Rhai o Enwogion y Dref

 

Isod mae hanes rhai o enwogion Pwllheli. Mae rhagor o hanesion i ddod!

Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad gorchestol yr arlunydd o Bwllheli ...

CATRIN WILLIAMS - Arlunydd

Catrin Williams

Cafodd Catrin Williams ei geni ym 1966, a’i magu ar fferm fynydd, Llwyniolyn, yng Nghefnddwysarn, nid nepell o’r Y Bala. Yn ferch ifanc, byddai’n ymddiddori yn niwylliant ei hardal gan gystadlu yn yr eisteddfodau lleol. Wedi bod yn ysgolion gwahanol ardal Y Bala: Ysgol y Sarnau, Ysgol Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn, Ysgol y Berwyn, aeth i Goleg Technegol, Bangor, i ddilyn Cwrs Celf Sylfaenol, cyn mynd i’r Sefydliad Addysg Uwch yng Nghaerdydd, lle’r enillodd radd B.A., Gydag Anrhydedd, yn y Celfyddydau Cain. Oddi ar 1996, fodd bynnag, mae wedi ymgartrefu wrth y môr ym Mhwllheli. Mae Cymreictod, a’r profiad o fyw yn Nghymru, wedi bod yn thema ganolog ac amlwg ganddi. Dywedwyd amdani fod delweddau o’i chefndir a’i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu eu ffordd i’w gwaith: y cartref a’r fferm; y dathlu a’r dillad; y gerddoriaeth a’r diwylliant Cymreig; yr arferion teuluol a’r wynebau cyfarwydd. Mae’r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy’i gilydd gan fynnu sylw. Mae gwaith mwy diweddar hefyd yn dwyn ysbrydoliaeth o fôr ac arfordir Penrhyn Llŷn.

Cafodd ei hethol yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig yn 2001.

Ymhlith ei chasgliadau o arlunwaith, y mae MOMA Cymru, Machynlleth; Amgueddfa Oriel Gelf Dinas Casnewydd; Cyngor Sir Gwynedd; a chafodd Casgliadau Preifat o’i gwaith eu gweld ledled y byd. Y mae wedi llwyddo i ennill llu o anrhydeddau a gwobrau. Yn eu plith, enillodd wobr Artist Preswyl i sefydliad Josef Herman yn 2011; Grant Teithio 2009 i Biennale Gelf Fenis; Tir 2009: 5 wythnos preswyliad ar Ynys Gogledd Uist, ar Ynysoedd Heledd; Syniad Da 2003, Cywaith Cymru - gyda JKA Sailmakers, Pwllheli; Artist Preswyl ym Mhlas Newydd, Llangollen 2001; derbyniodd Ganmoliaeth Uchel yn 2001 gan Syr Kyffin Williams, William Selwyn Jones a Peter Prendegast yn Young Wales 5, Academi Frenhinol Gymreig, Conwy; cafodd ganmoliaeth ym 1997 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Bala; derbyniodd Grant Teithio ym 1993 i Galway, Iwerddon; ym 1991, cafodd Ail wobr Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Wyddgrug; ym 1990, derbyniodd Grant Teithio i Tsiecoslofacia; ac ym 1987, enillodd Ysgoloriaeth i Lydaw.

Dros y blynyddoedd mae Catrin wedi cynnal gweithdai ar gyfer plant ysgol o bob oedran drwy Gymru, yn ogystal ag ar brosiectau penodol yn Swydd Awythig, Lloegr, ac yn Glasgow, Yr Alban. Cynhaliodd weithdai ar gyfer grwpiau anghenion arbennig - rhai fel sesiynnau wythnosol mewn canolfannau pwrpasol, ac eraill fel prosiectau artist-preswyl. Roedd un prosiect cofiadwy ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Dywedodd Mary Lloyd Jones am waith Catrin y “gwelir fod llawer iawn o’r paentio sydd i’w weld yng Nghymru yn dilyn yr un hen fformiwla - cymylau trymion, wynebau creigiog a garw, ambell fwthyn a ffermwr a’i gi. Mae fel awyr iach gweld artist sy’n creu ei hiaith bersonol ei hun. Dangosa’i llwyddiant wrth gyfuno’i gwaith pwytho gyda’r wynebau paentiedig fod Catrin yn talu gwrogaeth i draddodiad gwaith merched tra ar yr un pryd yn torri’n rhydd o’i hualau. Dathliad mewn ffrwydriad o liw ac egni brwdfrydig yw’r gweithiau hyn - maent yn adlewyrchu hunaniaeth a phersonoliaeth Catrin ei hun.”

Mae gwaith Catrin wedi derbyn croeso ym mhob rhan o Gymru, mewn orielau celf yn yr Alban, yn Lloegr ac Iwerddon. Cafodd ei chyfres Ffrogiau Cerdd Dant eu gweld mewn ardangosfa yng Nghanolfan Arddangos Belger, Dinas Kansas, Yr Unol Daleithiau. Dywed ei Gwefan fod ei themâu cartrefol a theuluol dros amser wedi datblygu ‘i gynnwys elfennau o’r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol.’ Ychwanega fod ‘atsain o’i thirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn ei darnau diweddaraf ond arfordir a thraethau Penrhyn Llŷn yw’r ysbrydoliaeth bellach.’

Mewn Datganiad ar ei Gwefan, adroddir fod gwaith Catrin wedi ei ddangos yn helaeth gan gasglwyr preifat ‘ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Siapan, Canada ac America – ac yng nghasgliadau cyhoeddus Amgueddfa Gymreig o Gelfyddyd Fodern Y Tabernacl, Machynlleth, Cyngor Sir Gwynedd, Oriel Ceredigion, Aberystwyth, ac Oriel Casnewydd, Gwent.’

Y mae wedi ymddangos droeon ar raglenni teledu gwahanol. Dywed ei Gwefan fel y bu iddi dderbyn gwahoddiad i ymddangos ‘mewn rhaglen arbennig Nadoligaidd o’r gyfres deledu Byd o Liw – fe’i darlledwyd yn ystod Rhagfyr 2007. Dyma’r ail dro iddi gyfrannu at y gyfres – roedd yn ymateb yn gelfyddydol i boster Harry Riley o Aberystwyth ar ei hymddangosiad cyntaf. Yn 2002, cynhyrchwyd rhaglen Catrin Williams – Portread gan Ffilmiau’r Bont ac fe roddodd y rhaglen gyfle iddi edrych yn ôl o’r newydd ar ei chynefin a’i dylanwadau cynnar. Dros y degawd diwethaf, darlledwyd nifer o eitemau eraill am Catrin a’i gwaith ar amryw o sianelau teledu – S4C, BBC 1 Cymru, ITV trwy Gymru; BBC 2 drwy Brydain; a sianel TG4 yn yr Iwerddon.’

Adroddir ymhellach ar ei Gwefan fod Catrin Williams, dros yr ugain mlynedd oddi ar iddi raddio yn y Coleg Celf yng Nghaerdydd, yn parhau i baentio a darlunio’i byd. ‘Mae’n datblygu cyfresi o waith unigryw,’ meddir, ‘yn eu harddangos yn gyson ac yn credu’n gryf mewn annog a chefnogi artistiaid eraill – o oed y dosbarthiadau meithrin ymlaen ac o bob cornel o’r gymdeithas. Yn aml iawn, daw ar draws myfyrwyr colegau celf sy’n astudio’i gwaith – myfyrwyr sy’n awyddus i drafod ei chrefft ac yn awyddus i ennyn ei brwdfrydedd.’ Nid rhyfedd i neb llai na Syr Kyffin Williams ddatgan ym mis Ebrill 2003 mai Catrin Williams yw’r arlunydd haniaethol gorau yng Nghymru.

www.catrinwilliams.co.uk

Ioan Roberts yn cofio am ...

CYNAN - Bardd, Llenor, Dramodydd

Cynan

Llechen i nodi ei fan geni yn Stryd Penlan, darlun olew ohono yn siambr y Cyngor Tref, llechen arall ar Ffynnon Felin Bach ym Mhen Lôn Llyn, a bloc o fflatiau o’r enw Bro Cynan ar waelod Lôn Caernarfon. Dyna rai o’r pethau sy’n atgoffa’r trigolion a’r ymwelwyr mai un o hogia Pwllheli oedd Cynan: bardd, pregethwr, archdderwydd, actor, perfformiwr ac un o gymeriadau mwyaf lliwgar Cymru’r ugeinfed ganrif.

Ganwyd Albert Evans-Jones - enw barddol oedd Cynan – yn 1895 yn Liverpool House, siop a chaffi gyferbyn â safle Neuadd Dwyfor heddiw. Er mai enw Saesneg oedd y siop dywed Cynan yn ei hunangofiant mai Cymraeg oedd yr iaith fusnes yno bob amser, “ac eithrio tymor byr yr ymwelwyr haf”. Roedd ei dad yn hoff o farddoni ac roedd ganddo grap ar y gynghanedd.

Roedd ei nain yn byw ym Mhen Lôn Llyn, a hi fyddai’n ei anfon i nôl dŵr yn Ffynnon Felin Bach, ar y ffordd i Efail Newydd. Yn 1968 aeth y Cyngor Tref ati i lanhau ac atgyweirio’r ffynnon, a gosod plac arni yn dyfynnu cwpled enwog o’i bryddest Mab y Bwthyn:

Does dim wna f’enaid blin yn iach Fel dŵr o Ffynnon Felin Bach.

Pan oedd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli cafodd niwmonia, ac yn ystod y gwaeledd hwnnw darllenodd gyfrol Telynegion Maes a Môr gan Eifion Wyn, a dechrau gwirioni ar farddoniaeth. Rhoddodd gynnig ar drosi rhai o’r cerddi i’r Saesneg, a dangosodd yr ymdrechion i’w athrawes Gymraeg. Rhoddodd hithau delynegion Saesneg a Ffrangeg iddo i’w trosi i Gymraeg. Cyhoeddwyd y rheini gan Syr O.M. Edwards yn ei gylchgrawn Cymru Coch.

Aeth i astudio Cymraeg ym Mangor dan yr Athro John Morris-Jones, gan raddio yn 1916. Ymunodd wedyn â ‘Welsh Students Company’ y Corfflu Meddygol Brenhinol (RAMC), gan wasanaethu yn Salonica a Ffrainc, yn gyntaf fel cariwr stretsiars ac wedyn fel caplan. Y profiadau hynny oedd wrth wraidd y bryddest Mab y Bwthyn, a enillodd y Goron yn
Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1921,a'r delyneg boblogaidd Anfon y Nico i Landwr.

Yn ei ddarlith Cynan y llanc o dref Pwllheli, a draddododd i Glwb y Bont Pwllheli, mae’r Athro Bedwyr Lewis Jones yn dadlau mai Cynan oedd yr unig fardd Cymraeg i ganu o ganol profiad uniongyrchol o erchylltra’r Rhyfel Mawr. Roedd rhai fel Siegfried Sassoon a Wilfred Owen wedi ‘canu’n realistig blaen am y mwd a’r ing a’r cyrff’. Dim ond Cynan oedd wedi gwneud hynny yn Gymraeg - roedd Hedd Wyn wedi ei ladd cyn cael cyfle i lunio cerddi o’r Ffrynt.

Wedi’r rhyfel aeth Cynan i Goleg Diwinyddol y Bala a chael ei ordeinio’n weinidog y Presbyteriaid ym Mhenmaenmawr. Gadawodd y weinidogaeth yn 1936, er iddo barhau i bregethu am weddill ei oes. Ymunodd â staff Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol ym Mangor fel tiwtor, ac aros yno tan ei ymddeoliad yn 1936.

Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith i gyd, a chafodd ei wneud yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd yn 1935. Bu’n Archdderwydd rhwng 1950 a 1954, a thrachefn rhwng 1963 a 1966, yr unig un erioed i ddal y swydd ddwywaith. Fel Cofiadur aeth ati i chwyldroi seremonïau’r Orsedd er mwyn eu gwneud yn fwy deniadol i’r gynulleidfa, ac mae stamp Cynan ar y rheini hyd heddiw.

Cafodd ei wneud yn Syr yn 1969, flwyddyn cyn ei farw.

Dylan Tudur a Mererin Hopwood yn trafod Cynan

Meirion Lloyd Davies yn cofio am ...

DAFYDD PARRY - Ocsiwnïar

DAFYDD PARRY

Dyn mawr o gorff a chanddo allu mawr, calon fawr, llais mawr, hiwmor mawr a thymer fawr – dyna Dafydd Parry. Gyda nodweddion fel yna, nid yw’n syndod ei fod yn un o gymeriadau mawr Pwllheli gydol ei oes hyd ei farw yn 1976 yn 84 oed.

Sefydlodd ei dad, Robert Parry, gwmni prisio ac arwerthu yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fe’i dilynwyd yn y busnes gan ei ddau fab, Gwilym a Dafydd. Dechreuodd Dafydd weithio yn y cwmni wedi iddo fod yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf pryd y cafodd ei anafu wrth fynd i achub bywyd cyd-filwr.

Er ei fod yn byw yn nhref Pwllheli bron gydol ei oes, gwladwr oedd Dafydd – yn gwisgo fel ffarmwr, yn cerdded fel ffarmwr ac wrth ei fodd yng nghwmni ffermwyr. Ocsiynau ffarm oedd ei ddiddordeb ac er ei fod yn cynnal ocsiynau dodrefn ac ati, ar iard ffarm y byddai yn ei hwyliau gorau ac ar ei fwyaf ffraeth. Cynhelid yr arwerthiannau yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Roedd ganddo ei ddull arbennig ei hun o werthu. Weithiau, ar ganol gwerthu, byddai’n dechrau tynnu coes a sgwrsio, nes anghofio pa gynigion oedd ar y bwrdd. Ar adegau felly doedd hi ddim yn anarferol iddo droi at y dyrfa a gofyn, ‘Ble roeddan ni, dudwch?’ Dro arall, os oedd y cynigion wrth ei fodd, byddai’n cymryd arno fod prynwr anweledig yng nghefn y dyrfa, a thrwy hynny’n llwyddo i godi’r prisiau. Ond wrth wneud hyn byddai weithiau’n cael cawell a’r eitem ar ei ddwylo. Pan ddigwyddai hynny, byddai wedyn yn dweud, ‘Wel, mi wnawn ni ailddechrau rŵan.

Os oeddech chi yn ei lyfrau fe allasech gael bargen ganddo wrth iddo roi’r eitem i chi yn hytrach na derbyn prisiau eraill. Ond os nad oeddech, fyddai waeth i chi roi’r ffidil yn y to ddim – gwnai bopeth i’ch rhwystro, hyd yn oed prynu ei hun.

Bu Dafydd Parry yn ffrind da i John Preis y trempyn. Fo fyddai’n gofalu am ei arian ac yn trefnu rhoi ei lwfans iddo, oedd i fod i bara am y mis. Ymhen yr wythnos byddai John Preis yn ôl yn swyddfa Dafydd Parry wedi gwario’r cyfan ac eisiau rhagor. Gan amlaf byddai yntau’n rhoi rhywbeth iddo o’i boced ei hun. Yn y diwedd, wrth reswm, byddai amynedd Dafydd Parry’n pallu. Ar adegau felly byddai John Preis yn stormio cerdded i lawr Stryd Moch gan weiddi ar dop ei lais, ‘Y sglyfath Dafydd Parry ’na.’

Byddai Dafydd Parry bob amser yn parcio’i gar gyferbyn â’i swyddfa gyda thrwyn y car ar i lawr. Felly, petai’n cael trafferth i’w danio, byddai’n medru taro’r car yn ei gêr a gollwng y brêc er mwyn i’r injan danio ohoni ei hun. Ond daeth yn amser peintio llinellau melyn yma ac acw. Rhoddwyd rhai ar yr union fan y byddai Dafydd Parry’n parcio’i gar. Am wythnos gyfan ni chymerodd sylw o’r llinellau, ac am wythnos gyfan bu’r Swyddog Parcio, pwysig ar y naw, yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn fygythiol – ond eto, am ei fod ofn Dafydd Parry, yn gyndyn o roi ticed iddo. Erbyn y pnawn dydd Gwener pallodd amynedd y swyddog, ac wrth iddo osod ticed ar y ffenest flaen daeth Dafydd Parry i ddrws ei swyddfa a gofyn mewn ffordd hynod resymol ac anarferol iddo fo, beth oedd y dyn yn ei wneud. Gan fustachu tipyn eglurodd hwnnw i Dafydd Parry beth oedd ei drosedd. ‘Paid â phoeni o gwbl, dim ond gwneud dy waith wyt ti,’ oedd yr ateb hollol anarferol eto. Aeth Dafydd Parry ar ei union ar y ffôn i swyddfa’r heddlu ac egluro wrth yr arolygydd ei fod am bledio’n euog i’r cyhuddiad ond y byddai, cyn gwneud hynny, yn gwerthfawrogi cael gweld y gorchymyn yn rhoi hawl iddynt beintio’r llinellau yn y fan honno. Ymhen hanner awr cyrhaeddodd yr arolygydd swyddfa Dafydd Parry mewn sachlian a lludw i ymddiheuro nad oedd yr union fan honno yn rhan o’r gorchymyn. Roedd Dafydd Parry wedi astudio’r gorchymyn a gyhoeddwyd yn y papurau lleol yn fanwl ac wedi deall hynny. Wrth fynd o’r swyddfa dywedodd yr arolygydd y byddai’n anfon plismon rhag blaen efo brws a chôl tar i ddileu’r llinellau melyn. Gair olaf Dafydd Parry oedd, ‘Gwnewch gymwynas â fi, gadwch y llinellau yno. Mi fydd pawb arall yn credu nad oes hawl i barcio yno ac mi ga’i le parcio preifat i mi fy hun.’

Bu’n aelod ffyddlon yng nghapel Salem, Pwllheli, ar hyd ei oes ac yn mynychu oedfa’r bore yn ddi-feth. Byddai’n dweud wrth y pregethwr (gan fy nghynnwys i!) heb flewyn ar dafod beth oedd ei farn am y bregeth. Os nad oedd pregeth wrth ei fodd yn ystod fy nghyfnod cynnar ym Mhwllheli, byddai’n dweud, ‘Wnes i ddim mwynhau’r bregath o gwbl – hen un o Lanberis, mae’n siŵr.’ (Yn Llanberis roeddwn i cyn symud i Bwllheli). Roedd yn arbennig o hael ei roddion tuag at y capel, ond deddf y Mediaid a’r Persiaid oedd bod yn rhaid i’r cyfan fod yn ddi-enw.

Pab fu farw Dafydd Parry roedd Pwllheli’n lle tipyn tlotach a llwytach – ond tawelach hefyd.

Talfyriad o’r bennod yn Cymeriadau Llŷn, Golygydd Ioan Roberts, Cyfres Cymêrs Cymru, Gwasg Gwynedd. Gyda diolch i’r Wasg, ac i Mair Lloyd Davies am ganiatâd i gyhoeddi’r talfyriad hwn.

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

DAVID DAVIES – Dafydd ap Dafydd

Prin iawn yw’r wybodaeth a gadwyd am David Davies, neu Dafydd ap Dafydd. Nid oes wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar na’i flynyddoedd olaf. Mae’r wybodaeth sydd ar gael amdano’n dod o’i lythyrau at Siôn Lleyn o gylch y flwyddyn 1800. Ymddengys iddo dreulio llawer o’i fywyd yn Llundain. Pam yr aeth yno, a beth oedd ei waith yno, nid yw’n hysbys. Ymddengys, fodd bynnag, mai ym Mhwllheli y ganed ef. Pa bryd, yn lle, nid oes modd gwybod. Mae hynny’n wir am fanylion ei farw hefyd. Gwyddir iddo weithio llawer ynghylch llenyddiaeth Cymru ymysg y Gwyneddigion. Dywed Myrddin Fardd amdano yn Enwogion Sir Gaernarfon, fod “ei hyddysgrwydd â threigliadau priodol y Gymraeg, ac â nodweddion cynhenid ei llên a’i llafar, yn gwneud y gorchwyl o’i hysgrifenu yn hawdd a di-drafferth iddo. Yr oedd yn feddyliwr eang, a’i law-ysgrifen yn wych ac addurniadol.” Yng nghwmni Thomas Roberts, Llwynrhudol, bu’n bwrw golwg dros awdl Siôn Lleyn ar “Ansawdd Gwybodaeth a Dysg,” sef un o destunau Cymdeithas y Gwyneddigion ym 1800. Yn un o lyfrau ysgrif Siôn Lleyn, mae llinellau sy’n canmol a chlodfori Dafydd ap Dafydd o Bwllheli a T.R. Llwynhudol am eu cymwynas yn dwyn yr Awdl i Berffeithrwydd, a hynny yn y modd yma:

Dau gyfaill diau gefais,
Mae’r rhai’n yn Llundain, un llais,
Debygaf mai dau Begwn
Roed hefyd i’r crai-fyd crwn,
Hwn ar y ddau begwn bach,
Ef a droes yn fedrusach;
Minau a’m deulanc mwynwych,
Safaf trwy yr Hâf fy rhŷch,
A safaf i‘r gwys hefyd,
Gweis a gyrch y gwys i gyd.

Dywed Enwogion Sir Gaernarfon, ei bod “yn resyn fod gŵr mor enwog am ei len â Dafydd ap Dafydd yn cael ei anghofio ”mor llwyr . . . gan iddo fod yn gymwynaswr mor wresog a pharod i’w genedl.”

Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad mawr ...

DAVID GRIFFITHS - Arlunydd

David Griffiths

Yr oedd David Griffiths yn un o’m cyd-ddisgyblion yn Ysgol Ramadeg, Pwllheli ac yn un o ddisgyblion arlunio mwyaf dawnus a disglair y diweddar Elis Gwyn Jones, a oedd yn bennaeth yr adran gelf yno bryd hynny. Dywedir i David Griffiths gael ei ysbrydoli fel arlunydd gan ei daid, a oedd hefyd yn arlunydd portreadau tra nodedig. Yr oedd portread ei daid o’r Prif Weinidog, W.E. Gladstone, i’w weld yn Oriel Gelf Walker yn ninas Lerpwl ym 1889. Yn Lerpwl y cafodd David ei eni, ond symudodd y teulu i fyw i Bwllheli pan oedd ef yn saith mlwydd oed. O Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth i Goleg Prifysgol Llundain i astudio yn Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade o dan gyfarwyddyd yr Athro Syr William Coldstream (1908–1987). Wedi graddio yno, sefydlodd David Griffiths ei hun yn fuan fel un o’r arlunwyr portreadau mwyaf blaenllaw. Daeth i enwogrwydd yn fuan wrth iddo gael ei wahodd i greu portreadau o ffigurau enwocaf y gymdeithas – aelodau o’r teulu brenhinol, llysgenhadon, archesgobion, aelodau amlwg gwleidyddiaeth a llywodraeth, arweinwyr byd masnach a diwydiant, ffigurau amlwg meddygaeth, y proffesiwn academaidd a chyfreithiol. Ymysg ei bortreadau adnabyddus y mae rhai o’r cyn-Archdderwydd James Nicholas, William Farish, cyn-Lysgennad yr Unol Daleithiau i'r DU, Enoch Powell, Gwynfor Evans, John Meurig Thomas, George Thomas (Arglwydd Tonypandy) Arglwydd Bernard Weatherill (dau a fu'n Lefarwyr Tŷ’r Cyffredin), Siân Phillips, Bryn Terfel, Syr Geraint Evans, y cyn-Brif Weinidog, Arglwydd Callaghan, y cyn-Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Elwyn Jones, yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, cyn-Archesgob Caergaint, Y Parchedicaf Dr. Rowan Williams, Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Dr. Barry Morgan, Dr. Osian Ellis a Barry John. Ac ar fur Siambr y Cyngor Tref ym Mhwllheli, y mae portread David Griffiths o’r cyn-Archddewydd Cynan.

Cliciwch yma i weld rhai o luniau David Griffiths

www.david-griffiths.co.uk

Ioan W. Gruffydd yn cofio’r Athro ...

DAVID RICHARD SEABORNE-DAVIES, (1904-1984)

David Seaborne

Mae David Richard Seaborne Davies yn cael ei ddisgrifio fel cyfreithiwr, gwleidydd ac Athro Coleg. Cafodd David Richard Seaborne Davies ei eni ym Mhwllheli, ar 26 Mehefin 1904, ’Roedd yn fab i David Seaborne Davies a’i briod, Claudia Annie Davies. Capten llong a aned ar y môr ym 1869 oedd ei dad, David Seaborne Davies, ac yntau, yn ei dro, yn fab i David Davies a’i briod, Anne, a oedd yn hanu o Lerpwl. ’Roedd eu cartref nhw yn Angorfa, Pencaenewydd. Gwraig o Bwllheli oedd ei fam, Claudia Annie Davies, a’i chartref yn 78 Stryd Fawr, Pwllheli. Un o Nefyn oedd ei thad hi, William Davies, a oedd yn cadw siop nwyddau haearn yno. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd yno gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ym 1924. Gwnaeth orchest gyffelyb yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yno daeth ar ben y rhestr yn nhreipos y Gyfraith, a dyfarnwyd iddo Wobr Yorke ym 1928. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, bu’n llywydd Cyngor y Myfyrwyr. Cafodd ei alw i'r bar, ond fel darlithydd yr enillodd ei fywoliaeth yn ddiweddarach, a bu'n Ddarllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Llundain o 1929 hyd 1945. Yn ystod blynyddoedd blin y rhyfel, gwasanaethodd o fewn Adran Genedligrwydd y Swyddfa Gartref, ac ym 1944 – 45, ef oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Dirymiad Cenedligrwydd.

Fis Mai 1945, yn dilyn dyrchafiad David Lloyd George - yr AS dros Fwrdeistrefi Caernarfon ers 1890 - i Dŷ'r Arglwyddi yn y mis Ionawr blaenorol, llwyddodd David Richard Seaborne-Davies i gadw'r Fwrdeistref yn ddiogel i'r Blaid Ryddfrydol mewn is-etholiad, gan ennill 27,754 o bleidleisiau yn erbyn ei unig wrthwynebydd, yr Athro J. E. Daniel, a oedd yn sefyll yn enw Plaid Cymru. Roedd y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur wedi penderfynu peidio rhoi ymgeisydd - yn unol â thelerau'r cytundeb a fodolai dros y rhyfel. Ond yn yr etholiad cyffredinol y mis Gorffennaf canlynol collodd David Richard Seaborne-Davies o drwch blewyn – cipiwyd y sedd, gyda mwyafrif o 336 o bleidleisiau’n unig, gan y Ceidwadwr, D. A. Price-White. Fel canlyniad, bu David Richard Seaborne-Davies yn cynrychioli'r etholaeth am un o'r tymhorau byrraf gan unrhyw aelod seneddol yn yr ugeinfed ganrif. Yn ystod yr ymgyrchoedd etholiadol hyn a ddenodd gryn sylw, galwai David Richard Seaborne-Davies yn gyson am benodi Ysgrifennydd Gwladol i Gymru ac am sefydlu Cyngor Ymgynghorol i Gymru yn y gobaith o geisio delio â'r problemau niferus a oedd yn wynebu Cymru a’i phobl bryd hynny.

Yn ddiweddarach, cafodd David Richard Seaborne-Davies ei benodi’n Athro'r Gyfraith Gyffredin ym Mhrifysgol Lerpwl rhwng 1946 a 1971. Yn Lerpwl, gwasanaethodd fel Deon Cyfadran y Gyfraith, 1946-56. Cafodd ei benodi’n warden Neuadd Derby ym 1947, gan barhau yno hyd 1971, ac yn Is-Ganghellor o 1956 hyd 1960. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am gynllunio adeilad Cyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl ac adlewyrchai'n gryf ei argyhoeddiad bod y myfyrwyr yno'n haeddu’r gorau y gellid ei gael. Gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Trwyddedau Lerpwl o 1960 hyd 1963. Yn dilyn ei ymddeoliad, daliodd i fynychu nifer fawr o ddigwyddiadau yn y brifysgol gan amlygu brwdfrydedd a diddordeb mawr yn yr hyn oedd yn digwydd yno.

Cyhoeddodd nifer sylweddol o erthyglau uchel eu parch mewn sawl cylchgrawn proffesiynol ar gyfer cyfreithwyr, yn fwyaf arbennig ar hanes breintlythyrau. Ymddangosodd llawer o’r erthyglau hynny yn y Law Quarterly Review, y Modern Law Review a Nineteenth Century. Ar ôl ymddeol ym 1971, symudodd i fyw i Gaernarfon, lle bu’n dilyn rygbi. Bu'n Llywydd am Oes Clwb Rygbi Prifysgol Lerpwl ac Is-lywydd Clwb Rygbi Cymry Llundain, a daeth yn Lywydd Clwb Chwaraeon Pwllheli am ddeng mlynedd. Gwasanaethodd fel ynad heddwch yn Lerpwl a Chaernarfon, ac ef oedd Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1967 - 68.

Roedd David Richard Davies yn siaradwr wedi cinio arbennig iawn, yn difyrru ei gynulleidfa gyda chronfa helaeth o straeon Cymreig, yn amrywio o'r academaidd at yr athletaidd, ac yn addas ar gyfer pob cynulleidfa o bobl. Ond o’r tu ôl i hyn oll, roedd ymrwymiad hollol ddifrifol. Bu dros y byd yn traddodi darlithiau, ac ym 1967 traddododd ddarlith flynyddol BBC Cymru ar y testun, ‘Welsh Makers of English Law’. Gydol ei fywyd, bu doniau arbennig yr Athro D.R. Seaborne-Davies yn gyfrifol am ei ddenu i fywyd cyhoeddus, gweinyddiaeth, addysgu a lles myfyrwyr.

Bu ganddo amryw byd o swyddi cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu fel llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1958, 1973 a 1977. Roedd ganddo gartref yn Y Garn, Pwllheli, ac yn 8 Gayton Crescent, Hampstead, Llundain. Bu farw 21 Hydref 1984.

 

Owen Roberts a Hywel Teifi yn cofio . . ..

DAFYDD GLYN LLOYD HUGHES, M.A. - Gwas Sifil, Hanesydd, Awdur

Ar Dachwedd 13, 2007, ac yntau’n 86 mlwydd oed, bu farw un o gymwynaswyr mwyaf tref Pwllheli, sef Dafydd Glyn Lloyd Hughes, M.A. Cofiaf am Dafydd fel cyfaill ffyddlon a dibynadwy iawn a pharod ei gymwynas, er iddo ymadael â Phwllheli ers rhagor na hanner can mlynedd ynghynt i ddilyn galwadau ei swydd fel rheolwr ardal i’r Yswiriant Cenedlaethol.

Ganed ef ar Ionawr 8, 1921, yn fab i Robert a Dilys Hughes, Glyn, Marian y De, Pwllheli. Gwerthwr nwyddau fferm oedd ei dad, a’i fam yn ferch i deulu o gyfreithwyr yn y dref. Aeth i Ysgol Troed-yr-allt. Collodd ei dad pan oedd yn 14, a gorfodwyd ef i adael yr ysgol ddwy flynedd wedyn. Ym 1939, ymunodd â’r fyddin, a chafodd ei anfon i Ffrainc. Aeth drwy brofiadau erchyll yn Dunkirk. Daliodd y diciâu, a theulio rhai misoedd mewn sanatoriwm. Ym 1949, wedi’r Rhyfel, ymunodd â’r Weinyddiaeth Drafnidiaeth a’r Weinyddiaeth Bensiynau, a daeth yn Rheolwyr eu Swyddfa ym Mhwllheli. Priododd â Beunwen Thomas, merch o deulu parchus ym Mhwllheli yn nechrau 1949, a chawsant ddau o feibion, Beuno a Bleddyn. Cafodd ddyrchafiad yn ei swydd ym 1957, a symud i reoli swyddfa’r Garnant, yn Sir Gaerfyrddin, a symudodd y teulu i fyw i Dde Cymru. Ym 1960, symudodd i reoli swyddfa Aberystwyth. Fis Awst 1964, bu farw Beunwen yn greulon o gynamserol wedi goroesi cyfnod anodd iawn. Mewn amser – 1965 – priododd â Gwenda, merch o’r De. Ymgartrefodd Dafydd a Gwenda ym Mhorth Tywyn, ac er iddo ymddiddori mewn hanes lleol, a chyfrannu ysgrifau i gylchgronau, credaf mai yn y cyfnod yma y dechreuodd dyrchu a chwilota o ddifrif. Dioddefodd Gwenda o hen anhwylder blin am flynyddoedd lawer. Bu hi farw ddydd Nadolig 2006.

Yn ystod fy nhymor i fel Maer y Dref, gofynnais i Dafydd a fyddai’n ystyried ‘sgrifennu cyfrol o hanes tref Pwllheli i’w gyhoeddi cyn i fy nhymor ddod i ben! Derbyniodd yr her a dechreuodd y ffôn ganu ddydd a nos. Dafydd ddim yn gweld y ffordd yn glir. Dafydd wedi ail-afael ynddi. Helynt hefo’r argraffwyr. Angen lluniau. Torri ei galon drachefn! Hyn am flwyddyn gyfan. O’r diwedd, daeth diwrnod y lansio. Darlith, yn gyntaf, ac wedyn dechrau gwerthu Hanes Tref Pwllheli (1986). Cyhoeddwyd ganddo Pwllheli, An Old Welsh Town and its History (1992), a Tir yr Abad. Hanes New Inn a Gwyddgrug yn Shir Gâr (1996). Gwelodd yn dda i gyflwyno Hanes Tref Pwllheli ‘I Sara, Gwilym, Now a’u tebyg,’ a Tir yr Abad ‘i’w briod Gwenda,’ gan mai dyna oedd ei hardal hi – ardal yr aeth Dafydd i fyw ynddi yn dilyn ei ymddeoliad ym 1985, a’r ardal y bu farw ynddi fis Tachwedd 2007, fel ei briod, Gwenda, gwta flwyddyn ynghynt. Bu ganddo gyfraniadau yn Llanw Llŷn, Y Garthen a’r Casglwr yn ogystal ag ambell gylchgrawn academaidd fel Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. A lluniodd ysgrifau am Gwm Aman a Merthyr a Thaf yng Nghyfres y Cymoedd.

Cefais y fraint, hefo cymorth parod Cyngor Tref Pwllheli, i’w anrhydeddu ar ran y dref. Nid oedd hawl erbyn hynny i’r Cyngor gyflwyno Rhyddid y Fwrdeisdref iddo, felly cyflwynwyd Medal Arian werthfawr iddo, a thalp o Garreg yr Imbyll yn wely iddi. Ar un ochr i’r Fedal, yr oedd arfbais y dref, ac ar y llall ysgrif Gymraeg yn mynegi gwrthfawrogiad tref Pwllheli. Hefyd, yr un diwrnod, dathlwyd pen blwydd y Cyngor Tref yn gant a hanner mlwydd oed gyda gwledd a mwynhad.

maer a d g lloyd hughes

Y Cynghorydd Owen Roberts, Maer Tref Pwllheli ym 1986,
yn anrhydeddu Dafydd Glyn Lloyd Hughes, M.A.,
â Medal Arian hardd ar ran Cyngor Tref a thrigolion Pwllheli


Bu Dafydd yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli yn ei ddyddiau cynnar, ac yn aelod o’r pwyllgor llywio oedd â chyfrifoldeb am sefydlu Clwb Hwylio ym Mhwllheli, ac – os cofiaf yn iawn – yr oedd enw Dafydd ymysg y tri cyntaf ar restr aelodau’r Clwb. Bydd chwithdod garw i amryw ohonom wrth gofio nad yw Dafydd bellach ar y pen arall i’r ffôn.

Wedi clywed am ymadawiad Dafydd, bu fy nghyfaill, y diweddar Gynghorydd Wyn Elias, minnau’n pendroni’n hir ynghlŷn â theyrnged deilwng i’n cyfaill. Roeddem yn cymeryd yn ganiataol y byddai cyfaill arall Dafydd, yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn sicr o ddwed gair. Ac fe wnaeth.

