Y METHODISTIAID CALFINAIDD [neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru] YM MHWLLHELI

Gan fod capel ymneilltuol a moddion gras rheolaidd eisoes yn bod yng Nghapel yr Annibynwyr ym Mhen-lan yn nhref Pwllheli, wnaeth y Methodistiaid Calfinaidd ddim ceisio sefydlu achos yn y dref mor fuan ag a wnaed yn ambell fan arall yn Llŷn ac Eifionydd. Dyna a ddywed Goronwy P. Owen yn ei gyfrol Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd (1978). “Tybir,” meddai, “mai yn 1769 y traddodwyd y bregeth Fethodistaidd gyntaf yng nghyffiniau’r dref, a hynny gan fab Daniel y Gof o Roshirwaun pan oedd hwnnw ar ei ffordd adref o Goleg yr Iarlles Huntingdon yn Nhrefeca.” Digwyddodd y pregethu hwnnw mewn cae a oedd yn perthyn i Bentefig, (neu Bantaddug, yn ei ffurf gywirach, bwthyn ar dir Ysgubor Wen) ar ochr ogleddol Pwllheli. Mae D.G. Lloyd Hughes yn Hanes Eglwys Penmount Pwllheli (1981) yn dweud: “Yn ôl yr hanes yr oedd pobl yn chwarae rhyw fath o gêm bêl – rhywbeth tebyg i dennis hwyrach – gerllaw, a hen wraig yn nyddu ar y droell fach yn nrws y tŷ. Petai pregeth fel honno yn yr awyr agored yn ddigwyddiad unigryw fe ddisgwylid y byddai chwilfrydedd naturiol y chwaraewyr wedi eu symbylu i roi heibio eu chwarae er mwyn gweld beth oedd yn mynd ymlaen. Gan mai parhau gyda’r chwarae a wnaethant y mae’n haws credu nad oeddynt yn anghyfarwydd â digwyddiadau o’r fath.”


Capel Cam, Capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli

 

Mae sôn hefyd am gynnal oedfaon mewn ambell gartref. Ysgrifennodd D.G. Lloyd Hughes eto fod “traddodiad yn y dref fod tŷ o’r enw Capel Cam, yng nghyffiniau’r eglwys ym Mhen-yr-Allt, wedi cael ei ddefnyddio gan y Methodistiaid.” Ychwanega, “fod enw Capel Cam beth bynnag mor hen â 1756, oblegid ar 2 Mai yn y flwyddyn honno cofnododd y ficer fedydd merch i Robert Jones, labrwr, a’i wraig, o’r cyfeiriad hwnnw. Gan nad oedd y ficer yn gwneud arferiad o nodi enw cartref y rhai a fedyddiwyd rhaid bod yn ddiolchgar iawn iddo am ddewis yr achlysur arbennig hwn i eithrio’r rheol. Pwy, mewn gwirionedd, oedd y Methodistiaid oedd yn debygol o ddefnyddio’r Capel Cam? Yr oedd gan yr Annibynwyr gapel newydd ym Mhenlan er 1741 ac nid oes unrhyw dystiolaeth fod y Bedyddwyr na’r Wesleaid wedi cyrraedd yr ardal mor gynnar. Sut y cafodd Capel Cam ei enw pwy all ddweud? Ai’r adeilad oedd yn gam ynteu’r sawl a’i defnyddiodd a gadd gam?”

Yn ôl traddodiad arall, yr oedd bwthyn, nid nepell o’r Capel Cam, wedi bod â rhan yn nechreuadau’r Methodistiaid yn y dref. Enw hwnnw oedd Ty’n Twll. Arferai’r enwog Michael Roberts ddweud, fodd bynnag, mai’r ddeuddyn cyntaf i agor drws eu cartref i’r Methodistiaid ym Mhwllheli oedd Ellis a Catherine Hughes, Dwyryd, Pen-yr-Allt. Mae’n bosibl i Michael Roberts gael yr wybodaeth honno gan John Roberts (Siôn Lleyn) gan fod Thomas Jones, ei fab hynaf a gwehydd fel ei dad, wedi priodi un o’u merched.

Symudwyd tua 1771 neu 1772 i’r Capel Deugorn, ger eglwys Deneio. Adeilad digon di-addurn ac iddo ddau gorn simdde  oedd hwnnw, ond bu rhai o bregethwyr amlycaf y cyfnod yn pregethu ynddo. Enwir pregethwyr fel Daniel Rowland, David Morris a John Davies, Cynwil Elfed. Mae sôn hefyd am un o bregethwyr Llŷn, Hugh Thomas, Tŷ Chwain, dyrnwr Madryn Uchaf, yn pregethu yno, gan fynd â bwyd yn ei boced gan nad oedd neb ar gael i roi pryd o fwyd iddo.

Symudwyd yr achos i lawr i’r dref ar yr adeg pan ddewisodd Peter Williams, Caerfyrddin, a William Williams, Pantycelyn, ar eu  hymweliad â’r dref, bregethu ar y Stryd Fawr wrth ddrws tŷ’r College, (rhwng Siopau Gwalia a’r Bargain Store heddiw) a oedd yn gartref i deulu a oedd yn gefnogol i’r Methodistiaid. Robert Rowland, morwr, a Catherine, ei briod, oedd yn byw yn College. Dichon mai un o ddisgynyddion y teulu hwn a ddaeth yn wraig i William Griffith ym 1838, pan ddaeth hwnnw’ n gynorthwyr i Michael Roberts ym Mhenmownt.

Gwelwyd newid cymdeithasol mawr ym Mhwllheli a dechreuwyd cynnal oedfaon a phregethu yn y dref, lle’r oedd y boblogaeth wedi symud. Medd Hanes Eglwys Penmount Pwllheli, “Gellir credu mai ar y tir uchel y bu trwch y boblogaeth yn byw ar un adeg ond yn raddol adeiladwyd mwy o gartrefi rhwng godre’r Allt a’r môr ac erbyn saithdegau’r ddeunawfed ganrif yr oedd yn debygol fod tua thri-chwarter o’r boblogaeth yn byw ar hyd Penlôn Llŷn, Stryd Fawr a Stryd Penlan. Iddynt hwy yr oedd lleoliad eglwys y plwyf yn anghysbell ac yr oedd yr un peth yn wir am Gapel Deugorn. Byddai’r eglwyswyr a’r Methodistiaid wedi edrych yn eiddigeddus i gyfeiriad hwylustod capel Penlan i’r Annibynwyr.”

CAPEL PENMOWNT

Capel Penmownt heddiw [Llun Ioan W. Gruffydd]

Cafodd capel cyntaf Penmownt ei godi ym 1781, pan nad oedd gan yr eglwys ond rhyw ddau ddeg un o aelodau, a hynny ar safle lle’r arferai tŷ annedd, Pen-y-Mount sefyll. Gyda phryniant y tŷ annedd hefyd yr oedd iard adeiladu llongau a bwthyn. Prynasid y cyfan oddi wrth Ystad Garthewin a oedd yn ei dro wedi meddiannu’r cyfan drwy briodas o hen Ystad Llannerch, Llannor. Ymddengys mai’r enwau cyntaf a nodwyd i’r capel oedd Porth Pabell y Bryn, a’r Mount. Yn ddiweddarach, cytunwyd ar Penmount. Cyn gwneud y penderfyniad hwnnw, yr oedd dau fardd wedi llunio cyfres o englynion i’r capel newydd:

Englynion ar porth Pabell y Bryn ym Mhwllheli (sef y Mount)

Tŷ moliant mwyniant miloedd – tŷ gwrando
Cywreindeb y nefoedd
Teg iawn y tŷ (egwan oedd)
Fe naddwyd o Fynyddoedd.
Robin ‘r Aber

Tŷ ar y bryn mal Tŵr o bres – yw’r Mount
Er mawl a gwir broffes;
Tŷ mêl a llaeth Teml y lles,
Tŷ mynych wlith twymn achles.

Tŷ gwledda sigiau Tywysogawl – Teg
Tŷ gwych ac urddasawl;
Teulu mwyn, Tŷ eilio mawl
Tŷ i’r Iesu, Tŵr oesawl.

Penbryn uwch dyffryn di-effro – trg iawn
Tŷ i gynnwys gweddïo;
Tŵr y gân lle trig yno
Diffuant ei foliant fo.

Pob mawl ufuddawl fyddo – ar d’allor
Yn deilliaw i seilo;
A chalon a wych eilio
Fal un tan ei foliant o.
John Roberts (Siôn Lleyn) a’i cant.

Yr oedd dau flaenor wedi dod i Benmownt o hen Gapel Deugorn. John Thomas, Siop Newydd (neu’r Siop Goch) oedd un, (ef, mae’n debyg,oedd  trysorydd cyntaf Eglwys Penmownt) a John Roberts (Siôn Lleyn), Pen Highgate, oedd y llall.

Yr oedd John Thomas wedi “derbyn argraffiadau crefyddol” pan nad oedd ond  ifanc, cyn bod yn 17 oed, yn ôl Siôn Lleyn. Nid oedd ond 26 oed pan gafodd y Penmownt cyntaf ei godi. Bu’n weithgar ac egniol fel blaenor, yn union fel yr oedd wedi bod cyn hynny yn y Capel Deugorn. Hawdd dyfalu iddo fod yn gryn ddylanwad pan godwyd y Penmount cyntaf. Cafodd John Thomas ei gladdu ym Mynwent Deneio ar Ionawr 3, 1799. Dywedodd Thomas Charles o’r Bala mewn llythyr ar Robert Jones, Rhoslan: “Galarus oedd gennyf glywed heddyw gladdu John Thomas, Pwllheli, ddoe.”

Hannu o Chwilog Bach, ar gyrion y Lôn Goed yn Eifionydd yr oedd John Roberts (Siôn Lleyn). (Gweler Adran Rhai o Enwogion Pwllheli ar y Wefan hon). Yr oedd yn un o arloeswyr yr Ysgol Sul yn y cylch. Dywedir iddo fod â rhan yn sefydlu Ysgolion Sul ym Mrynengan, Aber-erch a Phwllheli. Dioddefodd lawer o wawd ar gyfrif ei ei eiddgarwch dros yr Ysgol Sul, a bygythid ei ddiarddel am ei fod yn “gweithio ar y Sul.” Ystyrid ei fod yn brydydd ac yn ddiwinydd. Bu farw ym 1817. Mae ei fedd yntau ym Mynwent Deneio.

Capel Penmownt heddiw [Llun Ioan W. Gruffydd]

  

Yr oedd capel cyntaf Penmownt wedi mynd yn rhy fach i’r gynulleidfa fawr oedd yn cyfarfod yno erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Tystia Goronwy P. Owen mai un arwydd o gryfder yr achos erbyn hynny oedd y ffaith i gymaint â £10.16s gael ei gyfrannu ym 1799 tuag at waith Cymdeithas Genhadol Llundain. “O holl eglwysi Sir Gaernarfon,” meddai, “nid oedd ond Caernarfon wedi cyfrannu mwy, a hynny ddim ond o ddeunaw ceiniog.” Ym Mawrth 1800, tynnwyd i lawr adeilad y capel cyntaf, er mwyn codi adeilad arall. Tra bo hynny’n digwydd, câi oedfaon eu cynnal yn Ysgubor y Nant, sef adeilad ar y chwith ar waelod y ffordd o Bwllheli i gyfeiriad Caernarfon. Mae cofnod fod Capel Penmownt wedi cael ei gofrestru yn Swyddfa’r Esgobaeth ym Mangor ar Fedi 28, 1801. 

GWEINIDOGION PENMOWNT

Cyn sôn am y rhai a fu'n weinidogion a sefydlwyd yn ffurfiol yn eglwys Penmownt, mae'n briodol cyfeirio at y gweinidogion gwahanol hynny a ymaelododd yn yr eglwys ac a roes wasanaeth gwerthfawr i'r eglwys yn ystod y cyfnodau hynny pan nad oedd gan yr eglwys weindogion swyddogol.

William Griffith oedd un o'r cyfeillion hynny. Deuai o Lanllyfni, lle cawsai ei eni tua1810. Magwyd ef yn Fedyddiwr, ond troes at y Methodistiaid Calfinaidd ym 1833. Ar gyfrif cysylltiadau teuluol, daeth i Bwllheli ym 1835, ac ar 1 Mai y flwyddyn honno yn eglwys Sant Pedr, priododd Eleanor, merch John ac Elizabeth Rowlands, Gwesty'r Whitehall. Cadwai Eleanor eisoes siop yn 4 Penlôn Llŷn, ac yno y gwnaethant eu cartref, gan werthu llestri yn eu siop. Cawsant bedwar o blant, er i ddau ohonynt farw'n fabanod. Tyfodd un mab, John, i fod yn weinidog. Bu William Griffith, yn genhadwr yn Nulyn o 1844 hyd 1846, ac wedi hynny yn Wolverhampton. Dychwelodd i Bwllheli tua 1850, ac agorodd ysgol yn y dref Symudodd i Dalysarn ym 1859, ac oddi yno i Gaernarfon ym 1863. Bu William Griffith farw ym 1870 ac yntau'n 60n mlwydd oed.

Morris Roberts oedd un arall. Cafodd ef ei eni ym 1820 yn Nhanygraig, Boduan. Dechreuodd bregethu pan oedd tua 18 mlwydd oed. Bu'n ysgolfeistr ym Mhwllheli ym 1851. Roedd ei gartref ar Ffordd yr Ala. Cafodd ei ordeinio'n weinidog ym 1856. Symudodd ym 1862 i ysgoldy Tarsis, ac wedyn i eglwys Salem yn y dref pan agorwyd yr eglwys ym 1864. Ymfudodd Morris Roberts i Unol Daleithiau America fis Mawrth 1883. Ymwelodd â'i hen gartref unwaith ym 1894. Bu farw yn Efrog Newydd 15 Mawrth 1895 yn 74 mlwydd oed. Bu'n gofalu am gapel Brynbachau ym ysbaid ym 1861.

James Jarrett oedd yn weinidog arall. Brodor o Lan Ffestiniog oedd ef. Ganwyd ef tua 1828. Daeth i Bwllheli'n ŵr ifanc o Goleg y Bala i fod yn gyfrifydd yn Ariandy Gogledd a De Cymru. Bu'n pregethu am flynyddoedd cyn cael ei ordeinio ym 1857. Ym mis Mai 1862, symudodd i gychwyn yr achos newydd yn ysgoldy Tarsis, ac yna i eglwys Salem. Ym 1870, aeth yn weinidog i Orllewin Meirionydd. Oddi yno, aeth i eglwys Utica, yn America. Daeth yn ôl i Gymru ym 1886, ac oddi ar hynny bu'n gofalu fel gweinidog am achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Nefyn. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yng nghaniadaeth y cysegr Dywedid mai yn Llŷn ac Eifionydd y llwyddodd James Jarrett i dorri'r hyn a oedd yn arferiad gan y gynulleidfa i gerdded allan o'r capel cyn gorffen canu'r emyn olaf ar ddiwedd oedfa gan adael ar ôl y pregethwr, y blaenoriaid, yr organydd a'r codwr canu yn unig.

Thomas Owen oedd yn weinidog arall. Dod i Bwllheli o Lanbedrog a wnaeth ef tua 1872. Roedd yn byw yn Rhes Salem, ac yn aelod ym Mhenmownt. Cafodd ei ordeinio yng Nghymdeithasfa Llanrwst ar 25 Mehefin 1874. Cai ei enwi yn y Blwyddiadur fel gweinidog ym Mhenmownt bob blwyddyn wedi hynny hyd at 1886. Cafodd ei ddiarddel o'r weinidogaeth y flwyddyn honno.

John Jones oedd yn weinidog arall. Yr oedd ef yn fab i George ac Elizabeth Jones, Abercin, Llanystumdwy. Cawsai ei eni ar 14 Rhagfyr 1837, a’i alw ar yr un enw â’i daid, a oedd yn ŵr ffraeth a nodedig ei atebion. Mab Abercin oedd oedd George Jones. Nid oedd George, y tad, yn proffesu crefydd, ond gofalodd Elizabeth, y fam, a merch Gellidara, a oedd yn wraig ragorol, ac uwchlaw ei hoes o ran dysg a allu, fod y plant yn cael eu hyfforddi yn yr awyrgylch briodol. Derbyniodd John Jones ei addysg yn Llanystumdwy, a phrentisiwyd ef yn ifanc fel dilledydd gyda Griffith Jones, ei ewyrth, yng Nghaernarfon. Gadawsai ei gartref yn rhyw 12 oed, a chofiai byth am lymder ei hiraeth. Aeth â’i aelodaeth i Engedi yng Nghaernarfon ond ni chafodd fynd yno ond ychydig iawn gan ei ewythr. I eglwys Llanbeblig yr âi’r ewythr a gorfodwyd y bachgen i fynd gydag ef yno. Bu ei fam yn hir heb wybod fel yr oedd pethau, ond pan gafodd wybod, gofidiai’n enbyd, a chafodd hi’n anodd i faddau i bobl Engedi am eu diffyg gofal o’i bachgen. Symudodd i amryw o fannau - Caer, Penbedw, Y Drenewydd, Llanidloes a Llundain. Yn eglwys Jewin, Llundain, daeth o dan ddylanwad y Parchg. Owen Thomas, cyn-weinidog Penmownt, Pwllheli. Teimlodd yno awydd cryf i ddechrau pregethu. Aeth i Goleg y Bala, a chafodd ei ordeinio yng Nghymdeithasfa Treffynnon ym 1863. Derbyniodd alwad i Feddgelert, ond nid aeth yno. Ildiodd i bwysau Cyfarfod Misol Llŷn ac Eifionydd i aros yn y cylch. Ym 1870, priododd â Miss. Jane Winifred Jones, ail ferch Y Parchg. David Jones, Treborth. Cawsant dri o blant. Symudodd i Landinam. Bu'n wael ei iechyd, a symudodd i Eifionydd. Wedi cael adferiad iechyd, derbyniodd alwad i fod yn weinidog eglwys Y Graig, Penrhosgarnedd, Bangor - ei unig ofalaeth ffurfiol Ar gyfrif cyflwr ei iechyd ymddiswyddodd yn Nhachwedd 1878, a symudodd i fyw i Blastirion, Pwllheli, ac ymaelodi ym Mhenmownt, lle'r oedd ei frawd, Robert Jones, yn flaenor. Bu'n cynorthwyo'r Parchg. Thomas Owen hyd at adeg diarddeliad y brawd hwnnw ym 1886. Am ragor na blwyddyn a hanner, John Jones yn unig oedd yn gofalu am yr achos ym Mhenmownt. Gwrthododd alwad i fod yn fugail yr eglwys. Symudodd i Fethesda i fod yn rheolwr ariandy'r Mri. Pugh Jones a'i Gwmni yn nechrau haf 1887. Wedi i'r Metropolitan Bank gymryd yr ariandy lle gwasanaethai ym 1897, dychwelodd John Jones i Bwllheli. Bu'n byw yn Woodcroft, Ffordd Caerdydd. Gwasanaethodd eglwys Penmownt eto ar adeg pan nad oedd weinidog ganddi, a hynny hyd ei farw ar 20 Mehefin, 1906, yn 68 mlwydd oed. Cafodd ei gladdu ym mynwent Glanadda, Bangor. Ymddiddorai mewn daearyddiaeth, ac ym 1882, cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (F.R.G.S.).ac wedi darllen papur ar Oes yr Ia o flaen Cymdeithas yr Athenaeum, Llundain ym 1885, gwnaed ef yn Gymrawd (F.A.S), o'r gymdeithas honno hefyd.Darlithiai ar bynciau daearyddol ac ar ei ymweliadau â Gwlad Canan.|Ysrifennodd gofiannau gwahanol, yn cynnwys un i'r Parchg. Michael Roberts. Ysgrifennodd hefyd ysgrif fer ar hanes capel Penmownt ym 1882.

