, 1845, yng Nghaerfyrddin ag unig ferch y Parchg.Griffith Hughes, Llannor. Bu ei briod farw ym m1857. Priododd eilwaith â gwraig o Aberdâr Bu farw ar ddydd ei ben blwydd, Mai13, 1873. Mae ei fedd ym mynwent Cefncoedycymer. 

Thomas Griffith Pugh (1834 – 1894)

Thomas Pugh

 Y Parchedig Thomas Griffith Pugh

Brodor o Lanelwy. Dechreuodd fel gweinidog yng Nghaergybi, ac wedi hynny mewn amryw o ardaloedd. Yr oedd ym Mhwllheli ym 1882. Wrth fynd i’w gyhoeddiad un Sul yn nechrau 1893 syrthiodd ar y rhew a chael cryn niwed. Rhoes ei waith fel gweinidog i fyny am flwyddyn, a symudodd i fyw i Bwllheli. Ymhen ysbaid, dechreuodd bregethu’n achlysurol. Bu farw ym Mhwllheli 5 Awst, 1894. Claddwyd gyda’i briod yn Llansilin, lle cludwyd ei gorff ar y tren o Bwllheli.

John Owen Parry (1860 – 1901)

John Owen Parry

Y Parchedig John Owen Parry

Ganed ym Mhen-y-bont, Llanelidan, Dinbych, 23 Tachwedd, 1860, yn fab i Robert a Jane Parry. Bedyddiwr oedd ei dad a fu farw’n ifanc, a’i fam o deulu o Wesleaid amlwg. Ac yntau’n go ifanc, symudodd y teulu i fyw i Dywyn, Meirionnydd. Yno y treuliodd ei fachgendod a derbyn ei addysg gynnar. Ym 1883, symudodd i Fanceinion, ac yno y dechreuodd bregethu. Aeth i Goleg Didsbury, gan gwblhau ei gwrs fis Mehefin, 1890. Daeth i Bwllheli yn Nhachwedd, 1890, i gyd-lafurio â’r Parchg. Grifith Jones, Aberdaron. Pwllheli oedd ei faes rheolaidd cyntaf fel gweinidog, a lle bu hyd fis Mawrth, 1891, pan symudodd i Ddolgellau ac i nifer  gylchoedd eraill. Treuliodd dair bynedd olaf ei oes yn byw yn Nhywyn. Bu farw 21 Tachwedd, 1901. Mae ei fedd ym Mynwent Gyhoeddus Tywyn.

Robert Lewis (1844 – 1931)

Robert Lewis

 Y Parchedig Robert Lewis

Ganed yn Yr Wyddgrug ar 31 Rhagfyr, 1844, yn un o wyth o blant Edward a Hannah Lewis. Bu dau frawd iddo’n bregethwyr cynorthwyol gyda’r Wesleaid. Prin oedd y  manteision addysgol a gafodd. Gadwodd yr ysgol yn ddeg oed i fynd i weithio mewn melin gotwm yn ei dref enedigol. Cydoesai yno â’r nofelydd, Daniel Owen, a bu’r ddau’n gyfeillion mynwesol am flynyddoedd. Dechreuodd bregethu ym 1859 – blwyddyn torri Diwygiad Humphrey Jones.Testun ei bregeth gyntaf oedd, “Gwyn eu byd y rhai pur o galon.” Treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn y ffatri gotwm, cyn symud i Lerpwl, a bu yno  hyd 1867, pan alwyd ef i Borthaethwy i fod yn was cylchdaith. Ym 1870, daeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Ym 1872, penodwyd ef yn Genhadwr Cartref i Stockton-on-Tees a Witton Park. Cafodd ei ordeinio ym 1874 yn Camborne. Mis Mai’r flwyddyn honno, priododd Miss. Dorothy Lloyd Williams, merch i weinidog, a chwaer i weinidog a fu’n genhadwr yn Ne Affrica. Cawsant chwech o blant, tri bachen a thair merch. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn amryw o gylchdeithiau. Bu ym Mhwllheli ym 1907 – 08. Bu farw yn ei gartref yn Llanbrynmair ar 21 Ebrill, 1931, yn 85 mlwydd oed, a bu farw’i briod hithau ar 3 Mawrth y flwyddyn wedyn. Mae eu bedd ym mynwent Yr Hen Gapel, yn Llanbrynmair.