Yn ei deyrnged, mae’r diweddar Athro Hywel Teifi Edwards yn disgrifio Dafydd fel ‘talp o ddiwylliant Pen Llŷn, a Phwllheli oedd ei dref enedigol.’ Daethai’r Athro i’w adnabod, ac i wneud cyfaill ohono, pan ymunodd Dafydd, ar ddechrau’r 1970au, â’i ddosbarth Llenyddiaeth Gymraeg yn festri Capel Als, Llanelli. “Fel un a’i cafodd yn gyfaill am lawer blwyddyn,” meddai, “ac a gafodd sawl cyfle i werthfawrogi ei ddeallusrwydd gloyw, nid wyf yn petruso dweud y buasai cael Cymry o’i ansawdd ef i wasanaethu yn ein Cynulliad Cenedlaethol, wedi bod y gryn ennill i achos Cymru. Nid oes dim amheuaeth am y gamp oedd o gwmpas Dafydd, y gwas sifil.” Dywedodd fod Dafydd yn ymhyfrydu yn ei Gymreictod, a bod ganddo lawer i’w gyfrannu at bob sgwrs. Roedd wedi bod yn gweithio yn Llundain, yn Blackpool a Leamington, a sawl man arall. Roedd yn cofio am gymeriadau, digwyddiadau a sêr y byd chwaraeon, megis tîm Arsenal cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. “Pan ddisgrifiai ddewiniaeth Alex James, byddwn yn ei alw yn hen ddiawl lwcus!”

Hywel Teifi Edwards

Athro Hywel Teifi Edwards

Cyfeiria’r Athro Hywel Teifi at yr adeg pan oeddent yn darllen Pigau’r Sêr G.J. Williams, yn y dosbarth, ac fel y bu iddo ofyn i’w gyfaill os oedd yn gyfarwydd ag ardal y llyfr. Atebodd yntau ei fod yn adnabod Jack, yr awdur. A phenderfynasant fynd ar daith i’r Gogledd. “Tyfodd yn drip blynyddol a barodd am ddwy flynedd ar bymtheg, pan gafodd criw ohonom, pererinion o Borth Tywyn hyd at Gwmllynfell, ein tywys ganddo ar hyd a lled y Gogledd gan elwa’n fawr ar ei wybodaeth helaeth. Nid tripiau di-baratoad oeddynt – dyn ymchwil oedd Dafydd.” Ar y dechrau, roeddent yn aros yn y Crown ym Mhwllheli hefo Gwyndaf a Mrs. Jones, ac wedyn aros yng Nghricieth hefo Mrs. Stewart Jones. “Sôn am fwynhau! I rai o’r bois roedd y Gogledd yn ‘ddierth,’ a bu ambell Star Treck o daith – megis honno ar draws gwlad i weld bedd y bardd yn Llanfair Talhearn. Rwy’n siwr i fi glywed yr hen Dal, yn ymbil am gael dod gyda ni wrth i ni adael y fynwent.”

Dywed yr Athro yn ei deyrnged mai fel gwas sifil yr enillodd Dafydd ei fara, “ond petai amgylchiadau ei fagwraeth wedi caniatáu byddai heb os wedi graddio mewn prifysgol. Roedd ganddo anian ac angerdd ysgolhaig, ysgolhaig o hanesydd, a bu cael ei gyflwyno yn Aberystwyth yn haf 2002 am radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, yn brofiad tra phleserus i mi.” Dywed ymhellach y byddem yn wlad freintiedig iawn, “pe câi pob tref a phentref yng Nghymru hanesydd hafal i Dafydd i agor eu llygaid i ryfeddod troeon eu taith.” Byddem hefyd yn sicrach ohonom ein hunain.

Dywed fel yr arferai ymweld â Dafydd yng Ngwên-y-wawr bron bob mis wedi iddo ymddeol i New Inn, ac am eu harfer yn ciniawa yn y Ram yng Nhwm-ann, “pan oedd hi’n dafarn hyfryta’n bod,” ac fel y byddai wrth ei fodd yn adrodd hanes Beuno a Bleddyn, ei feibion. “Ar y ffordd nôl â’n ganu weithiau, a byddai’i werthfawrogiad o’i hen arwr, Cynan, yn sicr o ‘Anfon y Nico’ ar daith eto fyth. Mi fentra i fod Dafydd nawr, yn ôl ei haeddiant, wedi cyrraedd y wlad –

Lle ma’r haf yn aros hira,
Lle ma’r awal iach mor ffri,
Lle ma’r môr a’r nefoedd lasa’
Gwlad y galon – dyna hi.”

 

 

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Doctor Gwenda

Bellach, aeth llawer blwyddyn heibio. Byw yn Llithfaen yr oeddem ni fel teulu ar y pryd pan fu galw am gymryd fy chwaer i weld meddyg yn dilyn damwain a gafodd. Dydd Sul oedd hi, a’r unig feddyg a oedd ar gael yn y cylch ar y Sul hwnnw, meddid, oedd meddyg a oedd yn byw ym Mhwllheli. Deliodd y meddyg â’r broblem, a rhoddodd i’m chwaer ddol fach yn anrheg. Pan fu i mi grybwyll hynny wrth y meddyg, pan euthum i’w gweld yn ei chartref ym Mhlas Heulog, Lôn Ceredigion, Pwllheli, yn gymharol ddiweddar, dywedodd wrthyf ei bod yn arferiad ganddi i roi rhodd felly i blant bach a ddeuai ati am driniaeth. Y meddyg oedd y Doctor Gwenda.

Unig blentyn oedd y Doctor Gwenda Wynne Evans i’r diweddar Ddr. a Mrs. W. Charles Evans, Pwllheli. Aeth hithau i ddilyn yr un gyrfa â’i thad. Bu’n feddyg teulu am flynyddoedd yn Llundain ac yng Nghaergrawnt, cyn dychwelyd, yn y 1950au, i ymuno â gwaith meddygol ei thad ym Mhwllheli, ac yn ddiweddarach, ym Meddygfa Treflan yn y dref.

Yn rhinwedd ei swydd fel meddyg teulu, daeth y Doctor Gwenda i gysylltiad â llu mawr o drigolion Pwllheli a’r cylch, a mawr oedd gwerthfawrogiad, parch ac edmygedd y trigolion hynny ohoni dros flynyddoedd lawer ei gwasanaeth yn eu plith.

Yr oedd yn ffigwr amlwg ym mywyd Pwllheli a’r cylch, a rhoes gyfraniad gwerthfawr a nodedig iawn i gylchoedd gwahanol bywyd y dref a’r ardal. Hi oedd Llywydd Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli. Bu’n gadeirydd Llys Ynadon Pwllheli yn ystod 1989 - 93. Bu’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli, lle gwasanaethodd fel Maer. Yr oedd yn aelod o’r Soroptimyddion, o Gyngor Cymru Wledig, yn un o gyfeillion Oriel Plas Glyn y Weddw. Yr oedd hefyd yn aelod ac yn gefnogydd brwd i nifer dda o elusennau gwahanol. Crwydrodd yn eang gan ymweld, yn eu tro, â gwledydd fel Iran, Gwlad Iorddonen, Cambodia, Periw ac India. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn niwylliant, yng nghelfyddyd ac yn henebion y gwledydd hynny. Roedd yn hoff iawn o ymweld ag eglwysi cadeiriol, ac ag eglwysi bychain diarffordd. Bu’n mynychu llu o gyrsiau penwythnos ar bensaerniaeth eglwysig. Roedd yn gyson gefnogol i’r hyn a ddigwyddai yn ei chymuned. Ac yr oedd ei ffydd yn rhyfeddol o bwysig iddi. Am flynyddoedd, bu’n aelod ymroddgar yng Nghapel Penmownt, ym Mhwllheli, ac wedi hynny yn Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch, lle gwasanaethai fel warden.

Bu’r Doctor Gwenda Evans farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 87 mlwydd oed, ar Hydref 19, 2015. Daeth cynulleidfa gref i’r gwasanaeth cyhoeddus a gynhaliwyd yn Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch, ar ddydd Llun, Hydref 21, o dan arweiniad Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Carroll Jones, a’r Parchg. Peter Pyke. Rhoddwyd y deyrnged gan y Parchg. Arthur Meirion Roberts. Mae ei bedd ym Mynwent Deneio ym Mhwllheli.

Owen J.G. Cowell yn cofio’i daid . . .

DOCTOR MELA - Meddyg

(Dr. Owen Wynne Griffith, O.B.E., Y.H.) [1856 – 1954]

 

Doctor Mela
Dr. O Wynne Griffith - Doctor Mela

Pa faint o breswylwyr Ffordd Mela, ym Mhwllheli heddiw, tybed, sy’n gwybod rhywbeth am wasanaeth a chyfraniad mawr y boneddwr a’r cymwynaswr o feddyg y mae eu ffordd yn y dref yn dwyn ei enw? Ef, wrth gwrs, oedd y gŵr a ymdrechodd gymaint â neb yn ei ddydd – a hynny o dan anfanteision dybryd, o’u cymharu â heddiw - i wella ansawdd iechyd a bywyd cymdeithasol trigolion Pwllheli a Phenrhyn Llŷn? Cafodd y Doctor Owen Wynne Griffith - neu Doctor Mela, fel yr adnabyddid ef yn lleol – ei eni ym 1856 yn Y Plas, Nefyn, yn fab i’r Capten Owen Griffith a’i briod, Catherine.

Adeiladydd llongau yn Nefyn oedd Owen Griffith, ei dad, a hynny ar adeg pan oedd Nefyn (fel Pwllheli hefyd) yn brysur gynyddu mewn poblogaeth fel tref adeiladu llongau. Yn Nefyn, ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, y ganed y Capten Owen Griffith ym 1816, ar adeg pan oedd y môr yn bopeth i’r trigolion, a phan oedd gan ond odid bob teulu ryw gysylltiad neu’i gilydd â’r môr.

CAPT. OWEN GRIFFITH

Capten Owen Griffith,
1816 ~ 1891
Y Plas, Nefyn
(Tad Doctor Mela
)

Yr oedd gan bobl Nefyn wybodaeth ryfeddol am ddinasoedd a gwledydd pellenig ym mhen draw’r byd: Efrog Newydd, Califfornia ac Awstralia – enwau a fyddai’n cael eu hynganu’n barhaus yn eu siarad pob dydd – yn union fel pe na byddai’r lleoedd hynny ond i lawr y lôn oddi wrthynt! Arferai gwragedd capteiniaid, ambell waith, fynd yng nghwmni eu gwŷr i’r mannau pell hynny, ond fel eraill o drigolion Nefyn, ‘doedden nhw ddim wedi crwydro ar dir sych ddim pellach na Phwllheli, nad oedd ond saith milltir i ffwrdd! Wrth i’r bachgen Owen Griffith dyfu, yr oedd Nefyn yn ferw gwyllt ar gyfrif y gwaith o adeiladu llongau. Cafodd cymaint â 145 o longau eu hadeiladu yn Nefyn a Phorthdinllaen yn ystod oes Owen Griffith. Yr oedd yn lle diddorol i’r plant a fegid yno; plant oedd wedi cael eu llwyr fesmereiddio o glywed clebran parhaus morwyr yn adrodd am eu hanturiaethau gwahanol ym mhellafoedd byd. Nid rhyfedd i’r storiau hoenus ac anturus hynny gydio yn nychymyg hogiau’r cylch, a chreu ynddynt awydd mawr i gael mynd i’r môr eu hunain. Prin iawn oedd cyfleon gwaith i wŷr ifainc Penrhyn Llŷn bryd hynny: gallent gael eu prentisio gan bwy bynnag a fyddai’n fodlon cynnig gwaith iddynt; gallent fynd i weithio ar y tir fel amaethwyr; neu gallent geisio bywoliaeth ar y môr. Yn y fath awyrgylch y bu i Owen Griffith - o oedran cynnar - benderfynu mai dilyn traddodiad ei deulu a wnâi yntau a mynd i’r môr, gan arbed ei fam o un arall i’w fwydo.

Mynd i Ysgol Ramadeg Botwnnog am ei addysg a wnaeth y mab, Owen Wynne Griffith, yn ddeuddeg mlwydd oed, Nid gorchwyl rwydd mo hynny yn yr oes honno, gan y golygai fod iddo gerdded yr holl ffordd o Nefyn i Fotwnnog yn cario’i fwyd a’i lyfrau ar fore dydd Llun, ac aros yno hyd y nos Wener, cyn cerdded adref yn ôl. Byddai’n lletya am gost o ddeunaw ceiniog yr wythnos mewn bwthyn cyfagos, a gwraig y bwthyn yn rhoi iddo lefrith ac yn coginio’i fwyd.

Wedi cwblhau ei addysg ym Motwnnog, aeth i Fairfield, Manceinion, ac i Borthaethwy am hyfforddiant pellach. Ac yntau’n un ar bymtheg oed, yn ôl arfer y cyfnod, aeth yn brentis meddyg at y Doctor Evan Roberts, Pen-y-groes. Dyna a digwyddai cyn i ymgeisydd meddygol gael mynediad i rai o ysbytai mawr Lloegr. Ym 1874, aeth i Ysbyty Guys yn Llundain i’w gymhwyso’i hun. Mae’r teulu’n cofio amdano’n adrodd fel y byddai wrth gerded i’r ysbyty bryd hynny yn mynd heibio tŷ crand a’r ysgrifen ar ei fur yn Saesneg yn dweud, “Pwy fyddai’n credu mai gwerthu bwyd cathod a’i prynodd?” Aeth i Brifysgol Caeredin a graddio’n feddyg ac yntau ond yn ddwy ar hugain oed ym 1878.

Yr oedd dylanwad ei deulu’n drwm arno, a’r môr yn ei waed. Aeth i ddilyn yn ôl traed ei dad am gyfnod, a bu’n hwylio’r moroedd gyda llongau’r P&O. Wnaeth hynny ddim parhau’n hir, fodd bynnag. Dychwelodd i Gymru, a sefydlu practis meddygol ym Mhlas Bach yn Nefyn i ddechrau. Priododd ym 1883 â Mary Roberts, a oedd yn hanu o Lerpwl. Pan ddychwelodd y ddau ohonynt o’u mis mêl, yr oedd croeso tywysogaidd yn eu haros gan drigolion Nefyn. Yr oedd holl ffenestri’r dref wedi eu goleuo â chanhwyllau. Debyniodd y pâr ifanc rodd arbennig fel anrheg priodas gan dad y briodferch, sef y fferm, Mela, yn Llannor. Dyna sut y daeth y meddyg i gael ei adnabod fel ‘Doctor Mela.’ Agorodd bractis meddygol yn ardal Llannor, ac yno y byddai’n cyflawni ei waith fel meddyg, ac yn ffermio yn y Mela. Arferai’r gair Surgery fod uwch ben drws y ffermdy. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei Feddygfa ym Mhwllheli.

Daeth y Doctor Owen Wynne Griffith, neu Doctor Mela, gyda’r cydyn o farf wen o dan ei ên, yn enwog drwy wlad Llŷn, a hynny nid yn unig ar gyfrif ei allu fel meddyg, ond hefyd ar gyfrif ei ddiddordeb a’i garedigrwydd tuag at y rhai hynny na allent fforddio talu am wasanaeth meddyg. Ac yr oedd galw am wneud hynny yn yr oes honno. Yn achos y Doctor Mela, fodd bynnag, câi pawb yr un driniaeth yn union ganddo.- o’r crwydryn tlotaf un i’r uchelwr cyfoethocaf.
Bryd hynny, prin fyddai’r sôn am anfon pobl i ysbyty, gan mai adref ar eu haelwydydd eu hunain y byddai cleifion ac anafusion yn cael eu trin. A phan fyddai galw am lawdriniaeth, neu am dorri aelod o gorff, digwyddai hynny ar fwrdd y gegin yng ngolau lamp. Mae’n anodd iawn i ni heddiw amgyffred y sefyllfa oedd yn bod yn yr oes honno. Mae un adroddiad papur newydd o 1913 yn adrodd am ddamwain a ddigwyddodd pan oedd criw cwch achub Porthdinllaen yn dilyn eu hymarferiadau arferol. Digwyddodd damwain gâs i un oedd ar fwrdd y cwch. Cymerwyd ef i’w gartref lle bu’n rhaid i nifer o feddygon (a’r Dr. O. Wynne Griffith yn un ohonynt), dorri ei goes o dan y pen glin. A bu’r driniaeth yn llwyddiant.

Yn oes y modur cyflym, yr ambiwlans a’r ambiwlans awyr, mae’n anodd dychmygu gweld Dr. O. Wynne Griffith yn y cyfrwy yn teithio o fan i fan gyda merlyn y Mela. Mae sôn amdano’n treulio cymaint â thridiau ar un achlysur, a hynny heb fawr o seibiant, yn teithio gyda’i ferlyn i Aberdaron, wedyn i Feddgelert, ac yn ôl drachefn i Roshirwaun. Cafodd ei alw ragor nag unwaith i Ynys Enlli, a chael ei gadw yno, ar un achlysur, am bum niwrnod am na allai ddychwelyd ar gyfrif cyflwr y swnt.

Yr oedd y Doctor Mela yn cael ei adnabod fel ‘Doctor y Bobl,’ ac nid rhyfedd hynny. Yr oedd yn adnabod ei gleifion ac yn barod i sefyll i fyny drostynt a gwneud ei orau iddynt. Yr oedd ym Motwnnog unwaith, a gwelodd yno bobl yn pleidleisio’n gyhoeddus am y tro diwethaf. Sylweddolodd y Doctor yn syth pa mor anghyfiawn oedd y drefn o fwrw pleidlais i foddhau’r meistr tir, ac nid yn ôl dymuniad y bobl eu hunain. Teimlai’n gryf yn erbyn pob math ar anghyfiawnder, a thybiodd y byddai gobaith drwy gefnogi David Lloyd George, yr oedd yn gyfaill iddo, er i hynny gostio iddo. Ond y bobl oedd yn cyfrif iddo ef. Gallasai fod wedi dewis bod yn feddyg teulu i’r uchelwyr yn unig (dyna arferiad ambell feddyg bryd hynny) ond nid Dr. Mela. Yr oedd hefyd yn gyfaill i Syr Love Jones Parry, Madryn, ac yr oedd wrth wely’r cyfaill hwnnw pan fu farw.

Rhoes Dr. O. Wynne Griffith wasanaeth nodedig i dref Pwllheli. Bu’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli oddi ar 1893, ac yn faer ragor nag unwaith. Bu’n Gynghorydd Sirol, pan feiddiodd sefyll yn erbyn un o’r tirfeddianwyr. Cafodd ei anrhydeddu â rhyddfraint Pwllheli ym 1937, a chafodd yr O.B.E. am ei wasanaeth cyhoeddus. Yr oedd yn un o sefydlwyr Ysgol Ramadeg Pwllheli. Bu’n flaenor yng Nghapel y Presbyteriaid ym Mhenmount, Pwllheli, am drigain mlynedd, ac ym Mhentreuchaf am flynyddoedd cyn hynny.

Bu farw am saith o’r gloch ar fore Sul ym mis Ionawr 1954 yn 98 mlwydd oed.

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Doctor Osian Ellis

dr osian ellis

[Gyda diolch i David Griffiths am ei ganiatâd caredg i ddefnyddio’r darlun]

Prin fod ymysg trigolion tref Pwllheli heddiw un sydd heb unrhyw amheuaeth yn teilyngu ei le ymysg rhestr Enwogion y Dref, na’r Athro Telyn dawnus a’r cyfansoddwr hynaws, y Doctor Osian Ellis.

Ganwyd Osian Ellis yn Ffynnongroyw, Sir Flint, yn fab i’r diweddar Barchg. Thomas Griffith Ellis, a’i briod, a oedd yn hanu o Lanbedr, ger Harlech, ym Meirionnydd. Yn Aberdaron, fodd bynnag, y ganwyd ei dad a hynny ym 1888, a’i dderbyn yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd ym 1915. Ymddeolodd y tad ar restr gweinidogion uwchrif ei enwad ym 1954, a bu farw ym Mhrestatyn ar Awst 27, 1985.

Bu Osian Ellis gyda’i rieni, a phlant eraill y teulu, yn symud o ardal i ardal yn dilyn symudiadau ei dad fel gweinidog Wesle. Buont fyw fel teulu ar wahanol gyfnodau yn nhrefi arfordir y Gogledd: yn Ffynnongroyw, Colwyn, Abergele, Dinbych, a Threffynnon. Credai’r tad, fodd bynnag, y dylasent gael cartref parhaol, a gofalodd am fwthyn iddynt o’u plentyndod yn Aberdaron, lle medrent dreulio llawer o’u hamser mewn awyrgylch hollol Gymreig a chartrefol, a chymysgu a sgwrsio’n ddiddan gyda’r pentrefwyr – gofaint, ffarmwrs, cryddion, melinydd, a’r pysgotwyr (y cwyllwrs) a hwylient o Borth Meudwy i ddal crancod a chimychiaid, ac o Ynys Enlli, Siôn Tŷ Lôn, a’i gyfaill, Wil Tŷ Pella’; ac roedd teulu John Wesla mewn cwch bach (ac injan ar ei gefn) yn mwynhau’r gyfeillach. Mae Osian Ellis yn cofio’r adeg y daeth ei nain atynt i’r bwthyn, Nain Glanymôr, i gael gwrando arno’n canu ei delyn ar ôl ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1943, a dyma fo’n dechrau perfformio y darn prawf, disglair, ond ymhen rhyw funud gofynnodd Nain i’w fam, “Fydd o’n hir eto?”

Wrth orfod symud o le i le, byddai plant y Parchg. T.G. Ellis, yn derbyn eu haddysg yn ysgolion lleoedd gwahanol. Yn Ysgol Ramadeg Dinbych, byddai Osian Ellis yn chwarae pel-droed – ef fyddai ceidwad y gôl. Bu hefyd yn gapten tîm criced ei ysgol. Cafodd gefnogaeth a chyfarwyddyd ei athrawon yno, a chan ei ddau athro cerdd yn arbennig felly – gwŷr oedd yn gerddorion yn eu hawl eu hunain – y diweddar Emrys Cleaver oedd un ohonynt.

Yn ddwy ar bymtheg oed, wedi derbyn ysgoloriaeth, aeth Osian Ellis i astudio i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Gwnaeth hynny o dan gyfarwyddyd Gwendolen Mason, gwraig y bu iddo’n ddiweddarach ei dilyn yn y swydd aruchel honno fel Athro Telyn yr Academi – swydd a gyflawnwyd ganddo am 30 mlynedd, o 1959 hyd 1989, pan ddychwelodd i Gymru, a symud i fyw i dref Pwllheli.

Bu'r Dr. Osian Ellis yn chwarae gyda nifer o gerddorfeydd enwoca’r byd, ac ef oedd Prif Delynor Cerddorfa Symffoni Llundain oddi ar 1960. Bu hefyd yn aelod o'r Ensambl Melos. Enillodd ei recordiad, ym 1959, o gonsierto Handel i’r delyn (gyda Thurston Dart) wobr y Grand Prix du Disque. Ym 1962, yr oedd y cerddor, Paul Loeber, yn ystyried cyflwyniad y Melos Ensemble, gydag Osian Ellis fel unawdydd, fel y cyflwyniad gorau erioed o Ragymadrodd ac Allegro Ravel, sydd megis Consierto i'r Delyn. Rhyddhawyd y record ar label L'Oiseau Lyre, OL50217.

Dr. Osian Ellis yw awdur y gyfrol, 'Hanes y Delyn yng Nghymru', ac y mae'n aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd. Bu ragor nag unwaith yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd Benjamin Britten ei ‘Gyfres o Ddarnau i’r Delyn yn C fwyaf' yn arbennig ar ei gyfer. Mae’r Dr. Osian Ellis yntau’n gyfansoddwr cywrain a medrus ei hun, ac mae ganddo ddarn arbennig i ddwy Delyn, sef ‘Clymau Cytgerdd’ ar ei gryno ddisg gyda SAIN, yn ogystal ag enghraifft o ganu Cerdd Dant i'w gyfeiliant ei hun. Dros y blynyddoedd, bu'n athro i nifer o delynorion amlwg, pobl fel Elinor Bennett y eu mysg, ac yn ddi-os, mae'n un o’r rhai a fu'n bennaf gyfrifol am sicrhau fod i’r delyn ei lle arbennig fel offeryn cenedlaethol Cymru.

Y mae’n awdurdod ar ganu gwerin, a gwnaeth lawer i ddangos gwerth caneuon gwerin Cymru, nid yn unig yng Nghymru ei hun, ond i bobl llawer gwlad arall hefyd. Teithiodd yn eang gyda’i delyn dros y blynyddoedd i lawer rhan o’r byd, ac ymddangosodd ar lwyfannau cerdd mewn llu o’r dinasoedd pwysicaf. Cafodd nifer helaeth o adolygiadau cerddorol canmoliethus. Yn Buenos Aires, Yr Ariannin, er enghraifft, fis Hydref 1965, dywedwyd amdano ei fod yn artist yr oedd yn rhaid i Buenos Aires ei ystyried yn un o’r dehonglwyr telyn digleiriaf. Yn Copenhagen, Denmarc, wedyn fis Chwefror 1974, dywedwyd fod canu telyn Osian Ellis mor berffaith fel na ellid ei ddirnad a bod ei feistrolaeth artistig yn un nad oedd curo arni . . . a’i bod yn noswaith gerddorol gyffrous a chyfoethog. Drachefn yn y Los Angeles Times, fis Medi 1974, mynnid fod cyfraniad y telynor, Osian Ellis, yn dwyn yr holl sylw. Wedi cyfuno disgrifiad barddonol gyda ffraethineb a thro iddo, aeth ymlaen i wau dehongliad cywrain, lliwgar, grymus a hamddenol o Gyfres o Ddarnau Telyn disglair Britten. Wedi gwneud hynny, hawdd oedd dod o dan ei gyfaredd wrth i Ellis, yn cyfeilio iddoi’i hun, ganu detholiad o ganeuon gwerin Cymraeg hiraethus mewn llais bariton melodaidd.

dr osian ellis a'i briod

Dr. Osian Ellis a’i briod, Rene Ellis Jones

Cymraes o Bwllheli, Rene Ellis Jones, oedd ei briod. Yr oedd hithau’n gerddor medrus gyda’i fiola. Cawsant ddau fab, Richard Llywarch, a Tomos. Bu Tomos farw yn 2009.

Bu’r Dr. Osian Ellis yn canu’r organ mewn capel ers pan oedd yn 12 oed, ac yn awr y mae’n un o ffyddloniaid Seion y Wesleaid ym Mhwllheli, ac yn un o organyddion yr eglwys. Y mae’n ŵr diymhongar iawn, ac yn byrlymu o hiwmor. Digwyddais ei holi y dydd o’r blaen am ei weinidog. ”Ydy o’n gyrru ar hyn o bryd?” holais. A’r ateb annisgwyl a gefais ganddo oedd, “Mae o’n dreifio. Wn i ddim os ydy’ o’n gyrru!”

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Eleazar Roberts [1825 - 1912]

ELEAZAR ROBERTS

 

Er mai â dinas Lerpwl yr arferid cysylltu enw Eleazar Roberts, nid yn y ddinas honno y ganed ef. Cafodd ei eni yn Stryd Pen Lôn Llŷn ym Mhwllheli ar 15 Ionawr, 1825, yn fab i John a Margaret Roberts. Gŵr cyffredin ei amgylchiadau oedd John Roberts, ei dad, yn hanu o Aberdaron a saer coed wrth ei alwedigaeth. Yr oedd ei dad yn cael ei adnabod, fodd bynnag, fel gŵr o synnwyr cryf, fel crefftwr da, fel darllenwr mawr, fel gŵr cadarn ei wybodaeth ysgrythurol ac fel gŵr gonest a chrefyddol. Yr oedd Margaret Roberts, mam Eleazar Roberts, yn un o ragorolion y ddaear, ac adroddir ei bod yn fwy dwys ei theimladau ac yn fwy efengylaidd ei hysbryd na’i phriod. Lle byddai ei phriod yn mwynhau darllen rhai o lyfrau hanes yr Hen Destament ac ambell lyfr hanes a gwyddonol gan awduron diweddar, byddai ei hi wrth ei bodd yn darllen Llyfr y Salmau, yr Efengylau, emynau Pantycelyn ac Ann Griffiths a Geiriadur Charles. Ac o’r ddau riant, ei fam, meddir, a fu’r dylanwad pennaf ar ei mab: hi oedd y gallu cryfaf I ffurfio’i gymeriad a rhoi cyfeiriad a symbyliad i’w fywyd. Yn ei hunangofiant, a ymddangosodd yn Y Genhinen, mae Eleazar Roberts yn dweud iddo gael ei fedyddio ym Mhwllheli "gan yr enwog Michael Roberts.

Pan nad oedd y mab, Eleazar, namyn deufis oed, symudodd y teulu i fyw o Bwllheli i Lerpwl. Yno yr addysgwyd ac y magwyd ef, ac yno yr oedd i aros gydol ei oes. Yn ei hunangofiant, mae'n dweud, "Gwn y byddai Michael Roberts yn arfer dod i edrych am fy rhieni pan ddeuai i Liverpool ar ei gyhoeddiad; ac yr wyf yn cofio mor chwithig yr oedd yn fy nharo i yn hogyn mai "Begws" yr arferai alw fy mam. Nid oedd neb y  meddyliai hi fwy ohono na Michael Roberts. Yr oedd ei pharch iddo yn ymylu ar addoliad."

Y mae'n canmol ei dad yn fawr hefyd. Dywed amdano, "Yr oedd yn un o lawer. Y mae yn werth croniclo ychydig o'i hanes. Yn hytrach nag i mi fy hun ei ganmol, caniataer i mi, yn y fan yma, gyfieithu llythyr a ddanfonwyd i mi gan y diweddar Barch. Richard Lumley, yr hwn oedd yn gyfaill calon iddo. Fel hyn yr ysgrifennodd ataf, ar achlysur marwolaeth fy nhad:-

                                                   Egremont, Ion. 23 1879 
Annwyl Gyfaill,

Cyffrowyd fi yn ddirfawr bore ddoe, pan welais yn y papur yr hysbysiad am farwolaeth eich hen dad parchus . . Ychydig a feddyliais, pan ydoedd yn cymeryd ei gwpanaid o de wrth fy mwrdd yn ddiweddar, fod yr hwn a letywn mor fuan i eistedd gydag Abraham, Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd. Pe buaswn yn gwybod, buaswn yn meddwl mwy o'r hwn a ddaeth at fy nrws fel John Roberts o Everton, ac a ddywedodd wrth y forwyn fod arno eisiau fy ngweled. Gallaf sicrhau i chwi, allan o bawb a ddaeth i edrych amdanaf yn nydd fy nhrallod, na fu un ag yr oedd ei bresenoldeb yn cael ei werthfawrogi yn fwy gennyf nag efe; ac y mae yn dda gennyf feddwl i mi gael y cyfleusdra o roddi iddo y cwpanaid o ddŵr a wneuthum, yn enw disgybl. Mae'n debyg mai yn ddiarwybod bob amser y lletyir angylion. Mor fawr y byddaf yn teimlo ei golli! Many wrinkle (a Yankee phrase) did I receive from his common sense reading of the Old Book. Bydd hanner fy ngwrandawyr yn Fitzclarence Street wedi mynd. Mae rhai personau unigol yn werth catrawd cyfan o Gristionogion cyffredin: maent yn gwneud i fyny am ddiffygion y dorf o'u cwmpas. . . Yr wyf yn eich llongyfarch am eich bod yn fab i John Roberts. Bydded i chwi hyd eich dydd olaf brofi eich hun yn deilwng ohono. . ." 

Ac yntau’n dair ar ddeg oed, cafodd ei brentisio fel clerc mewn swyddfa a bu’n gwneud hynny am saith mlynedd. Cyfnod anodd a chaethiwus oedd hwnnw iddo: cyfnod o waith caled ac o weithio oriau hir. Byddai’n codi’n gynnar a mynd yn hwyr i gysgu. Bu’n llafurio i’w ddiwyllio’i hun ac ehangu ei wybodaeth a gwneud iawn am ei ddiffygion addysg gynnar. Aeth i ysgol nos yn y Liverpool Imstitute. Darllenai’n eang. Cysylltodd ei hun â gweithgareddau’r capeli Cymraeg yn Lerpwl. Yr oedd ei ddiddordeb a’i gariad yn fawr at yr iaith Gymraeg, a bu’n astudio’i gramadeg. Gallai ddarllen ac ysgrifennu yn yr iaith er yn ifanc. Yn dilyn ei saith mlynedd o brentisiaeth, aeth i weithio mewn swyddfa cyfreithiwr, ac oddi yno, ym 1853, i swyddfa ynadon trefol Lerpwl, ac yno y bu am dros ddeugain mlynedd, gan ddringo i’r safle o brif gynorthwyr i gerc ynad cyflogedig y ddinas. Parhaodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad ym 1894. Cafodd ei wneud yn ustus heddwch ym 1895.

Dros y blynyddoedd bu’n ysgrifennu erthyglau i lu o gylchgronnau Cymraeg - Y Drysorfa , Y Traethodydd , a'r Geninen , ac yn wythnosol i'r Amserau dan yr enw ‘ Meddyliwr.’ Bu Eleazar Roberts yn astudio seryddiaeth a chyfieithodd i’r Gymraeg y ddwy gyfrol o waith y gweinidog o’r Alban, y Parchg. Ddr.Thomas Dick, ar y gyfundrefn heulog. Yr oedd gan Eleazar Roberts Arsyllfa yn Hoylake, ac yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r Dr. Isaac Roberts, yr honnir mai ef oedd y seryddwr mwyaf a fagodd Cymru erioed. Bydda Eleazar Roberts yn mynd o gwmpas i ddarlithio ar seryddiaeh.

ELEAZAR ROBERTS


Bu’n gohebu am gyfnod â Henry Richard, yr Apostol Heddwch, ac ysgrifennodd gofiant iddo, Ef yw awdur y nofel Gymraeg, Owen Ellis, sydd yn ymgais i bortreadu bywyd Cymreig yn Lerpwl. Ystyrir Eleazar Roberts hefyd fel arloesydd cyfundrefn y Tonic Sol-ffa yng Nghymru, a bu’n crwydro i bob cwr o Gymru yn egluro a sefydlu dosbarthidau i ddysgu ac i hyrwyddo’r gyfundrefn honno.

Cyhoeddodd Llawlyfr Caniadaeth, Llawlyfr y Tonic Solffa, Llawlyfr i ddarllen yr Hen Nodiant, a Hymnau a Thonau . Bu'n flaenor ac yn Arweinydd y Gân yng nghapel y Presbyteriaid, Netherfield Road , a chyda John Edwards, bu’n arwain y gymanfa ganu gyntaf yn Lerpwl y 1880. Ef hefyd a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd ‘ O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw:’ – emyn a ymddangosodd cyntaf yn Nhrysorfa’r Plant fis Chwefror 1864.

Bu Eleazar Roberts farw ar 6 Ebrill 1912, a chafodd ei gladdu ym mynwent Anfield, Lerpwl.

Dr. Pwyll ap Sion yn ysgrifennu am . . .

ENDAF EMLYN (g. 1944)

 

endaf emlyn

Endaf Emlyn - Diolch i Sain am y llun



Canwr a chyfansoddwr pwysig a dylanwadol yn hanes canu pop Cymraeg, yn arbennig yn ystod y 1970au a’r 1980au cynnar. Ganed Endaf Emlyn ym Mangor ac fe’i magwyd ym Mhwllheli. Ei brofiadau cyntaf o ganu roc a rôl oedd drwy wrando arno ar orsaf radio y Forces Network. Fe gafodd hefyd hyfforddiant clasurol, gan chwarae’r ffidil yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod y 1960au cynnar ar yr un pryd â cherddorion megis John Cale a Karl Jenkins.