Codwyd Robert J. Jones, B.A., Tyldesley, i'r weinidogaeth ym Mhenmownt. Unig fab ydoedd i Mr. a Mrs. John Jones, aelodau yn eglwys Penmownt. Cafodd ei addysg yn Ysgol y Bwrdd, cyn mynd yn 14 oed i Ysgol Botwnnog. Wedi tair blynedd yno, gwnaed ef yn ail-athro. Aeth i Golegau Aberystwyth a Bangor, a Choleg Diwinyddol y Bala am flwyddyn. Yn nechrau 1900, derbyniodd alwad i eglwysi Tyldesley a Leigh yn ardal Manceinion, ac wedi graddio a chael ei ordeinio yng Nghymdeithasfa Llangefni ym 1902, dechreuodd ar ei waith. Daeth i gysylltiad â llu o'i gyd-Gymry - amryw ohonynt mewn tlodi mawr - ac yn gwbl ddi-hid am bethau ysbrydol. Ymwrolodd a gadael y canlyniadau i ofal Duw. Llwyddodd i godi capel a bu'n pregethu yno i Gymry a Saeson. Ymdrechodd gyda'r achosion Cymraeg a oedd o dan ei ofal, a bu'n barod iawn ei wasanaeth ym mhob cylch. Bu'n Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion y dref, yn Is-lywydd y Cyngor hwnnw, ac yn un o lywodraethwyr Ysgol Rydd Tyldesley. Bu farw'n ifanc - ymron cyrraedd ei 31ain mlwydd oed, wedi wythnos o gystudd, ar 28, Mawrth, 1903. Claddwyd ym mynwent Derris. Amlygid parch mawr tuag ato yn Tyldesley ac ym Mhwllheli.

Ym Mhwllheli y ganwyd y Prifathro William Richard Williams, M.A., ar 4 Ebrill 1896, yn fab Richard a Catherine Williams. Deuai ei fam o linach Siarl Marc o Fryncroes. Cafodd ei addysg yn ysgol ddyddiol yr Eglwys, ym Mhenlleiniau, ac yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Derbyniwyd ef yn aelod ym Mhenmownt, Pwllheli, gan y gweinidog, y Dr. J. Puleston Jones. Wedi ennill Ysgoloriaeth Mrs. Clarke, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Groeg ac ail ddosbarth mewn athroniaeth. Bu ei dad farw ym 1912, a symudodd ei fam ac yntau i fyw i Aberystwyth, gan ymaelodi yn y Tabernacl, lle'r oedd y Parchg.R.J. Rees yn weinidog, a lle dechreuodd W.R.Williams bregethu. Wedi bod am gyfnod yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, parhaodd â'i addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef ym 1921, a bu'n weinidog Bethel, Tre-gŵyr, ger Abertawe, rhwng 1921 a 1922, ac yn eglwys Saesneg Argyle, Abertawe rhwng 1922 a 1925. Penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth lle bu rhwng1925 a 1927, ac yn Athro Athroniaeth Crefydd rhwng1927 a 1928, a Groeg ac Esboniadaeth y Testament Newydd rhwng1928 a 1949). O 1949 hyd ei farwoleth, ef oedd Prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth. Yr oedd yn briod ers 1928 â Violet Irene Evans, o Abertawe, a bu ganddynt un mab. Bu W.R. Williams farw ar 18 Rhagfyr,1962.

Yr oedd yn ŵr amlwg yn ei enwad .Traddododd y Ddarlith Davies ym 1939 ar ‘Yr Ysbryd Cenhadol yn yr Eglwys Fore', ond ni  chafodd ei chyhoeddi. Bu'n Llywydd y Gymanfa Gyffredinol ym 1960, ac yn llywydd Sasiwn y De ym 1962. Yr oedd ei ddiddordeb yn fawr yn yr Ysgol Sul a'r Genhadaeth Dramor a Chartref. Bu'n llywydd y Symudiad Ymosodol am flynyddoedd. Yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr y mudiad eciwmenaidd yng Nghymru, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cyngor Eglwysi Cymru, a'i Lywydd pan fu farw. Ym 1961, cafodd ei ethol yn gadeirydd pwyllgor Prydeinig y Cynghrair Presbyteraidd. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Cydbwyllgor a benodwyd i baratoi cyfieithiad newydd o'r Beibl Saesneg, ac ym 1961, dewiswyd ef yn gyfarwyddwr y Pwyllgor a benodwyd i baratoi cyfieithiad newydd o'r Beibl Cymraeg. Cyfrannodd i gylchgronau ei enwad, a chyhoeddodd dair cyfrol o esboniadaeth Feiblaidd: Arweiniad i Efengyl Ioan (1930), Yr Epistol at yr Hebreaid (1932), ac Epistol Cyntaf Ioan (1943).

Thomas Williams oedd yn weinidog arall. Brodor o bentref cyfagos Rhydyclafdy oedd ef wedi ei eni fis Awst 1850. Bu’n gwasanaethu ar ffermydd y fro ac ar Ystad Madryn. Dechreuodd bregethu ym 1875. Cafodd  ei dderbyn yn aelod o Gyfarfod Misol ei enwad ym 1877 tra mynychai Ysgol Clynnog. Ym 1878, bu’n llwyddiannus yn ei arholiad i gael mynediad i Goleg y Bala. Ordeiniwyd yn weinidog yng Nghymdeithasfa Llangefni ar 28 Mehefin 1882. Bu’n byw wedyn am gyfnod yn ardal Rhydyclafdy cyn iddo symud i dref Pwllheli ym 1901. Ef oedd Llywydd Cyfarfod Misol Llŷn ac Eifionydd yn ystod chwe mis cyntaf 1901, a gwasanaethodd fel arholwr cyfarfodydd ysgolion ei enwad am ymron i 30 mlynedd. Rhoes wasanaeth gwerthfawr i eglwys Penmownt – yn arbennig pan nad oedd weinidog swyddogol – a’r un modd i Ysgol Genhadol y Traeth ac i eglwys South Beach. Bu farw Thomas Williams ar 21 Mawrth, 1826.

Griffith Hughes oedd yn weinidog arall. Dod o Gefn-y-waun, ger Caernarfon, yr oedd Griffith Hughes a aned i Mark a Catherine Hughes ar 7 Mawrth, 1840. Dechreuodd weithio fel argraffydd ym Mangor, a dechreuodd bregethu yn ystod ei dymor yno. Aeth i Goleg y Bala am hyfforddiant. Cafodd ei dderbyn ym 1864 fel ymgeisydd cenhadol gan Bwyllgor Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef fis Hydref 1895, a hwyliodd gyda’i briod, Elizabeth Blair Paton. i’r India yn niwedd Tachwedd 1865. Yr oedd ef a’i  briod i wasanaethu ar Fryniau Khasia ac ardal Sylhet. Wedi i’r ddau gyrraedd Cherrapunji yn ystod wythnos olaf Mawrth 1866, rhoed iddo ef – yn wyneb ei brofiad fel argraffydd – y cyfrifoldeb o sefydlu gwasg argraffu yn Cherrapunji. Rhoes hyfforddiant i bedwar gŵr ifanc yn y grefft honno. Yn gynnar ym 1868, teithiodd i Mawdem i sefydlu eglwys yno. Nid gorchwyl rwydd oedd teithio rhwng y ddau le hynny dros dir anodd o fynyddoedd serth a thrwy ardaloedd oedd yn elyniaethus iawn i genhadon yr Efengyl. Wedi cyrraedd Mawdem, fodd bynnag, canfu fod yno groeso cynnes yn ei aros, a bod yr Efengyl wedi llwyddo ymhell o’r tu draw i’w ddisgwyliadau. Aethant o Cherrapunji i Sylhet ym 1870 ar gyngor meddygol ar gyfrif anhwylder ei briod. Bu Mark, eu mab cyntafanedig farw yno, a hwythau wedi breuddwydio y byddai, maes o law, yn dilyn ei dad fel cenhadwr. Dychwelodd ei briod a’r plant adref i Gymru, gan adael Griffith Hughes i gyflawni’r gwaith ei hunan. Dychwelasant ymhen amser i India drachefn, ond bu ei briod farw yno ym 1872. Yn nechrau 1875, dychwelodd Griffith Hughes i Gymru. Cyfarfu â Miss. Matilda Davies o Ferthyr, a’i phriodi. Aeth y ddau yn ôl i India ym 1876, a bu’n gweinidogaethu yn Jaintia, Jowair ac yn ardal Khadsawpha. Yn Nongrymai, cafodd yr hyfrydwch mawr o hyfforddi Brenin Khadsawpha ar gyfer bod yn aelod eglwysig. Yn ddiweddarach, daeth y Brenin V. Kinesing, yn flaenor yn yr eglwys ym Mairang. Dychweodd ei briod ac yntau i Gymru ym 1886 gan ddirwyn i ben eu cysylltiad ag India. Buont yn byw am gyfnod ym Mhen-y-groes, ger Caernarfon, cyn symud i fyw ym 1900 i Farian y De, ym Mhwllheli. Ymaelododd ym Mhenmownt ym 1903. Bu Griffith Hughes farw ar 6 Rhagfyr, 1907.

Albert Evans-Jones (Cynan) oedd yn weinidog arall. Ganwyd ef ym Mhwllheli yn fab i Mr. a Mrs. R.A. Jones. Bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr 1914 – 18 ym Macedonia, ac yn y cyfnod hwnnw cafodd ei ordeinio’n weinidog gyda’r Bedyddwyr, ond wedi dychwelyd i Gymru, ymunodd â’r Methodistiaid Calfinaidd. Bu’n gwasanaethu am gyfnod byr ym Mhenmownt, cyn derbyn galwad i fod yn weinidog Jerwsalem, Penmaen-mawr. Wedi hynny, bu’n ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor. Bu’n Archdderwydd Cymru ar ddau achlysur. Bu hefyd yn Gofiadur yr Gorsedd y Beirdd. Gwnaed ef yn Farchog ychydig cyn ei farw.   Bu farw ar 26 Ionawr, 1970. Mae ei fedd ym mynwent Eglwys Tysilio ym Mhorthaethwy, Ynys Mon. (gweler Adran Rhai o Enwogion Tref Pwllheli ar y Wefan hon).


Cawsai Michael Roberts ( 1780 - 1849 ) ei eni yn Llanllyfni yn fab i’r Parchg. John Roberts, Llangwm (wedi hynny). O'r flwyddyn 1802, gwnaethai ei gartref ym Mhwllheli. Cyn symud I’r dref, bu’n cadw ysgol ym Mhentreuchaf, nad oedd ond cwta bedair milltir o Bwllheli. Does dim amheuaeth nad oedd yn gwybod am yr ysgol a gadwai Siôn Lleyn ym Mhenmownt, ond erbyn hynny doedd Siôn ddim mor ifanc, a chawsai fywyd digon anodd a helbulus. Gellir dyfalu i Siôn Lleyn fynegi wrth Michael Roberts yr hoffai roi’r gorau i’w waith yn yr ysgol, a gwelodd Michael ei gyfle i’w ddilyn yn ei swydd. Agorodd Michael Roberts ei ysgol ym Mhenmownt ar Fawrth 14, 1803 a mynnai mai dyna’r “ysgol fwyaf a fu gennyf erioed.” Dywed Hanes Eglwys Penmount Pwllheli “nad oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd fugeiliaid sefydlog yn y dyddiau arloesol hynny.” Mae’n deg dweud mai Michael Roberts oedd gweinidog cyntaf Penmownt, a Methodistiaid Calfinaidd y dref, serch nad oedd yr eglwys wedi ei alw i fod yn weinidog iddi.
Dechreuodd Michael Roberts bregethu ym 1798 a chafodd ei ordeinio ym 1814 . Fel ei ewythr, Robert Roberts, Clynnog,  nid oedd yn gryf o gorff, ond fel hwnnw, cymerodd ei le ymysg pregethwyr blaenaf ei oes. Yr oedd o feddwl praff a'i ddull o bregethu, yn enwedig ar brydiau, yn rymus, yn drydanol, ac yn hyrddiol. Adroddir fel y bu iddo yng nghymdeithasfa Llanidloes ym 1810 lwyddo i argyhoeddi mil o bobl. Bu'n wael ei iechyd gydag amhariad ar ei feddwl am 12 mlynedd rhwng 1836 ac 1848. Loes a thristwch i’w genedl oedd hynny. Byr a fu tymor ei adferiad. Bu farw 29 Ionawr 1849 , yn 68 oed.

Capel Penmownt heddiw [Llun Ioan W. Gruffydd]

  

Fel canlyniad i’r diwygiadau crefyddol grymus a ddigwyddodd yn y tridegau, (heb anghofio pregethu John Elias yn Sasiwn Pwllheli ar Fedi 16, 1832), gwelwyd ychwanegu  sylweddol at nifer aelodaeth Penmownt. Yn gymaint felly fel y dechreuwyd meddwl am gael gapel newydd a fyddai ddwywaith maint yr un blaenorol. Agorwyd y capel newydd yn swyddogol ar 21 a 22 Hydref 1841.

X.MA6.1425577204@aol

Ar 24 Ionawr 1844, cafodd Owen Thomas (1812 - 1891), ei sefydlu’n weinidog – gweinidog ffurfiol cyntaf yr eglwys. Ganed Owen Thomas yng Nghaergybi, ar 16 Rhagfyr 1812, yn fab Owen a Mary Thomas, a brawd John Thomas ( 1821 - 1892 ) a Josiah Thomas. Saer maen oedd y tad, ac wedi i’r teulu symud i fyw i Fangor ym 1827, dilynodd Owen yr un alwedigaeth â’i dad. Dechreuodd bregethu ym 1834, a daeth ar unwaith yn amlwg fel pregethwr. Aeth i Goleg y Bala ym 1838, ac oddi yno i Brifysgol Caeredin. Ym 1844, derbyniodd alwad yn weinidog eglwys Penmount, Pwllheli; a chafodd ei ordeinio ym Medi 1844. Dywed Hanes Eglwys Penmount Pwllheli mai “fel gŵr di-briod y bu Owen Thomas ym Mhwllheli ac am dymor byr bu’n lletya yn Y Gelli, ond ni fu yno’n hir cyn symud i lawr i’r dref at weddw Ellis Jones, y cyn flaenor a thrysorydd, oedd yn byw yr adeg honno ar y tro o Stryd Penlan i’r Stryd Fawr, yn yr hen Siop Steps enwog. Tra ym Mhwllheli trodd ei law at lenydda ac, ar annogaeth Dr. Lewis Edwards, Y Bala, bu’n gyfrannwr pur gyson i’r Esboniwr a’r Traethodydd.” “Y mae’n lled amlwg,” meddai Hanes Eglwys Penmount Pwllheli, ymhellach, “o ddarllen llythyr a sgrifennodd at Lewis Edwards ar 14 Ionawr 1845 nad oedd yn gwbl fodlon ar ei fyd ym Mhwllheli a chwynai fod arian yn brin yno a’r chwaeth at lenyddiaeth o unrhyw fath yn gwbl ddiffygiol. Gellir medddwl, felly, na welai hi’n anodd i dderbyn galwad gan Gymdeithas Genhadol Methodistiaid Calfinaidd Gogedd Cymru i ofalu am ddau gapel, un Saesneg ac un Cymraeg, yn y Drenewydd am gyflog o £60 y flwyddyn. Digwyddodd hynny yn 1846 ond hwyrach fod adferiad iechyd Michael Roberts tua’r un adeg wedi bod yn elfen bwysig ym mhenderfyniad Owen Roberts. Ar ól cyfnod byr o tua dwy flynedd, felly, collodd eglwys Penmount ei bugail cyntaf a bu am dros 14 mlynedd cyn cael y nesaf.”

Derbyniodd gweinidog nesaf Penmownt yr alwad a gafodd ei hestyn iddo i wasanaethu ym Mhwllheli yn haf 1860. Wiliam Owen Williams (1817 – 1888) oedd hwnnw: brodor o Fôn a aned ym 1817 ym Maenaddwyn, nid nepell o Lannerchymedd. Dechreuasai bregethu pan oedd yn 25 oed, ac ym 1852 ymunodd â Chenhadaeth Gartref y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhremeirchion, Sir Fflint, i wrthweithio dylanwad y Pabyddion yn eu coleg yno. Tystia Hanes Eglwys Penmount Pwllheli, iddo ennill bri “fel pregethwr, yr oedd yn ddihafal yn ei ymdriniaeth â phlant a dangosodd ddiddordeb dwfn yng ngwelliant safonau caniadaeth y cysegr a chwaeth gerddorol yn gyffredinol.” Ymddiddorai yn astudio’r ffurfafen ac yn y sêr: yn wir, gwnaed ef yn Gymrawd o’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol ym 1868. Wedi pedair blynedd ym Mhwlheli, derbyniodd alwad yn haf 1869 i fod yn weinidog yn Nwygyfylchi, ger Penmaenmawr.

Gweinidog nesaf Penmownt oedd William Thomas (1850 – 1925). Mewn tyddyn o’r enw Gors, ger Clwt-y-bont, ym mhlwyf Llanddeiniolen y ganed ef. Treuliodd gyfnod fel chwarelwr, cyn mynd i Goleg Clynnog yn Ionawr 1871 ac wedyn i’r Bala. Cafodd alwad i Lanuwchlyn, lle bu am dair blynedd,cyn symud i Ddyffryn Ardudwy. Daeth yn enwog fel pregethwr, a bu galw mawr am ei wasanaeth. Priodasai ferch y Parchg.Richard Humphreys, a chawsant bump o blant yno. Derbyniodd yr alwad a gawsai o Benmownt yn nechrau 1888. Bu farw ei briod fis Mehefin 1889, gan adael chwech o blant o dan 9 oed: bu dau o’r plant hynny farw o fewn ychydig. Yn Ebrill 1891, priododd wedyn â Miss. Elizabeth Hughes,    Y Fellnheli, merch y Parchg. Morris Hughes. Symudodd o Bwllheli i Seion,Llanrwst ym 1896.

