MANNAU YMWELD

[yn seiliedig ar lyfryn y Cynghorydd Elfed Gruffydd]


 

 

Cliciwch ar y map er mwyn ei chwyddo

 

 

 

1. Dyma Ben Cob – y sgwâr sydd o fewn cyrraedd cludiant cyhoeddus.

pen-cobGwelir yma orsaf y rheilffordd a agorwyd ym 1909. Daeth y rheilffordd i Bwllheli ym 1867 gan ddod cyn belled â’r ‘Hen Stesion’ ym mhen dwyreiniol yr Harbwr. Mae taith ar Reilffordd y Cambria i Aberystwyth [neu drwy Faldwyn] yn cynnig golygfeydd rhagorol o Fae Ceredigion. Mae mynediad oddi yma hefyd i’r orsaf fwsiau. Mae safle dacsi yma. Mae yma siopau a thai bwyta. Gellir cerdded i’r dwyrain ar hyd ochr yr Harbwr i Lan Môr ’Berch a’r Hafan. Codwyd Cob rhwng 1904 a 1908 – adeg adeiladu’r Harbwr.

2. Codwyd y morglawdd, sef y Cob, sy’n ymestyn i’r de, yn dilyn deddf seneddol 1811 i gau’r tiroedd comin, gan gysylltu’r dref â’r Morfa Mawr.pont pen cobWrth gychwyn ei gerdded, rhaid croesi Pont Pen Cob, lle gwelir dorau sy’n rheoli’r dŵr i mewn ac allan o’r Harbwr.Dyma’r fan lle mae Afon Rhyd Hir ac Afon Penrhos (ar ôl ymuno i ffurfio Afon Cymerau) yn llifo i’r môr. Ym mhen arall yr Harbwr mae dorau eraill o dan Bont yr Hen Stesion a thrwy’r rhain mae Afon Erch yn llifo. Mae Harbwr Pwllheli yn atyniad poblogaidd iawn i adar sy’n ymfudo yma i fwrw’r gaeaf – y rhydyddion a’r hwyaid. Wedi croesi Pont Pen Cob gwelir plac i gofio cysylltu’r dref â’r grid nwy. Cyfansoddwyd y llinell i goffáu hyn gan Cynan, bardd enwocaf Pwllheli. Ar draws yr Harbwr gellir gweld y marina, sef yr Hafan sy’n boblogaidd iawn ac a ystyrir yn ganolfan hwylio o’r safon uchaf gyda’i hangorfa i dros 400 o gychod.

3. Mae’r Cob yn arwain i Draeth Pwllheli.
cofeb Ar y chwith mae cofeb tra anghyffredin i goffau’r rhai a laddwyd yn y rhyfel. Arni gwelir cwpled o waith Ben Bowen. Arferai tram, a oedd yn eiddo i Gyngor y Dref, redeg ar hyd y Cob ac yna ar hyd y Prom. Yng nghanol yr Harbwr, ar un adeg, ’roedd ynys, ond pan aed ati i adeiladu’r Hafan, cysylltwyd hi â’r Cob gyda’r gro a’r tywod a godwyd o wely’r Harbwr. Gellir cerdded o gwmpas y llecyn hwn a chael golygfa dda o’r dref a’r Hafan. Ymhellach i’r de o’r Hafan, gwelir yr hyn sy’n weddill o Garreg yr Imbill ar ôl i’r chwarelwyr ei chloddio ar gyfer gwneud sets i wynebu strydoedd dinasoedd Lloegr. Yn ei hymyl, mae cwt y bad achub – y cychod a’u criwiau wedi gwasanaethu’r arfordir yn ffyddlon ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ffordd gul – Lôn Cob Bach – yn arwain draw i’r gorllewin a’r llwybr troed cyfochrog ar ben y Cob Bach yn fangre ardderchog i wylio adar yn yr Harbwr Bach. O’r Cob, tua’r gorllewin, gellir gweld mynyddoedd Llŷn. Garn Fadryn yw’r un mwyaf amlwg. I’r dwyrain, mae Cader Idris a mynyddoedd Meirionnydd, ac yn fwy i’r gogledd, mae’r Wyddfa a mynyddoedd Eryri. Ymlaen i’r dde ar y Cob, mae swyddfeydd ardal Dwyfor o Gyngor Gwynedd.