Ar ddiwedd y 1960au daeth Endaf Emlyn yn gyflwynydd rhagleni teledu gyda chwmni HTV tra’n parhau i ddatblygu gyrfa fel canwr pop. Ymddangosodd ei dair record gyntaf yn Saesneg ar ôl iddo arwyddo i label Tony Hatch yn Llundain, M&M. Aeth i stiwdio Abbey Road i recordio ‘Paper Chains’/ ‘Madryn’ (Parlophone, 1971), a dilynwyd gan ‘All My Life’ / ‘Cherry Lill’ (Parlophone, 1972) a ‘Starshine’ / ‘Where Were You?’ (Parlophone, 1973).

Erbyn i’r olaf o’r senglau hyn ymddangos, fodd bynnag, roedd Endaf Emlyn eisoes wedi troi at ganu yn Gymraeg. Recordiodd ei record hir gyntaf, Hiraeth (Dryw, 1973), yn yr un flwyddyn, a oedd yn gyfuniad o’r traddodiadol a’r newydd, o’r alaw werin ‘Lisa Lân’, neu arddull jazz ‘Glaw’, at roc gwladaidd ‘Hogia Ynys Môn’ â’r faled boblogaidd ‘Madryn’, a arddangosai dylanwad Elton John. Michael Parker oedd y cynhyrchydd – un a fu’n gysylltiedig â recordiau Endaf Emlyn ers y cychwyn – ac fe barhâodd y ddau i gydweithio ar y record hir nesaf, Salem (Sain, 1974). Yn seiliedig ar storïau cymeriadau allan o lun enwog Curnow Vosper (1866–1942), megis Siân Owen Ty’n y Fawnog ac Ifan Edward Lloyd, ystyrir Salem yn garreg filltir yn hanes canu pop Cymraeg. Dyma’r record ‘gysyniad’ (concept album) gyntaf o’i math, ac er mai technoleg digon sylfaenol a chyntefig a ddefnyddiwyd i’w recordio, perthynai crefft a chreadigrwydd amlwg i’r caneuon eu hunain.
Parhâodd Endaf Emlyn i ddatblygu’r record gysyniad gyda Syrffio Mewn Cariad (Sain, 1976), drwy gymeryd cymeriad allan o lun Salem fel man cychwyn ar gyfer stori sy’n ei dywys ar draws pedwar ban byd. Adlewyrchir hyn yn y dylanwadau Eingl-Americanaidd sydd i’w clywed, gan gynnwys arddulliau megis soul a ffync. Er poblogrwydd y gân ‘Macrall Wedi Ffrïo’, ni fu’r record yn gymaint o lwyddiant o lwyddiant â Salem, ac fe aeth pum mlynedd heibio cyn i Endaf Emlyn ryddhau ei record hir nesaf. Yn y cyfamser bu’n aelod o Injaroc, ‘supergroup’ cyntaf Cymraeg a grewyd allan o gyn-aelodau Edward H. Dafis, Sidan, â’r canwr Geraint Griffiths (fel Endaf Emlyn, aeth Griffiths ymlaen i ffurfio’r grŵp Eliffant, ynghŷd â recordio nifer o recordiau hir ar ei liwt ei hun). Rhyddhaodd Injaroc un record hir, Halen y Ddaear (Sain, C594, 1977), gydag Endaf Emlyn yn cyfrannu’r gân, ‘Swllt a Naw’, ond byrhoedlog fu parhâd y grŵp.

Aeth Endaf Emlyn ati i ffurfio'r grŵp ffync Jîp gyda’r gitarydd Myfyr Isaac (un o gyn-aelodau’r band roc trwm Budgie), John Gwyn ar y gitar fâs (cyn-aelod o Brân), ynghŷd â dau a fu’n aelodau o grŵp Geraint Jarman – Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Ymdriniai unig record hir Jîp, Genod Oer (Gwerin, 1980) â themau dinesig, fel y gân ffync ‘Halfway’, ynghŷd â thestunau tabŵ, megis trac deitl y record. Roedd clawr y record yn cyfeirio at record hir Can’t Buy a Thrill gan y band jazz-roc o America, Steely Dan, ac fe amlygwyd y dylanwadau hyn ar record unawdol olaf Endaf Emlyn o’r cyfnod yma, sef Dawnsionara (Sain, 1981). Gyda Myfyr Isaac yn cynhyrchu ynghŷd â chwarae’r gitar, Simon Tassano yn peiriannu, Ahmun ar y drymiau â’r gitarydd bâs amryddawn o Gaerdydd, Pino Palladino, fe dorrodd Dawnsionara dir newydd o ran safon y cynhyrchiad, ynghŷd â chrefft, cymhlethdod a soffistigeiddrwydd caneuon megis ‘Saff yn y Fro’ a ‘Rola’.
Fodd bynnag, llugoer fu ymateb rhai o’r cyfryngau Cymraeg i Dawnsionara, er i’r record dderbyn sylw tu hwnt i Gymru, yn Sweden. Yn ystod y ddegawd nesaf trôdd Endaf Emlyn ei sylw at waith cyfarwyddo ffilm a theledu, gan gynnwys y ffilmiau Un Nos Ola Leuad (1991), Gadael Lenin (1992) a’r Mapiwr (1995). Er na fu’n perfformio’n gyson ar lwyfannau Cymru ers dyddiau Jîp ar ddiwedd y 1970au, fe wnaeth ymddangos yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2008, gan ganu nifer o ganeuon allan o Salem, ac fe aeth nôl i’r stiwdio yn 2009 i recordio’r record hir Deuwedd (Sain, 2009). Yn 2014 darlledwyd rhaglen ddogfen ar S4C gan gwmni teledu Acme yn olrhain hanes Salem, 40 mlynedd ar ôl rhyddhau’r record hir.

Discograffi
Hiraeth (Dryw WRL 537, 1973)
Salem (Sain 1012M, 1974)
Syrffio (Mewn Cariad) (Sain C551, 1976)
Dawnsionara (Sain 1206M, 1981)
Deuwedd (Sain SCD2603, 2009)
gyda Jîp:
Genod Oer (Gwerin SYWM 220, 1980)

Fe fydd y cofnod yma ar Endaf Emlyn gan Pwyll ap Sion yn ymddangos mewn gwyddoniadur cerddoriaeth o'r enw 'Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru', a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2016. Am fwy o fanylion cliciwch ar y ddolen ganlynol:

http://cydymaith.wordpress.com/

Glenys Jones yn cofio . .

E. R. HUGHES (1919 – 2005)

                                                                                                                                        

e r hughes

E.R. Hughes, M.A., Prifathro
Ysgol Ramadeg Pwllheli ac Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
1954 – 1979

(Llun D.H. Chapman, Stiwdio Palladium, Pwllheli)

Dydd Sadwrn prysur o haf ym Mhwllheli oedd hi, a minnau wedi penderfynu ymweld â’m cyn-brifathro a’i briod yn Erin, Abererch. Roedd Mr. Hughes ar fin cychwyn i’r dref i dalu bil garej ac er mai prin y gallai sefyll ar ei draed ac yntau heb allu bwyta dim ers diwrnodiau, roedd yn benderfynol o gyflawni’r orchwyl. Toedd dim troi’n ôl. Person felly oedd o, ac fel arfer gwastraff amser fyddai dadlau hefo fo. Ond y diwrnod hwnnw, toedd o ddim ffit i ddreifio ac wedi hir bwyllgora, medrais ei berswadio i adael i mi ei ddreifio yn ôl a blaen.. Er fy mod wedi ei weld droeon wedi hynny, dyna’r darlun ohono a erys yn y cof.

Roedd E.R. Hughes (bos i ni blant ysgol) yn enedigol o Fethesda ac wedi derbyn ei addysg gynradd ac uwchradd yno, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle cafodd yrfa hynod lwyddiannus. Graddiodd yn y Saesneg ac yna mynd ymlaen i gwblhau Gradd Meistr (M.A.) yn yr un pwnc. Wedi ei gymhwyso’n athro, bu’n dysgu plant cadw (evacuees) o Lerpwl ym Miwmares am gyfnod cyn symud i Northampton a dod yn ôl wedyn i Fiwmares yn bennaeth dros dro a hynny’n ystod cyfnod chwyldroadol a diddorol o newid yr ysgol i fod yn ysgol gyfun (Ysgol David Hughes erbyn heddiw). Yn 1954 fe’i penodwyd yn Brifathro ar Ysgol Ramadeg Pwllheli ac yn ddiweddarach ar Ysgol Glan y Môr pan ddatblygwyd addysg gyfun yn yr ardal hon. Ynp y bu hyd ei ymddeoliad yn 1979.

Roedd yn ŵr o athrylith a bu’n marcio papurau arholiad Caergrawnt am flynyddoedd maith. Wedi iddo ymddeol cynigwyd iddo Gymrydoriaeth Ymchwil yng Nghaergrawnt ond gwrthododd y gwahoddiad.

Cofir amdano fel Prifathro uchel iawn ei barch nad oedd yn fyr o ddweud ei feddwl yn blwmp ac yn blaen. Yn ddisgyblwr cadarn a haearnaidd, ni allai ddioddef ymddygiad llac nac unrhyw wamalrwydd. Roedd wedi ymroi’n llwyr i’w waith yn sicr ac roeddem ninnau’r plant yn yr ysgol i ddysgu a gweithio – a dim byd arall. Oedd, roedd arnom ei ofn, ond roeddem hefyd yn ei barchu. Roedd ganddo drefn, nid yn unig ar y plant, ond ar yr athrawon hefyd! Roedd ei ddiddordeb mewn addysg yn ddihareb, a dyna fyddai ei sgwrs yn aml. Ymfalchiai bob amser yn llwyddiant ei ddisgyblion ac os teimlai ef fod gan blentyn allu, ni fyddai’n fyr o’i gymell i dddilyn y pynciau y credai ef oedd yn addas. A chanddo ef bryd hynny yr oedd y gair olaf.

Bu’n aelod gwerthfawr o Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon a bu ei farn gadarn a di-wyro yn gaffaeliad mawr. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i dref Pwllheli hefyd fel Ynad Heddwch a bu’n is-gadeirydd y Fainc am gyfnod.

Etholwyd ef ynn ddiacon yn Eglwys Pen-lan (Annibynwyr), Pwllheli, yn 1958 a bu’n ffyddlon i’r achos tra caniataodd ei iechyd Roedd yn paratoi ei sylwadau fel llywydd y mis yn hynod o drylwyr ac mewn unrhyw drafodaeth glynai’n gadarn at ei safbwynt.

Yn ystod y blynyddoedd olaf, deuthum i’w adnabod yn dda ac i sylweddoli mawredd ei gymeriad. Yn y bôn, roedd yn berson teimladwy, ac yn un a chonsýrn am eraill, yn enwedig rhai mewn gwaeledd. Meddai ar rinweddau’r ffydd Gristnogol, ac un o’r pethau olaf iddo ddweud wrthyf oedd, “Rydw i’n colli dod i’r oedfa, wyddoch chi.”

Ni fu pall ar ei ofal o Mrs. Hughes gydol ei fywyd. Roedd y ddau’n adnabod ei gilydd ers pan yn 5 oed ac wedi priodi ers 63 o flynyddoedd.

Roedd y geiriau hyn mewn ffrâm yn Erin, Abererch:


25 Mai 1992 – 50 priodas Evan a Morfudd

Rhenaist o’th ddoniau’n helaeth,
Di-arbed fu dy chwys.
Yng Nglan-y-môr yn bennaeth,
Sedd fawr Penlan a’r Llys,
Am fod yn gefn i Evan
Dros hanner canrif lawn
A magu Carys wiwlan
Diolch i Morfudd wnawn.


Rhodd gan W.S. Owen

Er gorfod wynebu’r naill driniaeth ar ôl y llall, brwydrodd yn galed i gario ymlaen ac i gyd-ofalu am y cartref. Roedd ei ddycnwch a’i ddyfalbarhad yn ddi-arbed; yn wyrthiol mewn gwirionedd, a hynny hyd y diwedd.

Braint oedd cael adnabod gŵr mor arbennig, ac am gael rhannu rhyw gymaint o gyfoeth ei fywyd.

 

STAFF YSGOL RAMADEG PWLLHELI MEDI 1959

Prifathro . . . . E.R. HUGHES, M.A.
Dirprwy Brifathro . . . . R.R. JONES, B.A.
Prifathrawes . . . . Mrs. EIRLYS W. JONES, B.Sc.

ALWYN GRIFFITH, B.A.
H.J. HUGHES, B.A.
Mrs. M.H. HUGHES, B.A.
W. LLEWELYN HUGHES, B.A.
ALED PENRI JONES, B.A.
ARTHUR V. JONES, B.Sc.
CARADOG JONES, M.A., Y.H.
EDNYFED JONES, B.A.
ELLIS G. JONES, B.A.
Miss. KATHLEEN O. JONES, B.A.
Miss. MAIR JONES, B.A.
R. EDGAR JONES, B.Sc.
JOHN A. NEWMAN, B.A.
OWEN OWEN, B.Sc.
WILLIAM S. OWEN, B.Sc., B.D.
Miss. BERYL IRIS ROBERTS, B.A.
Miss. AVERILDA M. WILLIAMS
D.J.O. WILLIAMS, M.A.
JOHN G. WILLIAMS
TREVOR M. WILLIAMS, B.Sc.

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Evan Richardson  (1759 - 1824)

Nid gŵr o Bwllheli oedd Evan Richardson. Nid ym Mhwllheli y ganed ef, ac nid yn ein tref ni, ond mewn tref arall gyfagos – Caernarfon - y gosodwyd maen i gofio amdano ef a’i gyfraniad mawr.                                                                                                                                         

Cofeb Evan Richardson ar un o byrth
Capel Engedi yng Nghaernarfon

Serch hynny, er nad un o Bwllheli ydoedd, bu fyw ym Mhwllheli am gyfnod, a bu’n gweithio fel Athro Ysgol yn y dref. A barnu oddi wrth y gwasanaeth a roddodd mewn mannau eraill, a’r llu enwogion a ddaeth o dan ei gyfaredd a’i ddylanwad, nid oes le o gwbI i amau na cheisiodd Evan Richardson wneud cryn gyfraniad i fywyd a llês trigolion Pwllheli a’r cylch hefyd. Ac y mae’n briodol ein bod yn cofio amdano yma.
Yn ystod haf 1811, ordeiniodd y Methodistiaid Calfinaidd y 21 o’u gweinidogion cyntaf - wyth yn y Bala a 13 yn Llandeilo. Un o’r wyth a gafodd eu hordeinio yn Y Bala oedd Evan Richardson. Cafodd Evan Richardson ei eni ym 1759, yn fab y saer maen, Rhisiart Morys Huws, a’i wraig, a hynny ym Mryngwyn-bach, Llanfihangel-genau’r-glyn – pentref yng Ngheredigion tua 5 milltir i'r gogledd o Aberystwyth ar y ffordd i'r Borth. Er fod y pentref hwnnw heddiw ar Reilffordd Arfordir Cymru, nid yw’r tren yn aros gan oes orsaf yno. Enw arall ar y pentref bellach ydy Llandre, ond yr enw traddodiadol ydy Llanfihangel-genau'r-glyn, sy'n tarddu o'i leoliad yn hen gwmwd Genau'r Glyn, ac a fu unwaith yn rhan o gantref Penweddig. Cyn hynny, Llanfihangel Castell Gwallter, oedd yr enw. Newidiwyd yr enw i Lanfihangel-genau'r-glyn ddiwedd yr 16eg ganrif. Yna, yn y 19eg ganrif, rhoddwyd yr enw cwbwl ddiystyr, Llandre, ar y pentre; ond parhaodd yr hen enw mewn bri, a 'Llanfihangel-genau'rglyn' a geir gan amlaf mewn llyfrau ar hanes Cymru.
Yr oedd Rhisiart Morys Huws y tad, hefyd yn cael ei alw’n Evan Richardson, a hynny nid yn unig ar lafar gwlad ond yn llythyrau Thomas Charles o’r Bala, ac yng nghofnodion y Methodistiaid Calfinaidd ar y pryd.

Mae R. T. Jenkins yn dweud fod y Dr. Lewis Edwards, gŵr a ystyrid yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, ac awdur toreithiog, wedi dweud rywdro fod Evan Richardson yn ‘ewythr’ iddo. Gyda Roger Edwards a Thomas Gee, dechreuodd y Dr. Lewis Edwards gylchgrawn Y Traethodydd ym 1845. Yr oedd y Dr. Lewis Edwards yn un o arweinwyr amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd erbyn diwedd ei oes, a daeth dan feirniadaeth Emrys ap Iwan ar gyfrif ei gefnogaeth i'r "Achosion Saesneg". Mab i’r Dr. Lewis Edwards oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.

Roedd rhieni Evan Richardson am i’w mab fod yn offeiriad, a chafodd y llanc addysg ragorol yn ysgol enwog Edward Richard yn Ystrad Meurig. Ond wedi iddo glywed Daniel Rowland yn pregethu, denwyd ef at y Methodistiaid, ac enynnodd hynny lid a gwg ei dad nes iddo godi bwyell a’i fygwth yn ei wely. Er bod ei fam wedi achub ei gam, cefnodd Evan Richardson ar ei gartref ac aeth i agor ysgol yn Llanddewibrefi.
Daeth Evan Richardson fwyfwy dan ddylanwad Daniel Rowland, ac ar daith i Ogledd Cymru fel ‘cyfaill’ pregethwr, dechreuodd yntau bregethu tua 1781 yn 22 oed. Ymhen blwyddyn fe’i perswadiwyd gan yr enwog Robert Jones, Rhos-lan, i gadw ysgol ym Mrynengan. Llwyddodd y gwaith ond ymddengys na chafodd yr un llwyddiant wedi symud i Bwllheli. Aeth o Bwllheli i Langybi, lle roedd cymaint â chant o ddisgyblion yn ei ysgol. Yn ôl Goronwy Prys Owen yn Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, ‘Cafodd ei droi o (Langybi) oherwydd iddo fod yn gyfrwng tröedigaeth Jane James a fu unwaith yn hynod gellweirus a diystyrllyd o’r Methodistiaid . . . Yn ôl i Frynengan am gyfnod nes y perswadiwyd ef gan Gyfarfod Misol Sir Gaernarfon ym 1787 i symud i Gaernarfon i gadw ysgol.’

Daeth Evan Richardson, Caernarfon, i sylw’r enwad fel athro a phregethwr, a bu ei ysgol yn bwysig iawn yn hanes addysg pregethwyr y Methodistiaid ymysg eraill. Cyfeirir at lwyddiant ei ysgol yn gyson yng nghofiannau gweinidogion gwahanol. Ymhlith rhai o’r enwogion a fu yn ei ysgol yng Nghaernarfon yr oedd y gweinidog Methodist, John Elias (1774 - 1841), Syr Hugh Owen (1804 – 1881) cymwynaswr addysg Cymru (y mae cofgolofn iddo ar y Maes yng Nghaernarfon ac Ysgol yn y dref sy’n dwyn ei enw, William Griffith (1801 - 1881), (gweinidog cyntaf Annibynwyr tref Caergybi), Richard Jones o’r Wern (1772? - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid a llenor, Griffith Davies (1788 – 1855), y mathemategydd enwog a aned ym Meudu Isaf, Y Groeslon - nid nepell o safle hen Ysgol Penfforddelen. Nid Beudu Isaf mo'i enw heddiw, fodd bynnag, ond Fox Lair, y bardd Robin Ddu Eryri (1804 - 1892 ), a’r pregethwr Methodistaidd, Robert Roberts, Clynnog  (1762 - 1802).

Yn ôl R. T. Jenkins, gydag Evan Richardson, i bob pwrpas ymarferol, y cychwyn Methodistiaeth Caernarfon. Bu cryn wrthwynebiad yn y dref i Evan Richardson a’i gyfaill, John Roberts (tad y Parchg Michael Roberts, Pwllheli) pan aethant yno i bregethu. Ond buont yn ffodus o gael cefnogaeth gweinidog enwog yr Annibynwyr, y Dr George Lewis (un o Dre-lech), diwinydd mwyaf ei gyfnod. Pregethodd y ddau ifanc ger talcen capel Dr. Lewis, ym Mhen-dref, Caernarfon. O’r cychwyn anodd hwnnw, bu cynnydd nes codi capel ym 1793, rhagflaenydd capel Moreia, 1826.

Daeth ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon i ben tua 1817 pan ddechreuodd ei iechyd ddirywio, cafodd ergyd o'r parlys ac ni phregethodd fawr wedyn. Bu farw ar 29 Mawrth 1824, yn 65 oed, a chafodd ei gaddu yn Llanbeblig. Priododd ddwywaith.

Cymerodd William Lloyd (1771 - 1841). ofal o’i ysgol ar ei ôl. Gweinidog ac ysgolfeistr oedd William Lloyd yntau. Ganed ef ym 1771 yn fab Robert ac Elinor Lloyd, Penmaes, Nefyn. Cawsai ei addysg yn Ysgol Ramadeg Botwnnog, a Choleg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn yr Eglwys Wladol ym 1801, a’i drwyddedu i Roscolyn, Llanfair yn Neubwll , a Llanfihangel, ar Ynys Môn. Ymunodd yntau hefyd â’r Methodistiaid, a bu'n byw yng Nghaernarfon ac yn  Nefyn; bu’n cadw ysgol ym Mrynaerau, ger Clynnog Fawr, cyn symud i ofalu am ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon ym 1817. Treuliodd William Lloyd weddill ei oes yno yn fawr ei ddylanwad ymhlith Methodistiaid y Gogledd. Adroddir nad oedd yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn ŵr duwiol. Bu ef farw ar 16 Ebrill 1841, a chladdwyd yntau hefyd, fel Evan Richardson, ym mynwent Llanbeblig.

Cafodd Evan Richardson ei ddisgrifio fel hyn: ‘Yr oedd ei ymadroddion yn fyrion, yn gryno, ac yn hyfryd – yr oedd ei lais yn glir ac yn beraidd – a’i ysbryd yn fywiog ac efengylaidd.’

Bu Evan Richardson ar deithiau lawer yn siroedd y gogledd yn sefydlu eglwysi yng nghwmni gwenidogion adnabyddus y cyfnod. Yr enwocaf o’u plith oedd Thomas Charles, a gwelir enwau’r ddau ymhlith ymddiriedolwyr nifer o gapeli. Byddai’r ddau’n cyd-bregethu wrth agor capeli newydd ac yn ôl D. E. Jenkins, yn ei gofiant i Thomas Charles: ‘yr oedd gan Charles feddwl uchel ohono’.

Twm Prys Jones yn cofio am ...

EVAN ROBERT DAVIES - Cyfreithiwr

EVAN ROBERT DAVIES

A minnau’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, ’r oedd amryw o’m cymrheiriaid yn byw yn Ffordd y Maer, Pwllheli. Bryd hynny, ystad o drigain o dai cyngor oedd Ffordd y Maer - rhwng y rheilffordd a’r ffordd sy’n arwain o’r dref i Gricieth. Wn i ddim pa nifer o’m cyd-ddisgyblion, a minnau’n eu plith, oedd yn gwybod pam galw’r tai yn Ffordd y Maer. Yn ddiweddarach, mi ganfyddais rai ffeithiau am ŵr arbennig iawn o dre Pwllheli, a bod yr enw, Ffordd y Maer, yn wrogaeth haeddiannol i un o feibion y dref – un a fu’n gynghorydd trefol a sirol, yn Glerc y Dref am gyfnod, ac yn Faer y Dref bedair o weithiau, ac a fu’n gysylltiedig â llawer agwedd ar fywyd y fwrdeisdref – yn grefyddol, yn wleidyddol, ym myd busnes, yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol.

Pwy, felly, oedd y gŵr hwnnw? Neb llai nag Evan Robert Davies, cyfreithiwr, dyn prysur ryfeddol y cysylltir ei enw’n gynnar yn ei yrfa â Chyngor Sir Gaernarfon, ac wedyn â Phwyllgor Addysg y Sir honno o’i ddechreuad ym 1902. Yr oedd hefyd yn un o wŷr llaw dde David Lloyd George – yn un o’i Ysgrifenyddion Cyfrinachol. Yr oedd yn un o Gomisiynwyr y Bwrdd Amaeth yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddiweddarach, bu’n aelod o fyrddau rheoli nifer helaeth o gwmnïau – cwmnïau fel Rheilffordd yr Wyddfa, Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd yr Ucheldir. O sôn am Reilffordd yr Wyddfa, os eir i Lanberis heddiw, gwelir bod un injan ddiesel ar lein yr Wyddfa efo’r enw, Ninian arni, sy’n amlygiad o gysylltiad teulu E.R. Davies â’r Rheilffordd honno – cafwyd yr injan newydd ym 1986 ac fe’i galwyd yn Ninian o barch i gadeirydd Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa ar y pryd – sef Ninian Davies, mab Evan R. Davies. Bu Evan R. Davies farw’n annisgwyl yn ystod ei dymor fel Maer y Dref. Bore Sul, Rhagfyr 9, 1934, oedd hynny, ac yntau’n nôl ei gôt o’r llofft ar ei ffordd i wasanaeth y bore yng nghapel y Methodistiaid Calfinaid yn South Beach.

Y Parchg. David Evan Davies, tad Evan R. Davies, oedd sefydlydd yr achos yn South Beach. Bu yntau, fel ei fab, farw’n sydyn ugain mlynedd ynghynt ym 1914. Magwyd Y Parchg. David Evan Davies yn Efailnewydd. Er yn weinidog ordeiniedig, ni fu erioed yn weinidog amser llawn, ac ni dderbyniai gyflog o’i ofalaeth yn South Beach, gan ei fod yn ŵr busnes prysur. Ef oedd y cynrychiolydd dros Gymru o Gwmni Yswiriant y Mutual New York. Roedd cysylltiad agos rhyngddo â chapel Salem, Pwllheli, ac oddi yno yr aeth i sefydlu’r achos yn South Beach. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am gychwyn yr achos yn Nant Gwrtheyrn. ’Roedd cysylltiad ganddo â nifer o gymdeithasau crefyddol eu naws yn yr ardal, yn arbennig rhai’n ymwneud â dirwest a moes.

Bu Evan R. Davies yn Faer Pwllheli am bedair blynedd yn olynol. Ar adeg ei urddo’n Faer Pwllheli am y tro cyntaf fis Tachwedd 1931, cyhoeddodd ei bod yn fwriad ganddo i gynnal holl drafodaethau’r Cyngor Tref drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Digwyddodd hynny’n syth. Ym mis Chwefror 1932, penderfynodd y Cyngor Tref adfer yr enwau Cymraeg ar strydoedd Pwllheli. Dichon nad oedd bod yn ymwybodol o bwysigrwydd a gwerth yr iaith Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus yn beth dieithr i Evan R. Davies, oblegid ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd cyntaf Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon (swydd sy’n cyfateb i waith Cyfarwyddwr Addysg heddiw), bu’n rhaid iddo gwyno ar ran y Pwyllgor Addysg am Seisnigrwydd a diffyg sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth y Llywodraeth ganolog yn Llundain o’r angen i ohebu â’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru yn y Gymraeg. Rhaid cydnabod, serch hynny, bod ei swyddfa ef ei hun yng Nghaernarfon yn bur aml yn anghofio gwneud hynny!

Yn niwedd 1902, pasiwyd Deddf Addysg bwysig yn y Senedd yn Llundain. Y ddeddf honno a roes fodolaeth am y tro cyntaf i’r Pwyllgorau Addysg Sirol– cyfundrefn sy’n bodoli o hyd. Bu llawer o drafod ac ymgecru gwleidyddol ac enwadol yn ei chylch, ac yn arbennig felly yng Nghymru ynglŷn â’r Mesur Addysg cyn ei ddod yn Ddeddf yn Rhagfyr 1902. Roedd y gwrthwynebiad i’r Mesur yn danbaid o gyfeiriad yr Anghydffurfwyr am eu bod yn ofni y gorfodid hwy i dalu trethi i gynnal Ysgolion Eglwys, ond heb fod ag unrhyw lais yn eu rheolaeth. Roedd Evan R. Davies yn benboeth ei wrthwynebiad i’r Mesur Addysg, ac yn gefnogol i benderfyniad y Cyngor Sir i beidio’i roi mewn grym yn Sirol pe deuai’n ddeddf. Dyna hefyd oedd tacteg David Lloyd George ar y cychwyn cyn iddo newid ei feddwl. Evan R. Davies oedd yn gyfrifol am weithredu’r ddeddf yn Sir Gaernarfon. Ef, yn anad neb arall, gyda chefnogaeth dyrnaid o gynghorwyr sir galluog – yn Ryddfrydwyr a Thoriaid – a fu’n gyfrifol am osod Sir Gaernarfon ar y map addysgol fel y sir fwyaf arloesol ac eang ei darpriaeth yng Nghymru. Bu’n allweddol yn natblygu nifer o gynlluniau blaengar – datblygu Ysgolion Sir ac Ysgolion Gradd Uwch, a chodi nifer o ysgolion cynradd newydd led-led y Sir – ysgolion y gwelir ‘Ysgol y Cynghor’ wedi ei naddu arnynt. Bu’r Pwyllgor Addysg, dan ei arweiniad, yn flaengar y maes iechyd a lles plant yn gyffredinol. Yr oedd darparu prydau bwyd ganol dydd yn un enghraifft. Datblygwyd addysg amaethyddol yn y Sir, a sefydlwyd Coleg Amaethyddol Madryn pan oedd ef wrth y llyw.

Evan R. Davies oedd Clerc Cyngor Tref Pwllheli rhwng 1896 a 1921, a’i frawd W. Caradoc Davies yn cymryd ei le fel Clerc, a bu ei fab yntau, Cyril Davies, yn Glerc y Dref ym mlynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif. Symudodd Evan R. Davies i Lundain ym 1921 yn dilyn cael ei benodi gan David Lloyd George yn un o’i Ysgrifenyddion Cyfrinachol.

Cafwyd llawer o ddatblygiadau eraill ym Mhwllheli drwy ei weledigaeth. Bu’n gyfrfol am ariannu cynllun dŵr newydd i Bwllheli o Fur Cwymp (rhwng Y Ffôr a Llanaelhaearn) yn wreiddiol, ac wedyn o gyfeiriad Cwm Cilio, yng nghesail y Bwlch Mawr. Cafodd arian o’r Llywodraeth ar gyfer nifer o brosiectau – datblygu’r hen harbwr a chreu’r harbwr presennol; symud yr orsaf drenau o’r ‘Hen Stesion’ ar Ffordd Aber-erch i’w safle bresennol yng nghanol y dref; adennill tir o fewn y Fwrdeisdref, wrth greu’r harbwr newydd; cyplysu South Beach hefo’r West End drwy’r Promenâd. Ym 1931, gwahoddwyd ef i agor ‘Ysgol Fodern’ newydd ym Mhwllheli, ac addas iawn oedd ei wahodd ef i wneud hynny. Ysgol Frondeg oedd honno, a sicrhaodd fod cadw’n fyw yr hen enw ar y tiroedd oedd yn ymestyn rhwng y dref a Phenmaen – yr enw Frondeg.

Bu angladd Evan R. Davies ym Mynwent Denïo, Pwllheli, ddydd Mercher, Rhagfyr 12, 1934.

Dyna gipolwg, felly, ar fywyd prysur a chyfraniad mawr un o feibion tref Pwllheli, dyn a fowldiwyd yn bennaf yn ei filltir sgwâr, ond a gyfrannodd yn helaeth i gylchoedd ehangach lawer.

Talfyriad o dair sgwrs a draddodwyd i ‘Utgorn Cymru’ Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Ioan W. Gruffydd yn cofio’r Ffotograffydd . . .

Fred May [1878 – 1960]

Gwyddel wedi ei eni ym 1878 ym Melffast, Gogledd Iwerddon, oedd Frederick May Mahaffey, neu F.H. May, fel y dewisodd gael ei alw a’i adnabod yn lleol. Daeth i fyw a gweithio fel ffotograffydd i Bwllheli, gan dreulio rhan helaethaf ei oes yn y dref. Pam y bu i ŵr o’r Iwerddon ddewis dod i fyw a gweithio yn nhref Pwllheli o bob man, mae’n anodd gwybod. Gellir yn hawdd ddyfalu, wrth gwrs, iddo ef - fel llawer o Wyddelod eraill bryd hynny – deimlo rheidrwydd i adael ei gartref yn Iwerddon am nad oedd waith i’w gael yno. Cefnodd ar Felffast ei blentyndod a gwneud ei gartref ym Mhwllheli. A gwnaeth gyfraniad nodedig i’r dref a’r ardal fel dyn camera. Yn wir, roedd yn cael ei gydnabod fel un o ffotograffwyr golygfeydd gorau gwledydd Prydain.

Bu’n byw mewn nifer o gartrefi gwahanol ym Mhwllheli – Rathlyn, Ffordd yr Ala; Glan Rhyd, Teras Brookfield; Ty Mona a 20 Ffordd yr Ala. Agorodd ei stiwdio ffotograffau ym Marian y De. Sut ddyn oedd o? Dyn tenau o gorff, mae’n debyg, a gwelid ef yn mynd o gwmpas ar ei feic hefo’i gamera. Yn ôl un adroddiad, un llygaid oedd ganddo, sy’n peri ei fod yn fwy fyth o ryfeddod fel dyn tynnu lluniau. Yr oedd yn ŵr priod pan ddaeth i Bwllheli gyntaf, ac yr oedd gan ei wraig ac yntau un ferch, sef Kathleen Mary, a fu wedyn yn brifathrawes mewn ysgol yn Abertawe. Erbyn 1930, fodd bynnag, ymddengys fod ei briodas wedi torri a’i wraig wedi ei adael ac wedi dychwelyd i’r Iwerddon. Roedd cartref y ddau yn Rosemount, Pwllheli, hyd at 1930. Wedi hynny, mae hanes amdano’n byw am gyfnod yn ei stiwdio mewn cwt pren yng nghefn y ty. Yr oedd yn aelod yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli. Bu hefyd yn aelod o fudiad y Toc H yn y dref oddi ar gychwyniad y gangen leol.

Yn ogystal â bod yn brysur iawn yn tynnu lluniau, rhwng 1907 a 1953, cyhoeddwyd ganddo gyfresi gwahanol o gardiau post oedd yn portreadu bywyd ym mhentrefi a threfi Pen Llyn – golygfeydd a chymeriadau o Aberdaron, Abersoch, Nefyn a Phwllheli. Mae’n eiddo iddo hefyd gardiau post sy’n dangos golygfeydd o ardaloedd Conwy a Harlech.

Bu farw ar Fawrth 23, 1960, yn 82 mlwydd oed yn Ysbyty Gallt y Sil, Caernarfon, a chafodd ei gladdu ym Mynwent Newydd, Pwllheli. Cyhoeddwyd ei farwolaeth yn y papur newydd a nodwyd y câi ei adnabod fel ‘Fred May, Ffotograffydd Tirluniau nodedig yn Ne Arfon am 30 mlynedd.’ Nodwyd ymhellach ei fod yn arddwr brwdfrydig, yn arbenig yn ei ddyddiau cynnar, pan fyddai’n arddangos ei gynhyrchion gorau mewn sioeau gwahanol yn Arfon.