 
Y Parchedig Ddr. JOHN PULESTON JONES

John Puleston Jones M.A., D.D. (1862 – 1925) oedd gweinidog nesaf eglwys Penmownt. Ganed ef yn y Berth, Llanfair Dyffryn Clwyd, ond ac yntau’n faban symudodd y teulu i’r Bala, ac yn fuan  wedi symud yno, digwyddodd y ddamwain a achosodd iddo golli ei olwg. Dechreuodd bregethu yn 17 oed. Dechreuodd fel gweinidog yn eglwys Princess Road, Bangor. Rhwng 1895 a 1907 bu’n weinidog Dinorwig a’r Fachwen. Symudodd i Benmownt fis Ebrill 1907, gan aros hyd Ebrill 1918, pan symudodd i Lanfair Caereinion. Dywed Hanes Eglwys Penmount Pwllheli iddo “drwy gyfoeth ei ddynoliaeth ac amlochredd ei athrylith a’i ddewrder” dyfu “yn un o anwyliaid ei genedl.” Bu ym Mhwllheli drwy adeg blin y Rhyfel Mawr a phrofi amser digon anodd i heddychwr cadarn fel ef.

Y Parchedig MORGAN W. GRIFFITH


Morgan W. Griffith, .B.A. (1874 – 1965)  a ddaeth yn weinidog i Benmownt wedyn. Ganed ef yn 1874 yn fab i Hugh ac Alice Griffith, Bryncelyn, Talysarn. Ar ôl derbyn addysg ffurfiol, aeth i weithio, fel ei dad, i Chwarel Dorothea, cyn dechrau pregethu, a chael ei anfon i Goleg Clynnog ac oddi yno i Goleg y Brifysgol ym Mangor, lle graddiodd yn y Gymraeg. Cafodd ei ordeinio ym 1904, a dechreuodd am gyfnod o bum mlynedd fel gweinidog yr eglwys Saesneg yn y Bermo. Treuliodd dros bedair blynedd yn Ninorwig a’r Fachwen, cyn mynd am wyth mlynedd i ofal eglwys Wilton Square yn Llundain. Oddi yno y daeth i Benmownt ym mis Medi 1921, ac yno yr oedd i aros am 39 mlynedd, hyd ei ymddeoliad ym 1960. Bu farw ar 20 Tachwedd, 1966 yn 92 mlwyd oed. Disgrifir ef yn  Hanes Eglwys Penmount Pwllheli fel “cawr o ddyn yn gorfforol ac mewn llawer ystyr arall, yn un o bersonoliaethau mawr Cymru.”

R. GWILYM HUGHES Y Parchedig. R. GWILYM HUGHES

Olynydd Morgan W. Griffith fel gweinidog eglwys Penmownt oedd Robert Gwilym Hughes, M.A., B.D. (1910 – 1997. Ganed ef  ym 1910 yn fab Robert John ac Elizabeth Hughes ym Methesda. Wedi bod yn Ysgol Friars, Bangor, a Choleg Prifysgol Cymru yn yr un ddinas ac ennill graddau yno, bu’n weinidog ym Maentwrog rhwng 1938 a 1942, yn Nwyran, Ynys Môn, rhwng 1942 a 1948, yn Hyfrydle, Caergybi, rhwng 1948 a 1953, ym Methesda, Yr Wyddgrug, rhwng 1954 a 1961. Daeth yn weinidog Penmownt ym 1961 a pharhau hyd nes iddo ymddeol i Gaernarfon yn niwedd Hydref 1981. Bu R.Gwilym Hughes farw ar 20 Gorffennaf 1997. Tystia  Hanes Eglwys Penmount Pwllheli iddo fod “yn awdur nifer o Esboniadau Beiblaidd” ac yn  “fardd a ddaeth yn agos at gipio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor. 1971.” Ysgrifennodd y Parchg. Ddr.D. Ben Rees amdano: “ Fel pregethwr yr oedd yn raenus, yn Feiblaidd ond ni fu galw mawr am ei wasanaeth fel pregethwr cyfarfodydd blynyddol yr eglwysi. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth (yr oedd yn bianydd medrus), a bu ei ferch, Carys Hughes (1949-2004), a fu farw'n gynamserol, yn organyddes broffesiynol.”

Arthur Meirion Roberts

 
Y Parchedig ARTHUR MEIRION ROBERTS

Gweinidog nesaf Penmownt oedd Arthur Meirion Roberts. Un o Gymry Manceinion yw ef, ond, fel yr ysgrifennodd Goronwy Prys Owen amdano, “un a’i wreiddiau’n ddwfn ym mhridd Meirionydd.” Cafodd ei hyfforddi ar gyfer y weindogaeth yng Nholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a’r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Wedi ei ordeinio ym 1958, aeth yn weinidog Ysgoldy, yn Henaduriaeth Arfon. Oddi yno, aeth i Bort Talbot, yn Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg. Yr oedd ei ddiddordeb yn fawr yn nhystiolaeth yr Eglwys ym myd diwydiant. Gwahoddwyd ef i wasanaethu fel Caplan Diwydiannol yng ngorsaf niwclear Yr Wylfa, ac wedi i’w dymor yno ddod I ben ymatebodd i gais Pwyllgor Diwydiant Cyngor Eglwysi Cymru i wasanaethu yn Sir Fflint. Oddi yno, aeth yn Warden i Goleg Trefeca, “gan roi,” meddai Goronwy Prys Owen, “cyfrif da ohono’i hun yn y swydd allweddol o ddarparu hyfforddiant i’n lleygwyr i ymgymryd â’u priod le ym mywyd a thystiolaeth yr eglwys.” Daeth yn weinidog Penmownt ym 1982 a pharhau yn y swydd hyd ei ymddeoliad ym 1991. Y mae’n briod â Morfydd, merch y diweddar Barchg. J.J. Davies, Garndolbenmaen.

William Davies

William Davies Y Parchedig WILLIAM DAVIES

William Davies oedd gweinidog nesaf Penmownt. Brodor o Benrhyndeudraeth yw ef, wedi ei godi i’r weinidogaeth yno yn eglwys Nasareth. Aeth i Goleg y Bala, ac ef oedd y myfyriwr olaf i’w hyfforddi am y weinidogaeth yno. O’r Bala aeth i’r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Dechreuodd fel gweinidog yng ngwlad Llŷn, gan wasanaehu eglwysi Cylch Botwnnog rhwng 1968 a 1975. Symudodd wedyn i Ynys Môn lle bu’n weinidog yng Nghylch Pensarn ac Amlwch rhwng 1975 a 1982. Ef oedd gweinidog Chwilog a’r Cylch o 1982 hyd 1991, pan dderbyniodd alwad I weinidogaethu ym Mhwllheli ym Mhenmount 0 1991 hyd 2004. Symudodd drachefn i Gerrigydrudion yn 2004, ac aros yno hyd ei ymddeoliad i’r Bala yn 2011.Y mae’n briod â Kathleen, sy’n hanu o ardal Pistyll.

W Bryn Williams Y Parchedig W BRYN WILLIAMS

W. Bryn Williams, B.A. B.D, M.Th., a ddaeth yn weinidog nesaf Penmownt. Brodor o Bontrhythallt, ger Llanrug, yw ef. Bu yn fyfyriwr Ngholegau Prifysgol Cymru ym Mangor ac Aberystwyth ac yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Oddi yno aeth i Gaergrawnt fel Myfyriwr Ymchwil ym maes Athroniaeth Crefydd y Ddeunawfed Ganrif ym Mhrydain. Cafodd ei ordeinio ym 1982,a dechreuodd fel gweinidog yng ngofalaeth Bryn Du yn Henaduriaeth Môn. Symudodd ym 1990 i ofalu am Gapel y Groes, Wrecsam. Ym 1996, ymadawodd â Chapel y Groes pan benodwyd ef yn Gyfarwyddwr Gwaith Plant ac Ieuenctid ei enwad. Golygai hynny symud i Goleg y Bala, lle bu’n gwasanaethu am ddeg mlynedd. Dywedodd Goronwy Prys Owen iddo yno adeiladu “ar y sylfeini a roddwyd i’r gwaith gan ei ragflaenwyr, ond llwyddodd i osod ei stamp ei hun, nid yn unig ar berthynas y Coleg â’r dref, ond ar ethos ysbrydol ac awyrgylch y Coleg.” Dywed Goronwy Prys Owen ymhellach iddo ddyfeisio cyrsiau a oedd yn cyffwrdd â llawer angen; “dichon mai’r pennaf ohonynt “yw’r cwrs, Souled Out sy’n canolbwyntio ar hyfforddi pobl ifainc dros 15 oed, a thrwy hynny feithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr yng ngwaith yr Arglwydd.” Derbyniodd yr alwad a gawsai o Eglwys Y Drindod, Pwllheli (a oedd erbyn hynny yn cynnwys cynulleidfaoedd Penmownt a Salem) yn 2006. Yn 2010, penodwyd W. Bryn Williams yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a golygai hynny wasanaethu o Ganolfan yr Eglwys yng Nghaerdydd. Dychwelodd yn 2012 i fod yn weinidog Eglwys Y Drindod ym Mhwllheli drachefn. Y mae’n briod á Nia, a fagwyd yn Y Ffôr, ac sydd ei hun, oddi ar 1996, wedi ac yn rhoi cyfraniad nodedig i Wasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

YSGOL GENHADOL Y TRAETH

Nid oedd capel Penmownt nepell o’r rhan o’r dref a gai ei hadnabod fel Y Traeth, ond bu amryw o’r aelodau’n gofidio am nad oedd gyswllt rhwng yr eglwys â rhelyw mawr o’r trigolion oedd wedi ymgartrefu yno. Ar gyfrif hynny, tyfodd y syniad o sefydlu’r hyn a elwid yn ‘ysgol garpiog’ mewn ymgais i ddenu’r plant o’r ardal honno o’r dref. Mewn cyfarfod darllen yng nghyfnod gweinidogaeth y Parchg. John Jones, ffurfiwyd pwyllgor i ystyried trefnu hynny. Nid oedd barodrwydd ymysg  swyddogion yr eglwys i ganiatάu defnyddio festri’r capel i’r amcan hwnnw.

Defnyddiwyd gweithdy yn Y Traeth – gweithdy Thomas Roberts, Asiedydd, ac aelod ffyddlon ym Mhenmownt. Glanheid a pharatoid hwnnw bob nos Sadwrn, a chafodd ei agor ar Sul olaf Mawrth 1882 gyda 42 o blant yn bresennol wedi i rai o’r chwiorydd fynd o gylch y cartrefi i estyn gwahoddiad. Bu cynnydd yn nifer y disgyblion, a daeth yn amlwg fod angen adeilad arall.

Cafwyd tir ger y cei – fel yr oedd yr adeg honno – yn mesur 85 x 52 troedfedd ar brydles o £1 y flwyddyn gan Gyngor Tref Pwllheli. Agorwyd yr Ysgoldy ar 15 Tachwedd, 1883, pan fu i’r Parchg John Jones bregethu ar y testun, Sechareia 3. 1 - 3.

Byddai yno ar y dechrau ysgol am 2 bnawn Sul a chyfarfod gweddi am 6 bob nos Sul, a Gobeithlu ar nos Iau. Cynyddodd nifer y cyfarfodydd fel yr â’i blynyddoedd heibio. Rhoddid hyfforddiant i rai oedd am ddod yn aelodau. Dysgid y tonic sol-ffa. Hyfforddid y plant yn hanesion y Beibl. Erbyn 1899, roedd tua deugain yn mynychu’r dosbarth hyfforddiant i fod yn aelodau. Ym 1918, cymhellid y plant i fynd i’r oedfa hwyrol ac adrodd eu hadnodau yno. Profodd hynny’n boblogaidd, a chan fod cymaint yn bresennol, trefnwyd fod y bechyn yn adrodd eu hadnodau un wythnos a’r genethod yr wythnos wedyn.

Ym 1913, derbyniwyd un o fechgyn Ysgol Sul Y Traeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Daeth yr ymgeisydd hwnnw ymhen y rhawg yn Brifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth. Y Parchg. Brifathro W.R. Williams oedd hwnnw. Ac yntau’n pregethu ym Mhenmownt rhyw dro, dywedodd o’r pwlpud, “Un o blant Y Traeth ydwyf fi, ac nid un o blant Penmownt, fel yr ydych chwi’n dweud!”

Ym 1970, daeth ysgoldy’r Traeth i ben.. Symudwyd yr Ysgol Sul a gyfarfyddai yno i festri Penmownt. Cafodd ysgldy’r Traeth ei werthu, a dychwelodd at ei amcanion gwreiddiol ynglŷn â’r môr.

Mae’r gwaith a gyflawnwyd yno dros y blynyddoedd yn gyfraniad pwysig yn hanes eglwys Penmownt. Tystia Hanes Eglwys Premount Pwllheli i’r gwaith hwnnw ‘lwyddo i gyrraedd cnewyllyn o boblogaeth y dref na fyddai wedi dod i’r golwg o gwbl ond am y gwaith mawr a wnaed.” Dywedir ymhellach “fod amgylchiadau byw pan sefydlwyd yr ysgol yn dra gwahanol . . . a gwir oedd y disgrifiad o ysgol garpiog a roddwyd arni. Cofiai llawer am blant yn ei mynychu’n droednoeth neu mewn clogsiau ac am y tlodi affwysol oedd ar bob llaw.” Disgrifiodd y Parchg. Morgan W.Griffith ddosbarth o fechgyn oedd ganddo yn Y Traeth yn y modd yma: “Yr oeddent fel merlod mynydd a thipyn o waith torri i mewn arnynt.”

plant

Rhai o Blant Penmownt a'u Blychau Cenhadol

 

ANGYDWELD YM MHENMOWNT

Cyn bod Eglwys Penmownt wedi estyn galwad i’r Parchg. William Owen Williams i ddod yn weinidog iddi yn haf 1860, ac am gyfnod yn ystod ei weinidogaeth, cododd cryn anghydwelediad ymysg rhai o swyddogion ac aelodau’r eglwys. Yn ei hanfod, yr oedd â fynno hynny â’r gydnabyddiaeth a dderbyniai’r gweinidog am ei wasanaeth, a’r ffynhonnell y tarddai’r gydnabyddiaeth honno ohoni. Fel y nodwyd uchod, yr oedd yn ymddangos nad oedd rhagflaenydd, Parchg. William Owen Williams, sef y Parchg. Owen Thomas, ychwaith yn rhyw ddedwydd iawn ei fyd ym Mhwllheli, a’i fod – ymysg pethau eraill - yn achwyn am fod arian yn brin. Cynhaliwyd amryw o gyfarfodydd i geisio gwyntyllu’r mater, a bu’n rhaid troi at y Cwrdd Misol a’i swyddogion am arweiniad a chymorth ragor nag unwaith i geisio canfod ateb i’r anghydfod a oedd yn eu blino. Nid dyma’r lle i draethu am fanylion y gwahanol gamau a ddigwyddodd a’r modd y cafodd y mater ei setlo yn y diwedd. Digon yw dweud fod nifer o gyfeillion – dros gant mewn nifer - wedi ymadael  o Benmownt a bod hynny wedi arwain at godi capeli a ffurfio eglwysi newydd maes o law gan y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli.

Gweinidog Eglwys Y Drindod, Pwllheli:

Y Parchg. W. Bryn Williams, B.A., B.D.,M.Th., Ffôn: 01758 770490

EGLWYS SOUTH BEACH (M.C.)

eglwys south beach

Ysgrifennwyd hanes Eglwys South Beach (M.C.), Pwllheli, hyd at 1983, dan yr enw, Y Capel Bach – Yr Achos Mawr” gan D.G. Lloyd Hughes. Yn ei gyflwyniad i’r hanes, mae’r Parchg. Arthur Meirion Roberts, a ychwanegodd eglwys South Beach at ei ofalaeth ym Medi 1982, yn cyfeirio at yr awdur fel “hanesydd tref ac eglwysi Pwllheli.” Dywed ymhellach ei bod yn “hawdd gweld bod ysgrifennu yr hanes am South Beach wedi rhoi pleser arbennig iddo. Ei daid, y Parchg. Evan David Davies . . . oedd sylfaenydd yr achos a bu ei fam, Mrs Dilys Lloyd Hughes, yn aelod gweithgar ac yn organyddes am flynyddoedd. Arwydd o ddiolch i’r Eglwys a’i magodd yw’r hanes.”

Yn ei Ragair i’r hanes, dywed D.G. Lloyd Hughes mai’r bwriad wrth gyhoeddi oedd “dathlu tri-chwarter-canrif o Gyfarfodydd Pregethu’r Groglith yn yr eglwys.” Dechreuwyd yr arferiad o gynnal y cyfarfofodydd hynny ym 1906.

Mae, Y Capel Bach – Yr Achos Mawr, yn egluro lleoliad Capel South Beach “ar lecyn o dir a oedd ar un adeg yn rhan o gomin y Morfa Mawr, a ymestynnai o Garreg yr Imbill i Garreg y Defaid,” ac i’r tir hwnnw gael ei werthu yn nechrau’r 19 ganrif, “yn groes i ewyllys yr awdurdodau lleol ar y pryd, hen Gorfforaeth Pwllheli, a defnyddiwyd yr arian a gaed amdano, ac am gwmnïoedd eraill yn Llŷn, i dalu am adeiladu Cob Pwllheli.”

Cyn i’r Cob gael ei adeiladu roedd y môr yn llifo’n ddi-rwystr ar ben llanw mor bell â Thalcymerau, a chai’r dref a’r Morfa Mawr eu gwahanu gan y dŵr. Byddai angen cwch neu ddistyll a cherdded drwy rydau, fel yn Rhydliniog, i fynd o’r naill ran o’r dref i’r llall.

Canfu amryw o bobl graff bryd hynny fod posibilrwydd datblygu traeth Pwllheli. Cafodd darn go dda o dir y Morfa ei brynu gan ŵr o’r enw Mr. Potts, brodor o gyffiniau Birmingham, yn nghanol yr 19eg ganrif. Am ysbaid, bu’r gŵr hwnnw’n byw yn Nhalcymerau, ac ymdrechodd yn galed i gael cyfalaf o Lundain i ddatblygu a gwireddu ei freuddwydion. Methiant fu ei ymdrech. Erbyn canol yr wythdegau, aethai’r tir yn eiddo teulu’r Churton o Gaer, a chawsant hwy fwy o lwyddiant gan fod amgylchiadau’n well erbyn hynny, a dŵr cyhoeddus a charthffosiaeth wedi dod i’r dref.