4. Dychwelwch i Ben Cob, ond trowch i’r chwith drwy’r safle bwsiau i’r Maes. Yma cynhelir un o farchnadoedd symudol mwyaf Cymru ar ddyddMercher. Dyma safle draddodiadol Ffair Pwllheli, syrcas a sasiwn.

plac plaid cymruYn union ar draws y Maes mae siop bwyd anifeiliaid anwes, ond a fu unwaith yn gaffi – Maes Gwyn. Fel y dengys y plac sydd arno, yma y sefydlwyd Plaid Cymru yn Awst 1925. Yng Ngorffennaf 2000, gosodwyd plac ychwanegol i nodi 75 mlwyddiant sefydlu’r Blaid. Mae’r ffair bellach yn sefydlog yng nghwr deheuol y Maes. Ger safle’r ffair, lle mae heddiw ddwy siop, roedd Capel Tarsis, y Presbyteriaid, gynt.

5. Ym mhen deheuol y Maes, saif Stryd Penrhydliniog. Mae’r enw’n egluro y bu yma ryd unwaith i groesi’r afon a’r tir gwlyb pan arferai’r rhan hon o’r dref bresennol fod o dan y môr ar lanw. Mae’r stryd hon yn arwain i Bont pont solomonSolomon, sydd yn coffáu Solomon Andrews, gŵr busnes o Gaerdydd a ddatblygodd y dref yn arw yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Gosododd ei stamp ar ei hadeiladwaith gyda’r fricsen felen. Gwelir ymdrech i adlewyrchu hyn yn adeiladau diweddar y dref. Sefydlodd Mr. Andrews yntau gwmni tram, y tro hwn i gario teithwyr o’r dref, dros Bont Solomon ac i’r Prom. Yna ymlaen ar hyd y dwnan i Lanbedrog, lle’r oedd ganddo oriel enwog ym Mhlas Glyn y Weddw.

6. Hawdd deall pam y gelwir y bont sy’n croesi Afon Cymerau yn Bont Solomon, a pham mai Ffordd Caerdydd sy’n arwain drosti.lon cob bach
Mae’r ffordd hon yn arwain at ben gorllewinol Lôn Cob Bach, ac ymlaen i Ganolfan Hamdden Dwyfor a Thraeth Pwllheli. Wedi pasio ceg Lôn Cob Bach, mae’r gyffordd i’r dde yn arwain i gyfeiriad y Clwb Golff. Ar y dde, ger y bont, gwelir creyrfa lle daw o 6 i 8 o greyr glas i nythu yn y gwanwyn.

7. O Bont Solomon, mae’r ffordd sydd yn arwain yn ôl i’r dref yn mynd meddygfaheibio Treflan – y feddygfa newydd – ar y chwith, a gorsaf y Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans. Sefydlwyd y Gwasanaeth Tân ym Mhwllheli ym 1854. Yn nes ymlaen, ar y dde, mae Swyddfa’r Post.

 

8. Mae’r ffordd i’r chwith, yn y gyffordd nesaf, yn arwain i Ben Llŷn ar hyd Yr Ala.

9. O gerdded heibio i’r tai melyn, deuwch at Orsaf yr Heddlu ar y chwith. Yma y daeth triwyr Penyberth – Saunders Lewis, D.J. Williams a gorsaf heddluLewis Valentine – i gyfaddef iddynt roi’r Ysgol Fomio ar dân ym Medi 1936. Ar yr adeilad, gwelir plac yn dynodi y bu’r gantores Leila Meganne yn byw yma. Gyferbyn, ar y chwith, mae Capel Saesneg y Presbyteriaid. Yma y cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol cyntaf Urdd Gobaith Cymru, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1925. Yn nes ymlaen, ar y dde, mae adeilad hen Wyrcws Pwllheli. Yn yr Ala Uchaf, y stryd y tu cefn i Swyddfa’r Heddlu, mae adeilad a fu unwaith yn ysgol ganolraddol – Ysgol Frondeg - ond sydd yn awr yn ganolfan i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

10. Dychwelwch i’r Maes a dal i’r chwith tua’r gogedd i Stryd Moch. Eglura’r enw beth a werthid unwaith yn y stryd hon ar ddiwrnod marchnad. Ar y dde, mae Capel Pen-lan, un o gapeli Annibynwyr hynaf Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1646. Ymysg y rhai a fu’n weinidogion yma, yr oedd Benjamin Jones, ac o ganlyniad i wrando arno ef yn pregethu yn Ffair Llanfyllin ym 1796 y cafodd yr emynyddes, Ann Griffiths, ei throedigaeth. Ym mynwent y capel y claddwydSion Wyn o Eifion. Ar siop ddillad ar gornel gyferbyn, placgwelir plac yn nodi maiyno yr oedd carchar Pwllheli. Hyn a roddodd i Stryd Moch ei henw Saesneg, Goal Street. Yn uwch ar y chwith, mae Pen Lôn Llŷn. Dyma’r ffordd a arweiniai i Lŷn yn yr hen amser. I fyny’r ffordd hon, ar y chwith, y mae Ffynnon Felin Fach y canodd Cynan iddi yn ei bryddest, ‘Mab y Bwthyn:’ y bryddest a enillodd iddo goron Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1921. Honno oedd y gyntaf o’i dair coron Genedlaethol.