 

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Gruffydd T. Evans, (Beren)

Yr oedd ei dad, Evan T. Gruffydd, yn swyddog elusen ym Mhwllheli. Ganed ei fab, Beren, ym 1853, ym Modgadle, cartref ei fam. Nid oes sicrwydd am y fan, na’r mannau lle cafodd ei fagu gan fod ei rieni wedi byw mewn sawl man yn ardal Rhydyclafdy pan oedd yn ifanc. Ond yno yn y gymdogaeth honno y bu iddo dreulio’i fywyd cyfan. Tystia Myrddin Fardd, yn Hanes Enwogion Sir Gaernarfon, mai “dyn tawel oedd Beren . . . yn perthyn i’r lleddf yn hytrach na’r llon. Ei brif enwogrwydd yn ystod ei oes,” meddai, “oedd bod yn gadeirydd amryw gynghorau perthynol i’w ranbarth, ac yn flaenor derbyniol a chymeradwy efo’r Methodistiaid.” Yr oedd hefyd yn meddu ar ddawn farddonol. Gallai, meddai Myrddin Fardd, “wisgo ei syniadau yn ngwe rhyddfrydig yr awen, mewn geiriadaeth hyrwydd a sylweddol.” Lluniodd Farwnad i David Hughes, Caneuon i Blant, a Rhieingerdd Meredydd – cerddi y mae Myrddin Fardd yn dra beirniadol ohonynt. Dywed fod “Gweithiau Beren,” yn ei amlygu “yn fwy o brydydd nag o fardd – yn rhagori mwy mewn mydrau rhydd nag yn llyffethair y gynghanedd. Bu farw Beren ddiwedd Rhagfyr 1914, yn 61 oed. Mae ei fedd ym mynwent Llanfihangel Bachellaeth – y llecyn hwnnw yng ngwlad Llŷn y canodd Cynan iddo,

Yn Llanfihangel Bachellaeth
Mae’r lle tawela ’ngwlad Llŷn,
Yn Llanfihangel Bachellaeth
Pe caet dy ddymuniad dy hun,
Heb ffwdan na hir baderau
Fe rodem dy gorff i lawr
Lle ni ddaw ond cân ehedydd
I dorri’r distawrwydd mawr.

Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad y delynores a’r gantores ddawnus

GWENAN MAIR GIBBARD 

A minnau’n fyfyriwr yn y Coleg ym Mangor, roedd ymhlith fy nghyd-fyfyrwyr dri brawd yn hyfforddi i fod yn weinidogion. Aeth un ohonynt yn weinidog i ardal Llanelli, un i Lyn Nedd, ac un i Ynys Môn. Y diweddar Barchg. R. Hedley Gibbard oedd hwnnw: gŵr a briododd Mair, un o ferched Prifathro’r Coleg, ac a fu’n weinidog yr Annibynwyr yn Llannerch-y-medd, cyn dod yn weinidog i Bwllheli (a Nefyn). Bu’n gwasanaethu fel Clerc Cyngor Tref Pwllheli am gyfnod. Gwnaethai Hedley gryn enw iddo’i hun fel cyfieithydd arloesol. Yn wir, cyfeiriwyd ato yn Narlith Coffa Hedley Gibbard Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 2016, fel ‘Rolls-Royce o gyfieithydd.’

Eu merch hwy yw’r delynores a’r gantores, Gwenan Mair Gibbard, sydd bellach yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Roedd pwyslais ar yr aelwyd ar bopeth Cymraeg a Chymreig, gan gynnwys canu gwerin a cherdd dant, a chafodd Gwenan nifer o gyfleoedd yn ifanc iawn i berfformio, yn bennaf drwy’r Capel (Capel Penlan, Pwllheli) a’r Urdd yn y dref. Dechreuodd ganu gwerin a cherdd dant gyda Iona Williams, ac wedi cyrraedd yr ysgol uwchradd cafodd sylfaen a chefnogaeth amhrisiadwy yn y maes gan ddwy o gynheiliaid y traddodiad yn ardal Pwllheli, sef Nan Ellis ac Alwena Roberts.

Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a chwblhau gradd meistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, cyn dychwelyd i’w bro enedigol ym Mhwllheli. Erbyn hyn, mae wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a'n halawon traddodiadol. Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae ei thrydydd albwm ar label Sain, ‘Cerdd Dannau’, yn gasgliad blaengar sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant. Bu’n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu’r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient (Llydaw), Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn), Gŵyl Gymreig Gogledd America, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), Gŵyl Delynau Rhyngwladol Caeredin a Celtic Connections (Glasgow). Bu hefyd yn gyfeilydd ac yn feirniad swyddogol yn ein gwyliau cenedlaethol. Roedd Gwenan yn un o brif artistiaid cyngerdd agoriadol Womex yng Nghaerdydd yn 2013 a bu hefyd yn perfformio yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau geni Dylan Thomas. Yn ddiweddar, bu’n perfformio yn Hong Kong a hefyd draw yn y Wladfa, Patagonia –- profiad a fu'n ysbrydoliaeth i gasgliad newydd o ganeuon a glywir ar ei phedwerydd cryno ddisg ‘Y Gorwel Porffor’ –- caneuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd. Mae wedi cyd-berfformio gyda nifer o gerddorion amlwg gan gynnwys Cerys Matthews, Beth Nielsen Chapman, Dafydd Iwan, Meinir Gwilym, Bryn Terfel a Calan.

Yn 2016, ffurfiodd Gwenan, gyda Alwena Roberts, gôr merched newydd sbon, ‘Côr yr Heli’, gyda Gwenan yn arwain ac yn gosod ar eu cyfer. Mae’r côr yn cynnwys dros 80 o ferched o ardal Llŷn ac Eifionydd a maent yn cyfarfod ym Mhwllheli. Bu’r côr yn llwyddiannus yng Ngŵyl Gerdd Dant Llŷn ac Eifionydd yn 2016 ar gystadleuaeth y Côr Cerdd Dant Agored a hefyd daeth llwyddiant i’w rhan yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Mewn adolygiad yn Ninnau, Papur Bro Cymry Gogledd America, dywedwyd fod Gwenan Gibbard wedi cyfareddu’r gynulleidfa gydol yr Ŵyl gyda’i chadwyn o alawon Cymraeg ar y delyn a’i chanu caneuon Cymraeg traddodiadol a chyfoes. Roedd yn berfformiad prydferth gan chwip o gerddor medrus.

. . . “Gwenan Gibbard enthralled the audience throughout the Festival with her medley of Welsh music on the harp and her singing of the traditional and contemporary Welsh songs….What a beautiful performance by this accomplished musician.”
Ninnau, Papur Bro Cymry Gogledd America, Hydref 06 (Adolygiad cyngherddau Gŵyl Gymreig Gogledd America).

Ioan W. Gruffydd yn cofio gorchest yr athro a’r hyfforddwr hwylio ysbrydoledig o Bwllheli  . . .

 

GWYNDAF HUGHES 

“un o'r dynion cleniaf rydw i wedi ei hadnabod erioed,”
[Aimee Saracco-Jones]

 

Athro ysgol wedi ymddeol ydy ‘Yncl Gwyndaf.’ Dros y blynyddoedd, bu’n Gwyndaf Hughes yn hyfforddi cenedlaethau lawer o blant a phobl ifanc yn y grefft o hwylio, ac y mae llu o’r plant a’r bobl ifanc hynny’n fawr iawn eu dyled iddo. Yn wir, treuliodd 49 mlynedd yn hyfforddi plant.

Dechreuodd yn Ysgol Frondeg, Pwllheli, ac wedi hynny - pan gafodd Ysgol Frondeg a’r Ysgol Ramadeg yn y dref eu huno yng nghanol 1969 – yn Ysgol Glan-y Môr, Pwllheli. Pan ddychwelodd i’r ardal ym 1962, mi ffurfiodd Glwb Hwylio yn Ysgol Frondeg, lle cawsai ei benodi’n athro crefft a dylunio. A pharhaodd y Clwb Hwylio hwnnw hyd at ei ymddeoliad o Ysgol Glan y Môr ugain mlynedd yn ôl. Wedi hynny, aeth ati i sefydlu cymdeithas, gan nad oedd neb ar gael i redeg Clwb Hwylio’r Ysgol. Cawsai ei fagu ar yr arfordir ym mhentref cyfagos Trefor, er nad oedd erioed wedi hwylio. Yr agosaf at y  y môr iddo fod oedd pan oedd yn pysgota am fecryll. Aethai i goleg yn Llundain, ac yno y bu iddo ddechrau hwylio, a chael blas ryfeddol ar wneud hynny. Pan ddychwelodd adref, wedi pedair blynedd, a dod yn athro ysgol, daliodd ati i hwylio, a dechrau hyfforddi plant a phobl ifanc yn y grefft honno.
Llwyddodd i oresgyn afiechyd y canser, a llwyddodd i barhau â’i waith hyfforddi. Derbyniodd wobr arbennig yng Ngwobrau Anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru yn 2011. Roedd nifer uwch nag erioed am anrhydeddau ymysg ceisiadau’r flwyddyn honno. Ac ar ôl ystyried yn ofalus y ceisiadau hynny, dewisodd panel o feirniaid a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gylchoedd gwahanol - cyrff rheoli, pobl ifanc, sports coach UK, chwaraeon anabledd, a Chwaraeon Cymru – nifer o enwebiadau yn eu hymdrech i ddod o hyd i’r goreuon. Ymysg yr hyfforddwyr uchaf eu safon  a oedd i dderbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yr oedd Gwyndaf Hughes o  Glwb Hwylio Pwllheli.



Gwyndaf Hughes

Pan ddarganfuwyd fod canser ganddo  fis Ebrill 2010, ei ymholiad cyntaf i'r meddygon oedd a fyddai'n gallu dal ati i ddysgu plant i hwylio. Ac Yn ystod ei driniaeth, daliai i fynychu'r clwb bob dydd Llun a dydd Gwener i helpu gyda pharatoi'r cychod a threfnu'r gwaith papur. A phan gafodd wybod ei fod yn glir o ganser fis Tachwedd 2010, roedd yn ei ôl ar ei union yn gwirfoddoli yn y clwb hwylio ac yn gwneud hynny o 10 i12 awr yr wythnos yn gyson.  Dywedodd Gwyndaf Hughes iddi fod yn afraint fawr iddo gael derbyn yr anrhydedd a’r gydnabyddiaeth a ddaeth iddo, er na wyddai fod dim o’r fath ar y gweill cyn i’r ffôn ganu yn ei gartref. Yr oedd wedi dal ati i fynd i’r clwb hwylio yn ystod y driniaeth cemotherapi a gawsai, ac er na chaniateid iddo wneud popeth yno gan yr aelodau, bu’r cyfan yn gymorth ac yn gryn gymheliad iddo. Dywedodd ymhellach ei bod bob amser yn arbennig o dda i gael bod yng nghwmni’r bobl ifanc, ac mai dyna pam yr oedd hyfforddi’n rhoi cymaint o fwynhad iddo.
Cafodd ymdrechion ac ymrwymiad diflino Gwyndaf Hughes eu cydnabod fis Tachwedd 2011 gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol, pan dderbyniodd eu Dyfarniad Cymunedol Anrhydeddus am wasanaethau i'r gamp, ac i Glwb Hwylio Pwllheli yn arbennig felly.  Ymysg y rhai a ysbrydolwyd gan ei hyfforddiant dros y blynyddoedd, mae'r Hwyliwr Rownd y Byd,  Richard Tudor.                   


Richard Tudor

Dywed Gwyndaf Hughes fod y pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai arbennig o dda i hwylwyr mwyaf profiadol Clwb Hwylio Ieuenctid Pwllheli a’r Cylch (CHIPA), gan i amryw ohonynt gael eu dewis i gynrychioli Cymru, a gwledydd Prydain,  mewn cystadleuthau rhyngwladol a byd-eang. Bu nifer ohonynt yn cystadlu yn America, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Sbaen a Hwngari ymysg gwledydd eraill.

X.MA4.1417645553@aol

Mari Davies

Cafodd Mari Davies, o Gerlan, Bethesda, ei dewis yn Brif Eneth yn ei dosbarth o dan 19 oed yng ngwledydd Prydain, ac yn drydydd yn Ewrop. Dywedodd Mari iddi gael ei hysbrydoli gan y gymuned o hwylwyr profiadol yng nghlwb hwylio Pwllheli – a chan bobl fel Richard Tudor, yn ogystal â’i hyfforddwyr cyntaf, “Yncl Gwyndaf ac Eifion Owen.”

Aimee Saracco-Jones

Ac mae cyn-ddisgybl arall, Aimee Saracco-Jones, o bentref cyfagos Efailnewydd, wedi gwneud cryn gynnydd drwy rasio plant ac ieuenctid Cymdeithas Iotio Cymru i sicrhau ei thrydedd blwyddyn yn aelod o Sgwad Hwylio Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei chyflwyno i hwylio gan Gwyndaf Hughes. Dywedodd iddi wirioni gyda hwylio i ddechrau pan gafodd ei chyflwyno - yn wyth oed – “i un o'r dynion cleniaf rydw i wedi  eu hadnabod erioed, Mr. Gwyndaf Hughes.” Ychwanegodd, “Dysgodd i mi, a llawer o bobl ifanc eraill,  sut i barchu a gwerthfawrogi'r môr a'r arfordir lle rydym yn byw. Bu'n gyfrifol am feithrin fy hyder, sydd wedi fy helpu mewn chwaraeon, yn yr ysgol ac mewn bywyd yn gyffredinol. Ychwanegodd i’w thad hefyd gael ei ddysgu i hwylio gan Gwyndaf Hughes pan oedd yntau’n fachgen ifanc. Yr oedd ei thad bellach dros ei  46 oed ac yn un o uwch hyfforddwyr dingi y GIF yng Nghlwb Hwylio Pwllheli. Cawsai’r rhan fwyaf o'r hyfforddwyr eu dysgu gan Gwyndaf Hughes.Yr oedd, nid yn unig yn dysgu pawb i hwylio – yn blant, yn ieuenctid yn oedolion fel ei gilydd - ond hefyd yr oedd  yn trwsio ac yn cynnal ac yn  cadw'r cychod a'r offer. Yr oedd yn codi arian i'r clwb, yn gwneud cyfrifon yr ieuenctid a'r aelodaeth, yn trefnu goruchwyliaeth cwch diogelwch, yn hyfforddi ac yn sicrhau cefnogaeth y rhieni. Fo mewn gwirionedd,  oedd Clwb Hwylio Pwllheli. “Oni bai am 'Yncl Gwyndaf,' fel mae pawb yn ei alw, ni fyddai cannoedd o blant yn ein hardal ni wedi cael mwynhau'r pleser o ddysgu hwylio."

Dywedodd Jane Butterworth, Cadeirydd yr Adran Iau yng Nghlwb Hwylio Pwllheli, fod Gwyndaf Hughes wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o ieuenctid Pwllheli yn ystod y pedwar degawd diwethaf. Dywedodd iddo roi ei oes i ddysgu plant ifanc Pwllheli a Phenrhyn Llŷn i hwylio ac, yn fwy na dim, i gael hwyl a bod yn ddiogel ar y dŵr. 

"Prif nod Gwyndaf Hughes oedd rhoi cyfle i gymaint o blant lleol ag y bo modd i brofi cyffro hwylio. Bu ei ymrwymiad i'r gamp yn ddi-guro, ac heb ei waith gwirfoddol ef dros y blynyddoedd, byddai nifer fawr o'r bobl ifanc wedi colli cyfle oes. “Prif bwrpas y cyfan,” meddai Gwyndaf Hughes ei hun, “oedd rhoi cymaint o brofiadau ag oedd yn bosibl i’r plant.”

 

Owen Roberts yn cofio am ..

JAC BEN - Pysgotwr

jac ben

Un o gymeriadau lliwgar a diddorol tref Pwllheli oedd Jac Ben Jones, ‘Brenin y Mecryll,’ ac fel brenhinoedd Lloegr, yr oedd ganddo ddau ben blwydd – un swyddogol ac un go iawn. Cafodd ei eni naill ai ar Fehefin 8 – y dyddiad, yn ôl traddodiad pan fyddai Jac Ben yn dal y facrell gyntaf un, neu ar Orffennaf 19, 1901, a hynny yn Stryd Wesla, Pwllheli, yn unig fab Benjamin (’Sgotwr) a Margiad Jones. Yr oedd tair chwaer hefyd, Hanna Davies, Pwllheli, Lil yn Rhuthun, a Maggie Jelliman yn Lerpwl.

Cafodd Jac Ben ei fagu, yn ôl trefn yr oes, i barchu rheolau’r Rhodd Mam, ac i dderbyn straeon Y Beibl yn llythrennol. Achos torcalon iddo oedd hanes y Mab Afradlon: hogyn yn gadael aelwyd ei dad, ac yn mynd yn hogyn drwg, a’i fam wedi ymdrechu i’w fagu’n annwyl. Byddai Jac i ddiwedd ei oes, ar ôl cael diod, yn torri i grio wrth sôn am ei fam. Dim ond i rywun ddechrau canu, That Old Fashioned Mother of Mine, a byddai Jac a’i ben yn ei ddwylo yn sychu ei lygaid. Yr un pryd, dim ond i rywun daro, Throw out the Lifeline, a byddai Jac ar ei draed yn bloeddio canu, ac wedi anghofio’n llwyr am ei fam. Mae’n amlwg fod ei fam wedi crefu arno i fod yn hogyn da, a natur Jac mor groes i hynny, nes iddo ei boeni drwy gydol ei oes, a dyna – dybiwn i – oedd yn peri iddo dorri ei galon wrth feddwl amdani. Mi greda’i hefyd fod y dylanwad hwnnw wedi bod yn gyfrifol i raddau helaeth am ffurfio’i gymeriad.

Gadawodd Jac yr ysgol yn ifanc ac yn hollol anllythrennog. Llew Thomas, un o’i gyfoedion, adroddodd ei hanes yn Ysgol Penlleiniau. Roedd hi’n brawf Saesneg, a’r prifathro’n cerdded o amgylch y dosbarth, ac yn stopio hefo Jac. What’s that you’re doing, Jac Jones? “Llun cwch y’nhad, Syr,” atebodd Jac, a llun y Cetiwayo yn llenwi’r papur arholiad.

Newydd ddod adref o’r môr oedd Jac pan glywodd rywun yn gweiddi am help yn yr harbwr. Pan edrychodd dros y bont ym Mhen Cob, gwelai rhyw hogyn yn y dŵr bron â boddi. Tynnodd Jac ei gôt a neidio i fewn a llwyddo i ddal pen yr hogyn uwch ben y dŵr a’i gwneud hi am y lan. Ond er i Jac grefu arno i fod yn llonydd, dal i gicio a bloeddio ‘roedd o. “Dyma fi a slap iddo i’w lonyddu.” Amser te, dyma gnoc ar y drws – plusman. Y creadur wedi mynd i ddweud wrth y plusman fod Jac Ben wedi ei daro fo! “Y cythral bach,” meddwn i, “Pwy oedd o, Jac?” “Un o betha’ Tin Clwt ’na o Bentra Poeth!”

Mae gennyf lun o Jac hefo Wil Gould a Twm ei frawd pan oeddynt yn pysgota yn y Redwing, a phan soniais wrth Jac fy mod wedi cael y llun, yr unig ateb a gefais oedd, “Welaist ti fy mreichiau i? Mi fu yn y Redwing am sbel hefo Wil Gould, er nad oedd erioed lawer o gyd-dynnu rhwng y ddau: Wil mor hynod o weithgar a manwl a chyfrifol, yn erbyn y ddiod gadarn, ac yn hawlio parch ac edmygedd y cyfan o Fae Ceredigion am ei allu fel cychwr, a Jac yn hollol groes, er na chlywais i erioed mo Wil yn dilorni Jac – a dweud y gwir, clywais o unwaith neu ddwy yn ei ganmol - ac yr oedd hynny yn beth dieithr iawn i Wil Gould.


jac ben

Bu Wil Gould yn Gocsyn y Cwch Achub am flynyddoedd lawer, a dyna fel y cafodd Jac fynd i’r cwch. Yn yr hen ddyddiau, ni fu erioed – hyd yn oed yn ystod blynyddoedd y ddau Ryfel Byd - brinder criw profiadol, felly ’d oedd dim angen i’r hen bobl gynnig lle i un mor annibynadwy â Jac Ben. A sôn amdano yn anghyfrifol, dywedodd stori wrthyf rhyw dro.

Aeth efo ffrind i bysgota i Gilan a chael llwyth go dda o bysgod. Ond, yn lle troi am adref, troesant i’r Bermo, gan werthu’r pysgod yno a sbri am dridiau! Sut nad anfonwyd y Cwch Achub i chwilio amdanynt, wn i ddim, Ond difetha’r stori fuasai gofyn peth felly.

Wedi iddo gael ei dderbyn yn aelod o griw’r Cwch Achub, daeth yn ddyn Cwch Achub go iawn, a bu’r cap gwyn a bathodyn y Cwch Achub arno yn rhan o’i wisg bob dydd. Cotiau oel melyn oedd gennym y dyddiau hynny, a’r RNLI mewn du ar bob ysgwydd. Ar y lan, pan yn teithio o le i le, byddai Jac yn anelu am y dafarn, a’r gôt oel dros ei fraich, ond wedi gofalu fod yr RNLI yn y golwg. Wrth iddo ymwthio at y bar, byddai rhywun yn siwr o ofyn, “Oh, you’re a lifeboat man?” Ac meddai Jac, “Yes. Out last night. Saved Seven.” “Jolly good,” meddid wrtho, “what will you have to drink?” A hynny’n codi cywilydd go iawn ar y sawl oedd hefo fo!

jac ben

Bu Jac yn curo’r drwm mawr am flynyddoedd hefo Byddin yr Iachawdwriaeth, a Hanna ei chwaer hefo’r bocs hel pres. Byddai’n mynd rownd y tafarnau bob nos Sadwrn hefo’r bocs. “Sgynoch chi geiniog at Iesu Grist, ngwashi? Fysa ni ddim yma
heblaw amdano fo!”

Bob hyn a hyn, byddai Biji yn chwythu’r corned hefo’r Fyddin, hyd nes i rywbeth ddod drosto a’i droi’n hogyn drwg. Roedd merch ifanc ddeniadol o Saesnes yn ffyddlon hefo’r Fyddin, ac roedd Biji wedi gwirioni o’i gweld. Hynny, mae’n debyg, oedd yr atdyniad mwyaf. Rhyw nos Sadwrn, a hithau â’i meddwl ar ddim ond ar yr emynau a’r tambwrîn, gofynnodd Biji iddi os hoffai fod yn gariad iddo. Dychrynodd y ferch am ei bywyd, a’i wrthod. A dyna ddiwedd Byddin yr Iachawdwriaeth i Biji. Gyda’i gorned o dan ei gesail, ymaith ag o i’r Meitar.

Y cwch bach harddaf a fu yn harbwr Pwllheli, mi gredaf, oedd cwch Jac Ben. Cwch clincar o tua 23 troedfedd o hyd wedi cael ei adeiladu gan un, William Edwards, yng Nghricieth. Yr oedd sôn fod a wnelo Lloyd George rywbeth ag o – ei fod wedi ei adeiladu, os cofiaf yn iawn, i rywun fynd â’r gŵr enwog hwnnw allan i môr yn achlysurol. Byddai’n llithro mynd heb gyffroi’r dŵr ac yn ddistaw; i’r dim i ddal mecryll. Prynwyd y cwch gan Wil Gould i ddechrau, a rhoddodd enw ei unig ferch, Catherine, arno. Wedyn prynwyd y cwch gan Jac Ben, a rhoes yntau enw ei unig ferch, Benita, arno. Mae’r cwch erbyn hyn mewn cae yn Rhoshirwaen, ond prin fod llawer yn ddigon craff i sylwi mai cwch ydy o.

Daeth galwad un noson dywyll, wyntog, i fynd i gyfeiriad Enlli i chwilio am ryw gwch oedd mewn trybini. Gan fod môr mawr iawn yn rhedeg o’r De Orllewin, cymerodd y Cwch Achub oriau i gyrraedd y fan, ond wedyn fuo nhw fawr o dro yn cael hyd i’r cwch er nad oedd dim radar na dim ond goleuni’r searchlight. Mab i Sid Thomas, hen Gocsyn Abergwaun, oedd yno efo rhyw hen gwch mawr trwm oedd mewn cyflwr digon gwael. Cafwyd rhaff iddo a dechreuwyd ar yr orchwyl anodd o’i douo bob cam i Bwllheli o flaen y môr mawr. Dywedodd Wil Gould wrthyf wedyn na fyddai fyth dragwyddol wedi llwyddo oni bai fod Jac wedi bod yn gweithio’r rhaff rhwng bob moryn yr holl ffordd. Gwaith hynod o galed a blinedig i gorff ac i feddwl dyn am yr holl oriau! Ac i Wil Gould ddweud hynny!

jac ben

Syndod mawr i mi oedd clywed mewn sgwrs ffôn â Benita nad Jac Ben oedd ei enw bedydd, ond John Jones. Jac fab Ben oedd o. Yng nghefn gwlad a’r pentrefi gwahanieithir rhwng sawl John, a sawl Wil a Dic ac ati drwy roi enw’i gartref yn gynffon i sawl enw bedydd, ond y dref, gan nad oes cymaint â hynny o enwau tai, ond rhifau ar y cartrefi, yr arferiad ym Mhwllheli oedd rhoi enw ei fam i ddilyn ei enw bedydd, megis Huw Mari, Ifan Cêt, Jon Magi, Hiwi Alis, Ned Jiwdi, a llawer iawn mwy. O bryd i’w gilydd, gwelid enw’r tad, am rhyw reswm. Yn achos Jac, efallai mai’r ffaith fod cymaint o Benjamin yn y teulu, a bod Benjamin yn fwy adnabyddus na Margiad. A diolch am hynny; ni fyddai wedi bod yn hanner y cymeriad efo enw fel Joni Margiad!

Bu farw ddiwedd Mai, 1979, yn 77 mlwydd oed. Mae ei fedd ym Mynwent Penrhos.

Ioan W. Gruffydd yn cofio’r prydydd . . .

JOHN DAVIES

Yr oedd John Davies yn fab i William Davies, a oedd yn grydd ym Mhwllheli. Cafodd yntau ei ddwyn i fyny yn yr un grefft â’i dad. Wrth dyfu’n ŵr ifanc, rhoes ei fryd ar faterion crefyddol a phrydyddol, ond, yn ôl Myrddin Fardd, yn Enwogion Sir Gaernarfon ,”fel prydydd yr ymddisgleiriai fwyaf.” Dywedir yno amdano nad ei waith yn rhyw arbennig iawn, er fod “yr oll o’i waith yn goeth a glân oddiwrth bopeth tramgwyddus a’i syniadau yn chwaethus a rhesymol.” Anfonodd rai o’i weithiau i’r Eifion ac i’r Arweinydd, dau newyddiadur a gyhoeddid ac a olygid gan Tegai ym Mhwllheli. Tystir ei fod yn cael ei barchu a’i anwylo gan bawb o’i gydnabod. Bu farw’n ifanc, ar ôl cystudd hir, ym mis Awst,1859. Mae ei fedd ym mynwent Capel Pen-lan.02

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . . 

JOHN FRANCIS (1789 – 1843)   

Disgrifir John Francis fel melinydd a cherddor, ac awdur y dôn ‘Pwllheli.’

Ganed John Francis ar 20 Mawrth, 1789, yr hynaf o saith o blant a aned i William a Margaret Francis, Melin Rhydhir, nid nepell o dref Pwllheli, ar y ffordd sy’n arwain o Efailnewydd i gyfeiriad Rhydyclafdy. Mae’n debyg ei fod yn hoff iawn o gerddoriaeth pan nad oedd ond bachgen ysgol, ac iddo ddysgu elfennau cerddoriaeth a chynghanedd fel y llwyddodd yn ifanc i ddechrau cyfansoddi. Cyhoeddodd nifer o'i donau o dro i dro yn y cylchgronau misol - Seren Gomer a'r Dysgedydd ym 1821, 1822, 1823, ac 1824. Ymysg ei gyfansoddisadau cerddorol y mae Lleyn, Pen-lan, a Datguddiad. Yn Seren Gomer, Tachwedd 1821, ymddangosodd tôn o’i eiddo’n dwyn yr enw ‘Mwyneidd-dra,’ ac un arall o’r enw ‘Gomer,’ yn rhifyn Mawrth 1823 o’r un cyhoeddiad. Cyfansoddodd hefyd y dôn ‘Pwllheli,’ er mai ‘Morwydden’ oedd ei henw cyntaf. Cyfansoddodd hefyd anthem ar Salm 139, a fu ar un adeg yn boblogaidd iawn yn Llŷn ac Eifionydd. Yr oedd yn arferiad gan John Francis i gadw’i lyfrau mewn cist fechan yn y felin lle gweithiai, ond torrodd lleidr i fewn un noson gan ladrata’i holl gyfansoddiadau. Pe na byddai hynny wedi digwydd, hawdd gofyn pa faint yn fwy o donau y gellid eu priodoli iddo. Am lawer blwyddyn, John Francis oedd arweinydd y gân yng Nghapel yr Annibynwyr ym Mhen-lan, Pwllheli. Priododd Ellen,merch Evan ac Elizabeth Evans, Trawscoed, Llannor. Ganed iddynt un ferch, a fu'n byw yn Lerpwl. Ysgrifennodd Myrddin Fardd amdano, "Nid dyn gwyntog y papyrau a'r llyfrau, a'i fryd ar ymwthio am y blaen, oedd John Francis, ond byddai y tonau yn argraffiedig ar ddirgel lech ei gof - dim ond i'r pregethwr adrodd y pennill heb na rhif na mesur na llyfr chwaith - dyna i gyd o amser oedd i drefnu y dôn, a iawn fyddai y canu. Oherwydd rhyw resymau, rhagfarn yn benaf efallai, nid yw eto wedi derbyn y clod dyledus iddo. Yr oedd yn nawnddydd ei oes yn cadw gwesty ym Mhwllheli, lle bu farw, wedi cerdded yn wastad a chymeradwy hyd derfyn ei ddydd. Bu John Francis farw ar 19 Awst, 1843, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pen-lan, Pwllheli. Ar garreg ei fedd, rhoddwyd y geiriau:

Er Coffadwriaeth
am
JOHN FRANCIS
Mostyn Arms, yn y dref hon
(diweddar o'r Rhyd-hir)
Yr hwn a fu farw Awst 19, 1843 yn 54 oed

 

O'r Caniedydd Cynulleidfaol Newydd , 1921

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

JOHN JONES (1837 – 1906)

Gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, llenor ac awdur toreithiog, oedd John Jones a dreuliodd ran dda o’i oes yn byw yn nhref Pwllheli ac y mae’n briodol cofio amdano yma fel un o enwogion y dref.

Ganed ef fis Rhagfyr 1837 yn Abercin, Llanystumdwy, yn fab i George Jones. Fel gŵr ifanc, dechreuodd John Jones ei yrfa’n gweithio fel gwas mewn siopau dillad yng Nghaernarfon ac yn  Llundain. Dechreuodd bregethu yno, fodd bynnag, ac aeth am hyfforddiant i Goleg y Bala ym 1861. Cafodd ei ordeinio ym 1863, ond ar wahân i un cyfnod cymharol fyr, ni fu yng ngofal eglwys. Bu’n weinidog Capel y Graig, Bangor, o 1872 hyd 1878. Yr oedd yn briod â merch y gweinidog Methodistaidd, David Jones, Treborth, brawd John Jones, Talysarn. Treuliodd rai blynyddoedd ar ôl 1878 yn oruchwyliwr banc preifat teuluol Pugh Jones a’i Gwmni ym Methesda. Dychwelodd i fyw i Bwllheli, lle’r oedd wedi bod cyn mynd yn weinidog i Fangor, a bu’n aelod yng Nghapel Penmownt yn y dref. Bu farw ym Mhwllheli ar 19 neu 20 Mehefin 1906. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Glanadda, Bangor.

Ymddengys fod John Jones yn ŵr gweddol dda ei fyd. Teithiodd lawer. Ymddiddorai mewn daeareg a daearyddiaeth, ac ysgrifennodd lawer ar y pynciau hynny i’r Traethodydd:- Glo, 1868; Ffosiliau, 1869; Daeareg a’r Beibl; Y Dilyw; Y Llyfrau Dwyfol, 1871; Cragen y Ddaear, 1872; Palesteina, 1879; Dyn, 1882; Pedwar Cymro yng Nghanaan, 1888; Y Samariaid, 1890; a’r Lleuad, 1892. Cyhoeddodd hefyd gofiannau i rai o weinidogion hynod ei enwad – Michael Roberts, Pwllheli, John Jones, Brynrodyn, R. Owen, 1883,a  G. Hughes, Gellidara. Ar adeg ei farwolaeth, yr oedd wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer  y wasg fywgraffiad i Robert Davies, (1816-1905), y Cymro hael hwnnw o Fôn a gyfrannodd yn helaeth at Gymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd ac at ddileu dyledion llu o eglwysi. Yr oedd John Jones yn Gymrawd o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

Ioan W. Gruffydd yn cofio'r tynnwr lluniau . . .

JOHN ROBERTS

Yn Nhŷ Newydd, Pen-y-Clogwyn, Aber-erch, nid nepell o dref Pwllheli, y ganed ac y maged John Roberts, a hynny yn nyddiau cyntaf mis Gorffennaf, 1810. Mae'r cofnod yn Llyfr Bedyddiadau Eglwys Aber-erch yn adrodd yn Saesneg am ei fedyddio ar Orffennaf 15, 1810, gan nodi mai mab ydoedd i William Roberts a'i wraig, Eleanor, o'r Tŷ Newydd. Ychydig oedd yr addysg a dderbyniodd, tebyg, meddai Myrddin Fardd yn Hanes Enwogion Sir Gaernarfon, "i'r ychydig addysg . . . a roddid i fechgyn tlodion y dyddiau hynny, yn ysgol Troed yr Allt, Pwllheli. Yn go ifanc, fodd bynnag, amlgodd ei ddawn fel tynnwr lluniau. Yr oedd yn ŵr tal o gorff. Ymhyfrydai mewn tynnu lluniau byd natur. Bu'n paentio palasau, cerbydau ac arfbeisiau'r uchelwyr. Bu'n paentio'r awyddion sydd ar dafarndai Llŷn ac Eifionydd. Bu'n tynnu lluniau llongau porthladdoedd Pwllheli a Phorthmadog. Ef a enillodd y wobr yn Eisteddfod Madog ym 1851 am y paentiad gorau o arfbais Owen Gwynedd. Bu John Roberts farw ar Hydref 16, 1884 yn 74mlwydd oed. Mae bedd ei briod ac yntau yn hen Fynwent Llanystumdwy rhwng dwy ywen.

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

JOHN THOMAS (1856 – 1899) Cenhadwr a Gweinidog

Ganed John Thomas ym 1856 ym Modegroes ar gyrion Pwllheli, ond wedi colli ei rieni, magwyd ef yng nghartref ei daid ym Mwlchyffordd, ger pentre’r Ffôr. Am gyfnod bu’n gweithio yng Nghaernarfon cyn mynd i chwareli llechi Llanberis. Dechreuodd bregethu wedi dod yn aelod yng Nghapel y Presbyteriaid yn Horeb, Rhostryfan. O’r ardal Rhostryfan yr oedd ei dad yn hanu. Cafodd ei hyfforddi yn Ysgol Clynnog ac yng Ngholeg Y Bala, cyn cael ei ordeinio mewn cyfarfod o’r Henaduriaeth yn yr Waunfawr, ger Caernafon, ar 24 Medi 1883. Priododd Sarah Ann Bowler ar 21 Tachwedd 1883 yng Nghapel Pengraig y Presbyteriaid yn Llanfaglan. Hwyliodd y ddau o Lerpwl i fod yn genhadon yn India gan gyrraedd Bryniau Khasia ar 16 Chwefror 1885. Penodwyd hwy i gymryd lle’r cenhadwr Griffith Hughes yn Nongrymai. (Brodor o Gefnywaen, ger Caernarfon oedd Griffith Hughes. Dychwelodd i Gymru ym 1886. Bu’n byw ym Mhwllheli). Dim ond cyfnod byr y bu John Thomas a’i briod yn India, fodd bynnag, oherwydd cyflwr ei iechyd. Barnai’r Dr. Griffith Griffiths a meddygon eraill o ardal Shillong ei fod yn gwbl anaddas i barhau i wasanaethu yn Nongrymai, a chynghorwyd ef ganddynt i ddychwelyd i Gymru ar unwaith. Byddai gohrio gwneud hynny, meddid, wedi peryglu ei fywyd. Deg mis o wasanaeth yn unig a roddwyd gan ei wraig ac yntau yn India, er fod yn eiddo i’w briod ac yntau ddoniau arbennig fel y gallai’r eglwys yno dystio. 