Sylweddolodd y cwmni newydd fod gan amryw o wŷr lleol awydd i adeiladu tai gyferbyn â’r môr pe gellid adeiladu atynt ffordd hwylus. Dyna a ddigwyddodd fis Rhagfyr 1888. Dyna yw’r eglurhad ar yr enwau Saesneg mewn cymdogaeth Gymraeg ei hiaith yn y rhan hon o’r dref: enwau fel South Beach, Churton Street, Potts Street ac Edward Street (sy’n coffáu Edward Jones, (y Maer Bach) un o’r datblygwyr lleol a drodd wedyn yn feth-dalwr). Taeogrwydd brenhinol a gyfrifai am greu’r enw Victoria Parade. “Erys yr enwau hyn o hyd,” medd Y Capel Bach – Yr Achos Mawr, “fel cofgolofn, nid yn unig i weithgarwch neilltuol, ond hefyd i feddylfryd arbennig yn y rhan hwn o Gymru.”

Rhagfyr 6, 1888, oedd hi pan osodwyd cerrig sylfaen pump o dai gan dri gŵr lleol – y Parchg. David Evan Davies, Ysgrifennydd Cymdeithas Adeiladu Llŷn ac Eifionydd, Edward Jones, masnachwr, a Robert Jones, bancwr (a brawd y Parch John Jones, F.R.G.S.). Llwyddodd y tri hyn i weld gwireddu eu breuddwydion, lle’r oedd eraill o’u blaen wedi methu. Roeddent am weld Pwllheli yn datblygu fel “canolfan atyniadol ar gyfer ymwelwyr.” Gosodwyd ffyrdd, morglawdd a rhodfa yn gynnar ym 1889, a byddai trigolion Pwllheli yn tyrru “i lawr at Lan y môr i weld y rhyfeddod newydd yn prysur godi ar ei draed.”

Ysgrifenna D.G. Lloyd Hughes, “Erbyn mis Mawrth, 1890, yr oedd pum tŷ yn barod, ac yn nechrau mis Ebrill, agorwyd y prom yn swyddogol gan y Postfeistr Cyffredinol. Mynegwyd bwriad i adeiladu pier yn South Beach a thramffordd o Benycob i gario pobl i lawr at y traeth. Roedd y brwdfrydedd yn heintus a sefydlwyd rhagor o gwmnïoedd, un ohonynt gan y tri gŵr a gychwynnodd y datblygiad, i adeildu tai ac ysbyty arbennig. Yn Ebrill, 1892, yr oedd 24 o dai yn barod a thua hanner cant o boblogaeth sefydlog yn byw ynddynt, ac yr oedd 11 o dai eraill a gwesty i gynnwys 73 o ystafelloedd (y South Beach Hotel) ar hanner eu codi. Yr oedd pob math o gynlluniau ar droed i wneud y lle yn atyniadol a darparwyd yn dda ar gyfer chwaraeon trwy sefydlu meysydd tenis a golff. Gellid hefyd chwarae biliards mewn ystafell arbennig,” lle’r arferai Swyddfa’r Post South Beach fod. “Yno yr oedd yr Ystafell Gynnull (Assembly Room).”

Yr oedd mwyafrif poblogaeth y dref, yn naturiol, yn mynychu gwasanaethau crefyddol eglwysi gwahanol Pwllheli. Cododd awydd, fodd bynnag, i weld sefydlu achos newydd ar gyfer y boblogaeth newydd wrth lan y môr ym Marian y De. Y Parchg D. E. Jones, un o’r datblygwyr, oedd yn bennaf gyfrifol am y symudiad hwn. Roedd ef, wedi’r cyfan, yn weinidog ordeiniedig, yn sefydlydd a bugail cyntaf yr achos yn Nant Gwrtheyrn. Yr oedd, yn ystod y saith degau, wedi bod yn gofalu am achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Llithfaen. O 1873 ymlaen, bu ganddo gyfrifoldeb pwysig yn Salem, Pwllheli, pan nad oedd fugail gan yr eglwys honno. Yr oedd hefyd wedi gwasanaethu fel llywydd Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Ceisiwyd canfod barn swyddogion eraill eglwysi’r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli. Caed cytundeb parod i sefydlu Ysgol Sul, ond nid i sefydlu eglwys. Dichon, meddai “Y Capel Bach – Yr Achos Mawr,” “mai prif achos y gwrthwynebiad hwnnw oedd yr helynt a arweiniodd at sefydlu eglwys Salem ddeg mlynedd ar hugain yn gynharach. Yr oedd llawer o arweinwyr crefddol Pwllheli yn fyw i gofio’r gyflafan honno, ac yn awyddus i osgoi, ar bob cyfrif, creu sefyllfa newydd i hollti teyrngarwch at eu capeli.” Awgrymir posibilrwydd arall hefyd. Mae modd synhwyro fod Pwllheli “wedi cael cryn ysgytwad yn niwedd 1891 ar ôl i Fyddin yr Iachawdwriaeth sefydlu canolfan ym Mhwllheli (hyd y gwyddys, am y tro cyntaf), a chyhoeddi fod rhannau o’r lle yn llawn o baganiaid. Gellir dweud nad oedd y Fyddin heb sail i’w honiadau.” Gwnaethai’r papurau lleol arolwg o bresenoldeb yn eglwysi’r dref ar Sul cyntaf Tachwedd 1891 a gweld fod 265 yn yr Eglwys a thros 1,600 yn y capeli yn oedfa’r hwyr. O boblogaeth o 3000, roedd hynny’n gryn galondid. Roedd 150, fodd bynnag, gyda’r Fyddin y noson honno. Ai pobl oedd wedi eu siomi gan yr hen enwadau a fyddai’r rheiny?

Cafodd Ysgol Sul ei hagor yn Ystafell Gynnull Marian y De (South Beach) ar 15 Mai, 1892. Ymaelododd 41 o bobl. O fewn dim, roedd awydd pendant i weld sefydlu eglwys. Heb ymgynghori ag eglwysi’r dref, gwnaed cais i brynu tir a chodi capel yng Nghyfarfod Misol Brynengan ddiwedd Awst. Bu’n rhai aros hyd 30 Awst, 1895, i weld adeiladu capel South Beach. Capel un ystafell ydoedd yn mesur 44 x 29 troedfedd gyda drws yn y pen gorllewinol. 28 o gymunwyr oedd yno pan godwyd capel. Nid yw’n hysbys ym mha ben i’r capel yr oedd y pwlpud, ond ar feinciau yr eisteddai’r gynulleidfa. Olew oedd yn rhoi golau, a byddai un tân glo i gynhesu.

Y mae D.G. Lloyd Hughes yn sicr mai’r cyfarfod pregethu a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth, 29 Hydref, 1895, gyda’r Parchgn. Philip Jones, Abergwaun, a Willam Thomas, Penmownt, Pwllheli, yn pregethu, oedd y cyfarfod mawr cyntaf i’w gynnal yno. Arferai llawer eglwys agor eu capeli gyda chyfarfod o’r fath, a diau mai dyna a ddigwyddodd yn hanes South Beach. Mae ar gael restr o’r pregethwyr a wasanaethai yno ar y Suliau yn dilyn hynny, fel y cyfeiriad at y Parchg. Thomas Hughes, Caergybi, gŵr 94 mlwydd oed yr adroddir iddo ddarllen ei Feibl 67 o weithiau, ac a bregethodd yn South Beach “yn hynod o effeithiol,” a hynny am awr a hanner!

Tystia Y Capel Bach – Yr Achos Mawr, fod yr Ysgol Sul a gynhelid yn South Beach wedi profi’n werthfawr iawn i ddiogelu Cymreictod y dreflan newydd a godwyd yno. Amcan y datblygiadau newydd yn ardal y Marian y De, a Marian y Môr (West End) wedi hynny, oedd denu ymwelwyr, a rhoi Pwllheli ar y map fel lle addas i ymdrochi, heb fod yn annhebyg i leoedd fel Brighton neu Sacarbourough. Prin y bu i neb freuddwydio mai teuluoedd o ardaloedd y chwareli yn Ffestiniog, yn Nyffryn Nantlle a Llanberis a fyddai amryw o’r preswylwyr newydd a ddeuai yno i fyw. Roedd y rhai a fu’n cynllunio wedi paratoi’r lle i fod yn addas i groesawu’r di-Gymraeg drwy enwi tai yn Ashbury House, Wave View, Eagle House, Aberkin House, House of the Manor. “Allan o 27 o enwau tai yn South Beach yn 1893, dim on saith oedd yn drwyadl Gymraeg, er fod gan y tenantiaid i gyd ond dau gyfenwau Cymraeg, a gwyddys mai Cymro oedd un o’r ddau hynny.”

Mae’r dyfyniad hwn o Y Capel Bach – Yr Achos Mawr yn ddadlennol a ddiddorol: “Aeth yr ymdrech i boblogeiddio’r lle ar gyfer Saeson y tu hwnt i bob rheswm pan gynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd ym Mhwllheli ym mis Medi, 1895, a chynhwyswyd cystadleuaeth am y cyfieithiad gorau o enw’r dref. Bu cynifer â 150 yn ymgiprys am y wobr, ond, drwy drugaredd, penderfynodd y beirniad atal y wobr, pan sylweddolodd nad oedd yr ymgeiswyr mor ddifrifol â threfnwyr yr eisteddfod. Ymdriniwyd â’r mater yn ysmala a phawb wrthi am y gorau i greu hwyl am ben y gystadleuaeth, gydag enwau fel ‘Salt Lake City’, ‘Solomon’s Pool’, a ‘Hell’s Pool’. Achubodd y werin ffraeth eu harweinwyr rhag gwneuthur ffyliaid llwyr ohonynt eu hunain. Dagrau pethau yw y ceir digon o dystiolaeth fel hyn o ddiffyg parch i iaith ein tadau ymhlith y Cymry o hyd.”

Gwedd arall ar yr ymgais i groesawu’r di-Gymraeg i gymdogaeth Marian y De oedd cael Saeson, a hyd yn oed Ffrancwr o’r enw Le Peton, i agor ysgolion preifat yno. Ai llawer o’r plant i’r ysgolion hynny, a merched y Parchg. D.E. Davies yn eu mysg, yn hytrach nag i ysgolion y Bwrdd Ysgol a Phenlleiniau yn y dref. Os mai prin oedd yr addysg Gymraeg bryd hynny yn ysgolion Pwllheli, gwrth-Gymreig hollol a fyddai naws ysgolion preifat Marian y De.

Yn rhagluniaethol y bu hi mai capel Cymraeg ei iaith a godwyd yn South Beach. Yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn barod wedi sefydlu Capel Saesneg ar Ffordd yr Ala ym Mhwllheli ym 1887, ac yn Neuadd y Dref y cynhelid yr oedfaon hynny cyn codi’r Capel Saesneg. Rhaid cofio mai Achos Saesneg a gafodd ei ffurfuio yn Nant Gwrtheyrn gan y Parchg. D.E. Davies ar gyfer gweithwyr di-Gymraeg y chwareli, a bu gan ei fab hynaf, Evan R. Davies, ran flenllaw yn hanes sefydlu’r Achos Saesneg a gyfarfyddai yn Neuadd y Dref, Pwllheli, cyn adeiladu Capel Saesneg, Ffordd Yr Ala.

Dywed D.G. Lloyd Hughes na fu’r eglwys yn South Beach erioed yn ei hanes yn rhyw gryf iawn yn ystadegol, ond ei bod - pan ysgrifennai ef - “cyn gryfed ag yr oedd yn anterth Diwygiad 1904-05.” Dywed ymhellach na ellid “anwybyddu’r cynnydd sylweddol iawn” a fu ym mhoblogaeth “dalgylch y capel dros y blynyddoedd ac nid yw hynny wedi ei adlewyrchu yn aelodaeth yr eglwys.” “Trwy’r blynyddoedd,” meddai, “er gwaethaf yr anawsterau, a’r aelodaeth yn disgyn mor isel â 28 ar un adeg yn ystod y pumdegau, llwyddwyd i gadw’r drws yn agored. Yng nghalonnau llawer iawn o bobl meithrinwyd rhyw anwyldeb anghyffreduin tuag at ye eglwys, a theg ydyw dwyn i gof . . . mai wrh yr enw ‘Y Capel Bach’ yr adnabuwyd capel South Beach am gyfnod go hir. ‘Y Capel bach,’ hwyrach, ond fel yr awgrymodd y cyn-fugail, Y Parchg. R.H. Evans, YR ACHOS MAWR.”

Fel canlyniad i’r pleidleisio a fu ym 1997 yn eglwysi Presbyteraidd Pwllheli – Salem, Penmownt a South Beach - dros uno’r tair eglwys a chyfarfod fel un eglwys ar safle Penmownt, dan yr enw Eglwys y Drindod, daeth yr achos i ben yn South Beach (fel y daeth hefyd yn Salem).

Gweinidogion a Bugeiliad South Beach

David Evan Davies

Parchg. David Evan Davies  
Y Parchg. David Evan Davies

Ym mhentref Efailnewydd, ar gyrion gorllewinol Pwllheli, y ganed David Evan Davies ym 1843. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Llannor ac mewn ysgolion preifat ym Mhwllheli, cyn derbyn hyfforddiant fel saer coed. Dechreuodd bregethu yn 17 oed, a chafodd ei anfon gan yr Henaduriaeth i Glynnog Fawr i Ysgol Eben Fardd, ac oddi yno i Goleg y Bala (lle nad arhosodd ond prin flwyddyn ar cyfrif afiechyd). Bu’n ysgolfeistr yn Rhydyclafdy am flwyddyn, cyn mentro i fyd yswiriant. Wedi ffurfio Cymdeithas Adeiladu Llŷn ac Eifionydd ym 1866, penodwyd ef yn ysgrifennydd iddi, a bu yn y swydd am ymron i 30 mlynedd. Sylfaenodd achos Saesneg i’r gweithwyr yn Chwarel Nant Gwrtheyrn, a bu’n gofalu am yr achos fel bugail am rai blynyddoedd. Bu hefyd yn gofalu am gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llithfaen, cyn symud i Bwllheli ym 1878, ac ymaelodi yn Salem. Gwnaeth waith yno fel bugail. Ordeiniwyd yn weinidog yng Nghymdeithasfa Llanrwst ym 1874. Pregethodd gydol ei oes heb golli unrhyw Sul. Cafodd ei ethol yn gyfrifydd siartedig. Bu’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli ac yn gynghorydd sirol. Bu’n flaenllaw yn sefydlu
Marian y De (South Beach) fel treflan ar gyfer ymwelwyr, ond collodd gryn arian yn y fenter. Dychwelodd i fyd yswiriant gan symud i Gaernarfon fis Awst 1896, fel rheolwr Gogledd Cymru o gwmni Efrog Newydd. Ym 1903, cafodd ei benodi gan ei gwmni yn rheolwr dros Gymru. Golygai hynny symud i Gaerdydd. Ymaelododd yng Nghapel Heol y Crwys. Nid oedd yn hapus yng Nghaerdydd, a llwyddodd i roi ddarbwyllo’I gyflogwyr i adael iddo gyflawni’r gwaith o Bwllheli. Dychwelodd yn nechrau 1905 i ofalu’n ddi-gyflog am eglwys South Beach. Bu’n ddirwestwr cadarn gydol ei oes, a bu ganddo swyddi pwysig gyda’r Temlwyr Da. Ef oedd sylfaenydd Cymdeithas yr Allor Deuluaidd. Bu farw yn 71 mlwydd oed ar Fedi 18, 1914. Bu ei angladd – un o’r mwyaf a welodd Pwllheli - yn y capel, a chafodd ei gladdu ym mynwent Deneio. Gosoidwyd tabled pres ar y mur ger y pwlpud i’w gofio ym 1916.


Griffith Hughes

Brodor o Gefnywaun, ger Caernarfon, a aned ym 1840. Cafodd hyfforddiant fel argraffydd ym Mangor. Dechreuodd bregethu, ac wedi cyfnod yng Ngholeg y Bala, cafodd ei ordeinio ym 1865. Aeth yn genhadwr i India ym 1865, gan dreulio cryn ugain mlynedd yno’n cyflawni diwrnod da o waith. Sefydlodd argraffdy yn Cherrapunji, a bu’n hyfforddi pobl ifainc yn y grefft. Bu’n sefydlu eglwysi newydd, a bu’n gyfrwng i weld brenin y wlad yn troi’n Gristion. Wedi dychwelyd o India, am gyfnod bu’n byw ym Mhen-y-groes, Arfon, cyn symud i Bwllheli ym 1900 a byw ym Marian y De. Bregus oedd ei iechyd, ond gwnaeth gymaint ag a allai i gynorthwyo’r achos yn y Capel Bach. Aeth yn aelod i Benmownt ym 1903. Bu farw ar Ragfyr 8, 1907.


Thomas Williams

Brodor o Rydyclafdy ydoedd. Bu’n gweithio ar ffermydd cyn dechrau pregethu ym 1875. Anfonodd yr Henaduriaeth ef i Ysgol Clynnog ac oddi yno i Goleg y Bala. Cafodd ei ordeinio yng Nghymdeithasfa Llangefni, fis Mehefin 1882. Symudodd o Rydyclafdy i fyw i Bwllheli ym 1901. Ymaelododd yn eglwys Penmownt, gan gyflawni gwaith gwerthfawr yno ac yn Ysgol Genhadol y Traeth, yn arbennig pan nad oedd fugail yno. Bu’n gefn mawr i’r achos yn South Beach hefyd. Bu farw yn 76 mlwydd oed ym 1926.


Richard Humphrey Evans

Ganwyd yng Nghaergybi ar Ebrill 8, 1904, a magwyd yn eglwys Disgwylfa ar Ffordd Llundain yn y dref honno. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir, Caergybi, cyn mynd i Goleg y Brifysgol ym Mangor, lle graddiodd ym 1927 gyda anrhydedd mewn Lladin. Dechreuodd radd y B.D. ym Mangor a’i chwblhau yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth ym 1931. Aeth oddi yno i Rydychen gan gofrestru yng Nghymdeithasfa’r Santes Catherine. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Diwinyddiaeth ym 1933. Aeth i baratoi at fod yn weinidog i Goleg y Bala ym 1933 - 34, a chafodd ei ordeinio’n weinidog capeli South Beach, Tarsis ac Ala Road ym Mhwllheli, lle bu o 1934 hyd 1943. Symudodd ym 1943 i fugeilio eglwysi Bethesda a Gwylfa, Blaenau Ffestiniog. Ym 1953, cafodd ei benodi’n Brifathro Coleg Rhagbarataol y Bala, a phan fu i waith y Coleg hwnnw gael ei drosglwyddo ym 1964 i’r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth, symudodd yntau yno i fod yn Warden y Coleg hwnnw, ac yn gyfarwyddwr yr adran gyn-ddiwinyddol. Cafodd ei gydnabod yn ddarlithydd yn yr Ysgruthurau Sanctaidd gan Gyfadran Ddiwinyddol Prfysgol Cymru. Wedi ymddeol ym 1976, symudodd i fyw i Ddinbych. Yr oedd yn awdur amryw o lyfrau safonol, a bu’n ysgrifennydd a chadeirydd nifer o bwyllgorau ei enwad ym meysydd addysg a llenyddiaeth. Bu’n gofalu am golofn wythnosol ar faes yr Ysgol Sul i oedolion yn Y Cymro am flynyddoedd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol ar hanes ei enwad yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddodd gofiant ym 1970 i un a hannai fel yntau o dref Caergybi, ac a fu’n athro yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth ac yng Ngholeg y Bala, sef David Williams (1877 – 1927). Lluniodd esboniad ar Efengyl Ioan.
Priododd Anita Owen, merch John Willams, Marian y De, Pwllheli, a fu farw ar Orffennaf 7, 1993. Bu yntau farw yn Llanelwy ar Ebrill 21, 1995. Cawsant eu claddu ym mynwent tref Dinbych.