11. O ben uchaf Stryd Moch, gellir gweld adeilad cyn-gapel Salem y capel salemPresbyteriaid. Ail-godwyd y capel wedi iddo gael ei losgi gan William Ross ym 1913. I fyny Allt Salem (i’r chwith o’r capel), mae’r ffordd yn arwain i Lannor. Ar y chwith, mae fflatiau a luniwyd o adeilad Ysgol Penlleiniau – yr ysgol eglwys. Ar y dde, ar ben yr allt, saif y Coleg Trydyddol, Coleg Meirion Dwyfor, ar safle hen Ysgol Ramadeg Pwllheli. Yn yr ysgol hon yr addysgwyd amryw o’r enwogion a godwyd ym Mhwllhli a’r cylch. Mae’r llwybr i’r chwith o ben yr allt yn arwain i ben y Garn, lle ceir golygfa ragorol o Bwllheli, Bae Ceredigion, Ynysoedd Tudwal a thu hwnt, a Mynyddoedd Preseli ar ddiwrnod clir. O gychwyn gyda’r mynyddoedd, a mynd efo’r cloc, gwelir bryniau Llŷn o Fynydd Tir y Cwmwd, Mynydd Rhiw, Garn Fadryn, Garn Boduan, i’r Eifl ac ymlaen i Eryri. Ar ben yr allt i’r dde, mae mynwent y dref, sef Mynwent Deneio. Deneio yw enw’r plwyf. Gwelir olion Eglwys Beuno (yr eglwys wreiddiol) yn yr hen fynwent.

12. I un cyfeiriad o groesffordd tafarn White Hall, ymestyn y Stryd Fawr ar y dde – y brif stryd siopau. Yn uchel ar wyneb un siop, gellir darllen ‘Caerhydderch’ – ei henw gwreiddiol. Fferm yn Rhoshirwaun oedd Caerhydderch. Roedd amryw o ffermwyr Llŷn yn berchnogion siopau yn y dref. Byddai’r mab hynaf yn etifeddu’r fferm, a’r ail fab yn dod yn siopwr ym Mhwllheli. Yn uchel ar wyneb dwy siop sydd ar y chwith, gwelir plac oedd yn dynodi fod y perchnogion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, neu’n gynt, wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth y frigad dân pe bai galw am hynny.

13. Os trowch i’r chwith i Stryd Llan, dowch allan gyferbyn ag eglwys y eglwys sant pedr pwllheliplwyf – Sant Pedr. Codwyd hi ym 1886 ar gynllun gothig addurniadol o eiddo J. Oldrid Scott. Mae iddi ffenestri lliw hardd, yn arbennig y ffenestr ddwyreiniol uwch ben yr allor sy’n darlunio golygfeydd o Lyfr y Datguddiad, a lluniau seintiau o bob oes. Yn yr ochr ogleddol, mae ffenestr Martin o Tours, ac arni hefyd luniau o Sant Asaff a Sant Cyndeyrn. Gwelir yma lun o fodrwy brenhines y daeth Asaff o hyd iddi ar ôl i’r fodrwy honno gael ei llyncu gan eog. Yn yr ochr ddeheuol, mae Capel Beuno, nawddsant y plwyf.

14. Ymlaen eto ar y chwith, mae’r safle lle safai ysgol gynradd sirol Pwllheli – Ysgol Troedyrallt. Aeth ar dân ym 1962. Bu Llys yr Ynadon ar yr un llecyn hefyd. Bellach, mae bwriad i godi tai yno.

15. Pentrepoeth yw’r stryd sy’n arwain i’r chwith. Dywed rhai i’r fan gael yr enw am i ddilynwyr Owain Glyndŵr ei roi ar dân yn y bymthegfed ganrif. Dywed eraill mai yma yr arferid llosgi coed i gynhyrchu golosg.