Rhwng 1886 ac 1895, gwasanaethodd John Thomas fel gweinidog ar Ynys Môn yn Aberffraw a Beulah. Symudodd oddi yno dros Glawdd Offa a gwasanaethu eglwysi’r Presbyteriaid yn Tyldesley a Leigh yn Henaduriaeth Manceinion. Gwasanaethodd yno hyd ei farwolaeth. Bu farw wedi trawiad ar y galon ar 7 Mehefin 1899, ac yntau ond yn 43 mlwydd oed. Mae ei fedd ym Mynwent Tyldesley lle bu ei angladd ar 10 Mehefin, a thrwy haelioni cyfeillion iddo, codwyd yno feddfaen i’w goffáu. Arni mae ei enw, ‘y Parchg. John Thomas, Rhostryfan.’

Ioan W. Gruffydd yn cofio am ...

LEILA MEGÁNE - Cantores fyd-enwog

leila megane


Ymysg y lluniau sydd i'w gweld yn Siambr Cyngor Tref Pwllheli, y mae un o Leila Megáne. Leila Megáne oedd enw proffesiynol Margaret Jones, a aned ym Methesda, Dyffryn Ogwen, ym 1891. Bu'n byw wedi hynny ym Mhwllheli, yng Nghaernarfon ac yn Llundain.

 

Bu farw ei mam pan nad oedd hi ond naw oed, a chollodd ei thad ddeuddeg mlynedd wedyn. Daeth i ddibynnu llawer ar y nawdd a roddid iddi gan bobl amlwg fel y gwleidydd, David Lloyd George, ei hathro llais, Jean de Reszke, a'i gŵr cyntaf, - y cerddor o Gymro, T. Osborne Roberts, a gyfansoddodd amryw o'i chaneuon mwyaf cofiadwy.

leila


Tarfodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei gyrfa broffesiynol a hithau'n dechrau gwneud enw byd-eang iddi ei hun ar lwyfannau cerdd Paris, Milan, Rhufain, Efrog Newydd a Llundain, a dychwelodd
i Gymru i fyw mewn dinodedd cymharol. Daliodd yr atgofion am ei chanu ac am
ei chyngherddau am flynyddoedd lawer yng Nghymru.

Mab Cae Ifan, Pentraeth, Môn, oedd ei thad, Thomas Jones. Bu ef yn blusmon yn Nefyn, cyn symud yn Arolygydd yr Heddlu i Bwllheli. Mae cofeb ar fur Swydfa'r Heddlu ym Mhwllheli yn nodi i Leila Megáne gael ei magu yno.

Mae'r diweddar Ioan Mai Evans, wrth adolygu llyfr Ilid Anne Jones, 'Leila Megáne Anwylyn Cenedl,' yn dweud fel y bu iddi - wedi colli ei gŵr cyntaf - 'ailbriodi ym 1951 gyda'i chyfaill bore oes, William John Hughes. "Erbyn hyn," meddai Ilid Anne Jones, "roedd Leila Megáne wedi llwyr ddiflannu o lygaid y cyhoedd." Ond mae'n ychwanegu ei bod yn "mwynhau gweithgareddau cymdeithasol Pen Llŷn yng ngaeaf 1950." Roedd y gweithgareddau hynny gan fwyaf yn troi o gwmpas Capel Berea (MC), Efailnewydd. Yn dilyn haf 1959, bu dirywiad yn iechyd Leila Megáne, a phrin y bu iddi roi fawr sylw i Nadolig y flwyddyn honno. Ddydd Sadwrn, Ionawr 2, 1960, bu farw yn ei chartref, Melin Rhyd Hir, Efailnewydd, yn 68 mlwydd oed. Daeth torf fawr i'w hangladd yng Nghapel Berea, Efailnewydd, lle bu hi'n aelod a lle gwnaethai gymaint i gefnogi'r achos. Mae ei bedd ym Mynwent Bethel, Penrhos.

Leila Megáne yn canu


Ioan W Gruffydd yn cofio . . .

MARY ELLEN LLOYD JONES M.B.E.

“Hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo’i wreiddyn.”

Dyna fel y mae’r ‘Cyfaill’ di-enw yn dechrau adrodd hanes Mary Ellen Lloyd Jones (neu Mrs. Hugh Pritchard, fel y cyfeirir ati drwy’r erthygl a hynny heb grybwyll ei dau enw cyntaf gymaint ag unwaith) yn rhifyn Medi, 1923, o gylchgrawn Y Gymraes, a mynnir i’r hen gwpled gael ei wireddu ym mywyd y wraig yr ysgrifennir amdani. Yr oedd ei thras, meddir, i’w ganfod yn amlwg yn ei chymeriad ac yn y sêl a’r brwdfrydedd a oedd mor nodweddiadol ohoni.

Ei Rhieni

Unig ferch oedd Mary Ellen i William Jones a’i briod, Elizabeth, yr oedd eu cartref yng Ngwesty’r Eifl ym Mhwllheli. Tua’r flwyddyn 1893, yr oedd Gwesty Dirwestol yr Eifl yn Stryd Fawr Pwllheli (dros y ffordd i Fwyty Gwalia heddiw) yn gyrchfan boblogaidd ym mywyd y dref ac ardal Llŷn. Daethai William ac Elizabeth Jones i Bwllheli ar gais cyfeillion a gweithwyr dirwestol eiddgar i gadw ‘Temprans,’ neu Westy Dirwestol. Bu’r antur yn llwyddiant, yn gymaint felly fel o fewn dim amser, gwelid rhai cannoedd yn cyrchu yno, ac yn arbennig felly ar ddiwrnod marchnad ym Mhwllheli. Roedd William Jones a’i briod, meddid, yn gymwys iawn ar gyfer gwaith o’r fath. Roedd dawn arbennig gan William Jones i ddod ymlaen â phobl ac i’w hadnabod. Roedd ei briod, Elizabeth, hithau’n rhyfeddol o siriol ac yn fawr ei gofal o bawb a ddeuai i gysylltiad â hi. Byddai’n gwibio’n heini o le i le gan gyfarch hwn ac arall, a chan beri i bawb deimlo’n wir gartrefol yn Ngwesty’r Eifl. Yn fuan wedi symud i Bwllheli, ymroes William Jones yn llwyr i fywyd cyhoeddus, cymdeithasol a chrefyddol y dref. Cafodd ei ddewis yn aelod o Fwrdd Gwarcheidiol y Wyrcws, ac yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli. Rhoddai o’i gefnogaeth a’i egni i hybu gwaith moesol a chrefyddol – ym maes dirwest a moes fel athro, fel holwyddorwr, fel arolygwr yr Ysgol Sul, fel arweinydd Gobeithlu, ac yn arbennig iawn fel aelod a blaenor yng Nghapel Salem ym Mhwllheli.

Ei Dau Blentyn

Cawsant ddau o blant – Mary Ellen a Rolant John. Daeth rhinweddau’r rhieni’n amlwg ynddynt hwythau. Mary Ellen oedd yr hynaf. Yn ifanc cafodd ei dysgu i ddefnyddio’i doniau gwahanol yng ngwasanaeth pobl eraill. Bu’n weithgar gyda’r Gobeithlu yng Nghapel Salem, fel yn y gangen-eglwys yn Nharsis. Gwasanaethodd am flynyddoedd hyd at ei phriodas fel organyddes yn Salem. Rhoes ei brawd, Rolant John Jones, yntau wasaneth nodedig i Salem. Yn Adroddiad yr Eglwys am 1965, dywed y gweinidog, y Parchg. Meirion Lloyd Davies: “Ym mis Mai bu farw Gamaliel ein heglwys, yr Henadur Rolant John Jones, Yr Eifl. Gwasanaethodd Salem ym mhob ffordd posibl, bu’n Flaenor am 35 o flynyddoedd, a threuliodd ei oes mewn byd ac eglwys, i wasanaethu ei Waredwr.”

 
Mary Ellen Lloyd Jones M.B.E.


Priodi Hugh Pritchard

Ym 1906, priododd Mary Ellen â Hugh Pritchard. Roedd eu cartref ym Mhwllheli yn Mount Pleasant – yr adeilad nesaf at Penlan Fawr. Ganwyd eu merch, Menna, ymhen blwyddyn, a bedydiwyd hi yn Salem fis Gorffennaf 1907. Cyfreithiwr ym Mhwllheli oedd Hugh Pritchard, a gŵr ifanc galluog y disgwylid pethau mawr oddi wrtho. Yn fuan, enillodd iddo’i hun le pwysig ym mywyd cyhoeddus y dref a’r cylch. Yr oedd yn flaenor yn Salem. Cafodd ei benodi’n Glerc Gwarcheidwaid y Wyrcws a’r Cyngor Dosbarth. Daeth yn aelod o’r Cyngor Tref a’r Cyngor Sir. Ef oedd Maer Pwllheli ym 1918 -1919. Yng nghanol ei ddefnyddioldeb a’i wasanaeth, ar Fawrth 11, 1920, bu farw Hugh Pritchard, yn 41 mlwydd oed, gan adael ei briod a’i ferch i alaru ar ei ôl

 
Mount Pleasant, Stryd Penlan


Mae’r Parchg. John Hughes, gweinidog Salem, Pwllheli, ar y pryd, yn ysgrifennu yn Adroddiad yr Eglwys am 1920: “Collasom rai annwyl yn yr angau, ac yn eu plith ddau swyddog ffyddlon a gwerthfawr o’r eglwys. Yr oedd y cyntaf ym mlodau ei ddyddiau. Yr oedd y gwasanaeth mawr yr oedd eisoes wedi ei gyflawni yn peri inni ddisgwyl llawer oddi wrtho yn y dyfodol. Cysegrodd ei alluoedd i’r deyrnas; ond pallodd ei nerth ar y ffordd; byrhawyd ei ddyddiau.”

Trefnydd Gogledd Cymru i Gynghrair y Cenhedloedd

Ar waetha’r brofedigaeth fawr a blin o golli ei phriod ifanc, parhaodd Mary Ellen Pritchard â’i gwasanaeth a chynyddodd hyd a lled y gwaith hwnnw. Ynglŷn â’r rhyfel, gwnaeth waith arbennig mewn cysylltiad â symudiadau dyngarol ac elusennol, fel ysgrifennydd a thrysorydd cymdeithasau gwahanol. Cynorthwyodd lawer i ysgafnhau gwaith ei phriod yn ystod ei dymor fel Maer Pwllheli. Bu’n aelod o Bwyllgor y Pensiynau: pwyllgor a ddaeth wedyn yn Gyd-bwyllgor Gorllewin Cymru. Dyfarnwyd iddi anrhydedd yr M.B.E. fel cydnabyddiaeth o’i gwaith. Yr oedd Dirwest a Chrefydd yn bwysig yn ei golwg, a bu’n egniol iawn gydag Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, ac ar Bwyllgor Gweithiol Cymanfa Ddirwestol Gwynedd. Bu’n Ysgrifennydd Undeb Neuaddau Pentrefol Deheubarth Sir Gaernarfon – undeb a brofodd yn llwyddiant ar gyfrif ei sêl a’i hymroad hi. Yna cafodd ei phenodi’n Drefnydd Adran y Merched o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd dros Ogledd Cymru a Sir Aberteifi. Gweithiodd gyda’r plant yn yn Salem, Pwllheli. Etholwyd hi’n arolygwr Ysgol Sul y Plant. Yr oedd yn siaradwraig gyhoeddus dda a llawn argyhoeddiad.

Menna Pritchard

Ymadawodd ei merch, Menna Pritchard, â Salem ym 1923, a gadael Pwllheli, mae’n ymddangos, gan ymgartrefu yng Nghaernarfon. Priododd Menna ddwywaith. Y tro cyntaf gydag un Lloyd Williams, a chael dau o blant: Hugh Lloyd Williams a Bethan Lloyd Williams. Bu Bethan farw’n ifanc o dan amodau enbyd, naill a’i drwy damwain neu hunanladdiad. Ailbriododd Menna Lloyd Williams gyda gŵr o’r Alban, Campell Baird. Hi roes yr enw Elm Croft ar eu y tŷ yn Lôn Campbell, Caernatfon; ‘llwyfen’ yn tyfu o flaen y tŷ a ‘Croft’ am fod ei hail ŵr yn Sgotyn! Ar ôl marw’i hail ŵr, aeth hi a ffrind iddi, Miss. Lil Owen, Mur Mathew, Caeathro, i fyw i Wrecsam.

Priodi’r Parchg. John Lloyd Jones, B.A.

Ymadawodd ei mam, Mary Ellen Pritchard, â Salem. Pwllheli, ym 1924, a mynd i fyw i Gricieth - yn dilyn ei phriodas â’r Parchg. John Lloyd Jones, B.A., gweinidog y Presbyteriaid yno. ’Roeddent, mae’n debyg, yn gyfeillion agos i David Lloyd George a’i deulu. Cawsai John Lloyd Jones ei eni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1876, a’i ordeinio ym Moreia, Caernarfon, yn Sasiwn Fawr y Diwygiad ym 1905. Bu’n weinidog ym Mwlchgwyn am un mlynedd ar ddeg, ym Mroncysyllte, ac wedyn yn y Capel Mawr, Cricieth, am dros ugain mlynedd. Disgrifiwyd ef ym Mwyddiadur ei enwad gan y Parchg. Stephen O. Tudor fel “gŵr llariaidd a bonheddig, a theimlid fod mwynder ei lais yn fynegiant cywir iawn o’i natur a’i gymeriad.” Nid oes sôn am ei briod na’i briodas yn y bywgraffiad. Yn dilyn ei ymddeoliad o Gricieth, aeth i fyw i Gaernarfon gan fyw yno yn Tan y Garreg, Lôn Ddewi, ac ymaelodi ym Moreia. Adroddodd un a’i cofiai fod gan Mrs. Mary Ellen Lloyd Jones “gryn bresenoldeb,” ac mai hi oedd yn actio rhan y Frenhines Fictoria yn y pasiant, Merched trwy’r oesoedd, a gynhyrchwyd gan Eglwys Moreia tua 1958 - 59.

 
Mary Lloyd Jones fel y Frenhines Fictoria ym mhasiant Merched drwy'r Oesoedd ym Moreia, Caernarfon
Gyda diolch i Maureen Rhys am yr hawl i ddefnyddio'r llun o'i Huangofiant Prifio, ac i Wasg Gomer am eu cydweithrediad caredig

Cyhoeddodd ei phriod, y Parchg. John Lloyd Jones, rai llyfrau – Cawell o Saethau ar gyfer gwaith y Gobeithlu, Phiol Cysur ar gyfer cleifion, a chyda Pedrog, ysgrifennodd Cofiant Plenydd. Bu farw’r Parchg. John Lloyd Jones ym mis Gorffennaf 1953.

Ioan W Gruffydd yn cofio’r chwarelwr . . .

MICHAEL OWENS

a gwaith yr Efengyl yn Nyffryn Nantlle

Dechrau’r flwyddyn 1790 oedd hi. Arferai Michael Owens, oedd a’i gartref ym Mhwllheli, gerdded yr holl ffordd i’w waith yn Chwarel Gloddfa’r Coed yn Nhalysarn, gan aros yn y barics am yr wythnos cyn dychwelyd yr un modd am adref ar y nos Wener. Dichon nad oedd dim yn anarferol yn hynny yn y cyfnod
hwnnw. Roedd gweithwyr eraill yn cerdded dros belter ffordd i’w gwaith yn chwareli Dyffryn Nantlle. Hawdd credu, fodd bynnag, fod Michael Owens, y dyn o Bwllheli, yn wahanol i’w gyd-chwarelwyr, Yr oedd ef yn aelod cydwybodol o eglwys yr Annibynwyr a gyfarfyddai bryd hynny yng nghapel Pen-lan, Pwllheli, lle’r oedd y Parchg. Benjamin Jones yn weinidog.

 
MICHAEL OWENS
 


Yr arferiad yn Chwarel Gloddfa’r Coed yn Nhalysarn oedd fod y chwarelwyr yn mynd i gael eu cinio bob dydd i adeilad a elwid ganddynt, Yr Hen Chwimsi. Ac yno y byddai Michael Owens a’i gyd-chwarelwyr – rhyw ddwsin ohonynt – yn mynd. Yn union wedi bwyta, byddai’n arferiad gan y dyn o Bwllheli i ddarllen pennod o’i Feibl, a phlygu ar ei liniau i weddïo. Ar y dechrau, cai ei wawdio a’i ddirmygu am wneud hynny gan ei gyd-weithwyr. Ond dal ati ar waethaf popeth a wnai ef. O dipyn i beth, gwelodd rhai yn dda i ymuno ag ef. Ni allent feddwl am ail-gydio yng ngwaith y prynhawn yn y chwarel heb ymuno yn yr addoliad – er mai Michael Owens ei hun yn unig a gymerai ran. Cyn bo hir, gwelwyd rhai o weithwyr chwareli eraill y cylch yn ymuno yn yr addoliad – rhai i addoli, rhai i wawdio, a rhai, ys dywedodd rhywun, who came to mock, remained to pray.

Ymhen ysbaid, daeth rhai o weithwyr Chwarel y Cilgwyn i’r addoliad. Daeth rhai gwragedd a phlant y gymdogaeth i wrando ar ‘yr Hen Ddisenter,’ fel y gelwid y dyn o Bwllheli, yn darllen ei Feibl ac yn gweddïo.

Wedi cynnal yr addoliad amser cinio hwn am gyfnod yn y chwarel – cyfnod o rai misoedd – trefnwyd mai da fyddai gwahodd rhywrai yno i bregethu. Mae’n amlwg i Michael Owens gael gair á’i weinidog, Benjamin Jones, a daeth ef o Bwllheli, a George Lewis o Gaernarfon i bregethu yn yr Hen Chwimsi. Ac mae són am y cenhadwr teithiol, William Hughes, Saron, yn pregethu droeon yn Chwarel Gloddfa’r Coed yn ystod 1880. Rhyw bnawn, a William Hughes wedi dod i bregethu, dechreuodd fwrw glaw yn drwm. Pan glywodd y pregethwr fod hen ffatri wlan a oedd yn ymyl yn wag, aeth at ei pherchennog gan geisio caniatád i gael pregethu ynddi. Cafodd ganiatád, a bu pregethu cyson ynddi.

Cyn bo hir iawn, sefydlwyd eglwys yno yn yr hen ffatri wlan, a dyna ddechreuadau achos cyntaf yr Annibynwyr yn Nyffryn Nantlle.

Bu’r tri gweinidog a nodwyd yn pregethu yn eu tro yng Nghapel yr Hen Ffatri, a hynny am gyfnod o rhyw ddeg mlynedd. Yna, teimlwyd yr angen am wahodd gweinidog. Digwyddodd hynny ym 1814, pan ddaeth David Griffith, brodor o Lŷn, ac un a fu’n aelod yng Nghapel Newydd, Nanhoron, yn weinidog. Gwan iawn oedd yr eglwys a alwodd David Griffith ati i Dalysarn – dim ond deuddeg o aelodau, chwe dyn a chwe gwraig.

Nid gwaith rhwydd i’r deuddeg hyn oedd cadw drws yr Hen Gapel, fel y gelwid ef, yn agored. A bu’n rhaid aros am amser hir cyn gweld unrhyw gynnydd. Mae hanes am wraig y gweinidog droeon yn rhedeg yn ddistaw I’w chartref rhag I neb ei gweld yn wylo ar gyfrif ei phryder am yr achos. Ond, cyn bo hir, newidiodd pethau.

Diddorol y sylw fod rhywrai’n dod i’r gwasanaeth gan gario meinciau gyda nhw – a mynd á nhw adref ar y diwedd! Un nos Sul, fodd bynnag, gwnaed penderfyniad o ddiolchgarwch i rai a oedd wedi gosod sedd newydd yn y capel – a’i gadael ar eu hól – i wrandawyr eraill gael eistedd arni.

Helaethwyd yr Hen Gapel a’i agor fis Hydref 1822. Er hynny, yr oedd yn dal yn rhy fychan i’r gynulleidfa. Ond bu’n rhaid aros hyd Awst 1862 cyn gweld codi Seion yn gapel newydd i’r Annibynwyr yn Nhalysarn. Dechreuwyd ymroi i genhadu – i ledaenu’r rhwyd mewn cymdogaethau eangach: ym Mhisgah, Carmel, lle’r agorwyd capel yn Hydref 1821 (capel a ddaeth wedyn yn eiddo i’r Bedyddwyr) ac agorwyd y Pisgah a’i dilynodd ym 1878; yn Nasareth ym 1823; yn Soar, Penygroes ym 1834; yn Nrws-y-coed ym 1836; yn Hermon, Moeltryfan ym 1837; yn y Cilgwyn ym 1842; yng Ngosen, Y Groeslon ym 1849; yn Y Tabernacl, Rhostryfan ym 1866; ym Moreia, Llanllyfni ym 1868; yng Ngorffwysfa, Rhosgadfan ym 1903, ac ym Mwlchyllyn ym 1906.

Rhyfedd meddwl pa mor bell yr ymledodd dylanwad y dyn o Bwllheli nad oedd dim a’i rhwystreai rhag darllen ei Feibl a phlygu mewn gweddi yn Chwarel Gloddfa’r Coed yn nechrau’r flwyddyn 1790.

Dafydd Iwan yn cofio am ...

OWAIN OWAIN - Gwyddonydd, Addysgwr, Arloeswr

owain owain

Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl fod Owain Owain yn un o Gymry mwyaf allweddol ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac yn un y dylai tref Pwllheli fod yn falch iawn ohono.

Fe’i ganed i Richard Alfred Owen a Mary Jones ar Ragfyr 11eg, 1929, yn Ffordd Caernarfon, Pwllheli.


Disgybl ysgol oeddwn i yn y 50au yn Ysgol Tŷ Tan Domen, y Bala, ysgol i fechgyn yn unig ar y pryd, a hen ysgol enwogion fel Syr O.M.Edwards, R.T.Jenkins, Tecwyn Lloyd a’r arlunydd E.Meirion Roberts. Daeth Owen Owen (fel yr oedd yr adeg honno) yno fel athro Cemeg, wedi gyrfa ddisglair yn y diwydiant niwcliar, ond erbyn hynny roedd wedi dechrau cael amheuon am y diwydiant hwnnw, ac ysgrifennodd yn huawdl yn ei erbyn yn ddiweddarach.

Ond wedi gadael y Bala y datblygodd Owain Owain i’w lawn dŵf fel un o arloeswyr yr ymgyrch dros y Gymraeg. Gyda’i feddwl gwyddonol disglair, gwelodd fod angen mudiad disgybledig ac ymroddedig i sicrhau dyfodol yr iaith. Ni fu erioed yn amlwg ar lwyfannau Cymdeithas yr Iaith, ond yn sicr yr oedd yn un o’i phrif ysgogwyr, a sefydlodd y Gangen leol gyntaf ym Mangor, a dangos y ffordd i ymgyrchu’r dyfodol. Ef oedd sefydlydd “Tafod y Ddraig”, a ddatblygodd yn gylchgrawn i’r Gymdeithas o gyfres o bamffledi a ysgrifennwyd ganddo. Yn wir, Owain Owain oedd yn gyfrifol am yr enw, ac am fathodyn y Gymdeithas, ac am lunio’r ymadrodd “Y Fro Gymraeg”. Ef oedd y cyntaf i gyhoeddi map yn dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg, ac meddai: “enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillwn Gymru; oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir”.

Gosodai frwydr yr iaith mewn cyd-destun rhyngwladol, ond gwyddai bwysigrwydd ymgyrchu lleol effeithiol. Yn ei waith beunyddiol, roedd yn greadur aflonydd; bu’n Bennaeth amser-llawn cyntaf i Wersyll Glan-llyn, bu’n ddarlithydd ym Mangor ac yn Aberystwyth, a phan sefydlwyd sir Gwynedd yn y 70au, daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg mawr ei ddylanwad. Drwy gydol y 70au, roedd yn awdur cynhyrchiol iawn – yn straeon byrion a nofelau, yn erthyglau a llyfrau gwyddonol a barddoniaeth, a nifer o lyfrau i blant. Ym 1977, enillodd ei gyfrol Mical (‘Cofiant dychmygus i’r Parch. M. Roberts, Pwllheli’) wobr Cyngor Celfyddydau Cymru, ac meddai’r Dr. Pennar Davies am ei gyfrol Y Dydd Olaf: “Ni welwyd dim byd tebyg i’r llyfr hwn yn ein hiaith o’r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg”.

Ac nid yn unig yng nghyd-destun Cymru a’r iaith yr oedd yn weledydd; mor gynnar ag 1969 rhagwelodd bosibiliadau a dylanwad enfawr y Wê fyd-eang, gan broffwydo y byddai rhaid newid rôl yr athro i fod yn “dywysydd”, gyda’r disgybl fel canolbwynt, a’r cyfrifiadur fel côf.

Bu farw ar Ragfyr 19eg, 1993 yng Nghaernarfon, yn 64 oed, wedi brwydr ddewr yn erbyn canser, gan adael gweddw, dwy ferch a dau fab.

Ioan W. Gruffydd yn cofio cyfraniad y cyfreithiwr  nodedig . . .

Owen Robyns Owen

Byddai’n amhriodol iawn wrth sôn ar y Wefan hon am rai o Enwogion Tref Pwllheli pe na byddem yn sôn am y cyfreithiwr nodedig o’r dref, Mr. Owen Robyns Owen. Cafodd ei ddisgrifio yn rhifyn mis Tachwedd 1908 o Drysorfa’r Plant fel “un o leygwyr mwyaf adnabyddus a defnyddiol Lleyn ac Eifionydd.” Cafodd ei eni ym 1854 yn ffermdy Bryntani, rhwng Pwllheli a Llannor, yn fab i John ac Ann Owen, dau a oedd yn perthyn i amaethwyr mwyaf cyfrifol ac ymroddgar y fro, a dau oedd yn dad a mam nodedig o grefyddol.

 

 
Owen Robyns Owen

 

Yn fachgen, dechreuodd Owen Robyns Owen ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Llannor, ond ni bu yno’n hir. Yr oedd yr ysgolfeistr yno am iddo adrodd ei bader yn Saesneg, ond dywedodd yntau na allai – ond y gallai’n rhwydd ddigon yn y Gymraeg. Edrych yn sarrug arno wnaeth ei athro a rhoi hergwd gas iddo i gyfeiriad drws yr ystafell ddosbarth. Cymerodd yntau ei gap o’i boced a mynd allan drwy’r drws, ac ni ddychwelodd i’r ysgol honno fyth wedyn. Amlygodd yn ifanc ei ysbryd penderfynol a’i barodrwydd i sefyll yn erbyn pob ffurf ar anghyfiawnder.

Aeth i Ysgol Frytanaidd Pwllheli - hen Ysgol Penlleiniau - a chael yn  athro yno, Mr. J.T. Evans, gan aros yno hyd ddiwedd ei yrfa addysgol. Dechreuodd ar waith ei fywyd fel cyfreithiwr yn Swyddfa’r Mri. Picton Jones a Roberts, Pwllheli, lle bu hyd 1883. Ym 1886, sefydlodd ei swyddfa gyfreithiol ei hun yn y dref, lle mae ei olynwyr yn parhau i weithio o hyd.

Yr oedd 1883 yn flwyddyn bwysig yn hanes Owen Robyns Owen. Y flwyddyn honno, llwyddodd yn ei arholiad derfynol fel cyfreithiwr. Y flwyddyn honno, gwnaed ef yn flaenor yn Salem, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref. A’r flwyddyn honno hefyd priododd â Miss. Laura Elizabeth Jones, (1852 – 1926) Swyddfa’r Post, Pwllheli (a leolid, bryd hynny, dros y ffordd i gapel Salem ar waelod Allt Salem). Disgrifir hi yn Nhrysorfa’r Plant fel “un o’r gwragedd mwyaf rhagorol yn y dref.” Yn ôl un adroddiad amdani:  ”Ni bu Mrs. Robyns Owen un amser yn gryf o gorff, ond cyflawnodd ei rhan fel priod a mam gyda ffyddlondeb di-ball, hyd nes cymeryd o’r Arglwydd hi ato ei hun” ym 1926.

Ganed iddynt saith o blant. Daeth un ohonynt, Enid, yn briod i’r Parchg. John Hughes, gweinidog cyntaf Salem, Pwllheli, a buont yn byw ym Mangor wedi hynny. Yr oedd un arall, Endaf, yn ymddiddori ym myd adar ac yn gryn athrylith yn y maes hwnnw. Bu un o’r bechgyn, Oswald, farw pan nad oedd ond deg mlwydd oed. Ymddangosodd y penillion hyn amdano yn Nhrysorfa’r Plant rhifyn  mis Chwefror 1908:

ER COF AM OSWALD OWEN

Annwyl Blentyn Mr. a Mrs. Robyns Owen, Henblas, Pwllheli,
a fu farw Mai 1907, yn 10 mlwydd oed.

Un o saith o blant oedd Oswald,
A’r ieuengaf un oedd ef;
A’r parotaf un o’r teulu
Oedd i fynd i Deyrnas Nef.

Anhawdd ydoedd i rieni
Ollwng un mor bert i ffwrdd;
Ond na wyler fel heb obaith –
Yn y Nef cewch eto gwrdd.

Hir y cofir am ei eiriau,
A’r wynepryd mwynaidd tlws;
Pan yn edrych am y cleifion –
Trwy y dref o ddrws i ddrws.

Er yn ieuanc, ei hyfrydwch
Ydoedd mydru pennill mwyn,
Gallai adrodd hwnnw hefyd
Gyda rhyw ddeniadol swyn.

Diwyd gyda’i Flwch Cenhadol,
Sawl roes iddo gafodd fraint;
Mae yr un fu dros y pagan
Heddiw ‘nghynulleidfa’r saint.

Er mai ber-oes gafodd Oswald,
Gweithiodd ef ei ddydd yn llawn;
Bydd ei enw’n perarogli
Yn ein mysg yn hyfryd iawn.

Un o saith o blant oedd Oswald,
Ond nid un o saith fydd ef;
Disgwyl mae i’r oll o’r teulu
Ddyfod ato i Deyrnas Nef.

Cenin

Bu Owen Robyns Owen yn weithgar iawn yn ei gymuned a hynny mewn amryfal gylchoedd. Yn ogystal â’i waith cyfreithiol, bu’n aelod ac yn gadeirydd y gwahanol fyrddau ysgolion yn y dref a’r cylch. Bu ganddo gysylltiad agos ag addysg uwchradd a bu’n Ysgrifennydd Ysgolion Sir Botwnnog a Phwllheli. Gwasanaethodd am rai blynyddoedd fel Crwner rhan ddeheuol Sir Gaernarfon. Yr oedd yn aelod ffyddlon ac ymroddgar o Gyngor Tref Pwllheli, a gwasanaethodd ragor nag unwaith fel Maer y Dref.

Adroddir mai Owen Robyns Owen, gyda chyfaill arall, a oedd yn aelod yn eglwys Penmownt, Pwllheli, a fu’n gyfrwng i sefydlu’r achos Saesneg Ffordd yr Ala, yn y dref. Yn ôl Trysorfa’r Plant eto, “nid oes neb ond ei Arglwydd a ŵyr faint o drafferth a’r draul fu arno” ynglŷn â’r ymgymeriad hwnnw.  

Cafodd ei ddewis yn flaenor yn Salem, Pwllheli, pan oedd yn 28 oed. Dywedodd y Parchg John Owen, M.A., Caernarfon, amdano wrth ysgrifennu yn Y Drysorfa fis Mehefin 1926: “Yr oedd wedi dechrau ymroi i waith yr eglwys ymhell cyn ei ddewis yn flaenor, gan ei fod yn amlwg ynglŷn â’r Gobeithlu, yr Ysgol Sul, y Gymdeithas Lenyddol a’r Dosbarth Darllen . . . Tyfodd y pethau a ddysgwyd iddo yng nghylchoedd bore oes i fod yn egwyddorion sefydlog ac yn argyhoeddiadau cryfion ym mywyd Mr. Robyns Owen, ac y mae wedi bod bob amser yn gefnogydd eiddgar i Ddirwest a phob rhinwedd.”

Dywed  Parchg John Owen ymhellach amdano na fu “lawer o amser erioed o’r dref, a chafodd hamdden braf i dyfu yn un o’i harweinwyr diogelaf ym materion byd ac eglwys. Gŵyr beth yw  Sasiwn o’i febyd. Tyfodd yn sŵn siarad amdani ac yn sain ei chân a’i moliant. Gwrandawodd ynddi ar efengylwyr glewaf y Cyfundeb yn pregethu gair y cymod. O ran ei alwedigaeth cyfrithiwr ydyw, ac ef yw Zenas yr alwedigaeth barchus honno. Ni chredir yn gyffredin ddarfod galw llawer o gyfreithwyr i deyrnas nefoedd. Clywais frawd o Bwllheli yn sicrhau unwaith gyda difrifwch mawr fod ‘Robyns Owen yn dduwiol er ei fod yn dwrnai.’ Yr wyf fi yn bur dawel fy meddwl fod y cyfaill annwyl mor deyrngar i’w Feistr wrth ei ddesg yn ei swyddfa ag ydyw yng nghadair y Gymdeithasfa.”


Owen Robyns Owen Pwllheli
Llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd

 

Achlysur ysgrifennu’r geiriau hynny yn Y Drysorfa ym 1926oedd penodiad Mr. Robyns Owen am yr eildro yn Llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd o gyfundeb y Methodistaidd Calfinaidd – y tro cyntaf am mai ei dro ef ydoedd, a’r ail dro “am y teimlai pawb  haeddo ohono yr arwydd eithriadol hwn o barch yr Henaduriaeth.” Nid oedd i’r Gymdeithasfa was ffyddlonach; gwasanaethodd yn hir. Gwobr fechan iawn am ddegau o flynyddoedd distaw, cyson ac effeithiol yw bod yn dywysog y llu am un flwyddyn.”

Tystia’r ethygl yn Y Drysorfa i Mr. Robyns Owen fod yn Drysorydd y Cyfarfod Misol am dros chwarter canrif, a dim ond wedi iddo “daer ddeisyf hynny, oherwydd ei amledd oruchwlion eraill, y rhyddhawyd ef o’r gwaith hwnnw.” Bu ei gartref, Hen-Blas, yn “llety fforddolion” i bregethwyr a chyfeillion, a’i briod a’i blant yn gwmni caredig a siriol.

Ym 1916, symudodd Owen Robyns Owen a’i deulu i fyw o Bwllheli i Erw Wen, Penrhos, gan ymaelodi yno ym Methel. Yn Adroddiad Salem am 1916, mae’r geiriau hyn:

“Ymhlith y 50 o’r aelodau [a] symudodd oddi wrthym drwy docynnau, ceir enwau Mr. a Mrs. Robyns Owen – dau [a] oedd ynglŷn â’r achos yn Salem er ei gychwyniad. Yn weddus iawn, cyflwynodd yr eglwys Anerchiad iddynt ar eu hymadawiad yn datgan ein gwerthfawrogiad o’u llafur ynghyd â’n parch a’n cariad tuag atynt. Pasiodd y Cyfarfod Brodyr hefyd y penderfyniad a ganlyn:-
“Ein bod yn gosod ar y Cofnodion ddatganiad o’r golled a’r chwithdod ydym yn ei deimlo yn ymadawiad Mr. a Mrs. Robyns Owen a’r teulu o’n plith fel eglwys, a’n gwerthfawrogiad o’u ffyddlondeb am flynyddoedd lawer – Mrs. Robyns Owen er pan mae yr eglwys yn bod yn Salem; ac hefyd am lafur a gweithgarwch ffyddlon Mr. Robyns Owen fel swyddog am 32 mlynedd ac yn neilltuol am ei waith fel ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd lawer. Dymunwn iddynt hir oes a nawnddydd tawel i wasanaethu yr achos eto ym Mhenrhos.”

Bu Owen Robyns Owen farw ym 1833, Mae ei fedd ym Mynwent Dyneio, Pwllheli.