Tom Nefyn Williams

Y Parchg. Tom Nefyn Williams  
Y Parchg. Tom Nefyn Williams

Ganwyd yn y Fronolau, Boduan, yn fab John Thomas – bardd gwlad adnabyddus yn Llŷn - ac Ann Williams. Symudodd y teulu i fyw i Fodeilas, Pistyll, ar gyrion Nefyn, ac yno y cafodd ei fagu. Wedi gadael ysgol elfennol Nefyn, aeth i weithio i chwarel ithfaen yr Eifl. Ymunodd â’r fyddin ym 1914, a chafodd brofiadau arbennig yn y Dardanelles, Ffrainc, yr Aifft a Chanan, gan ddioddef caledi mawr a chael ei glwyfo. Byddai’n prydyddu yn y cyfnod hwnnw a gwelodd William Williams, ei gyfaill o Gaernarfon, yn dda i gyhoeddi ei waith dan y teitl, Barddoniaeth o waith Twm Nefyn. Daeth adref o’r rhyfel yn heddychwr angerddol. Cyhoeddodd Dagrau Cain – Dagrau Crist ym 1935. Traethawd yn erbyn rhyfel oedd hwnnw. Cyhoeddodd Cymdeithas y Cymod bamffled o’i eiddo, At Suvla Bay: What a soldier learnt at Gallipoli? Dechreuodd gynnal cyfarfodydd efengylaidd o gylch ei gartref, a chafodd ei gymell i fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Aeth i Ysgol y Porth yng Nghwm Rhondda i dderbyn hyfforddiant o dan gyfarwyddyd R.B. Jones. Bu wedyn yng ngholegau diwinyddol ei enwad yn y Bala ac Aberystwyth. Cafodd ei ordeinio ym Mangor ym 1925, a’r un flwyddyn, priododd Ceridwen Roberts, o Goedpoeth. Cawsant dri o blant. Derbyniodd alwad i Ebeneser, Y Tymbl. Bu yno gryn wrthdaro diwydiannol a gwleidydol yn y 1920au. Tynnodd ei bregethau ar faterion cymdeithasol – cyflogau, cyflwr tai’r glowyr a materion tebyg gryn nyth cacwn i’w ben. Amheid ei fod yn cyfeiliorni o ran ei athrawiaeth. Aed a’i achos ger bron Sasiwn y De. Rhoed dewis iddo gydymffurfio neu ymddiswyddo o fod yn weinidog. Gorffennodd ei weinidogaeth yn Ebeneser ym Medi 1928. Ymgasglodd y rhai a’i cefnogai yn Y Tymbl ynghyd, a chaed nawdd ariannol gan Gymdeithas y Crynwyr i adeiladu ‘tŷ cymdeithas’ yn y pentref, a’i alw’n Llain y Delyn. Agorwyd hwnnw ddiwedd Tachwedd 1929. Cafodd y cefnogwyr, fodd bynnag, eu siomi gan ei benderfyniad - yn dilyn cyfnod o orffwys a myfyrdod yn Sefydliad y Crynwyr yng Ngholeg Woodbrooke, Selly Oak, Birmingham – i gael ei adfer yn ôl fel gweinidog gan ei enwad. Ym 1932, derbyniodd alwad i fod yn weinidog Bethel, Rosesmor, Sir Fflint, a bu yno hyd 1937. Bu wedyn yn weinidog yn Y Gerlan, Bethesda, Arfon o 1937 hyd 1946. Bu’n arolygu eglwysi Tarsis a South Beach, Pwllheli o 1946 hyd 1949. Bu’n weinidog eglwysi Edern a’r Greigwen yn Llŷn o 1949 hyd 1958. Byddai’n efengylu yn ei ffordd unigryw ei hun, ac ni bu neb mor effeithiol ag ef yn ei genhadaeth – mewn capel, mewn neuadd, mewn ysbyty, mewn carchar, ar gonglau strydoedd, mewn ffair. Ysgrifennodd lawer i’r Goleuad, a chyhoeddwyd peth o’i waith a’i gerddi yn Yr Ymchwil. Bu farw yn 63 mlwydd oed nos Sul, 23 Tachwedd, 1958, ar ôl bod yn pregethu yng nghapel Rhydyclafdy. Cafodd ei gladdu ym mynwent capel Edern. Rhoed carreg goffa iddo yng Nhapel Rhydyclafdy ac arni englyn y Parchg.William Morris. Ar y garreg, mae’r geiriau:

carreg fedd Tom Nefyn Williams


R. Gwilym Hughes

r gwilym hughes  
Y Parchg.R.Gwilym Hughes

Cymerodd ofalaeth eglwys South Beach yn ychwanegol ym 1970. [Gweler ei hanes ymhlith Cyn-Weinidogion Presbyteriaid Pwllheli]

Arthur Meirion Roberts

arthur meirion roberts  
Y Parchg. Arthur Meirion Roberts


Derbyniodd alwad i Benmownt a South Beach ym mis Medi 1982 gan ofalu am yr eglwys hyd 1991. [Gweler ei hanes uchod]

William Davies

william davies  
Y Parchg. William Davies


Daeth yn weinidog Penmownt a South Beach ym mis Gorffennaf 1991 gan barhau yn ei ofal o eglwys South Beach hyd at ddirwyn yr achos yno i ben yn dilyn y bleidlais i uno tair eglwys Bresbyteraidd Pwllheli yn Eglwys y Drindod ar safle Penmownt. Gwerthwyd adeilad y capel i adeiladwyr llongau. [Gweler ei hanes Y Parchg. William Davies ymhlith Cyn-Weinidogion Presbyteriaid Pwllheli]

CAPEL SAESNEG FFORDD YR ALA

Ymhlith yr eglwysi Anghydffurfiol, y mae un ohonynt – Capel Presbyteraidd Ffordd yr Ala – yn gapel Saesneg. Yr oedd y capel hwnnw’n dathlu canmlwyddiant ei sefydlu ym 1987. Ar yr achlysur hwnnw, cyhoeddodd gweinidog yr eglwys ar y pryd, y diweddar Barchg. Meirion Lloyd Davies (a oedd, gyda llaw, y gweinidog cyntaf i fod yn Faer Cyngor Tref Pwllheli ym 1977 – 1979) lyfryn Saesneg, The First Hundred Years, yn adrodd hanes sefydlu’r Capel Saesneg yn y dref, ac yn y llyfr hwnnw y mae’n cymharu Pwllheli bryd hynny â’r Pwllheli ganrif ynghynt.

Pwllheli Ganrif yn ôl

Dywed Meirion Lloyd Davies fod Pwllheli 1887, fel y gellid disgwyl, yn le gwahanol iawn i Bwllheli ganrif yn ddiweddarach. Yn ddaearyddol, yr oedd y dref yn llawer llai o ran ei maint, wedi cael ei chyfyngu rhwng yr hen Wyrcws ar Ffordd yr Ala yn y gorllewin, a’r Lôn Dywod yn y dwyrain. ‘Doedd dim adeiladau o gwbl i gyfeiriad y môr o Benrhydliniog, ac roedd Marian y De yn y broses o gael ei ddatblygu. Dim ond ym 1878 y dechreuodd dŵr ddod drwy bibellau, ac ym 1882 dechreuwyd rhyw fath ar drefn carthffosiaeth. Roedd strydoedd y dref yn arw a ffwrdd-a-hi, ac ym 1887, gwelodd Cyngor Tref Pwllheli yn dda i ail-wynebu’r Stryd Fawr â cherrig set o chwarel Carreg yr Imbyll. Daeth y rheilffordd i Bwllheli ym 1867, gyda’r stesion yn yr Hen Orsaf ar Ffordd Abererch, pellter o ryw hanner milltir o’r dref. Ag eithrio’r rheilffordd, y cyfrwng teithio oedd car a cheffyl, a byddai teithio o’r dref i Aberdaron, er enghraifft, yn cymryd dwy awr a hanner. Roedd Pwllheli’n dref farchnad ffyniannus, ac wedi bod felly ers canrifoedd. Cynhelid y farchnad ar y Maes, ond yr oedd cymaint o anifeiliaid fel bod y strydoedd yn orlawn ohonynt. Erbyn hynny, wedi dros ganrif o weithgarwch, peidiodd Pwllheli â bod yn yn dref adeiladu llongau, er fod diwydiant pysgota bychan yn parhau gyda phymtheg o gychod pysgota ym 1889. Roedd Chwarel Carreg yr Imbyll yn cyflogi cant o ddynion ym 1891.

‘Roedd addysg gyhoeddus yn dechrau yn y dref. Bu’r ddwy ysgol gynradd ym Mhenlleiniau a Throedyrallt yn agored ers dros 30 mlynedd, ond ar wahân i ysgolion preifat, ‘doedd yn y dref ddim addysg eilradd. Ym 1895, fodd bynnag, agorwyd Ysgol Ramadeg ym Mhlastirion gyda 70 o ddisgyblion o’r dref a’r cylch. Roedd poblogaeth y dref ym 1891 yn 3,242, ac yn ieithyddol, ‘roedd Pwllheli yn gyfan gwbl Gymraeg ac ymron i 95 y cant yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Hawdd dod i’r casgliad mai’r Gymraeg oedd unig iaith y rhelyw mawr o’r boblogaeth.

Yn grefyddol, Anghydffurfwyr oedd mwyafrif llethol trigolion Pwllheli. Dangosodd arolwg a wnaed ar Sul cyntaf Tachwedd 1891 fod 1,600 yn bresennol yng ngwasanaethau’r hwyr yng nghapeli’r Anghydffurfwyr, a bod 265 yn bresennol yn Eglwys Sant Pedr, a oedd newydd gael ei hadeiladu. Yr oedd y gynulleidfa fwyaf - o 457 - ym Mhenmount, 365 yn Salem a 317 ym Mhenlan. ‘Roedd hi’n dra arwyddocaol fod gan Fyddin yr Iachawdwriaeth - nad oedd ond wedi dechrau ym Mhwllheli wyth mis ynghynt - 150 o addolwyr ar y nos Sul honno. Hwnnw oedd cyfnod y capeli llawn a’r pregethu tanbaid, gydag Anghydffurfiaeth wedi cydio ym meddwl ac enaid pobl Pwllheli. Mae’r Dr. R. Tudur Jones, mewn astudiaeh ardderchog o grefydd yng Nghymru yn ystod 1890 – 1914, yn dechrau drwy ddatgan fod Cymru i bob pwrpas yn wlad Gristionogol. Mewn ardaloedd gwledig fel Llŷn, roedd mwyafrif llethol y boblogaeth yn aelodau o’r capeli a chyfartaledd uchel ohonynt yn mynychu’r addoliad. Ar y nos Sul honno ym 1891, roedd dwy ran o dair o drigolion y dref mewn lle o addoliad. Yn ystod ail hanner y ganrif, a hyd 1905, roedd diwygiadau crefyddol yn nodwedd ac yn batrwm o fywyd Cymru.

Os oedd Pwllheli mor drwyadl Gymraeg ganrif a rhagor yn ôl, hawdd gofyn pam fod galw am sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Saesneg yn y dref, a hynny o gofio fod gwasanaethau Saesneg eisoes bryd hynny’n cael eu cynnal yn Eglwys Sant Pedr, a bod yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys Fedyddiedig yn ym Mhwllheli yn cynnal gwasanaethau felly - yn arbennig yn ystod misoedd yr haf. Mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw i’w gael, nid ym Mhwllheli ei hun, ond yn awydd yr Eglwys Bresbyteraidd yn genedlaethol i hyrwyddo’r achosion Saesneg. Roedd amryw (er nad pawb) o arweinwyr yr Eglwys Bresbyteraidd o’r farn fod yr iaith Gymraeg yn dirywio ac mai iaith farw a fyddai cyn bo hir.

Capel Seilo, Nant Gwrtheyrn

Sefydlwyd yr Achos Saesneg cyntaf yn Llŷn yn Nant Gwrtheyrn ym 1874 i fod o wasanaeth i’r Saeson a ddaethai yno i weithio yn y chwarel. Capel Seilo oedd hwnnw - gweler ei lun fel yr oedd uchod. Eironi’r sefyllfa bellach yw fod Nant Gwrtheyrn, a fu’n bentref adfeiliedig heb neb yn byw yno am genhedlaeth, bellach yn ganolfan ffyniannus i ddysgu’r iaith Gymraeg.

Anghywir fyddai tybio fod achos Saesneg wedi cael ei sefydlu ym Mhwllheli am fod amryw o bobl y dref wedi gofyn am hynny, nac ychwaith am fod sêl genhadol yn yr eglwysi Cymraeg am weld hynny’n digwydd. Yr unig reswm dros fodolaeth Capel Saesneg ym Mhwllheli oedd ar gyfrif argymhelliad cryf y Gynhadledd a’r Sasiwn fod eglwysi Saesneg yn cael eu sefydlu drwy Gymru. Dim ond o deyrngarwch i’r enwad a’i arweinwyr y codwyd Capel Saesneg ym Mhwllheli.

Capel Saesneg yr Ala

Llun Ioan W.Gruffydd

Dechreuwyd yr achos Saesneg ym Mhwllheli fis Ionawr 1887 drwy gynnal Ysgol Sul ac oedfa Saesneg yn Neuadd y Dref. Agorwyd y Capel Saesneg ar Ffordd yr Ala, dros y ffordd i Swyddfa’r Heddlu, fis Ionawr 1894.

Capel Saesneg yr Ala

Llun Ioan W.Gruffydd

Un o weinidogion Capel Saesneg, Ffordd yr Ala, oedd Y Parchg. E. Myrddin Evans. Ganwyd ef yn Abergwili, ger Caerfyrddin, ac er iddo gael ei eni dan gysgod Plas yr Esgob yn y lle hwnnw, cafodd ei fagu'n Ymneilltuwr pybyr, ac yn Rhyddfrydwr cadarn. Collodd ei dad yn ieuanc, a thrwy ymdrech galed ei fam y dygwyd ef a thri brawd ieuengach i fyny. Cawsant addysg dda. Wedi gweithio ar fferm am rhyw ddwy flynedd, teilmodd awydd i gyflwyno'i hun i'r weinidogaeth. Dechreuodd bregethu yn 17 oed. Aeth i ysgol yr Hen Goleg ac yna i Athrofa Trefeca. Derbyniodd alwad i Eglwys Saesneg Mount Pleasant, Glyn Ebwy, lle bu am bedair blynedd. Symudodd wedyn i ofalaeth Eglwys Rhayadr am bedair blynedd arall. Ym 1899, derbyniodd yr alwad a gawsai o Eglwys Saesneg, Ffordd yr Ala, Pwllheli, gan aros yno hyd ei farwolaeth. Bu farw nos Sul, Hydref 9, 1904, wedi afiechyd byr ond poenus. Y Sul cynt, bu'n pregethu yng nghapel Penmownt, Pwllheli,  ond cyfyngwyd ef i'w wely yn ystod yr wythnos. Yr oedd yn weithiwr di-flino, a gwnaeth lawer yn ystod ei 36 mlynedd. Bu'n aelod o amryw o fyrddau cyhoeddus ym Mhwllheli: Bwrdd Ysgol a Bwrdd y Gwarcheidwaid, ysgrifennydd i Gymdeithas Ddirwestol Llŷn ac Eifionydd, a Chyngor yr Eglwysi Rhyddion. Adroddid fod ei ofal yn fawr am achos Saesneg Ffordd yr Ala. Cafodd Pwllheli a gwlad Llŷn golled fawr yn ei ymadawiad.

TARSIS

Gwelwyd angen am sefydlu Ysgolion Sul ar wahân i rai’r eglwysi ym Mhwllheli. Cawsai Ysgol Sul Penrhydliniog ei hagor ym mis Awst 1856 a hynny mewn tŷ bychan yr oedd iddo lawr pridd ac a safai yn ymyl y Tŷ Melyn yn ardal Penrhydliniog. Yr un a symbylodd agor yr Ysgol Sul honno oedd y Parchg. Evan Williams (Evan Williams y ‘limner’ – yr arlunydd - fel yr oedd yn cael ei adnabod), a gŵr a fu’n byw am gyfnod byr yn Picton Castle, cyn iddo symud o Bwllheli i Gaernarfon. Agorwyd yr ysgol gan ddau o aelodau eglwys Penmownt – Capt. Adoniah Evans (perchennog y sgwner Vigilant), a John Jones, barcer, Rhydliniog (neu ‘Shôn Wmffra Jones, neu ‘yr Hen Lanc,’ fel yr oedd yn cael ei adnabod). Yr oedd ysgol i’w chael ym Mhenrallt ac yng Nghapel Penmownt, ond teimlid fod angen Ysgol Sul hefyd yn rhan orllewinol hon o’r dref.

  tarsis  
 
Ysgol Sul Genhadol Tarsis,
Rhydliniog, Pwllheli 1897
 

Yr oedd pymtheg yn bresennol ar y Sul cyntaf, a 22 ar yr ail Sul. Galwai’r plant hi yn ‘Ysgol Shôn Jones’ tra bu’n cyfarfod yn y tŷ. Capt. Adoniah Evans oedd yr arolygwr. William Jones, Penygroes (William Tŷ Popty) oedd arweinydd y gân. Yr oedd yno bedwar athro o blith aelodau Penmownt, er fod rhai heb fod yn aelodau yn cynorthwyo yn eu tro.

Cynhelid oedfaon pregethu yno yn achlysurol ar nosweithiau’r wythnos, a gweinidogion y dref yn arwain – yn arbennig y Parchn. James Jarrett a Morris Roberts. Bu cryn frwdfrydedd ac awch dros weld yr ysgol yn llwyddo – cymaint felly fel y codwyd ysgoldy newydd ym 1859. Rhoed tir y rhad gan John Jones, Rhydlinog, a rhoes aelodau Penmownt ac eraill gyfraniadau hael i wneud hynny’n bosibl.

Agorwyd yr ysgoldy newydd yn swyddogol ar Hydref 24, 1859. Bu te yn Neuadd y Dref y diwrnod hwnnw a chaed darlith fin nos. Rhoed yr enw ‘Tarsis’ ar yr ysgoldy newydd gan Capt. Adoniah Evans.