16. Mae’r stryd i’r dde, Stryd King’s Head (hen dafarn), yn arwain i’r stryd king's headStryd Fawr. Rhwng y fan hyn â Phentrepoeth y mae’r Gors, a fu unwaith yn dir gwlyb. Cyn hynny, yma yr oedd y ‘pwll heli.’ Ganrifoedd yn ôl, yma y trigai dinasyddion y dref, gyda’u cychod a’u rhwydi pysgota, eu defaid a’u hychen. Un teulu ar hugain oedd yn byw yma ym 1293. Ym mhen pellaf y Gors, lle’n awr y mae’r Traeth a thafarn y Black Lion, yr oedd ierdydd adeiladu llongau. Mewn cyfnod o ddwy ganrif, adeiladwyd tua 450 o longau ym Mhwllheli, yr olaf ohonynt ym 1878. Y llong fwyaf i’w hadeiladu yma oedd y barc, Margaret Pugh (693 tunnell), ym 1862.

17. Ym mhen uchaf Stryd King’s Head, roedd unwaith sgwar eang – Y Groes – lle cynhelid y farchnad. Mae’r Stryd Fawr, i’r chwith, yn arwain i capel y drindodgyfeiriad Capel y Drindod, a adwaenid fel Capel Penmount nes uno capeli Presbyteraidd dref yn ddiweddar. Codwyd capel yma’n wreiddiol ym 1781, a’r un presennol ym 1841. Ymysg y rhai a fu’n weinidogion yn ystod cyfnod cythryblus y Rhyfel Byd yr oedd y Dr. John Puleston Jones. Dioddefodd erledigaeth enbyd oherwydd ei safiad fel heddychwr. Er ei fod yn ddall, llwyddodd yn rhyfeddol i oresgyn ei anabledd.

18. O’r capel, dychwelwn i’r gyffordd a dilyn Lôn Dywod yn ôl i gyfeiriad Pen Cob. Yno ar y chwith, arferai Capel Seion y Wesleaid, a sefydlwyd ym 1861, sefyll. Addaswyd y capel yn fflatiau a’r festri yn gapel.

19. Mae’r ffordd gul i’r dde yn arwain i faes parcio a rhes o dai – Y y gadlysGadlys – sydd yn ein hatgoffa fod Pwllheli yn hen dref ag iddi ei llys a’i milwyr. Dyma leoliad hen blasdy a elwid Hendre Gadredd. Gall mai hwn oedd y Gadlys gwreiddiol.



20. Ym mhen pellaf y maes parcio, deuwn allan i Stryd Pen-lan. Ar y cartref cynangornel, mae Liverpool House, cartref Cynan – y bardd hynod o boblogaidd ac a fu’n Archdderwydd ddwywaith. Bron gyferbyn, ychydig i’r dde, gwelir hen Neuadd y Dref a Siambr y Cyngor. O fewn drws neu ddau, mae plac yn nodi mai yma y ganwyd Yr Athro J.R. Jones, athronydd a Chymro brwd. O rai mannau, gellir gweld hen gloc y dref ar dŵr pren.

21. Trowch i’r chwith, ac ar y dde, gwelir adeilad coch – Neuadd neuadd dwyforDwyfor. Hon oedd Neuadd y Dref ddiweddaraf. Mae ynddi awditoriiwm ar gyfer ffilm a chyngerdd. Yma hefyd y lleolir Llyfrgell y Dref, a’r Ganolfan Ymwelwyr. Yng nghyntedd y Neuadd, uwch ben y swyddfa docynnau, gwelir ysgythriadau ar wydr yn darlunio’r ardal, ond yn canolbwyntio ar Cynan. Gellir cerdded heibio ochr y Neuadd ac i Sgwâr y Farchnad.

22. Dyma’r Capel Batus, Y Tabernacl – cyn-gapel y Bedyddwyr – a capel batusgodwyd ym 1861. Mae iddo dŵr tra anghyffredin i gapel, a defnyddid hwnnw gan bysgotwyr fel marc i leoli eu rhwydi ers talwm.

 

 

23. Ar y chwith, mae adeilad hynaf y dref, tafarn Penlan Fawr. Fel mae’r penlanenw’n awgrymu, yr oedd yn agos i’r môr cyn datblygiad y dref fodern. Bu Howell Harris yn pregethu y tu allan i Benlan Fawr yn ystod un o’i ymweliadau â Llŷn ddwy ganrif a hanner yn ôl. Ym 1836, ’roedd cynifer â 40 o dafarndai yn y dref.

24. Byddai llongau gyda’u hamrywiol gargo yn angora yn y Cei wrth waelod Stryd Pen-lan yn denu llygod. Dyna a roddodd fod i enw’r stryd fechan sydd yn arwain i’r dde, sef Stryd Llygod. Ei henw Saesneg oedd Custom House Square, sydd eto’n cadarnhau ei hagosrwydd i’r môr ers talwm.

25. Dilynwch Stryd Penlan ac i lawr yn ôl i Ben Cob.

pencob