 

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Philip Constable Ellis

Prin fu’r ymdriniaeth yn Gymraeg ar Fudiad Rhydychen, yn arbennig felly, yn ei  effeithiau a’i ddylanwad ar Gymru. Dewisodd yr Athro John Tudno Williams yn ei Ddarlith Davies ym 1983 ymdrin â’r union destun hwnnw. Yr oedd y bobl hynny y cafodd Mudiad Rhydychen ddylanwad arnyn’ nhw yn gosod llawer o bwyslais ar fyw yn sanctaidd, ar addoli sagrafennol, ar wasanaethau oedd yn llawn urddas, ar ymprydio cyn gweinyddu’r cymun, ac ar geisio sicrhau fod graen ar eu heglwysi. Nôd arddelwyr Mudiad Rhydychen, fel y dywedodd rhywun, oedd ‘cryfhau’r Eglwys yn ei henaid.’ Fel y digwyddodd, fodd bynnag, daeth y mudiad - a ddechreuodd fel un ysbrydol a defosiynol yn ei hanfod - yn un oedd yn tueddu fwyfwy i ymboeni’n unig am allanolion addoli, defnyddio gwisgoedd a seremoniau a defodau cymleth.

Dangosodd yr eglwysi anghydffurfiol eu hangymeradwyaeth, a’u  casineb, yn wir, at y Mudiad am iddynt gredu mai ymgais oedd hon fwyfwy i ddynwared Eglwys Rhufain. Yn waeth na hynny hyd yn oed, ystyrient hwy’n arferion Pabyddol oedd yn ymguddio dan gochl y sefydliad. a’i fod i'w ofni’n  fwy nag Eglwys Rhufain ei hun. Bu’r Hen Ymneilltuwyr, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr,  yn eu  cyfnodolion — Seren Cymru, Y Diwygiwr a'r Dysgedydd — yn chwerw eu hymosodiad ar Fudiad Rhydychen.

Cafodd yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru ei dylanwadu’n fawr gan Fudiad Rhydychen drwy ei holl esgobaethau, ac nid yn lleiaf felly yn esgobaeth Bangor, lle’r oedd Christopher Bethell  - y clerigwr o Sais a fu’n Esgob Bangor hyd ei farw ar 19 Ebrill 1859 - yn un o’r ychydig esgobion yng Nghymru oedd yn tueddu i ffafrio’r mudiad. Daethai amryw o’r rhai a addysgwyd yn Rhydychen yn y 1830au a 40au yn ôl i Gymru a dylanwad y mudiad yn drwm iawn arnyn’ nhw. Ymhlith y bobl hynny, gellir enwi gwŷr fel Lewis Gilbertson, Lewis Evans, Morris Williams (Nicander), Evan Lewis, Griffith Arthur Jones a Philip Constable Ellis.

 

Philip Constable Ellis

Yn nhref Pwllheli y ganed Philip Constable Ellis, a hynny tua 1822, yn Newborough Place, Penlan, yn ail fab y cyfreithiwr, John Ellis, a’i briod, Ann. Roedd yn perthyn i deulu parchus a chyfrifol ym Mhwllheli ac yng ngwlad Llŷn

Roedd Ann Ellis, ei fam, yn wraig dra chrefyddol a oedd yn barod iawn ei hymroad a’i gwasanaeth i bob achos da. A gadawodd hynny ei ôl ar ei mab. Derbyniodd ei addysg yn hen Ysgol Ramadeg Biwmares, lle’r oedd y Parchg. H. Davies Owen, D.D. yn brifathro ar y pryd, a’r Parchg.Hugh Jones, M.A., yn rheithor y plwyf. Mae pob lle i gredu fod dylanwad Mudiad Rhydychen wedi cyrraedd Ynys Môn yn y cyfnod hwnnw. Tua’r adeg honno y cydiodd yr arfer o gynnal gwasanaethau dyddiol hwnt ac yma, ac adroddir mai Biwmares oedd y lle cyntaf yng Nghymru i hynny ddigwydd. Dywedir hefyd mai Biwmares oedd y man cyntaf yng Nghymru i ddechrau’r arfer o ddefnyddio gwenwisg yn lle’r gŵn ddu wrth bregethu, ac mai’r Parchg. J. Jones Brown, M.A., rheithor Mallwyd wedi hynny, oedd y cyntaf i wneud hynny. Dengys hynny pa mor eglwysig ei naws oedd tref Biwmares yr adeg honno.

Ym 1840, cafodd Philip Constable Ellis, y gŵr ifanc o Bwllheli, ei dderbyn yn aelod o Goleg Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn B.A. ym 1843, ac yn M.A. ym 1845. Yr oedd yn y ddinas pan oedd Mudiad Rhydychen yn ei lawn dwf, ac nid oes le i amau na ddylanwadwyd arno yn ei goleg ei hun – Coleg Iesu - fel yn y Brifysgol. Nid oedd ond 21 mlwydd oed pan fu iddo adael Rhydychen – yn rhy ifanc o ddwy flynedd i gael ei ordeinio. Treuliodd gyfnod, bryd hynny, yn Llanllechid yng nghwmni Morris Williams (Nicander), a rhoes hynny gyfle iddo loywi ei Gymraeg. Ymddiddorai hefyd yn hen eglwysi Penrhyn Llŷn, ac un ohonynt yn arbennig.

 

Eglwys Llanengan yn Llŷn

Roedd hen eglwys Llanengan mewn cyflwr gwael ac angen ei hatgyweirio a’i glanhau. Yng nghwmni cyfeillion eraill, cychwynnodd Philip Constable Ellis fudiad oedd â’i fwriad i atgyweirio a glanhau hen eglwys Llanengan.

Christopher Bethell, Esgob Bangor (1779 – 1859)

 Anfonodd lythyrau at Dr. Christopher Bethell, Esgob Bangor, ymysg eraill, gan geisio’u cefnogaeth a’u nawdd. Derbyniodd ymateb yn cymeradwyo’i ymdrechion, a derbyniodd rodd o £30 at y gwaith.

Eglwys Cybi Sant, Caergybi

Pan ddaeth yn amser i’w ordeinio, penodwyd Philip Constable Ellis yn giwrad yng Nghaergybi, ac i gydweithio â’r Dr. Charles Williams, a ddaeth wedyn yn Brifathro Coleg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd Philip Constable Ellis yn ddiacon ym 1846 ac yn offeiriad y flwyddyn wedyn. Bu’n gweithio’n galed a chydwybdol yn Nghaergybi rhwng 1846 a 1850. O leiaf, dyna’r argraff a adawodd ar feddyliau nifer o leygwyr oddi yno, a rhai ohonyn’ nhw’n bobl uchel eu safle a mawr eu dylanwad. Amlygodd rhai o’r bobl hynny eu parch a’u hymdiriedaeth ynddo drwy ei gefnogi a chynnal ei freichiau yn y brwydrau y bu yn eu canol yn ddiweddarach o blaid yr Eglwys. Safodd yn ddi-wyro dros yr hyn y credai ynddo, a hynny heb ofni tramgwyddo neb, na lleygwyr nac offeiriaid, nac esgobion nac archesgobion, na thlawd na chyfoethog, na gwreng na bonedd. Pwy bynnag fydden’ nhw, os gwnaent yr hyn nad oedd yn brodol yn ei olwg, deuent dan fflangell ei gerydd. Gŵr felly ydoedd.

Un o’r cyhuddiadau yn erbyn yr Eglwys Sefydledig bryd hynny oedd ei bod yn Babyddol. Cafodd cyfarfod niferus ei gynnal yng Nghaergybi oedd a’i nôd i amddiffyn yr Eglwys rhag y cyhuddiad hwnnw ac ambell gyhuddiad arall tebyg. Un o’r rhai oedd yn y cyfarfod oedd Aelod Seneddol Ynys Môn, Mr. Buckley Hughes. Dywedodd ef fod y Llyfr Gweddi Cyffredin yn llawn Pabyddiaeth. Cododd Philip Constable Ellis ar ei draed yn syth, ac a’i lygaid yn fflachio,  tynnodd y Llyfr Gweddi Cyffredin o’i boced, dweud, “Os medr neb brofi fod yr un gair o Babyddiaeth yn y llyfr hwn, byddaf yn ymddiswyddo o’m gweinidogaeth yfory nesaf.” Rhoes hynny, meddir, daw ar y rhai oedd yn gwrthwynebu.

Ym 1850, ar gyflwyniad Syr Richard Buckley, cafodd Philip Constable Ellis ei benodi’n ficer Llanfaes a Phenmon ym Mon

 

Eglwys Llanfaes                             Priordy ac Eglwys Penmon

Yn ystod ei gyfnod yno, cafodd corff a chlochdy hen Eglwys Fynachaidd Penmon eu hatgyweirio, a chafodd y gangell, a oedd wedi syrthio’n adfeilion, ei hail-adeiladu. Bu’r ficer hefyd yn gyfrwng i fagu cenhedlaeth dda o Eglwyswyr oedd yn gallu “rhoi rheswm am eu ffydd.” Safodd yn ddi-wyro dros hawliau’r Eglwys, a hynny ar dro yn wyneb safbwynt claear a di-hid rhai Eglwyswyr ac ymosodiadau o gyfeiriad rhai  Ymneilltuwyr.

 

St. Mary's Church Llanfairfechan

Eglwys y Santes Fair, Llanfairfechan

Ym 1862, penodwyd Philip Constable Ellis i fod yn Rheithor Llanairfechan, ac yno y bu am weddill ei oes hyd ei farw ar 10 Mai, 1900.  Bu’n fawr ei sêl a’i ymroddiad dros gynnal gwasanaethau dyddiol yn yr eglwysi, eu hailddodrefnu, a newid eu defodau. Ar gyfrif ei gatholigiaeth uchel-eglwysig, ni fynnai gael dim i’w wneud mewn modd yn y byd ag Ymneilltuwyr. Byddai’n anghytuno â rhai offeiriaid hŷn nag ef ar y mater hwnnw. Bu hefyd mewn dadl go boeth â’i esgob, Christopher Bethell, er fod hwnnw, fel y cyfeiriwyd, ei hun yn coleddu syniadau uchel eglwysig. Cyhuddodd yr esgob Philip Constable Ellis o godi cynnwrf. Aflwyddiannus fu ei ymdrechion i’w ddisgyblu, fodd bynnag, ar gyfrif y gefnogaeth a dderbyniai’r Rheithor gan nifer o glerigwyr mawr eu dylanwad yn esgobaeth Bangor.

 

 

Manon Wyn Griffiths yn cofio . . .

R. E.  HUGHES

 


Ganwyd Richard Edmund Hughes ar Fehefin 20ed, 1893, yr hynaf o bedwar o blant, yn Cambrian House, Talsarnau. 'Roedd ei fam, Jane Ellen, yn enedigol o'r ardal, a'i dad, Richard Môn Hughes, o Langoed, Ynys Môn. Aeth ei dad yn weinidog gyda'r Wesleaid – ac efallai oherwydd hyn, symud fu hanes R.E. Hughes o dŷ i dŷ ar hyd ei oes.

Treuliodd ei blentyndod rhwng Porthmadog, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Llanrhaeadr. Ond yn ystod yr amser yma, penderfynwyd ei anfon i ysgol meibion gweinidogion Wesle yn Kingswood School, Caerfaddon – bu yno am bedair blynedd, cyn gorffen ei ysgol uwchradd ym Mhorthmadog. Wedi hyn, aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, o 1911 i 1916, a graddiodd yn y Gymraeg.

Cafodd ei swydd gyntaf yn Ysgol Ganolraddol Caernarfon, a bu yno am ddwy flynedd, yna aeth i ysgol Merchant Taylors yn Lerpwl, ac wedi hynny i Ysgol Friars, Bangor o 1919 – 1930. Priododd efo Grace Williams yn Siloam, Bethesda, ar Ebrill 7ed a chawsant bedwar o blant, Carys, Gwyn, Eryl a Manon. Yna penodwyd ef yn brifathro Ysgol y Cefnfaes, Bethesda (1930-1944). Symudodd i Bwllheli, yn brifathro yr Ysgol Ramadeg, ac yno y bu hyd ei ymddeoliad ym 1954. Daeth yn ôl i Fethesda; symudodd eto i Borth-y-Gest, i Fangor, i Dregarth, ac yn ôl eto i Fethesda. Yno y treuliodd ei flynyddoedd olaf yn hapus ymysg ei deulu a'i ffrindiau. Bu farw ar Chwefror 16eg, 1969.

Bu'n gefnogol iawn i amryw feysydd ar hyd ei oes: i'r gyfundrefn Wesleaidd a'i gweinidogion, i'r Blaid Genedlaethol ac i gymdeithasau llenyddol. Roedd yn hoff o chwaraeon ac athletau ac yr oedd wrth ei fodd yn cerdded mynyddoedd a chrwydro'i gynefin. Ond mae'n debyg mai o ddysgu y cafodd y mwynhad pennaf – ac yr oedd yn athro a allai ennyn brwdfrydedd oherwydd ei hoffter ef ei hun o'i bwnc. Ysgrifennodd ei draethawd M.A ar D. Silvan Evans ym 1941, ond llenyddiaeth Gymraeg o bob math oedd ei brif ddiddordeb.

Cafodd brofedigaeth lem pan fu ei fab, Gwyn, farw yn 19 oed, ond er dwysed y profiad, llwyddodd ef a'i wraig i ail-afael, a chreu cartref cynnes a llawen. Roedd gan y ddau gyd-ddealltwriaeth arbennig a synnwyr digrifwch oedd yn cyd-fynd i'r dim.

Bu ei fywyd yn un llawn a gweithgar a thystiodd perthynas, y Parchedig Tecwyn Jones, fel hyn iddo,

'Ei fwyn anian, ei fonedd,
A'i fawr barch ni ddifa'r bedd.'

Ioan W. Gruffydd yn cofio am gyfraniad mawr a gorchestol ...

RICHARD ELFYN - Actor

richard elfyn

Gall tref Pwllheli ymfalchïo yn llwyddiant yr actor Richard Elfyn.

Ganed ef ym Mangor a’i fagu ym Mhwllheli, mae’n enillydd gwobr BAFTA, ac yn un o berfformwyr anwylaf a mwyaf hoffus Cymru.

Mae wedi ymddangos mewn mewn llu o ffilmiau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu. Ymddangosodd mewn cynhyrchion teledu fel The History of Mr Polly a chynhyrchion mawr fel To Kill A Mockingbird yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Enillodd Wobr Bafta Cymru fel yr actor gorau ym 1996 am ei ran yn Yn Gymysg Oll i Gyd. Mae rhan Richard mewn ffilmiau yn cynnwys The Kille Elite gyda Jason Statham, The History of my Polly gyda Lee Evans, The Dark gyda Sean Bean, y prif rannau yn Gari Tryfan ac mewn dramâu hir fel Calon Gaeth ar gyfer S4C, Mabel’s Story ac Abraham’s Point.

Ar y teledu, ymddangosodd Richard yn Caerdydd, Con Passionate, Pobol y Cwm, Treflan, XTRA, Jara, Y Teulu, Belonging, Young Dracula, High Hopes. Tracy Beaker, Satellite City a The Big Welsh Challenge: Murder Mystery.

Ar lwyfan y theatr, mae wedi ymddangos yn The Rivals, Spring and Port Wine ac yn The Admirable Crichton yn Theatr Newydd y Vic yn 2011. Clywyd ei lais yn darllen Light Arrested between the Curtain and the Glass, yn Sgen Ti Gariad, Desire Lines, Yr Argae, Erogenous Zones yn Theatr Sherman Cymru yng Ngherdydd, A Small Family Business, To Kill a Mockingbird, Under Milk Wood, Song of the Earth, Hosts of Rebecca, Rape of the Fair Country, Macbeth, Of Mice and Men a Scrooge the Musical yn Theatr Clwyd, ac yn y Mabinogion, Macbeth, Romeo a Juliet ac yn Hamlet yn Theatr Gwynedd, Bangor.

Ymddangosodd hefyd mewn cyflwyniad un dyn i Theatr Taliesin yn portreadu David Lloyd George yn Y Dewin, Y Bwch Gafr a’r Gŵr a Enillodd y Rhyfel. Bu gan Richard hefyd amryw o gyflwyniadau radio yn ddogfennau, animeiddio a throsleisio testunau fel, Sam Tân, Bey Blades, Tweenies, Colin a Cumberland, Fairly Odd Parents, Becoming Merlin a Gelert. Derbyniodd Richard ei hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd.

 

D.J. Britton a Richard Elfyn ar y Robin Stienberg Talk Show

Ioan W.Gruffydd yn cofio’r Meddyg Esgyrn enwog o Bwllheli. . .

Richard Evans


Y Meddyg Esgyrn gorau yng Nghymru, meddid, oedd Richard Evans, gŵr. yn wir, a fu’n dilyn ei grefft ym Mhwllheli am dros hanner can mlynedd. Yr oedd, nid yn unig yn trin esgyrn plant a phobl mewn oed, ond esgyrn anifeiliaid hefyd, ac yr oedd yn arferiad gan lawer o bob rhan a Gymru, ac o’r tu hwnt i Gymru, i ddod ato i Bwllheli am ymgynghoriad ac adferiad iechyd. Bu ei deulu, ers 1880, yn nodedig o enwog am yr Olew Gewynnau a oedd i’w gael ganddyn nhw. Wrth feddwl am gefndir hanes teulu Richard Evans, fodd bynnag, y mae llawer mwy i’w adrodd.

Achub dau fachgen mewn llongddrylliad


Rhyw noson stormus yn y flwyddyn 1745, suddodd llong oddi ar arfordir pwyf Llanfairynghornwy yng Ngogledd Orllewin Ynys Môn. Cafodd dau fachgen ifanc eu hachub oddi ar y llong honno. Adroddir fel yr oedden nhw wedi cael eu clymu wrth rafft. Roedd y ddau’n siarad iaith nad oedd y rhai a’u hachubodd yn ei deall. Yn ôl un ffynhonnell weddol ddibynadwy, siarad Sbaeneg yr oedden nhw.

Dawn ryfedd Evan Thomas a’i blant

Cafodd y ddau fachgen eu gwahanu, a’u dwyn i fyny gan ddau deulu lleol. Cafodd un ohonyn nhw ei enwi’n Evan Thomas [1735 – 1814], a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn gweithio ar fferm a oedd yn eiddo i un Dr. Lloyd. Yn fuan iawn, daeth yn amlwg fod gan y bachgen hwnnw wybodaeth ryfeddol am y corff dynol, a’i fod yn gallu trin a gwella esgyrn a oedd wedi torri. A daeth i enwogrwydd mawr fel meddyg esgyrn – a lledodd yr wybodaeth amdano ar draws Ynys Môn ac ymhellach.

St. Mary's Church Llanfairfechan

Evan Thomas

Dywedodd rhywun iddo glywed amryw yng Nghaergybi yn siarad am alluoedd rhyfeddol Evan Thomas - y meddyg esgyrn a oedd wedi llwyddo i’w ddysgu ei hun – ac a oedd yn byw bryd hynny yn Y Maes ym mhlwyf Llanfairynghornwy, a bod ganddo rhyw ddawn ryfedd am y modd yr oedd esgyn yn gweithio. Dywedir y cyfunid yn ei fywyd “bersonoliaeth gref a difrifwch a phlaendra crefyddol.” Y mae yn eglwys Llanfairynghornwy dabled sydd yn eu goffáu: tabled a osodwyd yno gan yr is-iarll Buckley fel teyrnged am y lles a ddaeth drwy ei ymdrechion i gynifer o’i gyd-ddynion.

Priododd Evan Thomas ym 1762 â Catherine, a chawsant bedwar o feibion: Thomas Evans ym 1764, William Evans ym 1766, Richard Evans ym 1771, a John Evans ym 1775. Rhoed enw cynta’r tad yn gyfenwau i’r plant yn ôl arfer y dyddiau hynny. Roedd y pedwar mab, fel eu tad, yn ddawnus iawn fel meddygon esgyrn.

Y gŵr prysur, Richard Evans

St. Mary's Church Llanfairfechan

RIchard Evans [1771 – 1851] oedd yr un a gymerodd y gwaith o ddifrif, fodd bynnag, ac wedi etifeddu dawn ei dad, daeth yn ŵr prysur iawn. El ei dad, yr oedd yntau’n ddyn crefyddol, plaen a chydwybodol. Roedd y gwaith copr ym Môn yn ei anterth y dyddiau hynny, a dioddefai llawer yn ei sgil drwy damweiniau gwahanol yn y gwaith hwnnw.

Mae stori amdano mewn ffair leol un tro a rhywun yn gwneud hwyl am ei ben drwy gymryd arno ei fod wedi dadgysylltu ei ysgwydd. Cydiodd Richard Evans yn ysgwydd y sawl a oedd yn ei wawdio a’i ddatgysyllu go iawn. Roedd yn rhaid I’r llanc erfyn arno i’w wella.

Roedd gan Richard Evans saith o blant, tri mab a phedair merch, sef Evan Evans, John Evans, Catherine, Ann, Margaret, Richard Evans ac Elizabeth. Roedd pob un ohonyn nhw’n yn meddu’r ddawn a gawsant gan eu tad i drin esgyrn.

Cerdded o Ynys Môn i Lerwl

Yn ŵr ifanc, cerddodd Evan Evans [1804 – 1884], o ynys Môn yr holl ffordd i Lerpwl i chwilio am waith. Cyn hir, canfu fod gwir angen ei ddawn fel Meddyg Esgyrn yn y ddinas, a bu’n ymarfer ei ddawn o’i gartref yn 82 Stryd Grosshall. Newidiodd ei enw gan alw’i hun yn Evan Thomas, fel ei daid. Nid yw’n hysbys pam y gwnaeth hynny. Parhaodd ei frodyr a’i chwiorydd i arddel y cyfenw Evans.

Ar ei gerdyn proffesiynol Saesneg o’u trosi i’r Gymraeg, roedd y geiriau: Evan Thomas, Meddyg Esgyrn, Rhif 3 Stryd Great Crosshall. Y Trydydd Drws oddi wrth y Capel.

Gelyniaethu’r proffesiwn meddygol

Lledodd enwogrwydd Evan Evans (neu Thomas) fel Meddyg Esgyrn ar draws y byd, ac roedd llu o gleifion yn dod ato i gael eu trin – rhyw 30 neu 40 bob dydd. ‘Doedd aelodau’r proffesiwn meddygol, fodd bynnag, ddim yn hapus o gwbl ar gyfrif hyn, a throesant yn ei erbyn. Bu achosion llys yn erbyn Evan Evans (neu homas). A chafodd adegau digon anodd. Ond ef a drechai yn y diwedd.

Priododd Evan Thomas ym 1830, a daeth saith o blant, pum mab a dwy ferch – Margaret ac Ann, Dr. Hugh Owen Thomas, Dr. Richard Evan Thomas, Dr. Owen Robert Thomas, Dr. John Lewis Thomas, a‘r Dr. Evan Thomas. Ar gyfrif y modd y cawsai ei drin gan y proffesiwn meddygol, a’i fod yn sylweddoli nad oedd ddyfodol i’r gwaith o fod yn Feddyg Esgyrn, gwnaeth yn siwr fod ei feibion oll yn derbyn yr addysg feddygol orau.

Bu ei fab hynaf, Hugh Owen Thomas, yn astudio ym Mhrifysgolion Caeredin, Llundain a Pharis, cyn ymuno mewn partneriaeth gyda’i dad: gweithred oedd yn cael ei dirmygu’n fawr. Yng ngeiriau’r Dr. Hywel Jones, aelod arall o’r teulu, “Yr hyn na fu i Evan Thomas ei sylweddoli oedd, os oedd ei feibion yn feddygon cydnabyddedig, y byddai’n rhaid iddynt ddygymod â’r gwarth, y stigma, o fod yn feibion i’w tad, ac yn waeth na hynny, y byddai unrhyw gysylltiad â’u tad yn bychanu eu cyfraniad.

Parhaodd Evan Thomas ei waith yn Lerpwl am rai blynyddoedd wedi i’w feibion gymhwyso’u hunain fel meddygon, a gwelodd rhai ohonynt yn dda i’w gynorthwyo er yn gwybod beth a fyddai canlyniadau gwneud hynny.

Ymddeol o Lerpwl a dychwelyd i Fôn

Ar ei ymddeoliad ym 1863, cyflwynwyd i Evan Thomas bortread ohono’i hun mewn olew, ymysg rhoddion eraill, fel amlygiad o’r parch a’r edmygedd mawr oedd iddo gan amryw o drigolion Lerpwl. Gadawodd Lerpwl a dychwelyd i Ynys Môn, gan ddilyn ei waith yno am gryn ugain mlynedd arall.

Bywyd a gwaith yr hynaf o’r meibion

Wrth ystyried bywyd a gwaith y Dr. Hugh Owen Thomas, yr hynaf o feibion Evan Thomas, rhaid sôn am y newidiadau mawrion ac arwyddocaol a fu yng nghyraeddiadau’r teulu. O’r blaen, dibynnu yr oedd meibion a merched y teulu ar eu sgiliau cynhenid, ac ar y ddawn arbennig a rhyfedd y bu idynt ei hetifeddu fel teulu. Bellach, yn y Dr. Hugh Owen Thomas, roedd gŵr a oedd, nid yn unig yn meddu’r doniau hynny, ond gŵr hefyd oedd â chanddo feddwl gwyddonol pur, hyfforddiant meddygol trwyadl a brwdfrydedd heintus ar gyfer cyflawni ei waith. Roedd y Dr. Hugh Owen Thomas yn gyswllt rhwng ei hynafiaid, nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw hyfforddiant meddygol, a’r egwyddorion a’r dulliau modern sy’n cael eu defnyddio mewn llawfeddygaeth orthopoedig heddiw, ac sydd wedi profi’n gymaint bendith i ddynoliaeth gyfan. Cafodd ddamwain i’w lygaid yn yr ysgol.

Cafodd Hugh Owen Thomas [1834 – 1891], ei eni ym Modedern, Ynys Môn ar Awst 23, 1834. ac yno yr oedd i dreulio’i flynyddoedd cynnar. Am gyfnod bu’n byw ar aelwyd ei daid a’i nain yn Rhoscolyn nes ei fod yn 13 mlwydd oed.

St. Mary's Church Llanfairfechan

Hugh Owen Thomas, ei gap pig, ei wisg a’i sigaret

Bachgen gwantan ac eiddil o gorff ydoedd, a gofidiai ei rieni am gyflwr ei iechyd. Yn ystod ei addysg gynnar, roedd ei ysgolfeistr wedi sylweddoli ei fod yn fachgen galluocach na’r cyffredin. Cafodd ddamwain yn yr ysgol a achosodd anhwylder i’w lygaid gan achosi ectropion, a byddai’n gyson yn ceisio amddiffyn ei lygaid ddrwg drwy wisgo cap a phig wedi ei dynnu’n isel dros ei lygaid. Yr oedd hynny’n un ffordd y gallai pobl ei adnabod yn rhwydd. Yr oedd hefyd yn gwisgo côt fel ffrog, a byddai ganddo’n ddieithriad sigaret. Wedi gadael ysgol, aeth i wneud prentisiaeth gyda’i ewyrth, Dr Owen Roberts Llanelwy, cyn mynd yn 21 mlwydd oed i Brifysgol Caeredin. Yn wir, ym 1854, yr oedd ei dad wedi penderfynu y byddai ei bedwar mab yn derbyn hyddorddiant i fod yn feddygon. Ac aeth pob un ohonynt i brifysgolion Caeredin, Llundain a Pharis.

St. Mary's Church Llanfairfechan

Hugh Owen Thomas

Gwyddai Hugh y gallai ddysgu llawer oddi wrth ei dad, ond cyn hir, sefydlodd bractis iddo’i hun yn Stryd Hardy, yn ardal Garston, Lerpwl. Nid oedd brinder gwaith. Gweithiai yng nghanol ardal y dociau, a byddai’n aml yn trin llongwyr y gymdogaeth. Buan y sylweddolodd fod yr adeiladau a oedd ganddo’n rhy fychan, a symudodd i 11 Stryd Nelson. Pan brofodd y lle hwnnw hefyd yn annigonol, cododd estyniad fel y gallai gael gweithdy iddo’i hun: gweithdy oedd yn llawn offer a pheiriannau modern i’w alluogi i wneud offer llawfeddygol ar gyfer ei waith. Daliodd i gadw’r tŷ yn Stryd Hardy i’w ddefnyddio fel ei ysbyty preifat - a dyna’r unig ysbyty y bu’n gweithio ynddo.

Man geni Llawfeddygaeth Orthopedig Fodern

Yr oedd yn drueni o’r mwyaf fod ei gymrodyr meddygol yn ei wahardd rhag gweithio mewn ysbyty. Roedden nhw’n dadlau fod ei gysylltiadau â’i dad yn ei wneud yn anghymwys i gael anrhydedd o’r fath. Dichon fod, fodd bynnag, â fynno hynny â rhywbeth arall hefyd - cymeriad ac agwedd Hugh ei hun. Roedd ei ddulliau o weithio ymhell ar y blaen i’w oes, ac er ei fod yn barod i wrando ar feirniadaeth deg, nid oedd amynedd ganddo i wrando ar sylwadau ffôl. Doedd ei ysbryd a’i gred annibynnol ddim yn denu ei wrthwynebwyr ato. Heddiw mae Rhif 11 Stryd Nelson, Lerpwl, yn cael cyfeirio ato fel man geni Llawfeddygaeth Orthopedig Fodern gwledydd Prydain.

St. Mary's Church Llanfairfechan

11 Stryd Nelson, Lerpwl, yn oes Dr. Hugh Owen Thomas

Cynnal meddygfa am ddim i’r tlodion

Yn wahanol i bobl eraill, ‘doedd y Dr. Hugh Owen Thomas ddim yn ystyried y Sul fel dydd o orffwys. Ar fore’r diwrnod hwnnw bob wythnos, byddai’n cynnal meddygfa rad lle byddai o ddeutu dau gant o aelodau anffodus, tlawd ac anghenus y gymdogaeth yn dod i dderbyn y gofal mwyaf aruchel, a hynny yn gwbl ddi-dâl.

St. Mary's Church Llanfairfechan

Stryd Nelson, Lerpwl, heddiw , gyda’r fynedfa fawreddog i Dref China’r ddinas. [Llun: StephenMcKay]

Cyhoeddi ei lyfr cyntaf

Ym 1875, cyhoeddodd y cyntaf o’r llyfrau a ysgrifennwyd ganddo, sef Diseases of the Hip, Knee, and Ankle Joints. Mae’r llawfeddyg, Arthur Rocyn Jones, wrth ysgrifennu am y llyfr hwnnw yn Y Bywgraffiadur. yn dweud fel y bu i’r Dr. Hugh Owen Thomas “ddisgrifio am y tro cyntaf ei sblintiau ar gyfer y cluniau a’r penelin a ddaeth yn fydenwog. Dangosodd y llyfr hwn ei fod yn feddyliwr gwreiddiol ym maes llawfeddygaeth.” Er hynny, meddir yn Y Bywgraffiadur, “ychydig o ddylanwad a gafodd ei ddysgeidiaeth, yn bennaf am nad oedd ei weithiau wedi eu cynhyrchu mewn dull da a’i fod yn defnyddio cyhoeddwr anhysbys. Mwy na hynny,” meddir, “yr oedd yn gweithio ar ei ben ei hun ac ni ellid ei ddarbwyllo i siarad mewn cyfarfodydd gwyddonol a phroffesiynol am ei ddull o drin. Ni chydnabyddwyd ei waith yn ystod ei fywyd. Yn ddiweddarach, fodd bynnag,” meddir, “llwyddodd ei nai a’i ddisgybl, Syr Robert Jones, i ddwyn ei ddysgeidiaeth a’r defnydd a wnâi o’r sblintiau i sylw llawfeddygon.” Mae’n deg cofio, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi hynny, bu’r Thomas calliper, fel y’i gelwid, “yn foddion i achub miloedd o aelodau,” ac “erbyn heddiw fe’i defnyddir yn gyffredinol ym mhob ysbyty bron trwy’r byd.”

Bu amryw o lawfeddygon o bell a agos, yn ystod rhan olaf oes y Dr. Hugh Owen Thomas – ac wedi iddyn nhw fod yn darllen ei lyfr - yn awyddus i’w gyfarod a’i weld yn ymarfer ei dechneg. Trist, serch hynny, yw gorfod adrodd fod ei ddull o weithio yn cael ei gwerthfawrogi’n fwy ym mhellafoedd byd nag yn ei fro a’i wlad ei hun.

Daeth un o Chicago bell

Un a ddaeth i’w weld i Lerpwl, yr holl ffordd o Chicago bell, oedd y Dr. John Ridlon. Dyma fel yr adroddodd y llawfeddyg hwnnw am ei brofiad:

“Mi es i mewn drwy ddrws oedd ar agor wedi sylwi ar yr enw yn Saesneg uwch ei ben – Meddygfa H.O.T 1866. Mi gês fy hun mewn ’stafell gul a silffoedd a oedd yn llawn o boteli ffisig ar y chwith i mi, a phlentyn bach yn wylo yn eistedd ar silff ac yn cael ei gynnal gan ei fam. Yn rhwymo traed y bachgen gyda splintiau haearn roedd dyn bychan wedi ei wisgo mewn dillad du, cap pig ar ei ben a sbectol yr oedd iddi wydrau trwchus, a barf frith afler ganddo, ac yn ei geg, roedd sigaret. Pan beidiodd y bachgen wylo, ês ymlaen a rhoi i’r gŵr fy ngherdyn. Darllenodd ef yn uchel cyn gofyn, “Be’ alla’ i ei wneud i chi? Fi ydy Mr.Thomas.”
Atebais innau: “Mr. Thomas, rydw i wedi darllen eich llyfr, Hip, Knee and Ankle, ac rydw i wedi teithio tair mil o filltiroedd er mwyn gweld os mai ynfytyn neu gelwyddgi ydach chi.” Gyda’i lygaid yn perfio o’r tu ôl i’w wydrau sbectol tewion, dywedodd y dyn, n“Mae’n siwr gen i y bydd i chi ganfod hynny o fewn hanner awr.” Roedd hynny yn ddechrau i ddau ddiwrnod ardderchog iawn.”

Bu’r Dr. Hugh Owen Thomas farw, wedi gorweithio, ar 6 Ionawr 1891, yn 57 mlwydd oed. Amlygodd y lluoedd a ddaeth i’w angladd yr edmygedd a’r parch oedd iddo gan drigolion dinas Lerpwl.

St. Mary's Church Llanfairfechan

Richard Evans, y Meddyg Esgyrn o Bwllheli

Richard Evans, Pwllheli, [1868 – 1954] oedd aelod olaf y teulu nodedig hwn i ymwneud â chrefft y Meddyg Esgyrn. Er i Richard Evans briodi ddwywaith, ni chafodd blant, ac felly ni chafodd ei ddawn arbennig ei throsglwyddo i genhedlaeth arall. Cawsai ei eni ym Mhen-y-groes ym 1868 yn fab i John Evans a’i briod, ac yr oedd y John Evans hwnnw yn un o feibion Richard Evans, o Dyddyn Bengam.

Ei siop gyferbyn â Chapel Pen-lan

Agorodd Richard Evans fusnes yn Stryd Moch, Pwllheli, mewn siop a oedd bryd hynny ar yr ochr arall i’r ffordd gyferbyn â Chapel Pen-lan heddiw. Dewisodd enw da ar ei siop, sef Adferle – sef lle i adfer pob math ar anhwylderau esgyrn a chyrn. O sylwi ar y gwydr sy’n rhan o’r drws yn y darlun, mae’n ddiddorol nodi fod yr un gwydr yn union heddiw ar ddrws y brif swyddfa yn Ysbyty Gobowen, ysbyty y bu gan y teulu gysylltiad agos ag ef yn ei ddyddiau cynnar

St. Mary's Church Llanfairfechan

Richard Evans yn sefyll wrth ei siop, Adferle, yn Stryd Moch, Pwllheli

Llythyr gan berthynas

Ymddangosodd y llythyr hwn mewn papur newydd dro’n ól gan Catherine Jones, Aberystwyth, dan y penawd Meddygon esgyrn:

“Diddorol iawn oedd darllen llythyr Wynne Roberts, Tregarth, yn eich colofn lythyrau . . . yn rhoi hanesyn am Hugh Evans, y meddyg esgyrn o Rachub.