Parhaodd y trefniant hwn hyd at fis Mai 1862, pan fu i dros gant o aelodau adael Penmownt i sefydlu eglwys newydd yn Nharsis, a hynny o dan ofal y gweinidogion Morris Roberts a James Jarrett a’r Diaconiaid, Robert Williams, Alltgoch. a Thomas Hughes, Drugist.  Mae cofnod ar gael sy’n dweud fod yn bresennol y noson gyntaf honno  46 o frodyr a 58 o chwiorydd.

CAPEL TARSIS, PWLLHELI
a arferai sefyll ar gwr y Maes ym Mhenrhydliniog
lle'r arferai'r gyn-siop deledu fod
[Dyfrlun a baentiwyd gan y ddiweddar Mrs. Megan Jones, Avallon, Llwyngwalch, Morfa Nefyn, ym 1970, ac a gyflwynwyd yn rhodd i
Mr. W. Arvon Roberts, Pwllheli, ar gyfrif ei gysylltiad â Chapel Tarsis]

Yn fuan iawn, adroddir fod capel Tarsis ‘wedi myned yn anghysurus o lawn ar y Sabathau.’ Yn wyneb hynny, trefnwyd i ‘gynnal y moddion hwyrol bob Sabboth yn hen addoldy y Bedyddwyr, oblegid ei fod yn helaethach.’ Trefniant dros dro, mae’n siwr, a fyddai hynny, gan i’r angen godi am adeiladu capel newydd arall i’r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli. Capel Salem a fyddai hwnnw. Byddai Tarsis yn parhau am flynydoedd mewn cysyltiad â Salem.

Mae anerchiad Adroddiad Blynyddol Tarsis am 1920 yn adrodd ei bod yn wybyddus “y cariwyd yr achos ymlaen ar linellau cenhadol yn Tarsis am lawer o flynyddoedd mewn cysylltiad a than nawdd Eglwys Salem.” Dywedir ymhellach, “Tua dechrau’r flwyddyn 1920 . . . teimlid awydd gan gynulleidfa Tarsis, a chaed aeddfedrwydd mawr i’w sefydlu yn Eglwys ar ei phen ei hun. Prawf eglur a chryf o hynny,” meddir, “oedd y gynrychiolaeth gref [a aethai] i fyny i Gyfarfod Brodyr Blynyddol Salem a gynhaliwyd Chwefror 5” 1921 pryd y gwnaed cais ffurfiol; ac ar ôl ymgynghori yn wresog yn yr ysbryd goreu pasiwyd hynny yn unfrydol gyda dymuniadau goreu yr Eglwys yn Salem am fendith a llwyddiant yr Achos yn Tarsis.” Ar nos Sul, Mawrth 14, 1921, cafodd Eglwys Tarsis ei sefydlu’n ffurfiol. Roedd yno bryd hynny 112 o aelodau.

Mae cofnod yn Anerchiad 1923 yn cynnwys llythyr a anfonwyd o Eglwys Tarsis at Eglwys Pen-lan, ar farwolaeth Mr. Rhydderch ei Gweinidog. Meddai’r llythyr hwnnw:

“Annwyl Frodyr a Chwiorydd,
Mae’r amgylchiad prudd a’r brofedigaeth fawr yr ydych fel Eglwys yn mynd trwyddo yn ymadawiad eich annwyl a  pharchus Fugail trwy angau yn peri i ni deimlo yn rhwymedig iawn trwy undeb y Saint a chariad yr Efengyl i anfon atoch mor ddwys a chynes y teimla holl frodyr a chwiorydd Tarsis tuag atoch, ond na ddiganoner, mae’r Hwn a gymerodd ymaith yn abl i lenwi pob bwlch a throi yr amgylchiad chwerw yn fendith i’w bobl, ac yn ogoniant i Iesu Grist.
Yr eiddoch yn gywir iawn,
Blaenoriaid.

Gwnaed penderfyniad unfrydol yn Tarsis ar Chwefror 10, 1924, i anfon llythyr at Gyngor Tref Pwllheli. Amcan y llythyr oedd datgan . . .

“Ein bod fel Eglwys, yngwyneb y rhagolwg  y bydd i’r Rheilffordd gael ei hestyn ymlaen Trwy y Dref i Leyn, er yn cymeradwyo hynny, yn gosod o flaen y Cyngor trefol gais cryf a dymuniad taer i’r Cyngor wneud yr hyn a allent i wrthwynebu iddi fynd drwy’r Maes gan y byddai hynny yn sicr o achosi  anhwylustod a cholled fawr i’r Eglwys a’r achos yn Tarsis.”

Trefnwyd i godi Ysgoldy i gapel Tarsis ond ceisiwyd gohirio’r penderfyniad i adeiladu hyd nes cael gwybod i sicrwydd os byddai’r sôn am adeiladu rheilffordd i Lŷn drwy’r Maes ym Mhwllheli yn dod yn ffaith neu beidio. Anwybyddu’r rhybudd i ohirio a wnaed, a mynd ymlaen i godi’r Ysgoldy.

Mae sôn yn anerchiadau Adroddiad Tarsis am estyn galwad ar y cyd ag eglwysi Ala Road a South Beach i Mr. R.H. Evans, B.A., B.D., Caergybi, ym 1935, ac hefyd at ei gyfarfod ymadawol ar Fedi 24, 1943. A sonnir hefyd am Gyfarfod Croesawu’r Parchg. Tom Nefyn Williams I fod yn arolygwr eglwysi Tarsis a South Beach ar Ebrill 15, 1946 .

Ar Ragfyr 27, 1970, adroddir am ddirwyn i ben yr Achos yn Tarsis. Rhoed i bob aelod lythyrau aelodaeth. Bu’r Parchg. R.Gwilym Hughes yn pregethu.

SALEM

Mae cofnod wedi ei ddyddio, Mai 30, 1862, sy’n cyfeirio at gwrdd brodyr lle’r oedd 22 yn besennol. Hysbyswyd yno fod y cais am dir i godi’r capel newdd wedi cael ei ganiatάu, er i’r ‘Arglwydd Newborough wrthod ei werthu na rhoddi Lease am ychwaneg na 60 mlynedd ac mai £4. 4. 0.’ a fyddai rhent y tir. Cafodd y telerau hynny eu derbyn, ac ymhlith y rhai y dymunid diolch iddynt am eu cefnogaeth yr oedd Y Parchg. David Howell, Ficer y dref, ‘am ei deimlad ac ymddygiad Cristionogol a brawdol o barth y lle er ei agosrwydd i’r Eglwys.’ Mae D.G. Lloyd Hughes yn Hanes Tref Pwllheli yn ysgrifennu am y Ficer: “Yr oedd Howell yn ddigon eangfrydig i fynychu gwasanaethau agoriadol Capel Salem (M.C.) ond mae’n debyg mai eglwyswr a’i beirniadodd am wneud hynny mewn llythyr yn y Wasg. Ar ôl iddo adael Pwllheli,” meddir ymhellach, “i fod yn ficer Eglwys St. Ioan, Caerdydd, cafwyd rhagor o brawf o’i fawredd pan ddyrchafwyd David Howell yn Ddeon Tŷ Ddewi.”

Cafodd Capel Salem, Pwllheli,  ei agor yn swyddogol ar Chwefror 4 a 5, 1864 (a Chapel Bethel, Penrhos ar y 3ydd a’r 4ydd). Pregethwyd yn y naill agoriad a’r llall gan y Parchn. John Ogwen Jones. B.A., Croesoswallt, John Phillips, Bangor, a Henry Rees, Lerpwl.


Hawlfraint Alan Fryer
Y gynulleidfa’n gadael Capel Salem, Pwllheli rhyw fore Sul

Y Parchg. John Hughes

Yn Adroddiad Salem am 1905, adroddir i'r eglwys ddatgan "bron yn hollol unol" i alw gweinidog. Erbyn Adroddiad y flwyddyn wedyn, 1906, mae'r gweinidog a alwyd, sef Parchg. John Hughes, yn ysgrifennu: "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf penderfynasoch alw gweinidog i'ch gwasanaethu." Y Gweinidog cyntaf i wasanaethu yn Salem, felly, oedd y Parchg.John Hughes.

Pwy felly oedd y Parchg. John Hughes? Pa faint o’i hanes sy’n wybyddus? Brodor o le ydoedd? O ble y daeth i Bwllheli? A beth fu ei hanes wedyn?

Dyma y mae Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd yn ei ddweud amdano (o’i drosi o’r Saesneg):

Cafodd y Parchg. John Hughes, B.A., B.D., ei eni ym Metws Gwerfyl Goch ym 1876. Yr oedd gerwinder ysgythrog ei fro enedigol wedi cael ei hadlewychu yn ei gymeriad ac yn ei ymddangosiad. Parhaodd yn fawr ei gariad at gefn gwlad hyd ddiwedd ei oes, er na fu iddo ddychwelyd i gefn gwlad i fyw.

Aeth i astudio ar gyfer y weinidogaeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Coleg Diwinyddol y Bala a Phrifysgol Berlin. Cafodd ei ordeinio ym 1905, a bu’n gwasanaethu fel gweinidog cynorthwyol yn Eglwys Gymraeg Princess Road, Lerpwl, am ddwy flynedd, lle’r oedd y Parchg. John Willims (Brynsiencyn) yn weinidog. Oddi yno, aeth y Parchg. John Hughes i Eglwys Gymraeg Salem, Pwllheli. Yno y cyfarfu ac y priododd Miss. Enid Robyns Owen ym 1910. Bu hi'n briod iddo gydol ei oes, ac ni fu byw ond tri mis ar ei ôl.

 

Y Parchg. John Hughes, B.A., B.D.

Ar  Fawrth 23, 1915, cafodd ei sefydlu’n weinidog Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Saesneg yn Princess Road, Bangor, (lle heddiw y mae Eglwys Bentecostalaidd Cynulliadau Duw – Assemblies of God – yn cyfarfod), ac yno yr arhosodd hyd ei farwolaeth ar 10 Hydref, 1955, ac yntau’n 79 mlwydd oed.
Parodd clywed am ei farwolaeth dristwch mawr dros gylch eang wrth i dlawd a chyfoethog fel ei gilydd sylweddoli fod wedi marw un a oedd yn adlewyrchu cymdeithas a chariad Cristionogol i ble bynnag yr âi. Nid oedd neb uwchlaw nac islaw ei ddiddordeb a’i gonsýrn. Fel y dywedwyd amdano, ‘Mae John Hughes yn ffrind i bawb.’ Roedd ei gorff tal, unionsyth yn arwydd o nerth a chysur i lawer; yr oedd iddyn nhw, yn wir, yn gynrychiolydd Crist ar y ddaear.

Roedd cyfrinach ei lwyddiant i’w chanfod yn ei fywyd defosiynol disgybledig. Mi fyddai’n gweddïo’n rheolaidd, mi fyddai’n gweddïo’n daer, ac mi fyddai’n eiriol dros amryw wrth eu henwau. Mi fyddai’n darllen ac yn myfyrio yr un mor drwyadl. Pan ymddeolodd o’i ofal bugeiliol, nid ymddeolodd o’i astudio. Byddai rhywun yn aml yn ei ganfod yn gweithio ar un o’r proffwydi yn yr Hebraeg, neu yn un o’r Epistolau mewn Groeg. Yr oedd, yn wir, yn fyfyriwr dyfal. Roedd yr ysgolhaig a’r sant ynddo wedi eu huno’n brydferth yn ei bersonoliaeth. Teimlai angerdd wrth bregethu, ac mae dyn yn falch o feddwl iddo gael pregethu hyd y diwedd.

Mae wedi’n gadael, ond y mae gennym o hyd yr atgof am ei ysgwyd llaw cyfeillgar, ei ddiddordeb personol a’i gymeriad a oedd fel sant.

Yn ei anerchiad yn Adroddiad 1911, mae'r Parchg. John Hughes yn ysgrifennu: "Ymhlith y rhai a hunodd, yr oedd dau weinidog ac un pregethwr, sef y brodyr annwyl John Richard Williams, John Ellis, ac Owen. N. Jones. Tua naw mlynedd y bu'r Parch. J.R. Williams gyda ni, a gwnaeth ei hun yn gartrefol a defnyddiol iawn yn ein plith. Bu ei ysbryd llon a'i eiriau caredig yn fendith i lawer o honom. Yr oedd y Parch. John Ellis yn un o sefydlwyr yr achos. Ychydig iawn o'r rhei'ny sydd eto yn aros: ond y mae'n amlwg mai cenhedlaeth o bobl rymus oedd honno, hynod am eu brwdfrydedd a'upenderfyniad. Ac un o'r goreuon ohonynt oedd Mr. Ellis. Dewiswyd ef yn flaenor yn ieuanc, a bu am flynyddau meithion yn un o dywysogion Israel ar gyfrif ei haelioni a'i ymroad i bob gwaith crefyddol. Gadawodd nifer o'i lyfrau i Lyfrfa yr Eglwys, a bu farw, mae'n ddiau, a Salem yn ysgrifenedig yn ei galon.”
Ysgrifennodd y Parchg. John Hughes mewn man arall y geiriau hyn amdano.

Y Parchg. John Ellis

Ganwyd y Parch. John Ellis yn y flwyddyn 1834, a dygwyd ef i fyny yn aelod o eglwys Penmount, Pwllheli. Prentisiwyd ef yn ddilledydd, a bu am flynyddoedd lawer yn un o brif fasnachwyr y dref. Bu yn briod ddwywaith, ond rhagflaenwyd ef gan ei ddwy wraig a chan bump o’i blant. Y mae dau fab a thair merch yn aros i alaru ar ei ôl . . . Bu Mr. Ellis yn aelod gweithgar yn  eglwys Penmount hyd yr ymraniad mawr yn 1863. Cymhellwyd ef yr adeg honno gan amryw i fyned i’r weinidogaeth, ond ni welai ei ffordd yn glir i gydsynio. Ymsefydlodd yn Shop Goch, ac ynghanol prysurdeb masnach bu yn ffyddlon iawn i achos crefydd. Yn1863, ymneillduodd gyda llawer eraill i Tarsis, ac yn fuan adeiladwyd capel Salem. Cychwynnwyd yr achos mewn storm, ond cafodd Mr. Ellis fyw i weld y storm yn tawelu. Gwelodd eglwys hynafol Penmount yn fwy ei rhif na chyn yr ymraniad, a’i merch yn Salem yn cyrraedd pum cant mewn rhifedi. Daeth y ddwy eglwys i  gyd-fyw yn heddychol a chariadus, ac nid oedd neb yn llawenhau am hyn yn fwy na Mr. Ellis. Dewiswyd ef yn flaenor ymhlith y rhai cyntaf yn Salem. Hwn ydoedd y cyfnod disgleiriaf yn hanes ei fywyd. Yr oedd ganddo foddion ac ewyllys i gyfrannu. Nid oes neb a ŵyr faint a aberthodd mewn arian ac amser. Ni welid seiat na chyfarfod gweddi heb ei fod ef ynddynt. Gweithiai yn eiddgar dros ddirwest, a chasglodd tua £2,000 tuag at gyfalaf Trysorfa’r Gweinidogion. Yr oedd yn ddyn o ddylanwad yn y Cyfarfod Misol a’r Sasiwn. Cyfrifid ef yn hynod am ei letygarwch a’i garedigrwydd i weinidogion y Gair. Nid oedd terfyn ar ei weithgarwch gyda chrefydd. Yn y flwyddyn 1880, dechreuodd bregethu, ac ordeiniwyd ef yn 1895. Ymroddodd i’r gwaith â’i holl egni, ond llafuriai o dan ddwy anfantais fawr, sef diffyg addysg golegawl a diffyg dechrau ar y gwaith yn gynharach ar ei oes. Ni ddaeth i gymaint o amlygrwydd fel pregethwr ag fel blaenor. Yr oedd ei galon er hynny yn y gwaith, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn mawrhau ei swydd ac yn mawrhau ei ddyledswyddau. Pregethodd yn gyson hyd o fewn ychydig fisoedd i’w farwolaeth. Yr oedd yn gymeradwy yn ei  gartref a gofalai am eglwys Salem am flynyddoedd lawer er na alwyd ef yn ffurfiol i’w bugeilio. Anfonodd genadwri, ychydig ddyddiau cyn ymadael, i sicrhau yr eglwys ei fod yn para i weddio drosti. Yr oedd yn amlwg ei fod yn addfedu i’r Nef. Ehedodd ymaith Mawrth 10, 1911, yn 77 mlwydd oed, a chafodd un o’r cynhebryngau mwyaf tywysogaidd. Gŵr didwyll a gonest, caredig a gweithgar, oedd Mr. Ellis. Y Nefoedd yn unig a ŵyr faint ei wasanaeth i’r achos mawr.

Yn adroddiad 1911, dywed y gweinidog: “Gŵr tawel ac athrawaidd oedd Mr. O.N. Jones. Yr oedd yn bregethwr rheolaidd yn y Cyfundeb, ac yn athro rhagorol yn yr Ysgol Sul. Gyda'r Ysgol a'r achos Dirwestol gwnaeth waith godidog."

1913 - BLWYDDYN ERCHYLL LLOSGI'R CAPEL

Bu 1913 yn flwyddyn erchyll iawn yn hanes Salem, Pwllheli. Ymddangosodd adroddiadau yn y wasg am yr anfadwaith a ddigwyddodd. Meddai un or adroddiadau:

Tua un o'r gloch ar fore Sadwrn, Gorffennaf 5, 1913, achoswyd cyffro anghyffredin ym Mhwllheli o ddeall fod Salem, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, ar dân. Canfu Mr. Richard. Evans, y meddyg esgyrn, a oedd yn byw dros y ffordd i’r capel, hynny tua un o’r gloch, ac aeth ar unwaith i roi gwybod. Cyn pen dim yr oedd y tân-ddiffoddwyr a channoedd lawer o bobl wedi ymgasglu. Canfuwyd ar unwaith mai rhan uchaf y capel yn siamber yr organ yr oedd y tân, ac aeth y tân-ddiffoddwyr ac eraill ati â'u holl egni i geisio diffodd y fflamau. Gweithiai’r Parchg. John Hughes (gweinidog), y Parchg. Henry Rees, a’r Parchg. J. Edwards (ficer), ymysg amryw eraill i gadw’r tân rhag ymledu i’r festri. Cyn pen ychydig iawn o amser yr oedd yr holl adeilad yn goelcerth. 