Tudor Davies (1923 – 2010) 

Capel Wesla

 Capel Wesla, Gwyddelwern

Brodor o Wyddelwern, Meirionnydd, ydoedd ac wedi ei fagu ar fferm Ty’n Llechwedd. Ysgrifennodd Elfyn Pritchard amdano mai “aros adref i ffermio oedd ei dynged yn ifanc gan i’w dad farw yn gynamserol a Tudor newydd ennill ysgoloriaethi fynd i Ysgol Ramadeg – Ysgol Tŷ Tan Domen, yn Y Bala. Yn ogystal â gofalu am y fferm, roedd gan y teulu hefyd fusnes glo, ac mae gennyf gof plentyn am Tudor,” meddai Elfyn Pritchard, “yn dod efo’r gaseg a’r drol i gyflenwi glo i’r ysgol . . . Cofiaf mor araf ei cherddediad oedd y gaseg, ond ni thrawodd Tudor erioed y ffrwyn ar ei chefn i’w chyflymu.” Trodd ei gefn ar ffarmio pan ddaeth yr Air Ryfel Byd i ben gan droi ei wyneb i gyfeiriad y weinidogaeth. Cafodd hyfforddiant yng Ngholeg Diwinyddol Wandsworth ym Mirmingham. Cafodd ei ordeinio ym 1952. Bu’n weinidog mewn sawl man, ac yn eu plith, ym Mhwllheli ym 1960 -63. Daeth i amlygrwydd fel bardd ac emynydd nodedig; enillodd yn y Genedlaethol, a bu’n feirniad yn yr Eisteddfod honno hefyd. Ef yw awdur yr emyn, “Cofia’r newynog, Nefol Dad.” Yr oedd yn Gymrawd o Gymdeithas Emynau Cymru. Yr oedd yn briod â Morfudd Davies, a ganwyd iddynt fab a merch. Ymddeolodd i Lanrhystud, ac i Aberystwyth wedi hyny. Bu farw yn 2010.

Alun Wyn Francis, B.A.

Ganed yn Llanfair Caereinion, Powys, yn fab i Ezeciel ac Elizabeth Francis. Daeth yn aelod yng Nghapel Gwynfa, Llanfair Caereinion. Bu’n gweithio am ysbaid ar fferm ei dad, gan ddod yn blygwr gwrych heb ei ail. Ym 1947, derbyniwyd yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Rhwng 1947 a 1949, bu yn Rhosllanerchrugog. Yna’n fyfyriwr yng Ngholeg Diwinyddol ei enwad yn Headingley o 1949 i 1952, lle graddiodd yn B.A. Cafodd ei ordeinio ym 1953. Gwasanaethodd mewn cylchdeithiau gwahanol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Pwllheli ym 1965 – 70. Dyma fel y mae W. Arvon Roberts yn ysgrifennu amdano: “Yr  oedd Alun Francis, o ran corff, yn dal a lluniaidd ac yn hardd o wedd. Meddai ar lais bariton persain. Wrth wrando a sylwi arno yn ei bulpud, yr oedd y gynulleidfa’n ymwybodol mai gŵr wedi ei baratoi ei hun a’i wasanaeth yn ddwys a gofalus oedd yn eu harwain. Roedd urddas a threfn i’r holl wasanaeth, a sylwedd yr Efengyl yn y bregeth. Rhagorai fel gweinyddwr. Bu’n Ysgrifennydd Cynorthwyol Ail Dalaith Gogledd Cymru (1962 – 1974),yn Ysgrifennydd Cynorthwyol y Gymanfa Gymreig (1964 – 1974), yn Ysgrifennydd Cynorthwyol Talaith Cymru (1974 – 1980). Ni chyfyngodd ei weithgarwch i’w eglwys ei hun, oblegid gŵr eciwmenaidd oedd o anian ac argyhoeddiad. Dyheai am weld undod gweledig yr Eglws a gweithiodd i hyrwyddo hynny yn genedlaethol a lleol. Bu’n aelod o Gyngor a Phwyllgor Gwaith Cyngor Eglwysi Cymru am flynyddoedd, ac yn Is-Lywydd y Cyngor hwnnw am ddwy flynedd. Gwnaeth waith da fel Ysgrifennydd Cymru i Grist.” Yn 58 mlwydd oed, bu farw 30 Gorffennaf, 1981.

Griffith Thomas Roberts, M.A., B.D. (1912 1991)

Griffith Thomas Roberts

 Y Parchedig Griffith Thomas Roberts, M.A., B.D.

Ganed 7 Rhagfyr, 1912, yn Nhŷ Capel Tyddyn, Bryncroes, yn fab Ellis a Sophia Mary Roberts. Ym 1923, symudodd y teulu i fyw i Gongl-y-Meinciau, Botwnnog. Cafodd ei addysg elfennol ym Mryncroes, ac wedyn yn Ysgol Eglwys, Botwnnog, lle dysgid y Catecism a’r Credo. Bu yn Ysgol Ramadeg Botwnnog hyd 1930, pan gafodd ei dderbyn fel ymgeisydd am y weinidogaeth, a mynd i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor, lle graddiodd yn B.A. yn y Gymraeg ym 1933. Yna cafodd ei M.A. am ‘Astudiaeth o Fywyd a Gwaith Peter Bailey Williams,’ ym 1935. Treuliodd dair blynedd yng Ngholeg Diwinyddol Headingley, Leeds, lle’r enillodd y radd B.D. (Llundain). Cafodd ei ordeinio ym 1940. Treuliodd ei fywyd cyfan yng Ngogledd Cymru, ar wahan i ddwy flynedd (1943 -45) yn Aberystwyth. Maes ei ymchwil fel ysgolhaig oedd y ddeunawfed ganrif, ac yn arbennig hanes mudiad John Wesley yng Nghymru yn y ganrif honno. Daeth Cymru gyfan i’w adnabod fel Ysgrifennydd Cyd-Bwyllgor Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Traddododd Ddarlith Flynyddol Llŷn ym 1979 ar y testun, Pan Oeddwn Fachgen. Rhwng 1975 a 1978, bu’n gofalu am Seion, Pwllheli. Yn niwedd y 1970au, dychwelodd i fyw i’w hen gartref ym Motwnnog at ei unig chwaer, Miss. Jennie Roberts, a fu farw yn Ionawr 2003.  Bu ef farw ym 1991. Mae ei fedd ym mynwent Llandegwning, ger Botwnnog. Cyhoeddwyd Gwarchod y Gair’ cyfrol deyrnged iddo, fis Gorffennaf 1993, dan olygyddiaeth Y Parchg. Ddr. Owen E. Evans. Lluniodd y Parchg.Gwilym R. Tilsley y soned hon iddo:

O linach ei hynafiaid yng Ngwlad Llŷn,
Twy aelwyd, ysgol, coleg, daeth efo
Mewn llawer maes yn fedrus ddawnus ddyn,
Ac i aeddfedrwydd profiad yn ei dro;
Myfyriodd yn y Gair holl ddyddiau’i oes,
A throes y geiriau iddo’n brofiad byw,
A gwelodd ef yn neges Gŵr y Groes
Ddarlun i ddynion o dosturi Duw.
Treuliodd ei ddyddiau’n hau y dwyfol hâd,
Ac er na welai egin yn y tir
Mewn ffydd a gobaith credodd Air y Tad
A bu i’w frodyr gwan yn gyfaill gwir,
Llawn o rinweddau Cristion ydoedd ef:
Bugail y defaid ac Offeiriad Nef.

R. Glyn Williams (1924 – 2010)

Glwyn Williams

Y Parchedig R. Glyn Williams, B.A., B.D.

Ganed ym Mhenmachno, Gwynedd, ar 25 Gorffennaf, 1924. Addysgwyd yn Ysgol y Cyngor, Penmachno, ac yng Ngholeg Trefeca. Bu’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Handsworth, Birmingham. Dechreuodd fel gweinidog yn Llandysul. Fis Hydref, 1953, priododd Miss. Margaret Mary (Meg) Williams yn Eglwys Tysul Sant, Llandysul. Gwasanaethodd ym Machynlleth. Bu’n weinidog Eglwys Gymraeg Chiltern Street, Llundain. Daeth i fyw i Bwllheli ym 1981, ac yn weinidog Seion (a saith eglwys arall). Bu’n Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn 2001. Yng ngeiriau W. Arvon Roberts: “Cofir am gyfoeth ei ddysgeidiaeth. Yr oedd ei feistrolaeth ar ei feysydd eang yn rhyfeddod. Cofir am ei bregethau grymus a’i arweiniad doeth a chadarn. Yr oedd ganddo hiwmor arbennig a’i ddireidi a thynnu coes mor fyw ac mor iach.  Ar gyfrif cyflwr iechyd ei briod ac yntau, ymddeolodd yn 2005, a symud i fyw i Benllech,Ynys Môn. Yn fuan, bu’n rhaid i Mrs. Williams adael ei chartref a mynd i Gartref Gofal Bryn Llifon, Bangor. Yn 2010, o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd, bu’r ddau ohonynt farw. Mae eu bedd ym mynwent Tysul Sant, Llandysul.

Glwyn Williams

Gweinidog Eglwys Seion, Pwllheli heddiw:
Y Parchg. Gwyn C. Thomas. Ffôn: 01758 701068

Yn Nhrawsfynydd y ganed y Parchg. Gwyn C. Thomas, yn fab i William a Grace Olwen Thomas. Gyrrwr tren oedd ei dad, a gŵr o argyhoeddiadau cryfion ac yn gadarn yn yr Ysgrythurau. Aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd ei dad, a rhoes flynyddoedd o wasanaeth cymeradwy fel pregethwr cynorthwyol cyn ei farw ym 1976. Bu'n byw gyda'i deulu yn Aber-soch, Pwllheli a'r Ffôr. Cafodd y Parchg. Gwyn C. Thomas ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, ac yng Ngholeg y Normal, Bangor. Bu'n athro ysgol yng Ngwersyllt, ger Wrecsam, yn brifathro yn Llanarmon Dyffryn Clwyd, ac yn Llanfynydd, Sir Fflint. Priododd fis Gorffennaf 1961 ag Ann Elizabeth Griffith, o Ddyffryn Aeron, Ceredigion, a chawsant fab a merch. Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn  y  Tabernacl,  Penrhyndeudraeth, ym 1993, a dod yn Arolygwr Cylchdaith De Gynedd, oedd, wrth gwrs, yn cynnwys eglwys Seion, Pwllheli. Cafodd Mrs. Thomas gyfnod hir o waeledd, a bu farw fis Hydref, 2005. Ef oedd Caplan Maer Pwllheli yn ystod 2012-14.