Yr oedd yn nai i Evan Thomas, y meddyg esgyrn enwog o Sir Fôn (a Great Crosshall Street, Lerpwl).

Perthnasau eraill

Cafodd Hugh Evans ei eni ym Mhen-y-groes, yn fab i Richard Evans, Tyddyn Bengan, yntau'n feddyg esgyrn nodedig yn ardal Dyffryn Nantlle ynghyd â'i fab, Thomas Evans, a fu'n feddyg esgyrn swyddogol i chwarel Dinorwig am gyfnod. Adnabuwyd ef fel Doctor y Merddyn Brych. Yr olaf i ymarfer y ddawn yma o drin esgyrn oedd Richard Evans, Adferle, Pwllheli, fy hen ewythr.”

Olew gewynnau

Dywedodd Dewi R. Jones mewn erthygl yn Y Casglwr, dan y penawd, Yr Olew o Lŷn at bob Gewyn, mai “un o hynodion pennaf triniaethau Richard Evans oedd yr olew gewynnau a gynhyrchid ac a werthid ganddo yn Adferle. Yr adeg honno,” meddai, “yr oedd tri math gwahanol ohono i’w gael ac er bod y rysetiau ar gael heddiw, un math yn unig a gynhyrchir bellach” a hynny gan ŵyr Richard Evans. Cyfeiriir yn yr erthygl mai gan Gwyn Evans, a oedd yn byw ym Mryncir yn Eifionydd, ar adeg ysgrifennu’r erthygl, sef mab John Evans, ac ŵyr i Thomas Evans (brawd y Richard Evans y soniwn amdano) – ganddo ef, a chan un aelod arall o’r teulu – yr oedd cyfrinach yr olew gewynnau erbyn hynny. Dywedir na wyddai Gwyn Evans ddim am na’r lle na’r

adeg y cynhyrchwyd yr olew hwnnw gyntaf, ond yr oedd hynny ragor na chan mlynedd yn ôl bellach. Dywedir mai’r unig wahaniaeth.sylfaenol “rhwng rysêt ddoe a heddiw yw yr arferid rhoi sbelan go lew o wyau ynddo ers talwm ond ni roddir yr un o gwbl heddiw.” Cynhyrchid yr olew gan Gwyn Evans gan fod galw mawr amdano i leddfu gewynnau poenus “yn lleol neu mewn mannau mor bell â Buffalo yn yr Amerig, a chlybiau pêl droed Everton a Manchester United yn Lloegr.”

Yn gwella hen wraig

Mae Dewi R. Jones yn ei erthygl yn adrodd stori am Richard Evans, y Meddyg Esgyrn. Mae’n sôn fel y bu rhieni Gwyn Evans yn byw yn rhif 5 Penllystyn, Brincir, a’i nain gyda nhw. “Un diwrnod,” meddai, “mi syrthiodd yr hen wraig wrth y grât gan dorri pont ei hysgwydd a’i braich. Gyrrwyd yn syth am Dr. Ellis o Ben-y-groes ac anfonodd yntau hi ar ei hunion i Fangor.” Treuliodd bythefnos yno yn yr ysbyty, “ond adref y daeth hi heb i’r un meddyg wneud dim i’w gwella. Maen’n debyg fod y crac ym mhont yr ysgwydd mewn lle mor ddrwg nes y gellid ei pharlysu wrth ymyrryd gormod. Fodd bynnag, y munud y daeth hi aref fe anfonodd ei fam am Dewyrth Richard, sef Richard Evans, i ddod i weld yr hen wraig. Er mai wisgi neu rum oedd ei athasthetig, fuo fo fawr o dro yn rhoi’r ysgwydd a’r fraich yn eu lle cyn ei bandio’n gadarn. Gadael i bethau fod wedyn am gyfnod cyn tynnu’r rhwymau, a chredwch neu beidio, theimlodd nain Gwyn ddim poen oddi wrth y fraich na’r ysgwydd hyd ddiwedd ei hoes. Fe alwodd Dr. Ellis heibio i’w gweld a synnu sut y llwyddodd Rihard Evans i gyflawni’r fath orchwyl, a meddygon Bangor wedi methu.”

Diacon ac athro Ysgol Sul

Does dim lle i amau nad oedd Richard Evans, y Meddyg Esgyrn dawnus o Bwllheli, yn ŵr tra charedig ac yn agos iawn i’w le fel capelwr, ac fel diacon gyda’r Annibynwyr yng Nghapel Pen-lan, Pwllheli. Yr oedd yn athro Ysgol Sul ymroddedig i ddosbarth y Gwragedd. Cofia gweinidog Eglwys Pen-lan heddiw, y Parchg. Glenys Jones, fod ei mam yn aelod o’i ddosbarth, a chofia hefyd am arferiad cyson Richard Evans bob Nadolig yn cyflwyno rhodd o bersawr hyfryd i aelodau ei ddosbarth Ysgol Sul. Wedi cydnabod hynny, rhaid ychwanegu fod ganddo, ar adegau, ambell ffordd ddigon rhyfedd o wneud rhai pethau. Claddodd ei ddwy wraig gyda’i gilydd yn yr un bedd, ond dewisodd fedd arall iddo’i hun! “Dyn unigryw fel yna oedd o,” meddai Dewi R. Jones, “petai’n fyw heddiw, fe’i hystyrid yn ddyn mawr.”

 

Cliciwch yma i fynd i wefan Olew Gewynnau

Ioan W. Gruffydd yn adrodd am gamp . . .

Richard Tudor

richard tudor

Os mai yn Llandrinod, lle’r oedd ei rieni’n byw a gweithio ar y pryd, y cafodd Richard Gruffydd Tudor ei eni ar 26 Gorffennaf 1959, yn llawer nes i’r môr ym Mhwllheli y cafodd ei fagu. Roedd y môr, a hwylio’r môroedd, yn ei waed - yn union fel ei dad a’i frawd. Ym Mhwllheli y derbyniodd ei addysg, a hynny yn Ysgol Gynradd Troed yr Allt ac yn Ysgol Uwchradd Glan y Môr. Yn ffodus iddo ef, yr oedd yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, glwb hwylio yn cael ei gynnal yn wirfoddol gan athro gwaith coed yr ysgol, Mr. Gwyndaf Huws, ac roedd cael ymuno yng ngweithgareddau’r clwb hwylio hwnnw wrth fodd calon Richard Tudor. Byddai’n mwynhau ymarfer yng nghychod bach GP14 yr ysgol ac ar ei Mirror Dinghy bychan ei hunan. Derbyniodd gefnogaeth lwyr ei deulu wrth iddo ymroi i gystadlu mewn llu o gystadleuthau a gornestau hwylio i blant ysgol ar hyd a lled Cymru. Fel y dywedodd rhyw dro, “Rydw i’n cofio mynd o un regata i'r llall gyda'r dingi ar do'r car. Mi fydda'i mam, fy chwaer a fy mrawd ieuengaf yn ista' ar lan y môr wrth i’m brawd arall a finnau gystadlu pan oeddwn i tua 10 neu 11 mlwydd oed." Ac yntau’n 15 oed, breuddwyd Richard Tudor oedd cael bod yn gapten ar long fasnach, a chofia fod mewn cyswllt â’r Ocean Fleet yn Lerpwl yn gwneud ymholiadau i’r perwyl hwnnw.

Erbyn bod Richard Tudor yn 17 mlwydd oed, yr oedd wedi cael digon ar yr ysgol. Yr oedd wedi hen syffedu ar addysg ffurfiol a throes ei gefn ar Ysgol Glan y Môr. Gwyddai’n union, fodd bynnag, am y cyfeiriad yr oedd am fynd iddo a’r hyn y bwriadai i’w yrfa fod. Aeth ati i ffurfio’i gwmni ei hun – cwmni oedd yn gwneud hwyliau a gorchuddion i gychod. Treuliodd bymtheg mlynedd gyda’r gwaith hwnnw.

leila

Maer Pwllheli ar y pryd, Y Cynghorydd Evan John Hughes, ar Fedi 4, 1992, yn cyflwyno rhodd ar ran Cyngor Tref Pwllheli i
Richard Tudor

Yna, gwelodd yn dda i dderbyn y gwahoddiad a gawsai i fod yn gapten ar gwch oedd yn mynd i rasio rownd y byd. Hwyliodd Richard Tudor o amgylch y byd ar ddau achlysur yn ystod 1992-93 a 1996-97 yn ras Global Challenge Cwmni Dur Prydain. Dywedodd iddo brofi pob emosiwn tra’n treulio wyth mis yn hwylio o gylch y byd. Byddai’n ‘casáu pob eiliad ac wedyn yn mwynhau pob eiliad.’ Ychwanegodd fod pob diwrnod yn wahanol, yn arbennig felly wrth lanio mewn gwledydd gwahanol. Cofiai hwylio i Rio De Janeiro, a sylwi ar y cerflun mawr o Grist yn edrych i lawr o ben y mynydd, a chanfod tlodi affwysol y ddinas honno. Cofiai hwylio i Dref y Penrhyn (Cape Town) gan sylweddoli pa mor rhyfeddol o drawiadol oedd yr olygfa o Fynydd y Penrhyn (Table Mountain). Ar adeg pan nad oedd yn rasio, hwyliodd i Spitzbergen yn Norwy gan ddod i dir ar rew oer yr Artig.

Yn y flwyddyn 2000, ymunodd â Thîm Philips ar yr hyn oedd i fod ei drydedd daith oddi amgylch y byd, ond nid felly y bu, a bu bron iddo golli ei fywyd. "Roedd ganddon ni gatamarán newydd,” meddai, “wedi ei wneud o carbon fibre, gwerth 2.5 miliwn o bunnoedd, ond, yn amlwg, roedd rhywbeth yn bod arni." A hwythau saith can milltir i'r gorllewin o Iwerddon, ac yng nghanol Môr yr Iwerydd, mi ddechreuodd y catamarán newydd ddod yn ddarnau. "Beth wnaeth ein hachub ni,” meddai wrth gofio am y digwyddiad, “yw bod cyfathrebu rŵan mor dda ar y môr." Ac ychwanegodd, "Mi wnaethon ni drefnu rendezvous efo llong arall oedd yn digwydd bod ar ei ffordd i Halifax yn Nova Scotia, ac mi neidiodd pawb ar fwrdd y llong honno." Dywedodd y buasai’r criw i gyd wedi marw petaen nhw wedi aros ar y catamarán am un diwrnod arall. Mi suddodd y catamarán, ac yn ddiweddarach, mi ganfuwyd rhannau yn Greenland, a rhannau hefyd ar draeth yn Iwerddon.

Bu Richard Tudor yn un o drefnwyr Regatta Cymru a gynhelir ym Mae Ceredigion. Bellach, mae’n darlithio mewn Peirianneg – gyda gogwydd arbennig at y môr – yng Ngholeg Meirion Dwyfor. A’i ddyhead yw gweld ei fyfyrwyr yn llwyddo yn y cyfeiriad hwnnw.

richard tudor
Richard Tudor ar fwrdd
British Steel II

Wedi wynebu sawl profiad a helyntion ar y môr, a mwynhau llawer profiad felly, y wers bwysicaf a ddysgodd Richard, meddai, ydy sut i barchu'r elfennau. "Dysgwch am yr elfennau, eu parchu nhw, ac wedyn mynd allan i'w taclo nhw," meddai.

Ar ôl cael cynifer o brofiadau gwahanol yn morio o gwmpas y byd, y moroedd o amgylch ei gartref yng Ngogledd Cymru yw'r rhai gorau ganddo. "Gogledd Bae Ceredigion,” meddai, “ydy un o'r llefydd prydferthaf yn y byd i hwylio ynddo." Ychwanegodd fod gallu edrych draw i gyfeiriad mynyddoedd Eryri a Chadair Idris mor wych. “'Does yna ddim llawer o draffig yma na llanw cryf chwaith ac mae'r gwyntoedd yn eithaf teg. Ac wedi bod ym mhob man, fan hyn mae fy nghalon i," meddai. Dywedodd ymhellach ei bod bob amser yn bleser i gael croesawu i Bwllheli yr hwylwyr hynny sy'n dod i'r dref o bob rhan o’r byd.


Arwel Hogia’r Wyddfa yn trafod cyfraniad cyfoethog . . .

Rosalind a Myrddin

Yng nghanol bwrlwm cynhyrfus canu poblogaidd diwedd chwedegau’r ganrif ddiwethaf, cyfarfu Rosalind Lloyd, o Lanbedr Pont Steffan, a Myrddin Owen, o Lanberis. Roedd Rosalind ar y pryd yn aelod o grwp Y Perlau, a Myrddin yn un o Hogia’r Wyddfa. Gan fod llwybrau’r ddau’n croesi’n aml ar benwythnosau mewn amryfal fannau ar hyd a lled Cymru, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddynt a drodd ymhen amser yn garwriaeth. Gan fod y ddau hefyd yn wynebau cyfarwydd ar lwyfannau a theledu bu cryn ddiddordeb ymysg dilynwyr y canu cyfoes yn y garwriaeth. Bu dathlu mawr pan fu i’r ddau briodi yng Nghapel Coch Llanberis ym 1972, a hynny ymhlith eu teuluoedd, ffrindiau a llu o artistiaid poblogaidd y cyfnod.

Ond beth am eu cefndiroedd? Beth oedd y sbardyn yna a ddenodd y ferch o dref fasnachol amaethyddol at hogyn o bentref chwarelyddol a oedd dros gan milltir i ffwrdd? Yr ateb mewn gair – cerddoriaeth. Bu’r ddau yn ffodus o gael eu magu a’u meithrin yn sŵn y gân a’u mwydo mewn cerddoriaeth o bob math. Roedd cefndir cartref Rosalind yn gerddorol iawn. Roedd ei thadcu yn gerddor, yn arweinydd partïon a chymanfaoedd ac yn meddu ar lais tenor hyfryd. Roedd ei mam yn athrawes piano ac yn gantores adnabyddus yn ei dydd, yn gystadleydd cyson ynghyd â’i chwaer mewn eisteddfodau led led y canolbarth. Fyddai’n ddim ganddynt gefnogi tair eisteddfod mewn noson gyda Rosalind yn eu canlyn! Ymunodd â’r Urdd a Chlwb Ffermwyr Ieuanc Felinfach, pryd y cafodd gyfle i ganu fel unigolyn, fel un o ddeuawd, ac fel aelod o bartïon a chorau. Roedd y capel yn fan pwysig i’w theulu ac i Rosalind ac yno y cafodd brofiadau ychwanegol yn y maes canu a diddori.

Ni chafodd Myrddin yr un cychwyn â’i briod. Chwarelwr oedd John Owen, ei dad, ond bu farw pan nad oedd Myrddin ond tair oed. Merch o Lanberis oedd ei fam, Ivy Maud Owen, ac iddi hi y mae’r diolch am ddwyn dau o hogia (Gwynedd a Myrddin) i fyny mewn cyfnod anodd. Meddai Maud lais hyfryd ond nid ymunodd â chorau’r fro, ond roedd yn gapelwraig frwd. Cafodd Myrddin ei drwytho a’i feithrin yng ngweithgareddau cerddorol y capel, boed hynny yn y Band of Hope, Sasiwn y Plant neu’r Gymanfa. Daeth o dan ddylanwad cerddorion o fri yng Nghapel Coch Llanberis, lle cafodd y cyfle i ddysgu sol ffa ar y “modulator” ac i gystadlu yn eisteddfod y capel. Yr Archdderwydd R. Bryn Williams (Patagonia) oedd gweinidog Capel Coch ar y pryd ac fe ddisgrifiodd y gymdeithas chwarelyddol fel “gwerin dlawd yn byw’n gyfoethog”. O fewn y gymdeithas yma, ac fel aelod ohoni, y meithrinwyd Myrddin. Bu’n aelod gweithgar ohoni gan gyfrannu â’i holl egni i gynnal mudiadau amrywiol o’i mewn.

Mae’n bwysig nodi hefyd fod y ddau ohonynt wedi cael eu dylanwadu ymhellach ar ôl gadael eu hysgolion. Tra’n gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr, ac yn ddiweddarach yn siop ei rhieni, lle y cafodd fwy eto o ryddid i ymarfer ei dawn gerddorol ar y piano a’r delyn a chanu cerdd dant, ymunodd Rosalind, gyda chantorion eraill o’r dref, i ganu yng Nghôr Coleg Dewi Sant, Llambed. Mae’n cofio cael gwefr o ddysgu darnau clasurol megis gweithiau Benjamin Britten, a’u canu yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi. Un o brofiadau mawr ei bywyd cynnar oedd canu Zadok the Priest” yn y Gadeirlan. Ond canu ysgafn a aeth â’i bryd yn y diwedd pan gyfarfu â grwp o fyfyrwyr oedd yn ymddiddori mewn canu gwerin a baledi. Dysgodd chwarae’r gitâr, ac fe sefydlwyd Y Perlau maes o law. Gellir rhestru dylanwadau o’r fath ar Myrddin. Parhaodd y “werin dlawd i fyw’n gyfoethog” ymhell i bumdegau a chwedegau’r ganrif, ac roedd Myrddin yn serenu yn eu plith. Daeth o dan ddylanwad y Parchedigion Meirion Lloyd Davies a John Owen ac ymunodd â’r clybiau ieuenctid a’r cwmniau dramâu a sefydlwyd gan y ddau. Meddai lais tenor hyfryd ac yn ddarllenwr sol ffa caboledig. Roedd yna sawl côr yn Llanberis ar y pryd, a mynnai’r arweinyddion gael Myrddin i’w rhengoedd! Yn ifanc iawn, cafodd ei ddyrchafu i “Gôr Mawr” Llanberis, ac fel Rosalind, cafodd y cyfle i ymgodymu â gweithiau’r “Meistri”. Dysgodd rannau tenor y Messiah, Elijah, Y Cread a mwy.

Erbyn y saithdegau, roedd Rosalind yn ddigon hyderus i wynebu sialensau heriol fel unawdydd. Mentrodd gystadlu ar y rhaglen boblogaidd, Opportunity Knocks, a llwyddo i ennill sawl tro a hynny drwy ganu yn y Gymraeg! Yn dilyn y llwyddiant, daeth cyfleoedd i’w rhan ar raglenni HTV Cymru a’r BBC. Erbyn hyn hefyd roedd gyrfa Hogia’r Wyddfa yn ei anterth gyda galwadau am eu gwasanaeth yn dod o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Ond rhywfodd, fe gadwodd y ddau gariad gyda’i gilydd. Symudodd Rosalind a’i rhieni i Lanberis, a sefydlu busnes yn y pentref. Dechreuodd Rosalind a Myrddin ganu gyda’i gilydd fel deuawd Cerdd Dant cyn ymddangos, ar gais y diweddar Rol Williams, i berfformio’n wythnosol yng Ngwesty’r Victoria Llanberis i ddiddori’r ymwelwyr. Gyda Hogia’r Wyddfa yn ymbaratoi i “ymddeol” dros dro, cynyddodd y galwadau am wasanaeth Rosalind a Myrddin. Daeth y ddeuawd yn eithriadol o boblogaidd gan recordio pum record hir a rheini o’r safon uchaf. Cafodd y ddeuawd wahoddiad gan HTV i gyflwyno pum cyfres. Cafodd Rosalind y profiad ychwanegol o gyd-gyflwyno’r rhaglen boblogaidd Sion a Siân gyda Dai Jones. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai i’w mam a’i thad fod o fewn tafliad carreg i warchod y newydd ddyfodiad – Deian.

Yn dilyn ad-drefniant ar lywodraeth leol ym 1974, symudodd Myrddin i weithio ym Mhwllheli gyda Chyngor Dwyfor. Yno y bu’n gweithio ym maes Rheolaeth Datblygu a Chynllunio. Ymhen y rhawg, symudodd y teulu i Bwllheli, a chyn iddynt gael cyfle i drefnu’r tŷ bron, daeth mynych alwadau am eu gwasanaeth o ardaloedd cefn gwlad Llŷn ac Eifionydd. Gyda Hogia’r Wyddfa yn ail afael yn eu gyrfa, daeth cyfle i’r ddau drafaelio gwledydd tramor. Daeth cyfle i ganu yn yr Unol Dalethiau, Canada ac Awstralia, gyda Myrddin yn cael y profiad ychwanegol hynod ddiddorol gyda’r Hogia o ganu yn Nigeria a dwywaith yn Neuadd Albert, Llundain!

Er y cannoedd o gyngherddau a’r miloedd o filltiroedd o drafaelio, mae’r ddau o’r farn mai ym Mhwllheli y cawsant y profiadau mwyaf i’w trysori – Pasiantau Pwllheli – y pasiantau anhygoel rheini a sgriptiwyd gan y diweddar Glyn Roberts, ac a gyfarwyddwyd gan Paul Griffiths, gyda cherddoriaeth arbennig Annette Bryn Parri, gan rannu llwyfan â chantorion ac actorion o fri. Mae’r teulu’n rhan annatod o’r dref erbyn hyn, gyda Myrddin yn ymroi i waith Cyngor y Dref. Erbyn hyn hefyd caiff y ddau ymfalchïo yn eu llwyddiannau, edrych yn ôl ar yrfa ddisglair, ond yn bwysicach na hyn oll, edrych ymlaen at ymweliadau Guto Rhys ac Angharad Wyn i dŷ taid a mamgu! Gorchwyl bwysig yn ddyddiol yw mynd a Plwmsan, y ci, am dro – cerdded milltiroedd o amgylch y dref gan sgwrsio gyda hwn a’r llall!

Dr. Merdydd Evans yn cofio . . .

SHÂN EMLYN

Rydw i am ddechrau trwy adrodd hanesyn i chi am ferch fach, rhyw dair oed, yn Rhydychen a hynny ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei thad yn gweithio yn ffatri Morris Motors fel clarc, a’r fam gartre yn edrych ar ôl y fechan. Un bore cafodd y fam ddamwain yn y tŷ a brifo’i choes ond yn ffodus daeth cymdoges heibio. Yn yr helynt o gynorthwyo, collwyd golwg ar yr hogan fach, a phan ddaeth y tad adre amser cinio, doedd dim golwg arni. Cafwyd hyd iddi wedyn ar y ffordd fawr sy’n arwain o Rydychen i Lundain wrth ymyl ciosg teliffon, ac roedd hi yn y fan honno eisiau dweud fod ei mam wedi’i brifo. Wrth feddwl am y stori yna, daw tri pheth i’r golwg: meddylgarwch, dewrder a phenderfyniad i wneud rhywbeth ymarferol. Dyna Shân.

Tua’r un amser daeth y teulu’n ôl i Gymru, i’r Felinheli, ac ymhen ychydig, roedd Shân yn cystadlu mewn eisteddfodau. Roedd ei mam yn gerddorol ac wedi cychwyn ei gyrfa fel athrawes cerddoriaeth mewn ysgol. Ei thad hi wedyn yn chwarae hefo Band Nantlle er pan oedd o’n hogyn ifanc. Dyna aeth â fo i Rydychen – gweld yn y Bandsman fod isio trombonydd i chwarae ym Mand Morris Motors, a bod na swydd clarc yn mynd hefo’r chwarae trombôn.

Shan Emlyn

Ei mam oedd yn ei hyfforddi ar y dechrau, mewn cerdd dant, unawdau ac adrodd, ac ymhen dim o dro, crwydrai’r ddwy o steddfod i steddfod yn y gogledd. Caffaeliad mawr i Shân hefyd oedd y ffaith ei bod yn byw’r drws nesa i Maimie Noel Jones, a bu Maimie yn gymorth mawr iddi; yn ffrind oes. Erbyn cyrraedd un ar ddeg oed, cystadleuai yn yr eisteddfodau mawr; yn Eisteddfod Lewis’s, Lerpwl, er enghraifft, a thystiodd am y tro hwnnw: ‘Fy solo gyntaf oedd “Hei di ho” gan Haydn Morris, Llanelli’.

Ymhen ychydig wedyn, cystadleuai yn Eisteddfod Bae Colwyn, 1947, gan ennill ar y canu gwerin dan un ar bymtheg oed, a phawb yn rhyfeddu ati ei bod mor ifanc. Yna, flwyddyn yn ddiweddarach, cystadleuodd yr un mor llwyddiannus yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Yn yr Eisteddfod honno hefyd yr enillodd y cystadleydd hynaf ar ganu gwerin ar y pryd yng Nghymru, sef John Thomas, Maesyfedw, a mi hoffwn i fod wedi clywed y ddau yna yn mwynhau cwmni ei gilydd: dau mor hynaws a hyfryd eu natur. Dyna’r flwyddyn, eto, yr enillodd Shân ar ganu gwerin yn Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr.

Erbyn iddi fynd i’r Ysgol Ramadeg, roedd y teulu wedi dod i Bwllheli i fyw. Dyna pryd y daeth Shân gyntaf i gysylltiad â Ceridwen Lloyd Davies, athrawes gerdd amlwg iawn ar y pryd. Mi glywodd hi’r gantores ifanc yn canu yn un o’r eisteddfodau, ac fe’i gwahoddodd i ddod ati i Harlech am wersi canu. O ganlyniad i hynny, mi ehangwyd ei gorwelion cerddorol.

Digwyddodd yr un peth yn yr ysgol ym Mhwllheli, dan gyfarwyddyd yr athro cerdd, John Newman. Dechreuodd Shân ymddiddori mewn oratorio a lieder yn ogystal â chaneuon gwerin ac unawdau steddfod. Agorwyd drysau perfformio eraill iddi hefyd, a chyn bo hir fe’i clywid yn canu ar raglenni radio megis ‘Awr y Plant,’ ‘Aelwyd y Gân,’ ac ati. Mae gen innau gof amdani yn canu ar raglen ‘Y Noson Lawen’ (hithau tua phedair ar ddeg i bymtheg oed ar y pryd) ac yn cynnal cyngherddau dros y Gogledd. Meddai unwaith: ‘Mi wnes i gyfarfod llawer o gantorion enwog fel Nancy Bateman, David Lloyd, Bruce Dargavel, ac yn y blaen.’

Wedyn mi ddaeth y teledu ac rydw i isio darllen stori amdani yn mynd i Lundain i wneud rhaglen deledu am y tro cyntaf:

Un tro mi es i deimlo dipyn yn annifyr. Pymtheg oed oeddwn i
ac yn teithio ar fy mhen fy hun bach i Lundain i gymryd rhan mewn rhaglen deledu am y tro cyntaf. I basio’r amser yn y trên dyma benderfynu cyfrif pob erial deledu rhwng Pwllheli ac Euston, a synnu a rhyfeddu wrth feddwl y buaswn i’n canu mewn cymaint o barlwrs ffrynt y noson honno.

Hefo’r holl gefndir yna, aeth Shân i Lundain yn 1954. Mi fu yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn y fan honno gan wneud llu o gyfeillion newydd; yn eu plith y gantores Gwyneth Jones.

Mi fanteisiodd ar y cyfle hefyd i fynd i bob math ar gyngherdau ac i’r theatrau opera. Bu hi ei hun yn perfformio droeon yn y cylchoedd Cymreig yno ac mewn cylchoedd Seisnig yn ogystal. Yn Gwendolen Mason, cafodd athrawes telyn o’r radd flaenaf, ac yn y Coleg Cerdd rhoed iddi wobr arbennig Julia Leney ar ganu’r delyn. At hyn, galwyd arni i fod yn Ysgrifennydd i Gymdeithas Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn Llundain.

Yn 1958 priododd ag Owen Edwards ac yn fuan wedyn dyma ddechrau magu teulu. Dyna ddiwedd, felly, ar y freuddwyd o fod yn gantores broffesiynol. Fel roedd gwaith Owen yn troi o fod yn berfformiwr teledu i fod yn weinyddwr, deuai galwadau eraill i bwyso arni. Mae’n wir iddi ddal ati i berfformio – Granada, TWW, HTV ac ambell gyngerdd – ond roedd cyfyngiadau pendant ar y canu bellach.

Yn y cyfnod hwn y daeth Phyllis a minnau i’w hadnabod yn dda. Roeddem yn byw o fewn rhyw hanner milltir iddi, a daethom yn dystion i’w chyfraniad helaeth i fywyd cymdeithasol Cymraeg Caerdydd. Wn i ddim faint o bwyllgorau fyddai’n cyfarfod yn ei thŷ. Cefnogai’r cymdeithasau Cymraeg i gyd, yn arbennig felly y Mudiad Ysgolion Cymraeg, yr Ysgolion Meithrin a’r Urdd: rhoes flynyddoedd ac ynni lawer i hybu gwaith yr Urdd bid siwr. Yna bu’n gweithio’n ddygn hefo’r Dinesydd, o ddyddiau ei sefydlu yn 1973 ymlaen, gan ddod yn Olygydd arno dros gyfnod o flynyddoedd. Bu ei chyfraniad yn ddim llai na syfrdanol.

Rhaid sôn yn neilltuol am ddwy gymdeithas a fu’n agos iawn at ei chalon. Y gyntaf ydi Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bu’n aelod selog a brwdfrydig. Ceisiodd a llwyddodd i hybu canu gwerin. Bu’n darlithio ar y pwnc sawl tro; yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas am flynyddoedd, yn Is-Gadeirydd a Chadeirydd arni.

Shan Emlyn

At hynny, pan aeth i’r Wladfa, mi gasglodd alawon gwerin a chaneuon poblogaidd Cymraeg yno. Casglodd lawer ohonyn nhw o ganu Mrs Macdonald (mam Elvey) ac mi gyhoeddwyd rhai o’r rheini yn Canu Gwerin, cylchgrawn y Gymdeithas Alawon Gwerin.

Mae hyn yn ein harwain ni at yr ail Gymdeithas – Cymdeithas Cymru Ariannin. Bu Shân yn Ysgrifenyddes iddi o 1979 ymlaen ac aeth ymhell tu hwnt i gyflawni dyledswyddau ffurfiol Ysgrifenyddes ar ei rhan. Enghraifft dda o hynny oedd ymweliad Côr Esquel â Cymru yn 1997. Roedd o leiaf 30 o aelodau yn y Côr, ynghyd â rhai perthnasau cefnogol, ond doedd hi ddim yn ddigon gan Shân roi croeso ffurfiol iddyn nhw mewn neuadd. Na, roedd yn rhaid eu gwahodd nhw i’w fflat yn Llandaf, a rhoi llond boliau o fwyd iddyn nhw. Mae brwdfrydedd felna yn rhyfeddol.

Mi aeth i’r Wladfa am y tro cyntaf yn 1975, wedyn yn 1979, yn 1981 ac ar achlysuron eraill. Ysai am weld y Wladfa fel ag y mae hi, am ddarllen cynnyrch ei llenorion a gwybod am ei cherddoriaeth. Uwchben ei gwely, gosododd soned gan Irma Hughes de Jones, ŵyres i Gwyneth Vaughan, a bardd da. Dyma’r soned ac roedd ei hergyd yn bwysig iawn i Shân –

 

I GYMRU
Yn fy mreuddwydion, ganwaith crwydrais i
Dy fryniau a’th ddyffrynoedd, ’mlaen ac ôl,
Clywais dy glychau’n canu dan y lli’,
Cesglais dy flodau gwylltion hyd y ddôl;
Gwrandewais gân y fronfraith yn y coed,
Nodau y gwcw a glywais oddi draw,
Teimlais ddaear Cwm Rhondda dan fy nhraed,
Gwelais Eryri yn y niwl a’r glaw;
Yna daw’r deffro; minnau holi wnaf
Ai hud y pellter a’th wna dim mor dlws
Fel pan hiraethaf aeaf am yr haf,
Neu weled gardd drwy wydrau lliw y drws?
Pan ddelo’r dydd i ysgwyd llaw â thi
’Rwy’n erfyn, Gymru fach, na’m sioma i!

 

Deallodd Shân hynny i’r dim, a doedd hi ddim am siomi unrhyw Wladfäwr. Yn niwedd yr wythdegau a’r nawdegau, daeth blynyddoedd llwydion i’w rhan. Ond penderfynodd ail-greu bywyd iddi ei hun. Yn 1992 cefais gais ganddi am lythyr cymeradwyaeth i Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, gan ei bod yn ymgeisio am swydd yno. Rwyf wedi ysgrifennu ugeiniau o lythyrau cymeradwyaeth yn fy nydd, ond ’fu yna’r un erioed mor hawdd i’w sgwennu â hwnnw, a mi roeddwn i’n dweud cant y cant o’r gwir ynddo fo. Bu Shân yn y swydd honno am bum mlynedd, ac fe’i cyflawnodd yn anrhydeddus, fel y gall A.J. Howard Rees, Pennaeth y Ganolfan honno, dystio.

Yn ddiweddar, roedd hi wedi ail-ddechrau ymddiddori mewn teledu, y tro hwn fel ymchwilydd. Yn 1994, mi ddaeth Cwmni Alan Thorrgesson a Chwmni Ffilmiau’r Bont ynghyd i greu rhaglen am Leila Megane, a chan fod Alan a hithau yn nabod ei gilydd yn dda (y ddau yn gyd-aelodau yng Nghapel y Crwys) ac yntau yn gwybod yn burion am ei phrofiad ar deledu a llwyfan, gofynnodd iddi a hoffai hi gydweithio ar baratoi’r rhaglen. Ymatebodd Shân yn frwd i’r cynnig, yn arbennig felly oherwydd ei bod hi ei hun wedi cyfarfod â Leila Megane. Digwyddai’r gantores enwog fod mewn cyngerdd lle’r oedd Shân y unawdydd, ym Mhwllheli, ac ar y diwedd, daeth i du ôl y llwyfan, ei chofleidio’n gynnes, a’i hannog i ddal ymlaen â’i chanu.

Yna, yn ddiweddar, mi glywais gan Hywel Morris ei fod o a Shân wedi bod yn cydweithio ar gyfer syniadau am rai rhaglenni teledu i’w hystyried gan S4C. Roedd dau o’r syniadau hynny yn ymwneud â’r Wladfa – un wedi ei gomisiynu’n frwd – dan y pennawd ‘Nadolig y Paith.’ A Shân ar glawr fel Cynhyrchydd ac Ymchwilydd i’r rhaglen honno.

Dyna hi, y ferch â’i hynni a’i hegni yn byrlymu i’r diwedd. Ond, chwedl hithau, ychydig amser yn ôl wrth Mari: ‘Does gan dy fam fawr o gyfle i neud y ffilm yna.’

Bum wythnos yn ôl, bu Phyllis, John Roberts Williams a minnau yn ei gweld yn Sir Fôn. Roedd asgwrn y meingefn wedi breuo, ond yr un hen Shân oedd hi yng nghanol ei phoen, hefo’r un cynhesrwydd, yr un cyfarchiad siriol a’r un awydd am sgwrs. Teimlem yn galonnog ddigon. Ychydig yn ddiweddarach, cawsom gerdyn Nadolig hefo dim ond un gair arno – ‘Shân’ – ond roedd yr un hen addurn arferol ar yr ‘S’ a’r ‘h,’ yr hunan-fynegiant mor gadarn ag erioed. Ie, yr un hen Shân i’r diwedd. Felly y bydd hi byw yn ein meddyliau ni i gyd.

Gyda diolch i’r Dr. Meredydd Evans am ei ganiatâd parod i gynnwys yr addasiad hwn o’i deyrnged a draddodwyd yn ystod y gwasanaeth yng Nghapel Pen-mount, Pwllheli, ar ddydd Angladd Shân Emlyn, 6 Ionawr 1998.

 

Ôl Nodiad.

Cofiaf am Shân Emlyn yn gyd-ddisgybl â mi yn Ysgol Ramadeg, Pwllheli. Roedd hi’n adeg Etholiad Cyffredinol, a chynhaliwyd Ffug Etholiad yn yr ysgol. Shân Emlyn oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn y Ffug Etholiad, ac ar boster yno ’roedd ganddi’r geiriau, ‘Cofiwch Wlad y Gân, Drwy roddi Fôt i Shân.’