Yn pen teirawr, nid oedd ond y muriau moelion yn aros – yr organ hardd, y pwlpud a’r seddau, y to a’r holl goed  oedd oddi fewn i’r adeilad yn lludw, a gwydrau’r ffenestri a’r pobellau yn toddi ac yn rhedeg fel dŵr. Fodd bynnag, llwyddwyd i gadw'r fflamau rhag cyrraedd y festri  gysylltiol, a chyda cryn drafferth arbedwyd yr adeilad hwnnw. Yr oedd yr olygfa'n arswydus i'r eithaf - gweld yr adeilad prydferth yn mynd yn aberth i'r fflamau, a channoedd lawer o bobl yn gwylio ond yn methu gwneud dim i'w arbed. Gymaint oedd y gwres fel na ellid sefyll o fewn llathenni lawer i'r lle, ac yr oedd llewyrch y tân i’w weled am filltiroedd o bellter. Yr oedd yn amlwg fod y capel wedi ei roi ar dân yn fwriadol.


CAPEL SALEM WEDI’R TÂN

Caed arwyddion amlwg hefyd yn dangos fod ymgais wedi ei wneud i losgi’r festri, gan y caed olion tân mewn rhai o'r cypyrddau, ond yr oedd y fflamau wedi diffodd cyn gwneud Ilawer o niwed. Canfuwyd hefyd fod ymgais debyg wedi ei gwneud i gapel Y Tabernacl (Bedyddwyr) yr un noson. Caed clo'r drws yno wedi ei dorri, a’r safe, lle y cedwid arian a gweithredoedd y capel, wedi ei ddryllio, ond nid oedd dim gwerthfawr wedi ei gymeryd oddi yno. Yr oedd y nwy hefyd wedi ei ollwng i redeg, a thân wedi ei roi ar un o'r jets, ond canfuwyd y perygl mewn pryd, a chafodd y cysylltiad nwy ei dorri.

CYMRYD DYN I'R DDALFA

Yr oedd dyfalu mawr yn y dref pwy oedd yn euog o’r fath anfadwaith. Tybid ar y dechrau mai gwaith suffragettes ydoedd, ond ni chaed dim arwyddion yn cadarnhau’r dybiaeth honno. Wedi gwneud ymholiadau, caed fod dyn dieithr wedi ei weld o gwmpas y dref ar y nos Wener, a bod amheuaeth ynghylch ei amcanion. Rhoed hysbysrwydd i'r heddgeidwaid gan Mrs. Plas Jones iddi weld dyn dieithr a golwg gyffrous arno yn eistedd ger Ysgol Troedyrallt pan yr oedd y capel ar dân, a rhoddodd ddisgrifiad ohono. Hysbyswyd hefyd gan Miss. Elizabeth Williams, Stryd King'shead, a oedd yn glanhau ac yn agor capel y Wesleaid, fod dyn dieithr wedi dod i'r festri tua 7 o'r gloch ar y nos Wener, gan holi os oedd yno gyfarfod yn cael ei gynnal yno y noson honno. Wedi deall fod, dywedodd y dyn ei fod wedi addo cyfarfod cyfaill yno, a dywedodd Miss. Williams wrtho am eistedd, ond aeth allan yn fuan. Rhoddodd Mr. Evan Jones, Ffordd Abererch, hysbysrwydd hefyd y gwelodd ddyn o'r un disgrifiad yn mynd ar hyd Ffordd Abererch tua phedwar o'r gloch y bore. Yr oedd y tri disgrifiad a roed i’r heddlu yn cyfateb i  ddyn yr oeddynt hwy mewn amheuaeth ac mewn ymchwil amdano ynglŷn â thorri i mewn i addoldai ym Mangor a mannau eraill ychydig ddyddiau’n flaenorol. Fel canlyniad i  hynny, cymrwyd dyn o’r enw William Alexander Booth Ross i'r ddalfa ym Mhentrefelin yn hwyr nos Sadwrn, gan y Rhingyll Jones o Borthmadog, a dygwyd ef i Bwllheli.


William Alexander Booth Ross ar ei ffordd i’r llys

Y CARCHAROR O FLAEN YR YNADON

Am un  o’r gloch bore Llun, dygwyd William Alexander Booth Ross o flaen yr Henadur W. Anthony, Dr. S. W. Griffith, a Dr. O. W. Griffith. Dywedodd yr Arolygydd Owen fod y carcharor yn y ddalfa ar amheuaeth o fod wedi rhoddi Capel Salem ar dân, ac hefyd o dorri i fewn i Gapel y Bedyddwyr. Gofynnodd i'r Fainc am ohiriad o'r achos am wyth niwrnod. Dywedai fod ganddo resymau digonol i ofyn am hynny. Daliwyd y carcharor oddeutu hanner awr wedi unarddeg o'r gloch nos Sadwrn yn agos i Bentrefelin, gan yr Heddwas Jones, Porthmadog, a throsglwyddwyd ef wedi hynny i ofal y Rhingyll Lloyd a'r Heddwas Roberts o        Bwllheli. Tystiodd yr Heddwas Jones, Porthmadog, ei fod mewn dillad preifat nos Sadwrn, ac iddo ddod ar draws y carcharor yn Mhentrefelin oddeutu hanner awr wedi un-ar-ddeg, a chymerodd ef ar amheuaeth o roddi capel ar dân yn Mhwllheli. Gofynnodd y carcharor iddo sut yr oedd yn sylfaenu ei amheuaeth, a dywedodd y swyddog wrtho y clywai fwy am hynny eto. Gofynnodd y carcharor iddo drachefn a oedd am ei gymryd i Bwllheli, a dywedodd   yntau ei fod. Trosglwyddodd y tyst ef i ofal y Rhingyll Lloyd a'r Heddwas Roberts, Pwllheli, yn Llanystumdwy. Dywedodd yr Heddwas Jones ymhellach iddo gyhuddo y carcharor fore fore Llun o dorri i mewn i gapel ym Mhwllheli, ac o roddi capel arall ar dân, ac mewn atebiad, dywedodd y carcharor fod hynny'n gywir. Rhoed y carcharor ymysg nifer o ddynion yn y llys, ac adnabuwyd ef gan Mrs. Plas Jones, Mr. Samuel Lloyd, Bee Hive (a'i gwelodd yn ymyl Capel Salem yn hwyr ar y nos Wener), Mr. Evan Jones, Ffordd Abererch, a chan Miss. Williams, Stryd King'shead. Gofynnwyd i'r carcharor a oedd ganddo wrthwynebiad i ohirio’r achos am wythnos, ac atebodd yntau, “Dim o gwbl, cyn belled y caf ddigon o fwyd." Gohiriwyd yr achos yn unol â chais yr Arolygydd.

    GWEITHGARWCH YR HEDDLU.

Y mae’r Arolygydd Owen, y Rhingyll Lloyd, a'r heddlu lleol i'w mawr ganmol am yr ymdrech a wnaethant i ddod o hyd i'r sawl gyflawnodd yr anfadwaith, a da genym i'w hymdrech fod yn llwyddiant. Yr oeddynt wrthi yn gynnar fore Sadwrn yn gwneud ymholiadau, a thrwy yr ymchwil hwn cawsant ddisgrifiad o’r dyn. Nid oedd unman o fewn milltiroedd i'r dref nad oeddent wedi bod yn chwilio amdano, a mawr oedd y llawenydd tua hanner nos pan ddeallwyd fod y dyn a ddisgrifid wedi ei ddal ym Mhentrefelin.

Addefodd Ross yn ddiweddarach iddo dorri i fewn i gapeli ym Mangor, a chael ei gosbi am droseddau tebyg ym 1911 ym Mrawdlys  Chelmsford. Yn Llys Chwarterol Caernarfon, cafodd ei ddefrydu i bum mlynedd o bennyd wasanaeth.

RHODD HAELIONUS.

Adroddwyd fod Mrs. Roberts, Hope House, wedi rhoi rhodd o gan' punt i eglwys Salem fel arwydd o’i chydymdeimlad â'r eglwys yn y golled drom a gafodd.

YMATEB GWEINIDOG SALEM


Ysgrifennodd y Parchg. John Hughes, gweinidog Salem, yn Adroddiad yr eglwys am 1913, mai digwyddiad mawr y flwyddyn oedd llosgi’r capel.

“Parodd yr anfadwaith hwn,“ meddai, “ddychryn a braw i ni oll. Nid all neb a’i gwelodd anghofio yr olygfa oddeutu tri o’r gloch bore Sadwrn Gorphennaf 5ed. Llwyr losgwyd y Capel, ac ni adawyd i sefyll ond y muriau moelion. Ond llwyddwyd drwy fawr ymdrech i gadw’r Ysgoldy bron yn ddi-anaf. Oni bai ei bod yn noson dawel, buasai yr holl adeiladau wedi eu dinistrio.”

Â’r gweinidog ymlaen i ddweud: “Yng nghanol ein braw a’n galar, teimlem oll mai ein lle oedd diolch yn bennaf oll am na chollodd neb ei fywyd . . . Yr oeddym hefyd yn ddiolchgar am y cydymdeimlad a ddangoswyd tuag atom. Daeth llythyrau caredig o bob cyfeiriad – oddi wrth Gyfarfodydd Misol, yr Eglwysi a phersonau unigol, ac ymhlith eraill oddi wrth gyn-aelodau yr Eglwys sydd wedi ein gadael ac wedi mynd rai ohonynt tuhwnt i’r môr. Nid allwn chwaith byth anghofio caredigrwydd ein cyd-drefwyr, ac yn arbennig ein brodyr a’n chwiorydd yn Eglwys Penmount a fu garediced â chyflwyno i ni enillion yr Organ Recital. Gwyddom mai cydymdeimlad cywir â ni, a chariad pur at ein Harglwydd, a’u cymhellai i wneud y fath beth. Cydweithiodd pawb i wneud y Recital yn llwyddiant, a chyrhaeddodd yr enillion £113.”

“Y mae’r llosgi,” meddai’r gweinidog yn ei anerchiad, “wedi profi yn fendith i ni fel Eglwys. Nid i ddinistrio y crewyd tân, ond i buro; a chredwn ein bod fel Eglwys wedi bod o dan yr oruchwyliaeth honno y misoedd diweddaf. Ni wybu rhai ohonom erioed faint ein cariad at yr achos hyd nes gweled ohonom deml Duw yn llosgi. Wrth edrych ar y tân hwnnw elai ein cariad at ei Enw Ef yn fflam yn ein calon. Hynny mae’n ddiau a ddeffrôdd ynom ysbryd haelioni, ac a barodd i addewidion yr aelodau  yn  unig  gyrraedd  £1500. . .  Rhwng pob peth, bydd y ddyled ychwanegol yn £5500.”
Yn Adroddiad Eglwys Salem am 1914, mae’r Parchg. John Hughes yn ysgrifennu fod tymor ei arhosiad fel gweinidog yn Salem yn agos. Treuliasai wyth mlynedd a hanner yno, a symudodd ym 1915 o Bwllheli, yn dilyn derbyn yr alwad a gawsai, o Eglwys Saesneg Princess Road, Bangor. Ar ran ei briod a’i ferch fach, y mae’m mynegi ei ddiolch am bob caredigrwydd a chydweithrediad a gafodd, gan fynegi ei obaith y gwelai’r Eglwys yn dda i ddewis olynydd iddo’n fuan.

GWEINIDOG CYNTAF A SWYDDOGION EGLWYS SALEM

Rhes ôl:
Mr. R. Murray, Carreg yr Imbyll, a Salem Place; Mr.  Robert  Parry, Gwynfryn, a Salem Terrace; Mr. Roberts, Trelan, a’r Maes; Mr. Griffith, Ffactri, a Stryd Penlan;Mr. Rowlands, Honey, a New Road; Mr. H. Pritchard (Twrna), 2 Salem Place, a Mount Pleasant, Stryd Penlan;
Rhes flaen:
Mr. R. Barker Jones, Post, South Beach;Mr. W. Jones, Yr Eifl, Stryd Fawr; Mr. Joe Hughes, Trefodfel (Newborough Place); Y Parchg. John Hughes, B.A., B.D. (Gweinidog); Mr. J.G. Jones, Manor, a Ffactri; Mr. Robyns Owen, Erwen, a Stryd Fawr; Mr. E.Evans, Highlands, a Stryd Fawr

Y Parchg. Ddr. Griffith Robert Jones

Dilynwyd y Parchg John Hughes yn Salem gan y Parchg. Ddr. Griffith Robert Jones, a oedd yn frodor o Forth-y-gest, ac a fu farw yn annisgwyl ar 17 Tachwedd, 1962 yn 76 mlwydd oed. Mae Blwyddiadur ei enwad yn sôn amdano fel 'un o weinidogion mwyaf teyrngar' y Cyfundeb.’


Yn Adroddiad Salem am 1931, mae’r Gweinidog yn ysgrifennu: “Amgylchiad diddorol i Salem eleni oedd ymadawiad un arall o’n chwiorydd ieuainc allan i India yn genhades. Gadawodd Helen Harris ei chartef am y wlad annwyl honno i ni erbyn hyn, i ymbriodi ag un o’n cenhadon – Y Parch. G. Angell Jones, B.A. Da gennym ddeall ei bod wedi ymsefydlu yno . . . Nid rhyfedd ein bod yn falch o’n pobl ieuainc, a hyfryd meddwl fod linc newydd rhwng Salem ac India.”

Bu'n Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd. Traddododd yr araith ar Natur Eglwys. Roedd ganddo wybodaeth fanwl o reolau'r Cyfundeb. Gwasanaethodd am flynyddoedd lawer fel ysgrifennydd Pwyllgor Heddwch y Sasiwn, a bu'n fawr ei ofal fel aelod o Fwrdd Llywodraethol Gorffwysfa, Pwllheli; yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd ef oedd Llywydd y Bwrdd hwnnw. Roedd yn golofn yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd a chafodd yr anrhydedd o'i ethol yn aelod ohoni am ei oes.

Ganwyd Dr. Robert Jones ym Morth-y-gest ar 5 Ebrill 1886, yn fab i Capten Owen Jones a Mrs. Elizabeth Jones, Craig-y-don. Roedd yn un o chwech o blant. Mynychai gapel Ebeneser, Borth-y-gest, a chydnabyddai ei ddyled drom i'w weinidog, y diweddar Barchg. Griffith Parry. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Porthmadog, lle rhwng 16 a 18 oed, y llwyddodd 'yn y Welsh a'r London Matric,' ac ennill ysgoloriaethau i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Enillodd wedi hynny Ysgoloriaeth Pierce i Goleg y Bala, lle llwyddodd fel yr ymgeisydd ieuengaf ar y pryd, yn arholiad y B.D., gyda sylw arbennig ar bapur Hanes yr Eglwys. Enillodd ei M.A. rhyw bum mlynedd wedi hynny.

Ym 1910, derbyniodd alwad gan eglwys Crosshall Street ac ordeiniwyd ef ym 1911. Symudodd oddi yno i eglwys Spellow Lane, ac yn ddiweddarach i eglwys Fitzclarence Street - y tair yn Lerpwl, lle bu'n fawr ei lafur a'i barch. Yn ystod y Rhyfel Mawr Cyntaf, bu'n gwasanaethu fel athro rhan-amser yn y Collegiate School yn y ddinas, ac oddeutu 1942, derbyniodd y radd D.D. gan un o golegau America. Wedi deng mlynedd o lafur da, symudodd i Bwllheli.

Yn ddiau, eglwys Salem, Pwllheli, a gafodd ei orau fel bugail ac fel pregethwr, ac fel y dywedwyd amdano, nid pregethwr dawnus mohono eithr pregethwr â rhyw angerdd sanctaidd yn cymryd meddiant ohono ar adegau. Fe welid ôl darllen eang a myfyrdod dwfn yn ei bregethau, yn y seiat ac yn ei gyfraniad yn y Cyfarfod Misol, pan fyddai'n ffres a gafaelgar bob amser. Bu'n gaplan Ymneillyuol yng Ngwersyll Butlin, ger Pwllheli, a gwerthfawrogwyd ei wasanaeth yn fawr gan bob dosbarth o ymwelwyr. Nid llai ei wasanaeth i eglwys Saesneg Ffordd yr Ala, lle bu ei ofal fel bugail a phregethwr yn dra derbyniol - gwasanaeth a wnaeth i'r eglwys yn ddi-dâl. Dywedir fod ganddo ddawn arbennig i hyfforddi dosbarth y cymunwyr ieuainc, ac i gadw seiat gan amrywio yn ei ddull.

Yr oedd yn bregethwr, yn fugail ac yn gyfaill. Yr oedd yn ŵr hawdd mynd ato, yn siriol a charedig a pharod iawn ei gyngor. Cofiai ei gyfeillion yn y dref amdano fel un o sefydlwyr y Clwb Rotari. Yr oedd "G.R." yn ŵr amlochrog, a chanddo argyhoeddiadau pendant a'i harweiniai weithiau i brofedigaeth, ond ni ddaliai ddig at ei wrthwynebwyr. Erys y cof amdano fel gŵr unplyg a thirion a'i fryd ar wasanaethu ei Arglwydd o lwyrfryd calon. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent Treflys, Porthmadog, ar 21 Tachwedd, 1962.
 

Y Parchg. Meirion Lloyd Davies, M.A.,

 

Y Parchg. Meirion Lloyd Davies, M.A.
Y Parchg. Meirion Lloyd Davies, M.A., oedd gweinidog nesaf (ac, fel y digwyddodd, gweinidog olaf) Salem, Pwllheli. Yn frodor o Ddinbych, ac wedi derbyn ei addysg ym Mhrifysgol Cymru ym Mangor, ac yng Ngholeg Westminster, Caergrawnt, ordeiniwyd ef ym 1959 yn weinidog eglwysi Gorffwysfa a Phreswylfa, Llanberis. Ym 1964, symudodd i Bwllheli, yn weinidog Salem a’r Eglwys Saesneg, Ffordd yr Ala, lle bu hyd ei ymddeoliad. Yn briod â Mair, a thad i dair merch a thaid saith o wyrion ac wyresau, bu’n ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Cymru ac yn gynrychiolydd Cymru ar Gyngor Eglwysi’r Byd. Yn ystod ei yrfa hefyd, bu’n olygydd Y Goleuad a’r cylchgrawn cydenwadol, Cristion. Roedd galw cyson am ei wasanaeth fel pregethwr ar ôl iddo ymddeol o’r weinidogaeth ym 1998.
Roedd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am dros ugain mlynedd ac yn gweithredu ar Banel Iaith y Maes. Bu’n is-lywydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri, 2005 a derbyniodd y wisg wen gan yr Orsedd ym 1996.
Ym 1978, daeth yn Faer Pwllheli ac yn aelod o hen gyngor sir Gaernarfon. Roedd ganddo ddiddordeb ymarferol mewn gwleidyddiaeth, yn aelod o Blaid Cymru ers y dyddiau cynnar, ac yn areithydd a chadeirydd mewn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus. Bu farw’n 81mlwydd oed ar Hydref 15, 2013. Bu gwasanaeth i ddiolch amdano yng Nghapel y Drindod, Pwllheli.
466 o aelodau yn Salem

Yn ei Gyflwyniad yn Adroddiad Salem am 1965, mae Meirion Lloyd Davies yn ysgrifennu: “Gallwn ddweud allan o 466 o aelodau, bod tua 100 mewn oedfa ar fore Sul, 150 ar nos Sul, 35 o oedolion a 45 o Blant yn yr Ysgol Sul. Daw tua 30 i foddion canol wythnos.” Yna, mae’n gofyn: “Ydi hyn yn ddigon da? Barned pawb dros ei hun.”

