Siarter y Fwrdeisdref

Rhoes Edward, Y Tywysog Du, siarter i drigolion Pwllheli yng Nghaernarfon ar 14 Chwefror, 1355. Collwyd y siarter honno drwy dan rywbryd yn ystod y ddeunawfed ganrif, a chafodd llythyrau'r Brenin Edward III, oedd yn cadarnhau'r siarter honno, hefyd eu colli. Yn ffodus, fodd bynnag, arferid adrodd geiriau'r siarter ar gof. Yn yr iaith Ladin yr oedd y siarter, ond cyhoeddwn isod addasiad a diweddariad Cymraeg o'r hyn oedd ynddi. . . Am y fraint o gael bod yn fwrdeisdref, roedd gofyn i Bwllheli dalu £24 i Nigel de Lohareyn, a bwrdeisdref Nefyn dalu £16 . . .


SIARTER TREF PWLLHELI

Y mae Edward, mab hynaf brenin urddasol Lloegr a Ffrainc, Tywysog Cymru, Dug Cernyw ac Iarll Caer, yn dymuno iechyd i'r archesgobion, yr esgobion, yr abadau, y perigloriaid, y rhaglawiaid, yr uchelwyr, y swyddogion, a phawb o'i ddeiliaid a'i ffyddloniaid, y cafodd y llythyr hwn ei gyfeirio atynt.

Y mae’n hysbys, drwy ewyllys a chydsyniad ein milwr graddol, Nigel de Lohareyn, y rhoddwyd ac y caniatawyd iddo - hyd ddiwedd ei oes - drefi Nefyn a Phwllheli, a'u meddiannau yng Ngogledd Cymru, drwy dalu dirwy o £24 i’r gwr hynaws oddi wrth dref Pwllheli, y cyfeiriwyd ati, ac yr ydym wedi estyn iddi, ar ein rhan ein hunain a'n hetifeddion, yr anrhydedd o fod yn fwrdeisdref rydd, a bod i breswylwyr y fwrdeisdref gael bod yn fwrdeisdrefwyr rhyddion, a bod iddyn nhw gael corfforaeth fasnachol gyda chwmni, a phob rhyddid a defodau rhydd fel sy'n perthyn i bob bwrdeisdref rydd ac fel sy'n eiddo bwrdeisdrefwyr tref Niwbwrch yn Sir Fôn yn eu bwrdeisdref hwythau.

Yr ydym am i'r bwrdeisdrefwyr y cyfeiriwyd atyn nhw, a'u holynwyr am byth, gael a chadw gan Nigel, y cyfeiriwyd ato, hyd ddiwedd ei oes, ac wedi ei farwolaeth ef, a chennym ni a'n hetifeddion yn y dref y cyfeiriwyd ati bob braint a buddiannau a chysylltiadau cyffredinol. Mae darpariaeth fod Nigel, y cyfeiriwyd ato, hyd ddiwedd ei oes, a ninnau a'n hetifeddion wedi ei farw ef, yn cael pedwar ugain swllt o dâl blynyddol yn ad-daliad am ein hawliau bob blwyddyn. Yr ydym hefyd wedi rhoi a chaniatáu, drosom ein hunain a'n hetifeddion, yr hawl i fwrdeiswyr Pwllheli, ac i'r rhai a'u dilyn dros byth, gael cynnal yno ddwy ffair flynyddol, sef ar Ŵyl Dyrchafael y Groes Sanctaidd ac ar Ŵyl yr Holl Saint, a bod iddyn nhw gynnal marchnadoedd yno ar y Sul bob wythnos dros byth yn ôl eu harferiad blaenorol.

Ar gyfrif y cyfamod y cyfeiriwyd ato, y mae caniatâd i drigolion cwmwd Cafflogion, ac eraill, i ddod i'r farchnad yn ôl eu harfer, a thalu'n gyfartal i Nigel hyd ddiwedd ei oes, ac i'n hetifeddion ninnau wedyn, £14 yn flynyddol ar Ŵyl y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, a thaliad blynyddol o ddeugain swllt i Nigel, hyd ddiwedd ei oes, ac i ninnau a'n hetifeddion ar ei ôl. Am hynny, yr ydym yn ewyllysio ac yn cyfarwyddo'n gadarn, ac yn caniatáu drosom ein hunain a'n hetifeddion fod i ddinas Pwllheli fod yn fwrdeisdref rydd, a bod i'r dynion sy'n byw ynddi fod yn fwrdeisdrefwyr rhyddion yn debyg i'r breintiau a'r defodau y mae trigolion ein dinas yn Niwbwrch yn sir Fôn yn eu mwynhau . . .

Yn dystiolaeth am hyn, rhoddwyd ein sêl wrth y llythyr hwn. Rhoddwyd yng Nghaernarfon y pedwerydd dydd ar ddeg o Chwefror, yn y ddeuddegfed flwyddyn o'n teyrnasiad. Yn dystion i hyn, John de Delves, ein cynrychiolydd brawdlysol yng Ngogledd Cymru, Robert de Oarys, ein milwr graddol, yn yr un diriogaeth, a llawer eraill.