Rhoed gweddillion Shân Emlyn i orffwys ym mynwent Bethel, Penrhos.

Ioan W. Gruffydd.

 

SHÂN EMLYN,
a dylanwad ei gweinidog . . .
MORGAN GRIFFITH (1874-1966)

Shan Emlyn

Pam, meddach chi, bod ambell i berson yn cael y fath ddylanwad ar rywun? Ar wahan i’r cartre a’r teulu fe ddwedwn i mai’r person – wel na – y cymeriad a ddylanwadodd fwya arna i yn fy mhlentyndod oedd fy ngweinidog, y Parchedig Morgan Griffith, Penmount, Pwllheli. Wrth fynd yn hŷn mae’r peth yn mynd yn fwy a mwy o ddirgelwch i mi. Anodd sylweddoli bod yr ‘Hen Forgan’, fel y’i gelwid, yn henwr pan oeddwn yn f’arddegau. Sut nad oedd ’na fwlch cenhedlaeth affwysol rhyngom?

Beth oedd ei gyfrinach? A siarad yn blaen, ’chydig iawn oedd yn gyffredin rhyngom. Roedd o’n cynrychioli i mi fyd crefydd – nid y peth mwya diddorol i blentyn ysgol. Roedd o’n Gymro naturiol ond heb ymddangos fod ganddo fawr o argyhoeddiad. Cofiaf ddadlau’n frwd ag o am yr Eisteddfod Genedlaethol a theimlo i’r byw am na fedrwn ennyn unrhyw fflach o ddiddordeb ynddo. Mewn dadl felly y dywedodd wrthyf bod pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1955 wedi ei amddifadu o weld yr Wyddfa bob bore ac mai gorau po gynted i’r anghenfil ddod i lawr iddo weld ei olygfa yn ôl. Wn i ddim, er iddo fyw dros y ffordd i Faes yr Eisteddfod, wn i ddim a gredodd i groesi’r lôn i weld na chlywed dim o’r Eisteddfod. A minnau’n gymaint o Steddfodwraig – sut y gallwn feddwl y byd o’r dyn yma? Roedd yn hen ŵr yn tynnu at ei bedwar ugain pan ddeuthum i gysylltiad ag o. Yn ôl fy safonau i bryd hynny, doedd o fawr o Gymro chwaith. Gwn yn awr pa mor ragfarnllyd yr oeddwn i ar y cyfnod hwnnw ’toedd Mr. Griffith yn un o selogion y Clwb Golff! Gallech feddwl felly na ddichon dim da. Er y bwlch mewn oedran rhyngom a’n gwahanol ddiddordebau – y fo oedd fy mrenin.

Morgan Griffith

Dim ond mewn dwy ffordd eithafol y gallech chi ymateb iddo fel person – un a’i meddwl y byd ohono a maddau pob math o gamau gwag ar ei ran, neu wfftio at ei ffordd drwsgwl a’i ddawn i fynd dros ben llestri a rhoi ei draed ynddi.

Mae ’na ddau gapel Methodus ym Mhwllheli, sef Penmount a Salem. Salem ar ryw gyfnod oedd y capel split mae’n debyg, ac felly Penmount oedd Eglwys Gadeiriol yr Hen Gorff ym Mhen Llŷn. Cyn i ni fel teulu fudo o’r Felinheli i Bwllheli, cofiaf i Forgan Griffith alw i’n gweld a’n hannog i ymaelodi ym Mhenmount. Roedd ’na goel ym Mhwllheli y byddai Morgan Griffith yn mynd i Stesion Afon Wen i groesawu pobl i Bwllheli a’u cymell i Benmount er mwyn achub y blaen ar Dr. Robert Jones, Salem, a âi i stesion Pwllheli gyda’r un bwriad!

Ar fy liwt fy hun fe awn i bob Seiat a Chylch Trafod yn awchus, i drin a thrafod a mentro i fynegi’n huawdl fy marn anaaeddfed ar bob math o destunau. Cerdded i’r cyfarfodydd a wnawn, ond bron yn ddieithriad cawn bas adre yng nghar Mr. Griffith – a pharhai’r drafodaeth yn frwd. Yn amal, byddwn yn dadlau ac yn cynhyrfu hyd at grio, a phan fyddai’r dadlau’n troi at Gymreictod a chenedlaetholdeb dyna pryd y byddwn ar fy mwyaf dagreuol! Er i mi feddwl, ar adegau fel hyn, ei fod yn bengaled fel mul ac yn ddall bost, ni allwn ddal dig, daliwn i feddwl y byd ohono.

Wrth edrych yn ôl trwy lygaid canol oed cynnar, a gobeithio erbyn hyn trwy lygaid aeddfetach, efallai mai un o’i ragoriaethau oedd bod yn glust i galon ifanc, fympwyol, ac na wnaeth erioed chwerthin am fy mhen na gwneud imi deimlo nad oedd yn fy nghymryd o ddifri.

Fel pregethwr roedd o ar ’i ben ei hun. Yn amal, byddai’n llorio ei gynulleidfa gan ei huodledd a’i angerdd. Wrth bregethu tynnai ei sbectol oddi ar ei drwyn – cymryd saib – rhoi’r sbectol yn ei châs, ei rhoi yn hamddenol a gofalus yn ei boced a’r saib yn parhau. Edrychai’n fygythiol a’i aeliau gwyn yn crychu, ar ei gynulleidfa. Yna wedi cryn ddistawrwydd – tynnu’r câs sbectol o’i boced a gosod y sbectol yn ôl ar ei drwyn ac yna mewn ychydig eiliadau sigo’r gynulleidfa a’i barabl. Pan ddechreuai defod y sbectol, byddwn ar bigau’r drain ac yn aros yn awchus am y geiriau a ddilynai. Cofiaf ambell i wasanaeth Cymun yn nhrymder gaeaf – sŵn y gwynt yn rhuo a chysgodion dros y capel, y capel yn ddistaw fel y bedd a llais Morgan a’i eiriau’n llythrennol yn creu awyrgylch o ofn.Y cyfan a deimlwn oedd ei fod yn sôn am rywbeh mawr, na wn i hyd heddiw ei hyd na’i led. Dro arall, fe ai drwy’r un ddefod o ddiosg a chadw a gwisgo ei sbectol. Yna wedi saib hir, caeai’r Beibl yn glep – edrych ar y gynulleidfa a chyhoeddi ‘ddaw hi ddim gyfeillion’ a byddem yn ôl yn y tŷ o fewn hanner awr.

Cofiaf un nos Sul, yn dilyn wythnos go stormus rhyngom, iddo bregethu nad oes raid i bobl gael yr un daliadau a’r un agweddau tuag at bynciau i fod yn gyfeillion mawr. Medda fo ar ei bregeth ‘Na chi Shân ‘ma a finna – ffraeo dadlau rydan ni rownd y ril – ond mi rydan ni yn dipyn o ffrindia yn tydan Shân?’ Yn ferch tua pymtheg oed, sut oedd rhywun i ymateb o lawr Penmount – dyna un tro nad allwn ei ateb yn ôl!

Dyn yn ymddwyn ac yn ymateb yn reddfol oedd Morgan Griffith. Rhoi ei draed ynddi? Byddai yn amal ac yn sathru cyrn fel wn i ddim be. Un elfen gyffredin rhyngom oedd bod ei deulu o a minnau o Ddyffryn Nantlle ac fe hoffai daro heibio i’n tŷ ni a chael sgwrs â nhad am ‘Y Dyffryn.’ Atgofion pleserus iawn oedd gen innau am y troeon y byddwn yn taro heibio i Wilton – cartre Mr. a Mrs.Griffith. Awn yno’n ddirybudd, dim ond cnocio’r drws, sefyll a chael fy ngwadd i’r stydi. Gwnawn hyn yn blentyn ac wedi mynd i’r coleg, rhaid fyddai mynd yno i ddweud fy mod yn ôl ar wyliau ac yno drechefn i ffarwelio cyn troi’n ôl ar ddechrau tymor. Os mai defod y sbectol sy’n aros yn y cof ohono ym Mhenmount, defod debyg a ddaw i’m meddwl wrth ei gofio’n eistedd o flaen y tân yn ei stydi. Defod y cetyn oedd honno – gyda’r un manylder y tynnai’r baco o’r pwrs, llenwi’r cetyn yn hamddenol gan wthio’r baco i’r cetyn â’i fawd, yna tanio matsian a thynnu a thynnu nes llenwi’r stydi â mwg. Wrth sgwrsio byddai’r hen getyn yn diffodd o hyd a byddai wedi cynnau matsian ddegau o weithiau tra byddwn yn ei gwmni.

Fe allwn adrodd llawer stori am ei gamau gwag a’i ddull dihafal o roi ei draed ynddi, ond mae gormod o gymeriadau’r straeon hynny yn dal i gerdded strydoedd Pwllheli. Er imi fod wrth draed Morgan, fy Ngamaliel, nid oes gen i ei athrylith hoffus na’i ddireidi rhyfygus i sathru cyrn heb adael briw!

Erthygl a ymddangosodd yn BARN ym 1978

 

Ioan W. Gruffydd yn cofio ...

JOHN ROBERTS [SIÔN LLEYN]

Prin yw’r wybodaeth sydd wedi goroesi am John Roberts (Siôn Lleyn) (1749 – 1817) ac mae hynny’n drueni, gan ei fod – o’r ychydig wybodaeth a feddwn amdano – yn amlwg yr ŵr a wnaeth gryn gyfraniad yn ei ddydd. A gall tref Pwllheli ymfalchïo o fod wedi cael y fath berson i fod yn un o’i chyn-drigolion. Disgrifir Siôn Lleyn fel bardd, athro ac arloesydd crefyddol.

Ganed ef yn Chwilog Bach, nid nepell o’r Lôn Goed yn Eifionydd. (Myn eraill mai yn Traian, plwyf Llanarmon y ganed ef). Yn gynnar iawn yn ei fywyd yr oedd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth, a chyn ymadael ag Eifionydd, yr oedd wedi cyfansoddi cerdd ar y testun, Barn Duw.

Robert Raikes

Wedi priodi, mae lle i gredu iddo fod yn byw o 1771 i 1776, (a hwyrach hyd 1788), yn Nhy’n-y-creigiau, Boduan, a datblgu fel cymeriad crefyddol. Byddai’n pregethu, a rhoes gymorth i sefydlu capeli yn Abererch ac yn Rhydyclafdy. Tua 1791, symudodd i fyw i Bwllheli, gan ymsefydlu yn Penhighgate, Penrallt. Bu’n athro ysgol yn y dref, a chyfeirir ato fel Ysgol-feistr. Mae sôn fod gofal achos y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Deugorn, ger Dyneio, erbyn 1781 yn nwylo Siôn Lleyn. Y gŵr sy’n cael y clod am fod yn ‘sylfaenydd’ mudiad yr Ysgolion Sul yn Lloegr yw Robert Raikes. Yr oedd Siôn Lleyn, fodd bynnag, wedi gwneud hynny o’i flaen ym Mhwllheli. Dechreuodd gadw Ysgol Sul ym Mhendalar, bwthyn nid nepell o’i gartref. Yr oedd yn un o sefydlwyr achos y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Penmount, Pwllheli, ac yn flaenor yno, ac mae’n debyg iddo ffurfio Ysgol Sul yno hefyd.

A gwnaethai hynny cyn i Thomas Charles, yntau, sefydlu ei Ysgolion Sul yng Nghymru.

Thomas Charles 

Thomas Charles

 

Yr oedd Siôn Lleyn, y mae’n amlwg, yn gryn arloesydd crefyddol yn ei hawl ei hun, a gall tref Pwllheli fod yn falch ohono.

Yr oedd Siôn Lleyn yn gyfaill ac yn ddisgybl barddol i David Thomas, Dafydd Ddu Eryri, a bu cryn ohebu rhyngddynt.

Dafydd Ddu 

Dafydd Ddu Eryri

 

Yr oedd Dafydd Ddu Eryri yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro ac yn un oedd yn hybu safonau barddoniaeth gan ddysgu llu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn Llanrug. Bu farw trwy foddi yn Afon Cegin ar noson ystormus, 30 Mawrth, 1822; cafwyd hyd i'w gorff drannoeth yn ymyl y sarn yr oedd yn ceisio’i chroesi. Mae’r bardd, R. Williams Parry’n cyfeirio ato yn ei soned, Ymson Ynghylch Amser, yn Cerddi’r Gaeaf:

Hon ydyw’r afon, ond nid hwn yw’r dŵr   
A foddodd Dafydd Ddu. Mae pont yn awr
Lle’r oedd y rhyd a daflodd yr hen ŵr
I’r ffrydlif fach a thragwyddoldeb mawr.

Yn Adgof Uwch Anghof, sef Hen Lythyrau, cafodd peth o’r gohebu hwnnw oedd yn digwydd rhwng y beirdd ei ddiogelu. Tua 1802, yr oedd Siôn Lleyn wedi cyhoeddi cerdd i goffảu Robert Roberts, ‘Y Sgolor Mawr,’ Maen o Goffadwriaeth sef Marwnad ar Farwolaeth Robert Roberts, Clynnog . . . a hunodd Tachwedd 29, 1802, yn 40 ac a gladdwyd yn Clynnog. Mae’r gerdd honno o’i eiddo’n dechrau â’r geiriau:

Pa fodd y ffurfiaf fy ngalarnad,
Pwy am dysg i redeg pin?
Pe cawn dafod, iaith a meddwl;
Ni wnai’r cwbl ond yn brin’
Seren fawr o’n gwydd ymguddiodd,
Haul fachludodd hanner dydd,
ROBERT ROBERTS roed mewn amdo,
Mawr yw swm yr wylo sydd.

Yn Adgof Uwch Anghof,  mae Dafydd Ddu Eryri’n ysgrifennu at Siôn Lleyn, ac yn dweud: “Gwelais eich Marwnad ar ôl Robert Roberts yn yr Argraphdy yng Nghaernarfon. Nid wyf yn ei chymeradwyo yn y mesur lleiaf, ond y ymwrthod â hi yn gyfangwbl. Mae hi yn llwyr groes i reol Marwnad . . .  Yr ydych yn arfer Troellau-ymadroddion a ffugrau anaddas i’r Testyn. Llais galar, cwynfan a cholled yw’r cwbl oll sydd yn angenrheidiol mewn Marwnad, a dadgan hynny yn y modd mwyaf naturiol a theimladwy ag y gellir. Os troseddwch y rheol hon, ymddengys mai canu wrth nerth celfyddyd yr ydych ac nid oddiar deimlad o golled ac amddifadrwydd.”  Mae’n mynd ymlaen i egluro bod angen bod yn syml iawn mewn cerdd o’r fath.

Yn Cyhoeddiadau Cymdeithas y Gwyneddigion 1801, ceir ‘Awdyl’ o waith Siôn Lleyn. Yn 1815 ymddangosdd ei Caniadau Newyddion. Y mae’n awdur rhai emynau hefyd. (Gweler adran Cerddi’r Wefan hon).
Mae Charles Ashton yn cyfeirio yn ei Hanes Llenyddiaeth Gymreig O 1651 O.C. hyd 1850, at bamffled a gyhoeddwyd yn Nolgellau, dan yr enw  ‘Caniadau Moesawl a Difyr,’ fel gwaith Siôn Lleyn. Credir, fodd bynnag, fod y rhelyw o gerddi’r bardd yn parhau mewn llawysgrif ac heb eu cyhoeddi.

Yr oedd y bardd, Siôn Wyn o Eifion (John Thomas) (1786 – 1859), yn nai i Siôn Lleyn - ei dad oedd Thomas Roberts , brawd ‘ Siôn Lleyn .’  
Yn ‘Gardd Eifion’ (a gyhoeddwyd yn Nolgellau ym 1841) mae marwnad i Siôn Lleyn gan Robert ap Gwilym Ddu. (Gweler adran Cerddi’r Wefan hon).

Bu Siôn Lleyn farw ar Fai 7, 1817, a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Dyneio ym Mhwllheli.

 

Ioan W. Gruffydd y cofio'r cyfreithiwr a'r bardd . . .

THOMAS JONES, CYNHAIARN (1839 - 1916)

Fel ei dad a'i fam, John a Jane Jones, Pen-lôn, Pwllheli, un o blant y dref oedd Thomas Jones, (Cynhaiarn) yntau. Merch Tyddyn Drain, Pwllheli, oedd ei fam. Ganwyd Thomas ar Chwefror 10, 1839, a derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol ddyddiol Penlleiniau. Yn weddol ifanc, aeth i swyddfa Ebenezer Morris Roberts, y cyfreithiwr, a mab y gweinidog enwog, y Parchg. Michael Roberts. Yn 13 mlwydd oed, symudodd i Borthmadog i swyddfa John Humphrey Jones i'w gymhwyso'i hun yn gyfreithiwr, ac ym 1867, yr oedd wedi gorffen yr hyfforddiant hwnnw. Bu wedi hyn yn gofrestrydd llys sirol ym Mhorthmadog a Ffestiniog , ac yn glerc Cyngor Cricieth. Yn wleidyddol, Ceidwadwr ydoedd, ac o ran crefydd, yr oedd yn aelod gyda'r Annibynnwyr. Mae'n cael ei adnabod yn bennaf fel bardd. Yr oedd ar ei orau mewn darnau byrion, yn enwedig mewn dychangerddi. Enillodd dychangerdd o'i waith wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl ym 1892 . Yr oedd yn feistr hefyd ar yr englyn. Dywedodd yr Athro R.T.Jenkins amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig, fod llawer o'i farddoniaeth "mewn cylchgronau, ond yn ôl pob tebyg erys llawer o'i waith heb ei gyhoeddi oherwydd ei natur ‘rabelaisaidd’. Yn ystod ei ieuenctid bu'n perthyn i'r cylch llenyddol a arferai grynhoi o gylch Ellis Owen o Gefn-y-meysydd . Casglodd a chyhoeddodd weithiau barddonol Ioan Madog ym 1881. Bu farw ar fore Sul, Hydref 22, 1916 , a chafodd ei gladdu yn ei fro enedigol ym mynwent Deneio, ym Mhwllheli .

Arthur Meirion Roberts yn cofio . . .

THOMAS ROBERTS LLWYNRHUDOL, PWLLHELI.
(1765/6  -  1841)

Cymeriad diddorol o’r cylch oedd Thomas Roberts – pamffledydd radicalaidd a ffrind gwerinos Cymru. Cyfreithwyr yn y dref ydoedd ei dad, William, a’i frawd hynaf Ellis, ond prin iawn yw’r wybodaeth am ddyddiau cynnar T.R. Gwyddom iddo adael ei gartref yn 14 oed a threulio gweddill ei oes yn Llundain bell. Ac eto heb anghofio ei dras; bu'n ymwelydd cyson, efo’i deulu a Gwynedd.

Yn Llundain, bu’n brentis gofaint aur, yn ôl yr hanes, a datblygu’n ddyn o beth cyfoeth a dylanwad. Ond rhannau eraill o’i fywyd sydd o ddiddordeb. Roedd Llundain, bryd hynny, yn ferw o Gymry talentog, gweithgar, a bu T.R. yn amlwg ymhlith y cymdeithasau Cymraeg a Chymreig, yn enwedig gyda’r Cymreigyddion a’r Gwyneddigion. Bu Cymry Llundain bryd hynny yn casglu a chyhoeddi testunau hynafol Cymraeg (oedd wedi eu hanwybyddu) ac yn cynnal cyfarfodydd bywiog, cyson, ac yn cefnogi cysylltiad â chylchoedd Celtaidd eraill. Bu T.R. ei hun ar daith yn Llydaw mor fuan â 1820.

Dyma gyfnod darganfod Cymru gan ymwelwyr - twristiaid newydd o Loegr wedi dod i weld ‘Wild Wales’ – a bu T.R., er yn cydnabod nad llenor mohono, yn paratoi a chyhoeddi llyfr taith a geiriadur iddynt er mwyn gofalu eu bod yn dysgu peth am iaith a hanes Cymru.

On  Ond hawlia T.R. ein sylw heddiw yn arbennig am ei lyfryn Cwyn yn Erbyn Gorthrymder a gyhoeddodd ym 1798 – “ er mwyn gwerinos Cymru.” Yn ôl rhai haneswyr, dyma’r datganiad mwyaf radical, jacobiniadd a Chymreig a ddaeth o’r cyfnod. Dwyn sylw at anghyfiawnder mawr treth y degwm ydoedd – a hyn eto ymhell cyn cyfnod rhyfel y degwm yng Nghymru’r ganrif ddilynol. Treth drom ydoedd i gynnal Eglwys Loegr – a rhan helaeth o deuluoedd Cymru wedi gadael yr ‘Hen Fam’ a throi at y capeli ymneilltuol. Gelynion T.R. oedd yr esgobion a’r personiaid balch – ond y Methodistiaid hefyd am eu llonyddwch llwfr. Siaradai yn blaen am faterion eang megis sarhad yr iaith Gymraeg yn y llysoedd, ac unrhyw anhegwch i’r werin bobl. Ei elynion, meddai, oedd y ‘Doctoriaid, y Cyfreithwyr, a’r Personnau”! “Ni fedraf mor ddeall paham na chawn ni gyfreithiau yn ein hiaith ein hunain”, meddai mor bell yn ôl â 1798. Nid ar fater y Degwm yn unig oedd ef yn ddyn o flaen ei oes. Galw Cymru o’i thrwmgwsg yr oedd.

Er iddo dreulio ei oes ymhell o’i wlad enedigol, daliodd i ymladd am gyfiawnder i iaith, diwylliant, crefydd ac angen pobl Cymru. Ei brif neges, hyd heddiw, yw’r angen i ymladd anghyfiawnder – ple bynnag y’i ceir.

Yn briodol claddwyd T.R., ar ei farwolaeth yn 76 oed, ym mynwent Bunhill Fields yn y Brifddinas gyda Chymry adnabyddus, ac eraill megis Vavasor Powell, y Dr. Richard Price, William Blake a John Bunyan.

   Am ragor o wybodaeth, cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, ddarlith –
Thomas Roberts, Llwynrhudol a’i Gyfnod – yn 2006.

 

Y Parchg. John Roberts yn sôn am . . .
.
Y Parchg W.T. Ellis, B.A., B.D.

Dechreuodd stori bywyd y Parchg. W.T. Ellis ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1871. Bu farw ei fam yn gynnar a chan fod y tad ar y môr, chwalwyd y plant yma ac acw i’w magu. Cafodd ef ei hun mewn siop groser yn y dref, ac yno’r arhosodd am gyfnod o chwe blynedd. Byddai’n hawdd dychmygu amdano’n dyfod yn fasnachwr llwyddiannus pe bai wedi glynu wrth y gwaith hwnnw ym Mhwllheli gynt. Fodd bynnag, cefnodd ar y siop ac aeth yn ôl i’r ysgol.

Treuliodd flwyddyn yng Nghlynnog a dwy flynedd yn y Bala. Symudodd o ysgol i goleg a bu yng Ngholegau’r Brifysol ym Mangor am flwyddyn ac yn Aberystwyth am ddwy flynedd. Bu dan athrawiaeth Syr John Morris Jones yn y naill le, a than Syr Edward Anwyl yn y llall. Dechreuodd gael blas ar ysgrifennu, a chafodd gymeradwyaeth Syr O.M. Edwards am storiau yn Y Cymro. Enillodd gadair Eisteddfod y Brifysgol ddwy flynedd yn olynol – ym 1897 a 1898 – am bryddestau ar  “Y Cartref,” a “Deigryn.” Bu yng Ngholeg Diwinyddol y Bala am dair blynedd, a chariai ysgoloriaeth Pierce ymhlith ysgoloriaethau eraill drwy’r cyfnod hwn. Yr oedd ymysg y to cyntaf i ennill gradd B.D. Cymru. I goroni ei gwrs addysg, aeth i brifysgolion Bonn a Berlin. Yno cafodd gyfle i glywed  Dr.Adolf Harnack yn darlithio, a rhoes gryn sylw i’r gwaith o addysgu plant yn y cyfnod hwn.

Ei ofalaeth gyntaf oedd Aberllefenni. Priododd ag eglwys a phriododd wraig tua’r un adeg.Ni chafodd gweinidog erioed briod a fu’n fwy o gymorth iddo na’r Parchg.W.T. Ellis. Fel y dywedodd ef ei hun mewn coffâd am briod cyfaill iddo, gellid dweud yr un geiriau am ei briod yntau, “Bu hi’n ffyddlon iddo ym mhob tywydd, a medrai ei drin ym mhob tymer a’i daliai.” Rhagflaenodd hi ef yn Chwefror, 1947.
Wedi dewis megis Mair.
Hunodd heb ddwedyd anair.

Dwy flynedd yn unig yr arhosodd yn Aberllefenni. Derbyniodd alwad i’r Garth, Porthmadog, ym 1945. Bugeiliodd yr eglwys honno, (gan gymryd gofal yr eglwys Saesneg ym Mhorthmadog hefyd ym 1911), am gyfnod o 32 o flynyddoedd. Dyma bennod fawr ei fywyd. Rhoes ei wasanaeth yn gydwybodol i’w eglwysi, ac fel y dywedid amdano pan ddathlwyd canmlwyddiant “Y Garth” ym 1946, “Ni bu bugail erioed yn gwylio’i braidd yn fwy gofalus ac ni chafodd eglwys ei sicrach fel arweinydd.” Ni chyfyngodd ei lafur yn unig i eglwysi ei ofal. Bu’n arweinydd ym mywyd y dref, Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, a’r Cyfundeb yn gyffredinol. Bu’n ysgrifennydd y Gronfa Ganolog dros ei Gyfarfod Misol am dair blynedd ar ddeg.Yr oedd y aelod arhosol o bwyllgorau pwysig, a bu’n llywydd ei Gyfarfod Misol.  Paratôdd  12 o werslyfrau ar gyfer gwaith yr Ysgol Sul. Dewiswyd ef yn arholwr Cymdeithasol, a thraddododd y Cyngor yn Sasiwn Ordeinio Dolgellau ym 1938. Etholwyd ef yn llywydd Pwyllgor yr Athrofa Unedig, ac ef oedd Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd am 1944.

Yr oedd ganddo gryn ddawn i ysgrifennu Cymraeg graenus, a gwelwyd ei ysgrifau ar dudalennau Cylchgronau’r Cyfundeb lawer gwaith. Darllenwyd ei waith gyda boddhad gan bawb, Gallai adrodd stori’n fyw iawn mewn print. Lluniai benawdau bachog i’w ysgrifau yn Y Goleuad, megis, I want to see the wheels Mammie. Dywedodd bethau a blas proffwydol arnynt ambell dro, fel y gair hwn o’r ysgrif dan y teitl a nodwyd yn awr, “Rhyfedd  ac ofnadwy ydyw’r olwynion y cerdda rhyfel arnynt. Pe gwelai’r wlad y buddiannau pwdr sy’n ceisio gwthio’r gwledydd i anghytuno ac i ryfela, ni chanai hi fwy ar glodydd rhyfel nag ar glodydd putain.”

Daeth y wlad i wybod am ei ddawn awenyddol, pan enillodd ar yr englyn, “Y Gloch,” yn Eisteddfod Genedlaethol 1946 yn Aberpennar:

Llon gennad llan ac annedd, a dawnus
Ledaenydd gorfoledd;
Geilw at Iôn wreng a bonedd,
A dilyn bawb hyd lan bedd.

Cafodd ei gywydd moliant i Ddyffryn Madog safle anrhydeddus yn Eisteddfod Bae Colwyn, 1947. Cymerai ddiddordeb yn y ddrama, a bu bri ar chwarae ei ddrama hanes, Esther.

Daeth yr alwad iddo ef yn gynnar fore Mercher, Mawrth 3, 1948 – galwad mor ddisymwth ag a ddaeth at ei annwyl briod dri mis ar ddeg yn flaenorol.

Y gwanwyn a dramwyai mewn sidan di-ystaen,
Dros drothwy’r dydd fe seiniodd ei glychau clir  ar daen,
Ond nid oedd ganddo ddawn na nerth
I ddeffro un yng Nghlog y Berth.

Ni fynnai’r Hen Weinidog wrando ei alwad gref,
Cans canai clychau gwanwyn hyfrytach iddo ef,
A’i ddenu draw a wnaethant hwy,
At Un a’i gadodd gynt dan glwy.

Pryderi Llwyd Jones yn cofio am ...

YR ATHRO J.R. JONES - Athronydd, Cenedlaetholwr, Heddychwr

J R Jones

Mae ei enw ar gofeb yn Stryd Penlan, Pwllheli, ac ar garreg fedd ym mynwent Dyneio, Pwllheli, ac os bu’r enw J.R. Jones yn enw cyffredin yng Nghymru, dim ond un Yr Athro J.R. Jones sydd. Gall Pwllheli fod yn falch iawn ohono: Athronydd. Cenedlaetholwr. Heddychwr. Dyna sydd ar ei garreg fedd. Wiliam a Kate oedd ei rieni, ac yn byw yn Rhondda Temperance, Stryd Penlan, nid nepell o Liverpool House, lle ganwyd Cynan, wrth gwrs. Roedd ganddynt ddau o blant, John a Mary. Ganwyd John ar Fedi 4, 1911, a chydag enw fel John Robert Jones, efallai ei fod wedi cael ei alw (yn Ysgol Troed yr Allt ac yna yn Ysgol Ramadeg neu Ysgol Sir Pwllheli) yn Sion, neu Robin neu Bob neu JR neu John Robat y Rhondda. John ydoedd i’r teulu. Ond fe ddaeth i gael ei adnabod fel J.R. Jones - yr Athro J.R. Jones. Er iddo fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi iddo gael dosbarth cyntaf mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, rhoddodd ei fryd yn llwyr ar athroniaeth, ond nid oherwydd iddo golli ei ffydd. I’r gwrthwyneb, dyfnhau wnaeth ei ffydd, ac fe barhaodd yn aelod ffyddlon o’r eglwys ac yn bregethwr cynorthwyol ar hyd ei oes. Bu’n Athro Ysgol Sul i oedolion yn Eglwys Y Triniti, Abertawe hefyd. O Aberystwyth aeth i Goleg Balliol yn Rhydychen, lle’r enillodd radd D.Phil. Priododd â Julia Roberts o Nefyn ym 1943. Diolchwn i'w hunig ferch, Betsan, am y lluniau o'i thad.

J R Jones a'i fan
Y plentyn J.R. Jones efo’i fam y tu allan i Rhondda Temperance, Pwllheli

Penodwyd ef yn ddarlithydd yn ei hen goleg yn Aberystwyth, cyn ei benodi’n Athro Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Abertawe ym 1952, ac yno y bu nes ymddeol. Bu farw ar Fehefin 3, 1970 yn Abertawe, a’i gladdu ym Mynwent Dyneio, Pwllheli, yn yr un bedd a’i fam a’i dad, ac yno y claddwyd ei briod, Julia, yn ddiweddarach. Yno hefyd y claddwyd llwch ei chwaer, Mary.

Ar bapur, mae’n fywyd tawel academaidd, athronydd llwyddiannus a meddyliwr mawr, ac o edrych ar restr ei gyhoeddiadau (yn lyfrau ac erthyglau) mae tua 50. Cafodd y cyfle a’r amser i ysgrifennu a myfyrio yn ei stydi. Ond fe fyddai meddwl hynny yn gamgymeriad mawr ac yn gam â J.R Jones. Nid gŵr y Tŷ Ifori mohono.

y teulu
Dr. J.R. Jones a'i chwaer, Mary, gyda'u rhieni

Gan iddo farw dros ddeugain mlynedd yn ôl, nid yw enw J.R. Jones i’w glywed mor aml ag ydoedd yn y 60au a’r 70au o’r ugeinfed ganrif. Ond bu ei ddylanwad yn fawr iawn, nid yn unig yn ei faes fel athronydd enwog (ac y mae llyfrau wedi eu hysgrifennu am ei athroniaeth a’i ddylanwad fel athro) ond hefyd ei ddylanwad mawr ar y deffro cenedlaethol yng Nghymru. Er yn eiddil o gorff ac yn ŵr gostyngedig ac addfwyn, yr oedd angerdd a dwyster mawr yn ei argyhoeddiad, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth y 60 a’r 70au. Fel Cristion ac athronydd bu’n lais a roddodd ddehongliad i’r geiriau ‘argyfwng gwacter ystyr ein hoes’. Fel Cymro bu’n broffwyd a roddodd gyferiad i genedlaetholdeb Cymreig a Chymraeg yng nghanol dylanwad mawr Prydeindod. Ac fel Heddychwr gwnaeth y ffordd ddi-drais yn weledigaeth o rym cariad a heddychiaeth mewn bywyd. Dyna paham yr oedd arweinwyr cynnar Cymdeithas yr Iaith, awduron, pregethwyr, ymgychwyr heddwch a gwleidyddion yn barod i’w ddyfynnu ac i wrando arno. Yn y cyfarfod i ddadorchuddio’r gofeb yn stryd Penlan, Pwllheli, ym 1988, Emyr Llewelyn a soniodd am ei weledigaeth angerddol. Pwy sy’n hidio am ddadleuon a rhesymeg JR Jones? meddai, sgerbwd marw yw’r rheiny o’u cymharu ag anadl einioes ei weledigaeth. Go brin y gellid galw ei athroniaeth yn sgerbwd marw (di-brisio athroniaeth yw hynny, ac fe fyddai JR yn wfftio’r fath ragfarn ac anwybodaeth!) ond ni fyddai neb yn anghytuno â’r sôn am ‘anadl einioes ei weledigaeth’. A’r Dr. Meredydd Evans ddywedodd amdano, ni phetrusodd rhag traethu ei farn yn hollol ddiflewyn ar dafod. Dadleuodd dros hedddychiaeth a hynny weithiau ar adegau anodd; heriodd uniongrededd diwinyddol ei ddydd yn hollol ddi-amwys…bu’n amddiffynnydd dygn i rai o aelodau dirmygedig Cymdeithas yr Iaith. Nid oedd ganddo ofn cyflwyno safbwyntiau amhoblogaidd ac ni faliai yr un botwm corn am ddod ymlaen yn y byd.

Dr. J R Jones
Dr. J.R. Jones, newydd ennill
ei M.A.

Nid dyma’r lle i fanylu ar ei feddwl a’i waith ond rhaid enwi’r gyfrol, Ac onide, sydd yn cynnwys traethodau fel Yr angen am wreiddiau, Argyfwng Crefydd Swcwr, Y synaid o genedl ac I ti y perthyn ei ollwng. Bu farw J.R. Jones ym 1970 yn 59 oed, ac yr oedd ei farw cynnar yn golled aruthrol i Gymru a oedd angen arweinaid ac ysbrydoliaeth y Proffwyd o Bwllheli.

Talfyriad o sgwrs a draddodwyd ar 'Utgorn Cymru' (Canolfan Uwchgwyrfai)

 

ER COF AM FY NGHYFAILL
YR ATHRO J. R. JONES

(fel eu traddodwyd ar ddydd ei angladd
Yng Nghapel Penmownt, Pwllheli)

Wr eiddil gwelw ei ruddiau, - Athronydd,
Meithrinwr meddyliau;
Dringodd ym mrwydr ei angau
Yn fur dros ei bur hoff bau.

I Gymru’n deyrngar, trosti bu’n barod
I droi, yn aberth i’r drin, ei wybod;
A dioddef amarch wrth rymus warchod
Hyder yr ifanc a’u beiddgar drafod;
Er dwndwr hen Brydeindod, - ni syflai,
Yr Iaith a wardiai rhag tranc merthyrdod.

Tristwch y gwacter ystyr
Oedd boen i’w brynhawnddydd byr;
Yn y frwydr ar Galfari
Gwelai uno’r Goleuni;
Iddo ef Gallu’r Nefoedd
      Musterum tremendum oedd.

Er yr archoll, o chollwyd – ei haul ef,
Y lamp ni ddiffoddwyd;
Erys yn hir eirias nwyd
Ein dewraf, braffaf broffwyd.

Gwyndaf