Derbyn 50 o aelodau
Yn Adroddiad 1970, dywed y Gweinidog: “Ar ddechrau 1971, agorwyd pennod newydd yn hanes Salem. Derbyniwyd bron i hanner cant o gyn-aelodau Tarsis i’n plith.”

Cenhadaeth i dref Pwllheli
Yn Adroddiad 1972, mae’r Gweinidog yn ysgrifennu: “Cymdeithas genhadol yw’r Eglwys a’i gwaith yw mynd allan yn barhaus i gynnig iachawdwriaeth i ddynion, a chan wasanaethu dynion yn ysbryd yr Efengyl. Gwaetha’r modd, mae Pwllheli erbyn hyn yn faes cenhadol. Tua hanner poblogaeth y dref sy’n aelodau eglwysig. Teimlodd gweinidogion y dref ers peth amser fod angen mynd allan gyda’n gilydd fel Eglwysi, mewn cenhadaeth. Prin fod unrhyw un heb glywed am y genhadaeth i dref Pwllheli a gynhelir yn ystod wythnosau’r Garawys. Byddwn yn mynd i bob tŷ yn y dref yn enw Crist, a byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau cenhadol eu naws . . . Gobeithiwn y bydd y genhadaeth hon yn deffro’n sêl genhadol ni, ac yn dwyn rhai i weld mawredd a gogoniant Crist, o bosibl, am y tro cyntaf erioed.”

Ymgeisydd am y Weinidogaeth

“Digwyddiad pwysicaf y flwyddyn yn Salem,” meddai Meirion Lloyd Davies yn Adroddiad 1975, “oedd fod un o blant yr Eglwys, Mr. Gwyn Roberts, wedi cyflwyno’i hun yn ymgeisydd am y Weinidogaeth. Ni fu ymgeisydd am y Weinidogaeth yn Salem ers blynyddoedd lawer, a chalondid oedd gweld argyhoeddiad mor gryf mewn gŵr mor ieuanc mewn cyfnod mor anodd. Dymunwn yn dda i Gwyn ar ddechrau ei gwrs yn y coleg gan weddïo y bydd ei gadernid yn parhau, ac y daw llwyddiant i’w ran yn ei gwrs.” [Daeth Mr.Gwyn Roberts i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel Y Parchg. Gwyn Rhydderch - gweler isod].

Mr. D.S. Davies, Blaenor a Maer

“Un o’r rhai a fu farw,” meddai’r weinidog, wrth ysgrifennu yn yr Adroddiad am 1990, “oedd ein blaenor hynaf, Mr. D,S. Davies, gŵr a roddodd o’i orau i Salem a Phwllheli. Gwasanaethodd fel blaenor yn Salem am bron i hanner can mlynedd, ac yn ystod y cyfnod maith hwnnw, bu’n dal nifer o swyddi ac nid oedd ball ar ei ffyddlondeb. Cofir yn arbennig am ei gyfraniad fel Arweinydd y Gân, ond bydd pobl y Seiat a’r Cyfarfod Gweddi yn cofio am raen a dyfnder ei weddĩau. Gwasanaethodd y dref, yn gerddorol ac yn ddyngarol, a bu am flynyddoedd lawer yn aelod o Gyngor y Dref, gan wasanaethu fel Maer am ddwy flynedd.”

Bwriad i Uno Eglwysi Presbyteraidd Pwllheli

Yn Adroddiad Salem, 1995, mae’r Parchg. Meirion Lloyd Davies yn ysgrifennu am benderfyniad pwysig a wnaed ymysg aelodau eglwysi Presbyteraidd Pwllheli – Salem, Penmownt a South Beach. Meddai, “Ysgrifennaf y geiriau hyn trannoeth y bleidlais i uno gyda’r ddwy gynulleidfa Bresbyteraidd arall yn y dref. Hoffwn ddiolch i’r nifer helaeth ohonoch a ddaeth ynghyd i fwrw eich pleidlais. Credaf fod tua thraean o’r aelodaeth wedi pleidleisio. Gyda mwyafrif mor sylweddol wedi pleidleisio dros dderbyn y cynllun, gallwn symud ymlaen yn hyderus yn awr i greu Eglwys niferus a graenus ym Mhwllheli at y ganrif nesaf. Nid oedd y penderfyniad yn un hawdd o gwbl, yn enwedig i’r rhai hynny ohonoch a fu’n gysylltiedig â Salem ar hyd eich oes. Credaf, fodd bynnag, ein bod wedi dewis y llwybr doethaf. Mae’n llawer rhagorach ein bod wedi penderfynu uno pan mae eithaf bywyd yn Salem a Phenmownt, na gadael i bethau ddirywio ymhellach a chael ein gwthio gan amgylchiadau i uno y pryd hynny. Bydd cyfle yn awr i grynhoi ein hadnoddau a chael adeilad addas ar gyfer anghenion heddiw, yntau, drwy addasu un o’r ddau adeilad presennol, neu gael adeilad hollol wahanol.” Y penderfyniad hwnnw, maes o law, a arweiniodd i sefydlu Eglwys y Drindod ym Mhwllheli, a hynny ar safle Penmownt.

Y Parchg. Meirion Lloyd Davies, M.A., oedd Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 2002 – 2003.


CODWYD I'R WEINIDOGAETH YN SALEM


Huw Walter Jones, B.A., B.D.
Ganwyd ef ym Mhwllheli ym 1909, a chafodd ei addysg yn ysgolion y dref. Roedd y teulu'n aelodau yn Salem, ac oddi yno y bu iddo gyflwyno'i hun i'r weinidogaeth. Aeth i Goleg y Brifysgol ym Mangor, gan raddio yno mewn Economeg a Chymraeg. Aeth wedyn i Aberystwyth gan ennill ei B.D. mewn Hanes yr Eglwys a Groeg, ac ennill ysgoloriaeth Pierce. Gwnaeth gryn enw iddo'i hun fel pel-droediwr yn y colegau a chyda thîm tref Pwllheli. Ar ôl treulio blwyddyn arall yng Ngholeg y Bala, ym 1937, aeth yn weinidog i ofalaeth Bethesda a Gwylfa, Blaenau Ffestiniog. Aeth oddi yno i Garmel, Conwy, cyn mynd, ym 1945, i fod yn athro yn Ysgol Penarlâg. Ym 1946, derbyniodd alwad fel gweinidog i Ynys Môn lle bu'n fugail eglwysi Llanallgo, Brynrefail a'r Benllech. Ym 1959, aeth yn fugail Eglwys Berea, Bangor, ac oddi yno ym 1966 yn ddarlithydd i'r Coleg Technegol ym Mangor, cyn ymddeol ym 1966. Yr oedd yn ŵr unigryw, ar lawer cyfrif gyda meddwl annibynnol a byw. Yr oedd yn ymholwr am y Gwirionedd, ac ni wnai unrhyw ateb y tro. Yr oedd yn ŵr diwyd a gofalus, twt a thaclus ym mhob peth.

Gwyn Rhydderch, B.D.

William Evans

Brodor o Bwllheli yw'r Parchg. Gwyn Rhydderch, a mab Mr. a Mrs. R.J. Roberts, 2 Allt Salem. Ar ôl bod yn Ysgol Troed yr Allt ac Ysgol Uwchradd Pwllheli, aeth i weithio yn Siop Hepworths yn y dref. Yn ei deyrnged i'w weinidog yn Salem, y diweddar Barchg. Meirion Lloyd Davies, mae'r Parchg. Gwyn Rhydderch yn dweud na allai gofio Pwllheli heb Mr. Davies, a chofiai fel y bu iddo ofyn i'w fam, “Pwy ydi’r hen ddyn ‘na?” Cydnabyddai nad oedd ei weinidog yn "hen - yn ei dridegau cynnar oedd o." Ond iddo ef, bryd hynny,"hen bobl oedd yn gwisgo’r goler gron!" Nid oes ganddo lawer o atgofion o gyfnod ei blentyndod am Mr. Davies, ond "gallai," meddai, "fod yn dragwyddol ddiolchgar iddo am ei ymwneud ag ef yng nghyfnod ei lencyndod." Dywed nad oedd yn mwynhau’r dosbarthiadau derbyn yn Salem, ac yn fuan wedi iddynt orffen, cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod. Ond stopiodd fynd i’r capel. Diflastod oedd crefydd a chrefydda iddo. Dywed iddo fynd "oddi ar y rêls" wedi cychwyn gweithio. Wnaeth ei weinidog, fodd bynnag, ddim rhoi'r ffidil yn y to yn ei ymwneud âg ef. "Gwyn," meddai ei weinidog wrtho, "ma' na gyfarfod arbennig i bobl ifanc yn y Festri wythnos nesaf, beth am i ti daro mewn? Mi dderbyniodd y gwahoddiad a mynd yno. A dyna'r noson," meddai, y bu iddo "ddechrau sylweddoli pethau mawr." Ymhen rhyw fis, roedd yr Arglwydd wedi cyffwrdd â'i galon. "Roedd Iesu Grist bellach yn real." Mae'n dweud fel y bu i'w fam a'i dad ryfeddu o ddeall ei fod am ddod hefo nhw i'r capel y Sul wedyn. Ac mae'n ychwanegu ei fod yn siwr fod ei weinidog hefyd wedi cael sioc o'i weld ef yn eistedd ar y galeri. Rhyw dair blynedd wedyn, penderfynodd ei fod am fynd i'r weinidogaeth. Cafodd hyfforddiant pen i gamp gan y Parchg.Meirion Lloyd Davies yn ystod Gwanwyn a Hâf 1975. "Cawn gyfnod wythnosol gydag o yn y stydi yng nghanol y llyfrau yn trafod hyn a'r llall. Byddai'n fy rhoi ar ben ffordd sut i greu pregeth. Dwi'n cofio'n iawn y testun i ni benderfynu arno, sef adnod o'r Bregeth ar y Mynydd, "Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon." Aeth i'r Coleg Diwinyddol i Aberystwyth, ac ennill gradd B.D. Prifysgol Cymru. Ym 1981, ordeiniwyd ef yn weinidog, a dechreuodd ei yrfa fel gweinidog yn Llanymddyfri, cyn symud oddi yno i Lanrhaeadr-ym-mochnnt. Ym 1988, daeth i Ofalaeth Pen Llŷn, a oedd yn cynnwys, bryd hynny, eglwysi Tudweiliog, Penllech, Rhydlios, Deunant ac Uwchmynydd. Yn ddiweddarach, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Gwaith Gwaith Plant ac Ieuenctid Egwys Bresbyteraidd Cymru.

CARTREF HWYRDDYDD GORFFWYDFA, PWLLHELI

Sonnir uchod i’r Parchg. G. Robert Jones, gweinidog Salem, Pwllheli, gael ei ethol yn ‘aelod am oes’ o Fwrdd Llywodraethol Gorffwysfa, Pwllheli. Beth oedd hanes a chefndir y Cartref hwnnw?
Mae Dafydd Wyn Owen yn ei Nodion o Lŷn yn wedi ysgrifennu yn y modd yma dan y pennawd,

‘Cau Drws Gorffwysfa’:

‘Daeth deigryn i lygaid Huw Davies, y cyn-chwarelwr a’r cyn-gofrestrydd o Bwllheli wrth iddo gau drws Cartref Hwyrddydd Gorffwysfa, Pwllheli am y tro olaf . . .
‘Ar ôl bod yn Gartref y Methodistiaid Calfinaidd am ddeugain mlynedd, bu’n rhaid, oherwydd gofynion Deddf Cartrefi Henoed Preifat 1984 ddod i’r penderfyniad nad oedd dim ellid ei wneud ond cau.

‘Dywedodd Huw Davies. Fu’n Ysgrifennydd Mygedol Gorffwysfa ers 1958 ei fod wedi troi pob carreg yn ystod y pedair blynedd diwethaf i geisio cadw’r drws yn agored.
‘Yn wir, llwyddwyd i gael ymestyn y drwydded hyd fis Medi eleni ar ôl gwario £16,500 i ddod a’r Cartref i fodlonrwydd Awdurdod Tân Gwynedd. Ond yr oedd angen rhagor o wariant i ddod at holl ofynion y Ddeddf. Gwrthodwyd grant i’r Bwrdd Llywodraethol i wneud y gwelliannau gan Gyngor Dosbarth Dwyfor ”oherwydd na ellid ei ystyried yn dŷ annedd yn unol â Deddf Tai Preifat 1984.”

Ond, yn ôl Huw Davies, saethwyd yr ergyd olaf gan y Swyddog Trwyddedu, pan ddywedodd wrth y Bwrdd Llywodraethol “na fuasai’n adnewyddu ein Trwydded fis Medi nesaf oni lwyddid i leoli toiled ar lawr isaf Gorffwysfa.” Yr unig ffordd, meddai Huw Davies, i wneud hynny fuasai “symud y gegin i’r seler a gwneud toiled yn lle’r gegin bresennol. Byddai hynny yn gost ychwanegol o tua £15,000, a dim sicrwydd wedyn y byddai’r tŷ yn addas yn ôl gofynion y Ddeddf.”

‘Loes yr ergyd yma i Huw Davies oedd fod preswylwyr Gorffwysfa wedi gwneud heb doiled ar y llawr isaf am ddeugain mlynedd, ac ni chlywodd neb yn cwyno o gwbl. Effaith yr ergyd oedd iddo gytuno, yn erbyn ei ewyllys,  gyda’r Bwrdd Llywodraethol i gau’r Cartref.

‘Daeth Gorffwysfa yn eiddo Cymdeithasfa’r Gogledd drwy ewyllys Mr. Owen Jones, Ffatri Penycaerau, ger Aberdaron. Bu Owen Jones, perchennog Ffatri Wlân wledig, farw yn 1925, ond ni ddaeth y tŷ yn eiddo’r Gymdeithasfa nes bu farw ei briod yn 1946.

Yn ôl yr ewyllys, yr oedd y tŷ i fod at wasanaeth Cartref Plant Amddifad Bontnewydd, ond pan basiodd Llywodraethwyr Cartref Bontnewydd na fedrent wneud defnydd ohono, penderfynwyd yng Nghymdeithasfa Rhosllannerchrugog ym Mhehefin 1947 i’w wneud yn Gartref Hwyrddydd. Yng Nghymdeithasfa Penygroes y mis Medi dilynol, dewiswyd y pwyllgor cyntaf.

‘’Mr J. Eryri Jones, Bangor, fu’r Ysgrifennydd cyntaf, a dilynwyd ef gan Huw Davies ym 1958. Penderfynwyd y gellid cadw deg o breswylwyr o unrhyw venwad. Y warden cyntaf oedd Miss. E. Owen, Wrecsam, bu wardeniaid eraill y blynyddoedd dilynol, a dewiswyd Mrs. Nan Griffith yn 1954. Bu hi a’i phriod, John, mewn gofal hyd at y cau.
‘Agorwyd y Cartref yn swyddogol ar Medi 8, 1948 gan y Parch. Morgan W. Griffith, Penmownt, Pwllheli, ac yr oedd tua tri chant yn bresennol yn y seremoni. Cafwyd cefnogaeth ariannol i Gorffwysfa o bell ac agos. Yn 1948, trefnodd aelodau Capel Twrgwyn, Bangor, i gynnal garddwest a chodwyd £87, digon i ddodrefnu un ystafell yr adeg honno. Cartref Henoed yn Lerpwl wedyn yn rhoi hyfforddiant am ddim i’r warden a chafwyd ymateb da gan sefydliadau lleol, unigolion a’r enwadau. Yn ystod y deugain mlynedd ni fu Gorffwysfa yn brin o ewyllyswyr da hyd y pedair blynedd diwethaf, pan ddaeth y Ddeddf y soniwyd amdani i fod, a swyddogion am sicrhau fod yn rhaid ei gweithredu I’r eithaf.

‘Ewyllys dda o bob ochr fu’n fodd i Gorffwysfa fod yn gymaint o lwyddiant am ddeugain mlynedd, a phan ballodd hwnnw gydag ymateb negyddol y Cynghorau, bu’n rhaid cau’r drws. Yr oedd y Bwrdd Llywodraethwyr wedi paratoi am hyn drwy beidio cymryd preswylwyr i mewn, ac ar y diwrnod olaf tri oedd yno. Cafwyd lle i Mrs Elizabeth Ellis, Pwllheli; Mr. William Williams, Efailnewydd, a Mr. Owen Lloyd, Pwllheli, yng Nghartref Plas Hafan, Nefyn.
‘Dywedodd Huw Davies iddo fynd yno i ffarwelio â hwy, dymuno’n dda iddynt ym Mhlas Hafan a’u sicrhau y byddant yn hapus yno. Ymateb Owen Lloyd oedd, “’Does arna i ddim eisiau bod yn hapusach nag a fum yn Gorffwysfa.”
Pan ofynnais i Huw Davies am ei ymateb ef wrth weld drws Gorffwysfa’n cau, dyfynnodd o nofel enwog ei ddiweddar gyfaill, T. Rowland Hughes, “O Law i Law.” Yr oedd yn teimlo yn debyg i John Davies pan estynnodd y goriad i Meri Ifans i gloi’r drws am y tro olaf.

‘Ychwanegodd mai dipyn o broblem fyddai cau drws Gorffwysfa o’r tu fewn pan fyddai gwynt Bae Ceredigion yn chwipio Rhodfa’r Môr ym Mhwllheli. Ac ar ddiwedd ein sgwrs, gallwn ddychmygu ei glywed yn dweud, fel John Davies, “Gwell imi gadw i ffwrdd o’r hen dŷ, bellach. Daw eraill i fyw ynddo, dodrefn ewydd i’w ystafelloedd, llenni dieithr ar ei ffenestri, lleisiau a chamau gwahanol o’i gwmpas ef.”

Pan ymwelais â Gorffwysfa ddydd Iau diwethaf, yr oedd John Griffith (y gofalwr) yn dal i fod yno yn cadw cwmpeini i’r cadeiriau gwag. Chefais i aros fawr gan i gwpl Seisnig ddod i gael golwg ar y lle, gan ei fod bellach ar werth. Arhosais am funud tu allan yn y glaw a cheisiais ddychmygu beth fyddai ymateb Owen Jones pe gwyddai fod Capel Penycaerau, lle bu’n flaenor, bellach yn dŷ a Gorffwysfa ar werth.

Daeth syniad i feddwl John Davies yn “O Law I Law,” fod ei fam yn gwylio ac yn gwrando am sŵn y glicied. Rhyw syniad felly ddaeth i’m meddwl inna’, efallai bod y cymwynaswr o Benycaerau yn synhwyro rhywsut y newid a fu.’