Mudiadau

 

Cliciwch ar y pennawd er mwyn cael mwy o wybodaeth

CLWB Y BONT, PWLLHELI
Bu’r Cynghorydd Ioan Gruffydd yn holi’r Cynghorydd Elfed Gruffydd ynghylch dechreuadau a hanes sefydlu CLWB Y BONT ym Mhwllheli – y Clwb hwnnw sy’n cyfafod yn fisol dros dymhorau’r hydref a’r gaeaf.

Gwahoddir gwragedd yr aelodau ar adeg dathlu’r Nadolig a Gŵyl Ddewi.


I.G.: Pryd y sefydlwyd Clwb y Bont ym Mhwllheli, a chan bwy?
E.G.: Cyfarfyddodd criw bychan yng Ngwestry’r Goron, Pwllheli yn 1976 i drafod sefydlu clwb / cymdeithas ar gyfer dynion yn ardal Pwllheli. Ymhlith y rhai yno oedd Gwyndaf Jones (perchennog y Goron) Huw Pierce Jones, Dewi Williams, Dic Parry, Aled Griffiths, Meirion Lloyd Davies, Tom Roberts, Cyril Jones Evans, Tony Davies a minnau.

I.G.: Beth oedd yr ysgogiad a'r weledigaeth?
E.G.: Awydd i gymdeithasu. Roedd mudiadau trwy gyfrwng y Saesneg i ddynion yn ffynnu y pryd hynny a’r gobaith ar y cychwyn gan rai oedd y byddai’n cychwyn ar rwydwaith o gymdeithasau tebyg trwy Gymru. Roedd yr enw a ddewiswyd yn awgrymu’n gryf yr awydd i bontio.

I.G.: Ai yn y Clwb Golff, lle mae’r Clwb yn cyfarfod heddiw, y bu'r man cyfarfod o'r dechrau?
E.G.: Fel y sonnir uchod, cychwynnodd yn y Goron. Bu hefyd yng Ngwesty’r Tŵr.

I.G.: Sut y cynhullwyd yr aelodau cyntaf oll?
E.G.: Dim trefn bendant – ac unwaith y rhoddwyd cychwyn arno byddai dynion yn gwneud ymholiadau.

I.G.: A fu siaradwyr gwadd o'r dechrau'n deg?
E.G.: Dyna’r drefn. Bu cyfnod hefyd o noddi cystadleuathau Siarad Cyhoeddus ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Byddai Helfeydd Trysor blynyddol yn boblogaidd iawn. Noddwyd cystadleuthau mewn Eisteddfodau Cenedlaethol a Chenedlaethol yr Urdd a Gwyliau Cerdd Dant pan gynhelid hwy’n lleol. Noddir unigolion yn gyson.

I.G.: Sut y trefnwyd y darlithoedd gwahanol?
E.G.: Roedd y ddarlith flynyddol ar y rhaglen o’r cychwyn cyntaf. Costau argraffu yw’r prif reswm pam nas cynhelir hwy bellach

I.G.: A oes wybodaeth am y darlithoedd a’r darlithwyr ar gael?
E.G.: Oes, dyma’r rhestr:

DARLITHOEDD CLWB Y BONT PWLLHELI

1977 Hen Bwllheli
Dafydd G. Lloyd Hughes allan o brint

1978 O Bwllheli i Ben Draw’r Byd
Aled Eames allan o brint

1979 Prentisiaeth Wleidyddol Lloyd George a Phwllheli
Emyr Price

1981 Cynan: Y Llanc o Dref Pwllheli
Bedwyr Lewis Jones allan o brint

1982 Yn ôl i Lŷn ac Eifionydd
Gruffudd Parri allan o brint

1983 Morgan y Gogrwr
Harri Parri allan o brint

1984 Canu Gwerin Llŷn ac Eifionydd
Meredydd Evans

1985 Mynd a Dod ar Benrhyn Llŷn
E.J. Griffith allan o brint

1986 O Ynys Enlli i Ynys Cynhaearn
Elis Gwyn Jones

1987 Pwllheli a’r Eisteddfod Genedlaethol 1875, 1925,1955
Hywel Teifi Edwards

1989 Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn
Robin Gwyndaf

1990 Llŷn Drwy Ffenestri Cefnamlwch
Ioan Mai Evans

1991 Ar Hyd Ben ’Rallt
Elfed Gruffydd allan o brint

1992 Carchar, Nid Cartref
Geraint Jones

1993 Teulu Madryn
Trebor Evans

1994 O Waelod y Sach
Griff Harris

2001 Wedi’r Brifwyl
Dr. Robýn Lewis

2002 Cyfrif Pennau Pen Llŷn
John Gruffydd Jones

2005 Wynebu Llewod
Dr. Geraint Tudur

2006 Thomas Roberts Llwynhudol a’i Gyfnod
Arthur Meirion Roberts

2007 Lle i Enaid Gael Llonydd . . .?
Robert M. Morris

Y Magaret Platt of Stallybridge

Y Magaret Platt of Stallybridge

Bu gan Gyngor Tref Pwllheli ran bwysig yn nyfodiad y cwch achub cyntaf i’r dref. Roedd Henry T. Richiardson a’i fab, Henry Richardson, Brynhyfryd, yn ddyfeiswyr cychod achub, ac wedi wedi ennill gwobrau lu mewn gwahanol arddangosfeydd am eu cychod tiwbaidd. Wedi marw’r tad, cafodd un o’i gychod ei gyflwyno i Gyngor Tref Pwllheli. Ym 1881, gwnaeth ei weddw gais i’r Cyngor Tref i godi cwt i gadw’r cwch yng Nglan-y-don, a chytunwyd i hynny. Nid yw’n hysbys os codwyd y cwt. Gadawsai Henry T. Richardson £5000 yn ei ewyllys i sefydlu cwch achub ym Mhwllheli. Cafwyd y cwch, ond ni wyddir beth fu ei hanes.

Ym 1889, gwelodd y Cyngor Tref yn dda i godi cwt i gwch achub yn Nhocyn Brwyn. Cwch achub tiwbaidd ar gyfer 16 o rwyfau oedd hwnnw. Nid oedd yn addas i anghenion Pwllheli, a symudwyd ef i’r Rhyl. Fis Tahweddd 1892, daeth cwch achub newydd, y Magaret Platt of Stallybridge i Bwllheli, yn gwch agored i 12 o rwyfwyr, ond heb hwyl. Achubodd hwnnw 11 o bobl wrth Sarn Badrig ar Fawrth 16, 1893. Bu hanes hir a diddorol i wasanaeth y cychod achub gwahanol a fu dros y blynyddoedd yn y dref. Gweler eu gwefan .